Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

EIN TELERA U.'

BWRDD Y GOLYGYDD.

Y TIR-GYNG-HRAIH YN YR IWEKDDON.

Family Notices

[No title]

MASNACH YR HAIARN A'R GLO…

Twrci a'r Galluoedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Twrci a'r Galluoedd. 0 Gaercystenyn, Tach. 6ed, hysbysir ni fod Dervish Pasha wedi anfon y corffluoedd dan ei lywyddiaeth yn ol i Scutari, ac erys gyda dau gorfflu yn Changunaressi. Dywedir ei fod yn para i gyflafareddu a'r penaethiaid Albanaidd. Newyddiadur o Rufain, dyddiedig Tach. 6ed, ar gwestiwn y Tueddau Groegaidd, a I gynghora Groeg i dderbyn rhyw ychydig o ychwanegiad tiriogaethol yn hytrach na myned i ryfel a Thwrci, a dywed na fydd i Itali gefnogi uchelgais- Groeg os na fydd y galluoedd er-eill yn cydsynio. Papyr arall o Rufain, dyddiedig dydd Sul, a ddywed fod y Porte yn galw allan y redifi mewn canlyniad i ymarfogiad y Groegiaid. Nid. oes sicrwydd eto na thyr yr ymryson hwn allan yu fflam ryfel.

[No title]

Advertising

! Tystiolaethau Ptvysig