Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
YR ESTRON.I
YR ESTRON. I PENOD X. Gan na orphenwyd hanes Don Carlos.1 Fuentes, tad Caradog, yn y benod o'r blaen, j rhaid i ni roddi parhad ohoni yn y benod Jbon. Fe gofia y darllenydd mai yn y pwll y gadawsom ef ac un o'i elynion ddiweddaf, yn ol adroddiad eihanes. u Bum mewn llewyg am hir amser wedi cyrhaedd gwaelod y pwll," ychwanegai y Don, "ac ocheneidiau fy ngelyn anafedig oedd o danaf a arweiniodd fy meddwl yn ol i helyntion dyrys a blin yr oriau di- weddaf. Wedi sefyll ar fy nhraed, rhydd- heais y rhaff dew oedd yn rhwymedig am fy nghanol, ac ymbalfalais fy ffordd yn y el tywyllwch caddu.-awl i ochr y pwll. Yr oedd dim i'w glywed ynddo ond ocheneid- iau y dyn clwyfedig, a gwichiadau heidiau o lygod newynllvd megys yn canu ac yn dawnsio wrth leddwl am y wledd ragorol oedd ein cyrff yn addaw iddynt. Yn fy nghynddeiriogrwydd, rhuthrais yn ol at fy ngelyn, a chan grafangu ynddo, gwaeddais allan, Dywed, y filain, yn mha le yr wyf, ac am ba beth v taflwyd fi i'r fath Ie?' Ond ochenaid uwch a mwy torcalonus oedd yr unig ateb a gefais, ac yr oedd yn hmlwg fod ei ddyoddefiadan wedi dyrysa ei syn- wyrau. Teimlwn fy nghalon yn syrthio, a'm hysbryd yn pruddeiddio wrth feddwl am fy sefyllfa-wedi fy ngbloii fyny mewn pwll erch a thywyll i farw o newyn, ac yn nghwmni dyn gwallgof! Ymadawodd pob teimlad nwydus a digofus o'm meddwl, a chymerwyd eu lie gan ofn dychrynllyd am y diwedd ofnadwy oedd yn fy aros. Gosod ais y dyn i orwedd i lawr mor gysurus ag oedd modd, a theimlais fy ffordd yn ol i ochr y pwll. Wedi ymbalfalu o'i gylch, deallais mai pedrongl ydoedd, ac yr oedd yr ochrau yn gynwysedig o graig lied feddal. Yr oedd pob ochr yn mesur cymaint ag y gallaswn ymestyn a'm breichiau chwech gwaith. Fel yr oeddwn yn symud, teiml- wn esgyrn dignawd yn malario o dan fy nhraed, a thinciad haiarn, a phethau pwdr yn myned yn ddarnau. Unwaith, cymer- ais rywbeth oedd dan fy nhraed i fyny, ac wele rhyw sylwedd mawr ei faint ydoedd. Oherwydd ei gyflwr pydredig, torodd gan adael y rhan ysgafnaf ohono yn fy llaw. Rhywbeth hirgylch, tebyg i wy, ydoedd, ac un ochr ohono yn anwastad a thyllog. Nid wyf yn ofergoelus, nac ychwaith yn annewr ond pan ddaethum i wybod beth oedd yn fy Haw, aeth rhyw ias oer drwy fy ngwythienau, cododd fy ngwallt mor syth ag esgyll draenog ofnus, a llesmeiriodd fy nghalon. Penglog dynol ydoedd Bu y tipyn asgwrn pydredig hwn unwaith yn deml anaid byw Beth pe gallasai y pen- glog hwn barablu geiriau fel yr arferai? Diau mai erchyllderau poenydiadau a newyn fuasai ei destyn cyntaf! Aeth fy mysedd trwy y llygaid, syrthiodd y danedd i'm dwylaw, a theimlais ddarn bychan o gnawd blewog oedd eto ar ol o'i wallt. Yn fy ughryndod, syrthiodd y penglog o'm dwy- law, gan ddisgyn ar ben fy ngelyn, yr hwn a roddodd ochenaid anarferol mewn ateb- iad. Fflachiodd y meddwl trwy fy ymen ydd dychrynedig fy mod wedi cael fy ughladdu yn fyw mewn bedd oedd yn cynwys gweddillion y rhai a'm blaenorodd. Rhuthrais o amgylch y pwll eang gyda gwylltineb ac anmhenderfynedd anobaith. Yr oedd ysgrechiadau ac ocheneidiau y dyn clwyfedig yn gwneyd yr olygfa yn fwy hyll, ac yn ychwanegu erchyllder y tywyll. wch. Ymdrechais unwaith eto gael rhyw wybodaeth oddiwrth fy nghyd-garcharor; ond wrth glywed fy llais, adnewyddodd ei ysgrechiadau, ac ymryddhaodd o'm gafael gyda nerth pedd bron yn rhyfeddol. Araf dreuliodd yr amser, ond nid oedd dim i gofnodi symudiad amser ond curiadau fy nghalon, a dolefau fy nghydymaith. Fel yr oeddwn yn pwyso yn erbyn y mur, gan edrych i fyny i'r tywyllwch oedd uwch fy mhen, gwelais rhywbeth golen yn uchel iawn i fyny, fel gwrthddrych mewn gwisg goleu. Yr oeddwn yn rhy hwyrfrydig i gredu mai ysbryd oedd. Credais ar y cyntaf mai breuddwydio oeddwn, ond yn fuan, daethum i ddeall mai crac yn y graig oedd. o fel y parchwn ac yr addolwn yr ysmotyn goleu hwnw! Pan yn dyoddef yn fawr oddiwrth syched a newyn, tynwyd fy sylw gan symudiad y gareg uwchben ac mewn ychydig fynydau, hongiwyd lamp gyneu- edig i lawr drwy agoriad a wnawd gan symudiad y gareg, yr hyn a oleuodd y lie uffernol hwn, gan ddatguddio i mi bethau annesgrifiadwy o erchyll. Gwelwn fy mod yn damsang twmpath o ysgerbydau cnawd. dreuliedig, a thyllau dirifyangwaelody maswnwaith, lie yr oedd penau amryw lygod yaglyfaethus yn awr ae yn y man i'w gweled, i ba leycilxasant am loches pan oleuwyd y pwll. Wedi hongian y lamp i lawr, cafodd basged, yn cynwys torth o fara, a phiolaid o ddwfr, ei ostwng i lawr i ni am y tro cyntaf yn ystod y tri diwrnod yr oeddwn wedi bod yno. Crafangais yn y phiol fel pa mai rhyddid ydoedd, ac yr ¡ oedd y dyferyn cyntaf a syrtbiodd ar fy nhafod poeth fel rhagbrawf o Baradwys Teimlwn ysbryd Cristion yn fy mynwes yn J gorthrechu y teimlad hunanol hwnw o twynhau fy hun yn gyntaf; felly, gosodais I y botel wrth enau y creadur anffodus, yr' hwn, druan, a yfodd yr oil. Erbyn hyn, yr oeddem yn y tywyllwch caddugawl eto trwy i'r lamp gael ei thynu i fyny. An- Dghofiais y carcharor a sefyllfa fy hun wrth droi fy meddwl yn ddisymwth at fy ngwraig a'm plentvn anwyl. Yr oedd dychymygu eu bod yn nwylaw rhyw greaduriaid bar- baraidd ac annhrugarog yn fy ngyru ya gyflym i gyffiniau gwallgofrwydd. 0 fel yr hiraethwn am ryddhad, fel y gallaswn redeg i'w cynorthwyo, Yn cael fy adgyf- nerthu gan y bwyd, penderfynais wneyd un ymdrech fawr i fyned atynt. Ond yn mha ffordd ? Cyfodais fy llygaid i'r nef- oedd fel pe yn gofyn am nawdd y Gor- uchaf pan welais y goleu yn dysgleirio trwy y crac yn y mur. Dyna'r porth,' meddwn wrthyf fy hunan, i mi gael mynediad allan i'r byd eto' (I'w barhau.)
Bywyd ac Anturiaethau Cadben…
Bywyd ac Anturiaethau Cadben Cook, YN NGHYD A DESGRIFIAD O'R LLE- OEDD YR YMWELODD A HWYNT. GAN JAMES CLEMENT (ALARCH OGWY). PENOD VIII.-(Parhad). Prysurodd Cook i'w daith, yn ol y cyn- llun a grybwyllwyd yn y rhifyn diweddaf; ond yn mhen ychydig ddyddiau, ymosod- wyd arno gan dwymyn, yr hon a'i cyfyng- odd yn wael iawn o fewn i'w wely. Bu am amryw ddyddiau mewn sefyllfa beryglus iawn-mor wael, fel y rhoddodd rhai i fyny bob gobaith am dano. Gwasanaethwyd arno ddydd a nos gyda'r tynerwch mwyaf gan Mr. Patten, y meddyg, yr hwn a ddangosodd ei fod yn berffaitb feistr ar ei waith. Er mawr lawenydd, dechreuodd ei boen esmwyth&u, ac adfywiodd yntau yn mhen ychydig ddyddiau, fel yr oedd yn gallu dyfod o'i wely. Yr oedd ei archwaeth at fwyd yn wan iawn o hyd, ac nid oedd ond cig hallt i'w gael ar y bwrdd. Nis gallasai gyffwrdd a hwnw, ac yr oedd yn rhaid iddo gael rhywbeth. a bu gorfod i gi Mr. Forster syrthio yn aberth ar yr achly- sur. Nid oedd un math arall o gig ffres i'w gael, ac yr oedd Cook, nid yn unig yn gallu yfed o'r cawl a wnawd ohono, ond yn gallu bwyta'r cnawd, pan nad oedd yn gallu profi dim arall. Felly, fe gafodd faeth a nerth o fwyd a fuasai i ni, ac iddo yntau, o dan amgykhiadau ereill, yn achos o af- iechyd, ac yn cael ei wrthod gyda dirmyg. Ond yr oedd yr angenrheidrwydd am y peth yn gorbwyso pob teimlad o wrthwyn- ebrwydd. Yn ystod yr amser yma, yr oedd llyw- yddiaeth y llong wedi disgyn ar Mr. Cooper, yr hwn a'i llywyddodd yn deilwng ohono ei hun, ac i foddlonrwydd ei feistr. Yr oeddent, erbyn hyn, wedi pasio y lie oedd i lawr fel sefyllfa y tir a ddarganfydd- wyd gan Juan Fernandez, a barnai ein gwyr, os oedd Juan wedi darganfod tir o gwbl, mai rhyw ynys fechan ydoedd. Ar yr lleg o Fawrth, daeth ein mordwy- wyr i Easter Island, neu Davies's Land, ac yn yr hwyr, glaniasant ynddi. Nid yw natur wedi gwisgo hon a llawer o bryd- ferthwch, nac wedi estyn rhyw lawer o ffafrau iddi. Nid oes angorfa diogel o'i mewn, na thoraeth o goecl, na dwfr o un gwerth i long ei gymeryd i'w bwrdd. Y mae'r brodorioa hyn yn dwyn tebygolrwydd mawr mewn lliw, ymddangosiad, ac iaith, i'r ynyswyr sydd yn fwy i'r gorllewin, a barnai ein cadben eu bod yn tarddu o'r un gwreiddyn. Y mae yn hynod i feddwl fod yr un genedl wedi ymwasgaru i'r fath gylch eang, fel ag i gymeryd braidd y bedwaredd ran o'r ddaear. Cafodd ein gwyr dderbyn iad cyfeillgar, ond amlygodd y brodorion hyn fod y duedd ladrataidd yn grefyn- ddynt. Nid oedd dim ar yr ynys hon i ddenu ein gwyr i aros yn hir ami, a chyda phleser y cefnasant arni â'u gwynebau am y Marquesas Islands. Ar y 6ed o Ebrill, daethant i olwg y Marquesas, ac ar y 7fed, angorasant yn Madre de Dios, yn ynys St. Christina. Yn fuan, dechreuwyd cario masnach yn mlaen, yn nghwrs pa un y cadwodd amryw o'r brodorion yr hyn a gynygid iddynt gan ein gwyr heb ddychwelyd dim yn ad-daliad. Yr oedd un ohonynt fel ar ei eithaf yn ceisio rhagori ar ei gymdeithion yn hyn o waith, ac yr oedd wedi myned mor haerllug yn y diwedd, fel y bu gorfod i'r cadben ollwog ergyd dros ei ben. Ni chariodd hyn yr un effaith arno, ac yr oedd y brodorioa, erbyn hyn, yn dechreu lluosogi ar fwrdd y llong, fel y gorchymynodd Cook i'w swydd- ogion gadw llygad manwl ar eu hoi, neu y buasent yn sier o ddwyn rhywbeth neu gil- ydd ymaith. Gyda'i fod yn gorphen ei orchymyn braidd, daeth un o'r swyddogion yn mlaen gan ei hysbysu fod y brodorion wedi lladrata rhywbeth pwysig. Ar hyn, gorchymynodd i'w wyr danio dros y cwch, hyd nes y gallasai ef ac ereill ei amgylchu, ond i ofalu nad oeddent yn lladd neb; ond cymaint oedd cynhwrf y brodorion ar fwrdd y llong, fel na ddarfu i'r swyddogion iawn ddeall y gorcbymyn, a lladdwyd y lleidr anffodus i'r ergyd cyntaf. Ar hyn, rhwyf- odd y lleill ymaith mewn dyehryn, a chan- lynwyd hwy i ymyl y tir gan ein cadben. Galwodd arnynt, gan geisio gan rywrai ohonynt i ddyfod i ymyl y cwch, yr hyn a wnaethant, a thrwy anrhegicn, llosyddodd eu meddyliau eilwaith. Prif reswm Cook dros droi i'r Marquesas oedd, er sicrhau eu sdfyllfaoedd; yr oedd yn amheus o'r blaen. Dywedai ein cadben mai dyma'r bobl fwyaf llaniaidd a chyflawn yn y mor hwn, ond barnai eu bod o'r un gwreiddyn a'r Tahit- iaid. Yr oedd eu hiaith braidd yr unfath, a siaradai Oedidee a hwy gyda llawer o rwyddineb. (I'w barhau).
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. GAN Ap CORWYNT & Co. Nos Wener, Aivst 17eg. Hutv FfradacJi.—IA&wer o ddyfalu sydd gyda golwg ar yr Eisteddfod yn "Ninbach," yr wythnos nesaf, a phroffwydi hunan- etholedig yn codi fyny i draethu eu lien yn y papyrau gyda golwg ar y buddugwyr ar y gadair, a thestynau ereill. Ofer yw pethau fel hyn; a phe dygwyddai y proffwydi hitio 'r mark mewn un neu ddau amgylchiad, byddai rhai yn barod i gredu fod rhyw gilbwt rhyngddynt a'r beirniaid, a'u bod wedi cael y secret allan oddiwrth- ynt hwy. Gwell i ni aros i hen olwyn fawr amser i roundio'i chylch, ac erbyn wythnos i heno, fe gawn wybod pwy fydd wedi concro ar y prif destynau. Rhai yn darogan fod y gadair i ddyfod i'r South. Wel, mi ddywedaf fi ddim yn erbyn iddi dd'od, ond rhaid i ni yr Hwntws beidio bod yn rhy hunanol hefyd, canys hi ddaeth i'r South y llynedd, ac ni ddylem ffroenochi os cipir hi gan un o fechgyn y Gogledd eleni. Yr oedd yr hen ddywediad, flynyddau yn ol, fod gwell beirdd yn y Gogledd na'r De; ond credwn, yn y blynyddau diweddaf, fod buddugoliaethau beirdd y De yn y prif Eisteddfodau wedi profi yn wahanol, ac y gallwn ni yma yn y South ddangos cystal beirdd bob rhecsyn ag sydd yn y Gogledd. Agrippa.-Nid yw y gystadleuaeth am y gadair eleni mor dyn o gryn lawer a llyn- edd, canys os wyf yn cofio yn iawn, dim ond saith sydd i fewn; ond gall fod y saith hyny yn fechgyn cyhyrog, ac yn perthyn i'r hen waed a'r gwaed newydd. Trueni mawr fod yr hen dad Gladstone yn methu bod yn Ninbych ddydd Gwener, fel yr hysbysid. Ond rhaid maddeu iddo; y mae wedi gweithio fel y vengeance er's misoedd wrth ei bost yn y Senedd, ac y mae yn bryd iddo gael ei ben yn rhydd o'r fusnes am dipyn. Y mae yn debyg ei fod yn myned ar bleser-fordaith am rai dyddiau. Mawr les iddo drwy hyny ddywedaf fl. Ond os nad yw ef yn gallu d'od, y mae yn dda genym ddeall fod Mrs. Gladstone a'r mab hynaf i fod yn Ninbych; ac er na fedrant hwy lanw lie yr hen wr, fe fydd yn dda gan filoedd eu gweled, a diau y ceir araeth gan y mab yno ddydd Gwener. Y mae pob arwyddion, meddir, y ceir Eistedd- fod boblogaidd a llwyddianus iawn yn Ninbych. Nid wyf fi wedi gweled y bills, ond diau fod trefniadau wedi eu gwneyd a gwahanol gwmniau y rheilffyrdd i gael trens rhad ddyddiau'r Eisteddfod. Oes rhai ohonoch chwi wyr y Coleg yn golygu myned ? Ap Corwynt.- Wedi deall fod Gladstone i fod yn gadeirydd yno, fe gododd awydd disprad arnaf fi i fyned i wel'd a chlywed yr hen gawr am unwaitb; ond wedi cael allan na fydd efe yna, yn ol pob tebyg, yr wyf yn ofni y rhaid i ni ei thaflu i fyny fel bad job. Yr wyf fi wedi bod mewn llawer Eisteddfod yn hyd fy oes, ac y Mae genyf adgofion am lu ohonynt. Yr Eisteddfod gyntaf y bum ynddi yn fy mywyd oedd hoco gynaliwyd yn Nghwmaman, sir Gaer- fyrddin, dydd Calan, Ionawr laf, 1858, ac yn hono yr enillais y tipyn gwobr gyntaf a enillais erioed, sef 15s. am bryddeat. Yno y gwelais Teilo, Llew Llwyfo, a Thafalaw gyntaf erioed, ac yr oedd y tri brawd yn ddoniol iawn. Llywydd y dydd oedd Mr. Pugh, A.S., Manorabon. Nid oedd efe yn rhyw lawer o Gymro; a thua chanol yr Eisteddfod, cododd a dywedodd fel y canlyn:—"A drwg y fi, y fi dim llawer o Cymro, ond ma Mr. Griffiths, Llandeilo (ficer parchus Llandeilo), fan hyn, a fe gweyd digon o Cwmrâg i chi." Yna, cododd Mr. Griffiths fel gwron at ei waith, a thraddododd araeth hyawdl i'w ryfeidu. Qxwfr pawb a adwaenai Mr. Griffiths, ei fod yn un o'r siaradwyr mwyaf llithrig a doniol, ac yn nghwrs ei araeth, dywedodd rywbeth fel y canlyn:—"Pan oedd y beirdd a'r cantorion yn cynal eu cylch- wyliau arbenig yn Athen, prif-ddinas Groeg, dywedid fod yr afon a lifai drwy y brif-ddinas megys yn arafu weithiau er gwrando ar gerddoriaeth a'r farddoniaeth swynol a genid ac adroddid yn y gwyliau Athenaidd; ac yr wyf fi yn meddwl fod Aman fach yma heddyw yn arafach ei symudiadau wrth ymlitbro yn mlaen drcs ei gwely graianawg tua'r mor er clust- ymwrando ar y gerddodaeth a'r farddon- iaeth sydd yn myned yn mlaen yma." "Da machgen i, wir! Amen," ebe rhyw hen frawd o'r dorf, nes oedd y lie yn rhacs gan chwerthin. Ar hyn, dyna boliceman yn myned yn mlaen i gydio yn mraich yr Amenwr, yr hwn a drodd at y gwr a'r got las, ac a ddywedodd :—" Beth 'chaiff dyn ddim gweyd peth sydd ar ei feddwl e'?" Creodd hyny chwerthin mawr eilwaith. Dyna pwy enillodd y brif wobr bryddestol yn yr Eisteddfod hono oedd Gomer ap Tegid. Symudodd wedi hyny i'r Gogledd. Y mae yn fy meddiant yn awr lythvr a dderbyniais oddiwrtho oddiyno yn 1858, ond nis gwn a yw efe ar dir y byw heddyw ai peidio. Gobeithio ei fod. Os oes rhai o ddarllenwyr y Gwladgarwk yn gwybod rhywbeth am dano, carwn iddynt hysbysu. Yr ail Eisteddfod y bum ynddi oedd yr un gyntaf a gynaliwyd yn yr Ogofau, Cayo, Awst 11, 1858, dan lywyddiaeth y di- weddar J. Jones, Dolaucothy. Y diweddar Ieuan Gwyllt oedd yn beirniadu'r cyfan yno, a Llew Llwyfo yn arweinydd. Teilo aeth a'r prif wobrwyon barddol yno. Enillodd Gwilym Maries hefyd wobr neu ddwy yno. Y caruaidd a'r hynaws Thomas Rhydderch oedd yr ysgrifenydd, ac yr oedd hono yn Eisteddfod lwyddianus iawn ag ystyried y miloedd ddaeth yn nghyd. Yr oedd y canu corawl yn y dyddiau hyny yn dra gwahanol i'r hyn ydyw beddyw. Fe ganodd un c6r yno y double chorus gan J. A. Lloyd, "Am hyny y bloeddiant ac y canant," yn bar debyg fel pe byddech chi'n gadael lot o druclcs i redeg ar wyllt ar incline Abernant neu'r Werfa. Ni chlywais y fath gallapo erioed. Nid llai rhwysgfawr a llwyddianus wedi hyny oedd ail Eisteddfod a gynaliwyd yn yr Ogofau yn Awst, 1864. Yr un beirniad ac arweinydd eto a'r tro cyntaf. Yno y cyfarfyddais am y tro olaf a'r bardd galluog Glan Cunllo. Yr oedd efe yn cadw ysgol yn Llansawel ar yr adeg hono. Symudodd wedi hyny i Langadog, lie y gorphenodd ei yrfa. Bu ef a minau yn llwyddianus i enill rhywfaint yn yr Eisteddfod ddiweddaf hon. Bachgen clyfer oedd Glan Cunllo, ac y mae yn bity garw na chai rhai o'i gyfansoddiadau buddugol weled goleu ddydd. Ond rhag i'r cwrdd heno fyned yn Eisteddfodau i gyd, gwell i mi dewi. Er hyny, gwn y maddeuwch i mi am alw i fyny hen gyfeillion o fynwent y cof. Nid oeddwn i, y pryd hwnw, ond newydd basio yr ugain; felly, chwi welwch fy mod bellach yn tynu yn mlaen yn gyflym ar daith bywyd. Pan feddyliwyf gynifer o fy hen gyfeiliion yn feirdd a cherddorion sydd wedi blaenu, yr wyf weithiau yn rhyfeddu fy mod wedi fy ngadael i'w goroesi hyd yma. Vulcan Fardd.-O na, nid oedd genyf fi ddim objection i wrando arnat yn myned yn ol at hen bethau boreu d'oes. Y mae peth felly yn naturiol iawn i ni gyd. Pa ddyn sydd, os na fydd crac yn ei ben, ar na char fyned yn ol i foreu oes weithiau ? Ond hefyd, y mae yn rhaid i ni edrych peth yn mlaen hefyd at y dyfodol. Ond cyn myned yn mhellach, fe wnaeth dyn du'r wasg ryw wall disprad yn y Gwladgabwr diweddaf trwy roi un fil ar ugain yn lie un cant ar ugain i John Cetewayo. Wel, y mae yr hen frawd i gael dychwelyd i'w wlad ac at ei dylwyth eto cyn hir, mae'n debyg. Os gwna William Gladstone ei feddwl i fyny un ffordd neu'r llall, fe aiff drwy yr Ardalyddion a'r Lords fel bwlet. Samson.-O! ie, yr ydych yn cofio ein bod yn siarad yma, wythnos i heno, am gyndynrwydd Salisbury a'i blaid yn ceisio tynu bill William Gladstone ar yr ol-renti yn rhacs. Ond boreu dydd Iau, wythaos i ddoe, fe eisteddodd my Lords mewn cyfrin- gynghor, a Salisbury yn gadeirydd arnynt, a'r penderfyniad y daeth y Lords iddo oedd na wnaent ddilyn eu penaeth fel ag i fyned i ryfel a Gladstone a'r Weinyddiaeth. Tro pwyllog a chall oedd hwn o eiddo'r Lords, canys pe cyndyn wrthsafent lais y wlad, byddent drwy hyny yn peryglu bodolaeth TjT yr Arglwyddi. Y mae eu hymddygiad y waith hon yn dangos eu bod am i'r Ty Uchaf barhau rhyw gymaint eto. Wel, cyhyd ag y byddont yn fechgyn rhadlon, rhesymol, a da, fe fydd y wlad yn foddlon iddynt gael les i eistedd am ryw gymaint o amser eto ar esmwythfeiciau T$yr Arglwyddi. Yr wyf yn deall mai rhyw ddau fis o spell ga'r Parliament y tro hwn, ac y bydd yn rhaid ymgynull eto tua'r 24 o Hydref, er myned yn mlaen a'r penderfyniadau o barthed i reoleiddio gwaith y T £ ac yna, pan geir y Cloadur mewn grym, fe gauir hopran y Parnelliaid, y Doanelliaid, a'r Sextoniaid. Y maent wedi cael rhaff yn ddigon hir, bellach, ac y mae yn llawn bryd rhoi full stop arnynt. Huw Ffradach.—A oes rhai ohonoch yn gwybod a ydyw yr hen gyfaill Llwydwedd yn byw yn Kent yn awr, neu a ydyw wedi myned i Kentucky neu Kamskatka ? Nid wyf fi wedi clywed dim oddiwrtho er's bron ddwy flynedd. Beth sydd ar y brawd? Cawsom lawer ymgom dyddan heblaw am hen offeiriad Pembre, a phynciau difyr-ddoniol felly. Ysgrifened air i'r Coleg neu i'r Gwiadgabwr i ni gael gwybod rhyw gymaint o'i helynt. Hyderwn ei fod ef a'i deulu yn iach a chysurus. Dyna frawd sydd yn mron myned allan o'r byd barddol a llenyddol hefyd yw yr hen gyfaill Deheufardd. Ni welais of ac ni chlywais oddiwrtho er's pum' mlynedd. Ai tybed fod ei ddyled- swyddau Zacheusaidd yn mron tagu ei awen ? Ehaid i ni gael clywed oddiwrtho yn fuan, neu iddo oddef cael ei ysgymuno o'r cylch barddol. Ap Corwynt.-Pan oedd y eymylau yn diliwio'r ddaear am wythnosau, fe ddaeth yn wythnos o dywydd rhagorol yr wythnos ddiweddaf, ac fe gliriwyd i mewn werth miloedd o bunau o wair oddiar y maesydd. Yr wythnos hon eto, y mae y eymylau wedi bod yn dra hael ar eu cynwys dyfr- llyd, ond gobeitbio y sefydlir y tywvdd, ac y ceir eto dymor braf i addfedu a chasglu yr ydau. Yn ystod y gwlybaniaeth di- weddar, yr oedd y masnaeh wyr wedi dechreu codi pris y gwenith ond os gwena Rhagluniaeth trwy anfon i ni dywydd dymunol, fe fydd hyny yn sprag yn eu wheel rhag codi'r prisoedd. Yr oedd llawer o bethau ar fy meddwl i'w dwyn gerbron y Coleg heno, ond y mae yn myned yn hwyr. Os cawn fyw, fe ddaw hirnos gauaf eto yn faan, ac yr ydym yn rhwym o ddwyn gerbron ryw bynciau dyddorol mewn gwyddoniaeth, hanesydd- iaeth, neu ryw "aeth" arall. Y mae y cadflaenor yn yr Aifft, Syr Garnet "Wolseley, wedi cyrhaedd yno bellach, a gellir dysgwyl y bydd plwm brwd yn chwiban uwchben Arabi cyn hir. Dyn dewr yw Syr Garnet, ac y mae efe yn hen gyfarwydd a chrefft rhyfel, ac wedi bod wrthi yn y Crimea ac yn India, a manau ereill. Olwyfwyd ef amryw weithiau, a chollodd un o'i lygaid mewn brwydr. Efallai y cewch air o'i hanes wythnos i heno, os bydd hwyl. Y mae yn debyg fod- peth chwant ar Ffainc i gael pwt o ryfel a Madagascar cyn hir, ac y mae rhai o'i llongau rhyfel i fyned tuag yno, mae'n debyg. Wel, cyn y cyfarfyddwn eto, mwy na thebyg y bydd newyddion pwysig wedi ein cyrhaedd o hen wlad Pharaoh, ac efallai y cawn glywed, cyn wythnos i heno, fod Arabi wedi ei faeddu a'i gymeryd yn garcharor. Dewch yn gyaar i ni gael eyfarfod llawn i ymdrin a/r materioa fydd dan sylw.
Pwy yw John Dunn ?
Pwy yw John Dunn ? Llawer o son sydd wedi bod am y gwr uchod yn nglyn a Cetewayo, y cyn-frenia Zaluaidd, yr hwn sydd yn awr yn y wlad hon. Gan i mi gael tipyn o foddhad yn narlleniad hanes y John Dunn hwn, efallai na fydd yn annyddorol gan y rhai hyny o ddarllenwyr y Gwiadgabwr, nad ydynt yn gwybod helynt y dyn pwysig uchod, gael byr-nodiad am dano. "Ganwyd John Dunn o gylch y fiwydd- yn 1838, yn Nhrefedigaeth y Penrhyn (Cape Colony). Ysgotiaid oedd ei rieni. Y mae wedi bod yn byw yn gymdeithasgar iawn yn mhlith cyn-frodorion Affrica, ac yj oedd am flynyddau lawer ar delerau cyfeill- gar a Cetewayo. Y mae yn siarad yr iaith Zuluaidd mor hawdd ag y parabla yr iaith Seisnig, ac y mae yn deall y deddfau, y rheolau, yr ymarferion, a'r rhagfarnan. Zuluaidd yn drwyadl. Am hir amser, cy- hoeddai drwy gyfrwng newyddiaduron Natal ei fod ar fin cychwyn ar ei daith helwrol, a'i fod yn barod i gymeryd o dan ei dywysiaeth ychydig o foneddigion oedd- ynt yn dymuno cael eu cyflwyno i helwr- iaeth Zululand am bris penodsdig o hyn a hyn y mia-fod Dunn yn ymgymeryd a darbod wageni, gyrwyr, a chynorthwywyr brodorol. Nid oedd byth uarhvw achwyn- iadau mewn cysylltiad a'i ddull o gario allan ei ymrwymiadau. Holai i'w gws- meriaid yn fynych, pan yn nghalon y wlad helwriaethol,' pa fath helwriaeth oeddynt yn awyddus am ddyfod o hyd iddynt, ac os byddai rhywogaethau o'r anifail hwnw yn bodoli yn y gymydogaeth, yr oedd John Dunn yn sicr o wybod lie yr oeddynt i'w cael. Dangosai ei ddewrder yn ami, a chlywyd boneddwr estronol unwaith, yr hwn oedd yn ei gwmni yn hela, yn dweyd, 1 Yn fy ngwlad i, y mae dyn yn barod i farw am anrhydedd; ond ymddengys i mi fod John Dunn yn barod i farw am y peth lleiaf yn y byd.' Y mae John Dunn yn ddyn o gorff cadarn, cyhyrog, o daldra canolog, gydag ymddangosiad Sais wedi ei eni a'i fagu yn Lloegr, oddieithr fod lliw ei wyneb yn haul-losgedig, ac wedi dyoddef oddiwrth y tywydd. Y mae ganddo farf llawn, ac y mae yn feddianol ar bar o lygaid craffus yr olwg. Mewn ymddygiad, y mae yn nodedig o ddystaw a diymhongar, ae yn gymedrol yn ei arferiad. Am flynyddau lawer, y mae wedi amgylchynu ei hun a chwmni o Zuluiaid dysgybledig, wedi eu harfogi a llawddrylliau cymeradwyol, y rhai, sydd wedi eu dysgu i saethu at nod, ac fel helwyr; ac y mae wedi cael ei glywed yn, dweyd y bydd iddo, os coda amgylchiadau ag a wnaent ei drigfan yn Zululand yn mhellach yn anmhosibl, chwilio am breswyl- fa mewn rhyw ardal farbaraidd arall. Am beth amser sydd wedi pasio, y mae John