Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
RHYS TREFOR.
RHYS TREFOR. NOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881. I PENOD XXI. BUDDUGOLIAETH Y BBADWTE. BOBETJ dranoeth, cafodd Elen deg o'r Cwm ei gwysio i ymddangos o flaen yr abad, ac wedi cyrhaedd i'w ystafell, dywed- odd wrthi, Wel, fy ngeneth, y mae pob cais o'r eiddom wedi syrthio yn fyr o gyrhaedd yr amean oedd mewn golwg genym, ac y mae dy ystyfnigrwydd penffol yn galw am gosb- edigaeth haeddianol. Ond eto, yr wyf yn barod i'th gymeryd yn esgusodol, ac i faddeu yr oil, ond i ti yn awr addaw cyd- synio a'r hyn yr ydym yn ei geisio." Ddim byth Cymeraf fy nadgysylltu aelod oddiwrth aelod cyn byth yr addawaf wneyd peth mor wrthun a phriodi dyn ag yr wyf yn ei gashau a'i ffieiddio o eigion fy nghalon I" "Yn awr, gwell yw i ti ymostwng, a hyny drwy deg, neu bydd i mi ddefnyddio awdurdod i ddarostwng dy gyndynrwydd, a'th orfodi i dderbyn ymgeisydd teilwng am dy law mewn priodas." "Nid yw o un gwerth i chwi siarad, oblegyd Did ydych ond yn gwastraffu geir- iau ac amser yn ofer a dibwrpas, oherwydd yr wyf mor ddiysgog yn fy mhenderfyniad ag yw'r bryn yma ar ei wadnau." "Yna, yr wyf i ystyried yr atebiad hwn fel y diweddaf ?" Ydych." Yna, yr wyf yn dy adael yn awr, ond bydd i ni gyfarfod mewn man arall cyn yr hwyr." Arweiniwyd Elen allan o'i wyddfod, a chauwyd arni yn ei hystafell. Diwrnod rhyfedd fu hwnw ar y rhian deg o'r Cwm. Crwydrai ei meddyliau yn ol at yr adeg hapus hono pan oedd Rhys a hithau yn ymddifyru yn nghwmni y naill a'r llall, a thorai allan i wylo yn ami, 0 fy Rhys, fy anwyl Rhys! Pa le y mae ? Faham na ddeuai i waredu ei Elen o'r ffau ofnadwy hon ?" Nid oedd wedi profi yr un tamaid o ymborth er's diwrnodau, a theimlai ei hun yn rhy wan i allu symud un droed heibio y llall. Beth oedd i gymeryd lie yn ystod y prydnawn hwnw ni wyddai, er yr ofnai, wrth awgrym yr hen abad, fod rhyw gynllun uffernol ar gael ei osod mewn gweithrediad er gwthio arni briodas oedd mor groes i'w hewyllys a ffiaidd yn ei golwg. Beth bynag, cafodd fwyohan perffaith lon- yddwch, heb unrhyw ymyriad o du neb ar ei hunigrwydd yn ei hystafell dywell drwy y dydd, hyd oddeutu tri o'r gloch y pryd- nawn, pryd yr agorwyd y drws, ac y gwnaeth dwy fynaches eu mynediad i mewn ati." Y mae yr abad yn galw am danoch," ebe un ohonynt wrthi. Gwelodd Eljen nad gwiw oedd iddi geisio gwrthod, a chyfododd ar ei thraed; ond mor wan a chrynedig ydoedd, fel y gomeddai ei chluniau roddi eu gwasanaeth iddi, a syrth- iodd i'r llawr. Ar hyn, ymaflodd y ddwy chwaer dirion (?) yn drwsgl ynddi, gan ei llusgo allan, ac yn mlaen yr aethant a hi am hir amser drwy y fynedfa a arweiniai i gyf- eiriad gorllewinol yr adeilad. Wedi cyr- haedd pendraw y fynedfa hono, safasant yn sydyn, ac ymaflodd un o'r mynaehesau mewn cloch fechan oedd gerllaw, gan ei ehanu, ac yn mhen eiliad, wele ddrws oedd yn y llawr yn cael ei agor gan rywun, ac arweiniwyd hi i lawr dros res hirfaith o ris- iau, nes y tybiodd na chyrhaeddent eu gwaelod byth. O'r diwedd, llwyddasant i gyrhaedd y gris isaf, a cbafodd ei harwain wedi hyny i ystafell a safai ar ei deheulaw. Trywanwyd calon Elen gan yr olygfa hynod a ganfyddai ynddi, a syrthiodd i lawr yn ddinerth. Ar ganol yr ystafell, safai dau ddyn yn orchuddiedig o'r coryn i'r sawdl gan lian gwyn, a'u gwynebau yn gudd gan fwgwd. Wrth fwrdd bychan yn mhen deheuol yr ystafell, eisteddai yr abad yn nghyd a'i ysgrifenydd. Yn llosgi o'u blaen, yr oedd dwy ganwyll gfryr o famtioii cy- ffredin, a chloch fechan ar y bwrdd wrth ochr ddehau yr abad. Ar awgrym oddiwrth yr abad, dechreoodd y ddwy fynaches ddiosg dillad uchaf Elen, gan eu taflu ymaith oddiwrthi, ac yna, rhwymasant ei dwylaw y tu ol a llinyn main mor dkn fel y torai i'w harddyrnau. Wedi hyny, gos- odasant lyfethair am ei thraed, a phwysau trwm wrth hwnw. Yr oedd ysgrechiadau ac ymbiliadau taerion Elen am drugaredd, erbyn hyn, yn ddigon i rwygo unrhyw galon; ond o dynerwch a thosturi (?) tuag ati, galwodd yr abad sylw un o'r mynaches- au ati, gan ddywedyd, Y clo-pa le y mae ? Gosodwch ef arni;" ae o ufudd-dod i'w orchymyn, cyrhaeddodd un ohonynt un i o'r cloion poen er ei osod ar ei genau. Fel hyn, gyda chywreinrwydd dieflig, y rhwystrid y rhian deg o'r Cwm i ollwng allan riddfanau a dolefau natur pan o dan yr arteithiau a'r loesion dygnaf. Ar ol gosod y clo ar ei gwyneb, cafwyd dystaw- rwydd, ac ar awgrymiad oddiwrth yr hen abad creulon, crogwyd hi gerfydd ei dwylaw wrth reffyn oedd yn nen yr ystafell, yn debyg i ddafad neu ych yn nghigyddfa y cigydd, a chwyfiwyd hi tua'r nen yn ol ac yn mlaen, fel y gorchymynid gan yr hen dad cythreulig a eisteddai wrth y bwrdd. Bu yn hongiedig fel hyn am hir amser, hyd nes y gorchymynodd yr hen abad am ei gollwng i lawr. Wedi gwneyd hyny, a chymeryd ymaith yr offeryn uffernol oedd am ei genau, aeth yr abad yn mlaen ati; ond ymddangosai Elen fel yn hollol farw. Ond wedi ymolchi ei gwyneb mewn dwfr oer, daeth arwyddion bywyd cyn hir i'r golwg. i "W el, fy ngeneth," ebe yr abad, a wyt ti eto yn parhau yn gyndyn ? A fuasai ddim yn well i ti wrando arnaf mewn pryd, ac wrth hyny ysgoi y dyoddefaint hwn ? A wnei di yn awr addaw priodi Syr Robert?" "Marw yn gyntaf," sibrydai Elen ,yn wanaidd. Dygwyd hi yn ol eilwaith, ae ar ol gosod y clo ar ei genau, hongiwyd hi i fyny dra- chefn, gan ei chwyfio yn ol ac yn mlaen mewn modd annhrugarog yn nen yr ysta- fell. Yn mhen ychydig, gollyngwyd hi i lawr eilwaith, ac ail-adroddodd yr hen abad yr un gofyniadau iddi. Ddim byth!" oedd atebiad penderfynol y wyryf ddirdyniedig. Gwell yw i ti ymostwng," ebe yr hen abad, na chael dy ddirdynu i farwolaeth yn y lie hwn." Na, yr wyf yn benderfynol o farw yn gyntaf cyn byth yr ymostyngaf i wneuthur yr hyn yr ydych yn ei geisio." Yna, boenydwyr, eymerweh hi eto i'ch dwylaw. Caiff ymostwng, neu ynte farw, cyn myned o'r ystafell hon heddyw." Nid oedd angen am iddo ail-orchymyn, oherwydd gyda'i fod yn gorphen llefaru, ymaflodd y ddau ddyhiryn yn yr eneth ddi- amddiffyn, gan ei sicrhau mor ddiogel ag erioed wrth y rheffyn, a dyrchafwyd hi ganddynt y drydedd waith, a chwyfiwyd hi yn ol a blaen mewn dull barbaraidd. Yn rhywfodd neu gilydd, annghoflwyd gosod y clo ar ei genau y tro hwn, ac felly ysgrech- ai allan mewn llais ymbilgar am drugaredd. Ond nid oedd dim yn tycio—ei chwyfio yn ol a blaen wnelid er pobpeth. O'r diwedd, gollyngwyd hi i lawr yn drwsgl, ac ym- ddangosai fel pe wedi marw ar lawr yr ys- tafell. Wedi ymolchi ei gwyneb, ac iddi adfywio ychydig, daeth yr abad yn mlaen, gan ymgrymu uwch ei phen, a dywedyd, "Fy ngeneth, gwell yw i ti ymostwng yn awr. Nid oes genyf ddim ond dy les a'th gysur yn y dyfodol mewn golwg; ac er fod y moddion tuag at sicrhau y eyfryw yn chwerw, eto i gyd, byddi yn teimlo mai er dy ddaioni yr wyf yn gweithredu fel ag yr wyf yn bresenol. Pobpeth a rydd gwr am ei einioes,' ebe tad y eel wydd-y peth tebycaf i wirionedd, feallai, a lefarwyd ganddo erioed. Yn oedd yn gyfyng yn awr ar Elen deg o'r Cwm. Teimlai, os cawtai ei hongian unwaith yn rhagor, na fyddai byw i ddis- gyn eilwaith, ac atebodd yn wanaidd y gwnelai gydsynio a i gais. Yna, codwyd hi i fyny gan y ddwy fynaches, ac ar ol dstod y cordyn oedd am eu harddyrnau, irasant wer poeth o ysten oedd yn yr ymyl yn y manau archolledig. Yna, llusgwyd hi at y bwrdd, lie y gwnawd iddi arwyddo ei henw wrth ysgrif-rol na wyddai yn y byd mawr llydan beth ydoedd.- Yr oedd yn eglur nad oedd Elen yn awr yn gwybod yr hyn a wnelai, ac oherwydd hyny, ni wnaeth unrhyw wrthwynebiad i arwyddo y cyfryw. Dyna," ebe yr abad. Yn awr, bydd i Syr Robert ddyfod yma yfory neu drenydd o bellaf, er trefnu materion perthynol i'ch priodas, yr hon a fwriadwn i gael ei gwein- yddu wythnos i heddyw. Ac yn awr," ychwanegai, gan droi at y ddwy fynaches, dygwch yr eneth hon yn ol i'w hystafell,. a gwnewch bobpeth o fewn eich gallu er ei chysuro." Arweiniwyd Elen allan o'r ystafell a fu mor ddiweddar yn faes ei harteithiau a'i hingoedd. Cyn hir, wedi cyrhaedd i'w hystafell, gadawyd hi yn unig gan y ddwy fynaches yn nhywyliweh y lie. Bu am oriau cyn gallu amgyffred yr hyn oedd wedi dygwydd mor ddiweddar, a cheisiai ddar- bwyllo ei hun mai breuddwyd hunllefol oedd y cwbl; ond yr oedd y poen a deimlai yn argyhoeddiad rhy drylwyr iddi allu fforddio credu y fath ffolineb. Yn mhen ychydig oriau, ymddangosai fod ei synwyr- au wedi dychwelyd, a'i bod yn medru am- gyffred ei sefyllfa, a chyfododd yn wyllt ar ei thraed, gan lefain allan, Y nefoedd anwyl, beth yr wyf wedi ei wneuthur! Na, ni chymer le byth Nid oes un gallu oddifewn i'r holl greadigaeth a fedr fy narostwng i roddi fy llaw i'r angenfil!" (I'w barhau).
[No title]
IRONMONGERY, Clocks, Timepieces, Jew- ellery, Furniture, &c. AGENTS WANTED. Wholesale Catalogues 300 Illustrations free. Apply HENRY MAY (245), Birmingham. 2634 DARLLENWCH.—AT BAWB SYDD YN DYODD- EF ODDIWRTH gyfeiliornadau ac annoethineb ieuenctyd, gwendid gewynaidd, c'olliad dynol- iaeth, &c., mi a ddanfonaf gynghor meddygol a'ch gwellha chwi, YN DDIDAL. Darganfydd- wyd y feddyginiaeth odiaeth hon gan genadwr yn Neheubarth America. Gyrwch envelope hunan- gyfeiriedig at RET. JOSEPH T. INMAN, Station D, New York City, U. S. A. 2616
CONGL Y GYFRAITH.1
CONGL Y GYFRAITH. 1 GAN IEUAN DYFED. j "DEDDF DYLED." LLYTHYB XII. CYTUTTDEBATJ (Contracts). Mae addewid un person i roddi unrhyw beth neillduol i berson arall, megys fceffyl, ebol, oriawr, &c., heb fod yr addewid hono yn cael ei dilyn gan drosglwyddiad gweith- redol neu newidiad o berchenogaeth, yn cael ei galw mewn cyfraith yn nudum pac- tum, sef cytundeb noeth, ac nis gellir gorfodi y cyfryw trwy weithred gyfreithiol. Dywed C. J. Abbot, mewn trefn i drosglwyddo eiddo, ei bod yn angenrheidiol fod gweith- red neu offeryn o roddiad o dan sel, neu ynte rhaid fod traddodiad gweithredol wedi cymeryd lie o'r peth a roddir i dderbyniwr y rhodd (donee). Mae addewid gan un dyn i dalu dyled fyddo eisoes wedi ei thynu gan un arall yn nudum pactum ac felly hefyd yr addewid oddiwrth ofynwr i dderbyn llai na'r cyfanswm o ddyled a addefir, neu i roddi amser i dalu y cyfryw. Hefyd, addewid i dalu arian i berson na fyddo ganddo hawl i'w derbyn; addewid gan etifedd i dalu ysgrif-rwym (bond) ei henaf- iaid, pryd na fyddo yr etifedd yn cael ei rwymo gan y cyfryw ysgrif; addewid gan wraig weddw i dalu dyled ei gwr, neu i dalu addaweb a roddwyd iddi hi pan ydoedd o dan nawdd ei gwr (under coverture); neu addewid, ar roddiad i fyny gysylltiad an- foesol gyda benyw, i dalu iddi swm o arian, neu fl wydd-dâl, ar yr ystyriaeth ei bod, o hyny allan, i arwain bywyd da a rhinwedd- ol. A lie y byddoswmneillduolwediei sefydlu fel pria daoedd wedi eu gwerthu a'u trosglwyddo, neu daliad cytunol am waith neu wasanaeth, ac addewid ddilynol yn cael ei gwneyd, heb fod unrhyw ystyr- iaeth newydd i dalu swm ychwanegol am yr un gwaith, a'r un gwasanaeth-mae hyn yn nudum pactum. Pob addewid o natur y rhai uchod, nis gellir eu dirgymhell trwy rym cyfraith. cxTTTNDEBAtr DEALLEDIG (Implied Contracts). Gellir casglu bwriad neu ddybenion partion, o berthynas i unrhyw gyflawnifld neillduol, oddiwrth eu gweithredoedd a'u cyflawniadau, mewn cysylltiad ag amgylch- iadau cylchynol, yn llawn cystal ag oddi- wrth eu geiriau; ac y mae y gyfraith, o ganlyniad, yn cymeryd yn ddealledig oddi- wrth iaith ddystaw, ymddygiadau a gweith- redoedd pobl tuag at eu gilydd, ffurfiad math o gytundebau ac addewidion sydd yn llawn mor rymus a rhwymedig a'r rhai a wneir trwy eiriau penodol, neu trwy gyf- rwng ysgrifeniadau cofianol. Gelwir yr ymrwymiadau hyn yn gytundebau cynwys- edig neu ddealledig (implied contracts). Os anfona un dyn i siop, un arail am fwyd neu ddillad, neu ryw nwyddau mai-chnadol, neu os galwa mewn gwestdy, gan gymeryd llun- iaeth, mae y gyfraith. yn eymeryd yn ganiataol fod cytundeb neu addewid yn cael ei wneyd i dalu pris rhesymol am y nwydd- au neu y lluniaeth a dderbynir, er na fydd dim wedi ei ddweyd na'i amodi o berthynas i bris neu daliad. Os bydd i un dyn gael ei gyflogi, neu ei roddi ar waith i gyflawni rhyw orchwyl dros arall, cyfoda y gyfraith addewid ddealledig o du'r cyflogwr i dalu yr hir neu y tal arferedig am y fath waith; ac os bydd i ddyn fenthyca ceffyl, cymer y gyfraith yn ganiataol fod yna addewid oddiwrth y benthycwr i'r hwn fyddo yn cael benthyg i fwydo y creadur yn briodol, ac i arfer pob gofal rhesymol am dano tra y byddo yn ei feddiant, ac o dan ei ofal. Yr unig wahaniaeth rhwng cytundeb penodol ac un dealledig, heb fod dan sel, ydyw y modd o'i gadarnhau neu ei brofi. Mae yr amodiad penodol i gael ei brofi trwy weithred gytundebol, tra y mae yr addewid gynwysedig i gael ei phrofi gan amgylch- iadau—a'r drefn arferol o fasnachu rhwng y pleidiau; ond lie bynag y byddo cytun- deb unwaith wedi ei brofi, bydd y canlyn- iadau a ddilynant y toriad ohono yr un, pa un a gaiff ei brofi trwy dystiolaeth am- gylchiadol ynte uniongyrchol. f (rw barhau).
[No title]
MAE gan ei Mawrhydi y Frenines lawer mwy o ddeiliaid paganaidd a. Mahometanaidd nag o Gristionogion. Y mae gan y QUININE BITTERS un cymer- adwyaeth anarferol, sef bod meddygon o bob gradd yn cydnabod heffeithiau trwy eu rhoddi i'w cleif- ion (patients), pan yn fynych y methant gyda'u cyfferi meddyginiaethol eu hunain. Gwelir man- ylion ar dudalen arall o'r papyr hwn. L. 163 ENAINT A PHELENI HOLLOWAY.—Ychydig iawn o bersonau sydd mor ffafriedig gan amgylchiadau fel ag i'w galluogl i basio yn anniweidiedig y trialon tost o dymor garw. Gyda phen-ddyferiad- au (catarrhs), pesychiadau, ac anwydwstydd (influenzas) sydd yn ddigonedd yn mhobman, fe ddylai fod yn gyffredinol wybyddus fod Enaint Holloway, ar ol ei rwbio yn ddiwyd ar y ddwyfron, yn rhoddi ataliad ar- ymosediadau gwaethaf y doluriau hyn, ac yn gwella, mewn modd sicr, glefydau mwy sobr a pheryglus y gwddf a'r ysgyfaint. Rhaid i wirionedd yr haeriad hwn aros yn ddiamheuedig yn ngwyneb miloedd o dystion byw annghyhuddiadwy, y rhai yn bersonol sydd wedi deillio y buddiantau mwyaf posibl oddiwrth y driniaeth hon pan oedd eu dyoddef- iadau presenol yn frawychus, a'u rhagolygon dyfedol yn rhai mwyaf digalonus. Mae'r ddwy feddygipiaeth yn gweithredu yn rhyfeddol dda gyda'ii gilydd,
Bywyd ac Anturiaethau! Cadben…
Bywyd ac Anturiaethau Cadben Cook, YN NGHYD A DESGRIFIAD O'R LLE- OEDD YR YMWEL'ODD A HWYNT. GAN JAMES CLEMENT (ALARCH OGWY). PENOD IV, UN diwrnod, tra yn morio o amgylch rhan ddeheuol ynys fechan i ba un yr oedd Cook wedi rhoddi yr enw Portland, syrtli- iodd yr Endeavour yn sydyn i ddwfr has (shoal ivater) a thir toredig, ac nid oedd y dyfnder mewn un man yr un fath—weith- iau yn saith, ac yn myned weithiau i un gwrhyd (fathom) ar ddeg o ddyfnder. Ym- saethodd y gair perygl" fel trydan trwy bob calon, ac yn lie teimlad o fwynhad a gwen foddhaol, dan swynion y golygfeydd arddunol oeddynt yn eu hamgylchu, daeth ofn a dychryn i lanw pob mynwes, ac aeth pob grudd yn welw gan bryder. Rhedai rhai yn wyllt ar hyd fwrdd y llong, wedi colli pob rheolaeth arnynt eu hunain, ac yn cael eu dirdynu gan anobaith. Er yn ym wybodol ei fod mewn perygl mawr, medd- ianodd Cook ei hun gyda dewrder dihafal. Dangosodd ei fod yn meddu dewrder ac ysbryd gwir anturiaethwr. Cafodd ei hunan feddianiad effaith gref ar bawb o'i wyr, a disgynai ei orchymynion diysgog a'i gynghorion doeth a phriodol fel gwawr gobaith i'w mynwesau. Trwy ddoethineb a phwyll, llwyddwyd i gadw o hyd mewn o saith i naw gwrhyd o ddyfnder, ac yn mhen ychydig, daeth yr Endeavour, yn nghanol bloeddiadau o lawenydd a diolch, allan o'r perygl, ac i forio eilwaith ar ddyfn- der o ddwfr. Tra' yr oedd y llong yn y perygl, eisteddai Iluaws o'r brodorion ar y creigiau gwynion ar lan y mor. Canfydd- asant y cyffro ar fwrdd y llong, a deallasant yn uniongyrchol ei bod mewn cyfyugder. Cymerasant fantais ar y selyllfa gyfyng, a rhuthrasant allan, mewn pump o gychod, i ymosod arni. Wedi cyrhaedd yn agos i'r llong, yr hon oedd erbyn hyn yn nofio mewn dyfnder o ddwfr, dechreuasant ganu eu rhyfelg&n a chwifio eu picellau, gan wneuthur pob ystumiau, ac yn y diwedd, dywedasant am ymadael neu ymladd. Plethai Cook ei law trwy ei wallt yn nghanol penbleth beth i'w wneuthur. Nid oedd am gymeryd bywyd yr un ohonynt, ac eto gwelai eu bod hwy yn benderfynol i ymladd, ac felly fod yn rbaid iddo yntau wneuthur rhyw amddiffyniad. Yn gweled ein gwyr yn dra hwyrfrydig, dechreuasant agoshau i ymyl y llong, dan y bwriad, yn ddiamheu, i daflu eu picellau i'r bwrdd. A.r hyny, gorchymynodd Cook Mr, Gore i danio ergyd dros eu penau ond yn hytrach na'u dychrynu, cynhyrfodd hyn hwynt i'w heithafion, ac ymosodasant yn y modd mwyaf beiddgar ar ein gwyr. T.miodd Cook belen i'w hymyl, a chariodd yr effaith dymunol. Ar swn yr ergyd, cyfod- asant i fyny gyda'u gilydd. a dechreuasant ganu yr un gerddoriaeth ag o'r blaen ond yn lie adnewyddu eu hymoaodiad, fel y gallesid dysgwyl, casglasant at eu gilydd, ac ar ol byr ymgynghoriad, rhwyfasant ymaith gyda r cynymder mwyaf.. Ar y 14eg o Hydref, cychwynodd Cook allan yn ei fadlong (pinnace) mewn ym- chwil am ddwfr glan, ond cyn ei fod wedi myned yn mhell iawn, canfyddodd amryw o fadau, yn llawn o Zealandiaid, yn dyfod oddiwrth y lan. Prysurodd yn ol tua'r llong, ac yn mhen ychydig, dynesodd pump o fadau, ac ynddynt oddeutu pedwar ugain o ddynion, ac yn eu canlyn, heb fod yn mhell ar ol, bedwar bad arall, yn llawn o ddynion. Wedi dyfod o fewn deugain llath i'r llong, dechreuasant ganu eu rhyfelgan, gan chwifio eu harfau, a pharo- toi i frwydr. Uobeithiai Cook na fyddai i ddim anhapus ddygwydd, a chan ei fod yn awyddus i osgoi defnyddio arfau tan, gorchymynodd Tupia i egluro wrthynt nad oedd o un dyben iddynt i ymosod ar y llong. Mynegodd iddynt fod offerynau gan ein gwyr fel taranau, ac nad oedd ond di- nystr yn eu canlyn, ac y buasai un ergyd yn ddigon i'w dinystrio gyda'u gilydd, eithr eu bod am ochelyd hyd y buasai modd heb eu defnyddio ond os y buasent yn cynyg gwneuthnr unrhyw ymosodiad, y byddai y gwyr oeddynt ar fwrdd y llong yn rhwym o ddefnyddio eu harfau dinystr- iol tuag atynt. Dal o hyd, fel pe yn ben- derfynol i wneuthur ymosodiad, yr oedd- ynt, a gorchymynodd Cook i belen gael ei thanio gerllaw iddynt, a chariodd hyn effaith boddhaol yn uniongyrchol. Synodd y fflachiad a'r ergyd, ac uwchlaw dim y belen, yr hon a wasgarodd ar hyd wyneb y dwfr, hwynt, a chawsant eu dychrynu i'r fath raddau fel y dechreuasant rwyfo ymaith gyda'r cyflymder mwyaf. Galwodd Tupia ar eu hoi, ond ni thalwyd y sylw lleiaf ganddynt i'r alwad, oddieithr gan un bad. Trwy daerineb Tupia, llwyddwyd i gael gan y badaid hwn i ddyfod i ymyl y llong, ac i roddi eu harfau o'r neilldu. Ar 01 hir gymhell, ac addaw gan' waith na fuasai yr un niwed yn cael ei wneuthur iddynt, daeth amryw ohonynt i fwrdd y llong, a derbyniasant amrywiaeth o anrheg- ion. Llwyddodd Cook i argraffu ar eu meddyliau nad oedd yr un bwriad drwg tuag atynt gan ein gwyr, ac na fuasent yn gwneuthur yr un niwed iddynt oddieithr iddynt hwy ymosod arnynt. Cawsant en boddloni yn fawr gan y driniaeth dderbyn- iasant ar fwrdd y llong, ac yn yr anrhegion a roddwyd iddynt, ac addawasant wrth ymadael yn yr hwyr y buasent yn gwneyd eu goreu i berswadio eu cyfeillion nad oedd dim drwg mewn golwg gan ein gwtr, ond eu bod yn dyfod mewn heddwch. Yma- J dawsant yn nghanol bloeddiadau o ddiolch- garwch, &G yn foreu, dranoeth, canfyddwyd dau fad, yn llawn o ddynion, yn dynesu at y llong. Wedi dyfod o fewn ugain llath iddi, gofynasant gyda'u gilydd os oedd heddwch, ac wedi cael atebiad cadarnhaol, daethant i ymyl y llong, a dechreuwyd masnachu. Yn un o'r badau yr oedd dyn mewn gwisg o groen du, a theimlodd Cook a Mr. Banks awydd cryf am gael gwybod croen beth ydoedd. Galwodd Cook arno, a chynygiodd iddo ddarn mawr o'n brethyn ni yn gyfnewid am dano. I'r fargen hon ymddangosai yn dra boddlon. Tynodd y croen ymaith yn uniongyrehol, gan ei ddal i fyny yn y bad. Er hyny, ni ymadawai ag ef hyd nes y buasai y brethyn yn ei feddiant, a chan na allesid eyfnewid eiddo os y buasai pob ochr yn erbyn rhoddi yn gyntaf, gorchymynodd Cook i'r brethyn gael ei estyn i lawr iddo. Ar hyn, yn lie rhoddi'r croen yn gyfnewid, dechreuodd rhwymo y ddau i fyny, ac ni thalai y sylw lleiaf i waith Cook yn hawlio y croen ac yn ei fygwth. Wedi eu rhwymo, gosododd hwynt mewn basged fechan, a rhwyfodd ymaith a'i holl egni. Yr oedd Cook yn rhy ryddfrydig a boneddigaidd i ddial arno am ei Bar had a'i weithred latratadd, a chafodd ddianc heb yr un gosb am ei weithred. Un diwrnod, tra yr oedd masnach fywiog yn cael ei chario yn mlaen, yr oedd Tayeto, mab Tupia, wedi ei osod i lawr dros ochr y llong i estyn i fyny yr hyn a dderbyn- iasid. Tra yn ddiwyd wrth ei waith, rhuthrodd un o'r Zealandiaid arno, a llusg- odd ef ymaith i'r cwch. Neidiodd dau arall i mewn, a rhwyfasant ymaith gyda'r aiddgarwch mwyaf. Gosododd y fath weithred feiddgar a threisiol Cook o dan rwymau i orchymyn i'r mor-filwyr oedd dan arfau ar y bwrdd i danio yn union- gyrchol. Gollyngwyd yr ergydion i'r rhan bellaf oddiwrth Tayeto o'r bad, rhag ei glwyfo, a syrthiodd un o'r rhwyfwyr a danynt. Parodd hyn iddynt i ollwng eu gafael ar Tayeto, a neidiodd yntau i'r dwfr, gan ddechreu nofio tua'r llong. Ond gyda'i fed yn. dechreu nofio, rhuthrodd badau ereill y Zealandiaid o'i amgylch, a dechreuasant ymosod arno yn y modd mwyaf beiddgar, ond trwy ei fod yn gyfar- wydd mewn dwfr, llwyddodd i gadw ei hun yn ddiogel hyd nes i'r llong ollwng cynwys un o'r cyflegrau i blith y gelynion. G^vasgaiodd hyn y Zealandiaid mewn braw a dychryn—thwyfect ymaith a'u holl egni i bob cyfeiriad, a daeth bad o'r llong i gyfodi Tayeto bychan, yr hwn nid oedd wedi derbyn y niwed lleiaf. Gwyliai rhai o'r boneddigion oeddynt ar fwrdd y llong y Zealandiaid yn glanio, a thrwy eu hys- pienddrychau canfyddasant dri neu bedwar o wyr yn cael eu cario i fyny i'r coed, pa rai a ymddangosent fel yn farw, neu wedi eu hanalluogi yn hollol gan eu clwyfau. (I'w barliau.)
[No title]
TESTYN darlith newydd sydd gan Ednyfed (diweddar o Faesteg) yw I Gymru ac yn ol," ac ymddengys ei fod yn rhoddi boddhad neill- duol i Gymry America. THE attention of Ladies is called to RECKITT'S PARIS BLUE, which has been, since its introduc- tion, quite unsurpassed as a Laundry Blue. It now commands the largest sale in the world, wing its success to its brilliancy of colour and delicacy of tint. It can be. obtained from all Grocers, Oilmen, &c. 2183 (g) NERVOUS AND PHYSICAL DEBILITY —A gentleman, having tried in vain every advertised remedy, has discovered a simple means of self-cure. He will be happy to forward the particulars to any sufferer on receipt of a stamped and directed envelope.Address Mr. J. T. SEWELL5 Brook Villa, Hammersmith, London.. 2624 ENAINT A PHELENI HOLLOWAY.- -Diffyg Anadl, Ceg-wichiad, ac Anwydon.—Y mae miloedd a dystiolaetha'u wrth law a brofant fod gallu yn y meddyginiaethau hyn i wella mygodfa, dechreuad y darfodedigaeth, a holl anhwylderau y ddwyfron, yr ysgyfaint, a'r mynedfeydd awyr. Ond ei rwbio ar y ddwyfron a'r cefn, treiddia yr Enaint hwn y chwysrdyllau nes y cerir ef yn uniongyrch- ol i'r ysgyfaint, He y diddyma neu y gyr allan, pan ddeua i gyffyxddiad a'r gronfa o waed cvlch- redol, yr anmhureddau byriy sydd yn achosi darfodedigaeth, mygodfa, dolur y gwddf, treuliad yr ysgyfaint, a doluriau cyffelyb. Ar ymddangos- lad yr arwyddion bygythiol cyntaf. dylid cynesu cefn a dwyfron y claf a heli twym, eu pychu â. llian cwrs, ac yna rhwbio i fewn yn dda Enaint Holloway. Ond gwneyd hyny. fe r\,ystrii ac fe orchfygir y doluriau crybwylledig. TRWYN-BEIRIANT ALEX. ROSS.-Offer- yn effeithiol iawn ydyw hwn, ond ei ddefnyddio am awr bob dydd, at gymhwyso trwynau ceimion Ei bris ydyw 10s. Sc., wedi ei bacio yn ddirgel aidd. Pamphlet, dau stamp-21, Lamb's Conduit street, High Rolborn, London.-Y mae ei Hair Curling Fluid yn crychu y gwallt mwyaf syth ac annhrefnus. 3s. 6c. yw ei bris, neu 54 stamp.— Hefyd y mae ganddo offeryn bychan at wella clustiau sy'n dal i fyny, ac i'w gael am 10s. 6c., neu stampiau. Am 3s. 6c., neu 54 o stampiau, ceir ei Great Hair Destroyer, at newid gwallt llwyd i'w liw gwreiddiol yn fuan. — Qocheler efelychiadau o'r hyn a werthir gan Ross. Gan fod fferyllwyr yn cadw ei nwyddau, gwelwch eich bod yn cael ei Hair Dye at liwiau goleu neu. cflfyyil; 3s. 6c. ydyw. Hefyd, ei Depilatory for Removing Hair, a'i Oil of Cantharides at gynyrchu gwallt a barf. 2625