Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Dunn wedi bod yn benaeth dosbarth yn JZululand. Y mae wedi mabwysiadu yr arferiad Zuluaidd o fynu nifer o wragedd yn ol rhai awdurdodau, y mae wedi cael plant o amryw ohonynt; ac yn ol ereill, y mae ei holl wragedd ond un yn wragedd mewn enw yn unig. Modd bynag, mae ganddo lawer o blant, ac y mae wedi talu sylw dyladwy i'w dysgeidiaeth, oherwydd y mae wedi cyflogi athrawon Seisnig i ddyfod i'w dy yn Zululand i'w dysgu. Yn ystod y rhyfel Zuluaidd, yr oedd yn derbyn tâl gan v Llywodraeth ond er nad oedd natur ei wasanaeth yn eglur ddealladwy, cydnabyddwvd ef fel dyn defnyddiol. Y mae mvnegisdau amheus wedi eu gwneyd o barthed i'w driniaeth tuag at genadon hefyd, o barthed i'w ymddygiad tuag at ei ddeiliaid, yn enwedig y dynion blaenaf yn eu plith. Dywedir ei fod yn groes iawn i ddychweliad y Brenin Cetewayo i Zulu- land, oherwydd y mae yn credu, os bydd i'r brenin ddychwelyd, y bydd yn rhaid cadw yr awdurdod a roddwyd iddo gan y Llywodraeth Prydeinig ar ddarn mawr o dir yn nhiriogaeth Zululand, wrth nerth arfau." CADWALADR.
Dyoddefiadau Erchyll ar y…
Dyoddefiadau Erchyll ar y Mor. Glaniodd amryw o griw y Star of Brunswick yn L'erpwl, oddiwrth ba rai y cafwyd manylioa am lwyr long-ddrylliad y llestr hono. Collodd pump o'r criw eu bywydau. Tarawodd y Star of Bruns- wick wrth y lan, ar ran o Y n ysuedd Falkland, rhwng pump a chwech o'r gloch foreu y 30ain o Fai, tra yn myned i Fal- mouth, Huanilloa, a Guano. Am bythefnos cyn iddi daro wrth y Ian, cawsai dywydd ystormus, ac ar amser y drylliad, yr oedd yn wynt cryf. Tarawodd y Hong yn drwm ar y creigiau, ac mewn ychydig amser, syrthiodd un o'r hwylbreni ar y deck; gan ladd y pen-badwr, Wai. Smith. Yn faan, syrthiodd y prif hwylbren ond ni niweid- iodd neb. Yr oedd pedwar bad ar y Hong; ond yr oedd eu cael allan yn waith peryglus. Torodd un cyn ei osod ar y dwfr, a cheis- iwyd cael un arall allan; ond erbyn idda gyffwrdd a'r dwfr, lluchiwyd ef yn ddarnau yn erbyn y llong. Yn ffodus, nid oedd neb ynddo. Wedi hyn, gwnawd raft, ar ba un y gadawodd tri o forwyr y llong. Fodd bynag, yn lie myned tua'r tir, cariwyd hwy i'r mor; ond nid aethent yn mhell, cyn i don aruthrol olchi y tri ymaith. Gwelid hwy yn ymdrechu yn y dwfr; ond nid oedd fodd estyn un cymhorth iddynt. Taflwyd pobpeth a ellid i'r trueiaiaid, ond dim yn tycio, a boddasant oil. Safodd y goroes- wyr ar y bwrdd, mewn gobaith y byddai i'r llong ddal wrth ei gilJdd nes y gostegai'r ystorm. Fel hyn y buont am noswaifh a diwrnod, pan ffurfiwyd raft, ar ba un yr aeth 17 i dir, a dau arall mewn bad. Cyf- arfyddwyd hwy gan ddau Ysgotiad- bugeiliaid ar yr ynys-y rhai oeddynt yn byw tua 7 milltir o bellder, a'r rhai oeddynt wedi sylwi ar hwylbreni y llong y boreu hwnw. Yr oedd yr eira ar y ddaear amryw droedfeddi o ddyfnder, a gorfyddwyd cario dau o'r morwyr. Yr oeddynt oil heb ■esgidiau, gan iddynt eu taflu ymaith pan yn myned ar y raft, rhag ofn y byddai raid iddynt nofio. Cyrhaeddasant dy y bugail, lIe y cawsant y driniaeth fwyaf caredig, ac yno yr arosasant am 13 niwrnod. Ar y 13eg, gyrwyd yno schooner o Port Stanley, yr hon a gymerodd 12 o'r dynion i'r lie hwnw, a gadawyd egwyddorwas ar ol i wylio am y cyrff, a'u claddu yn weddus. Yr oedd y pen-badwr yn byw yn L'erpwl; ac yr oedd pedwar o'r rhai a gollwyd yn Saeson—un yn perthyn i Hull. Yr oedd yn long o 1,636 tunell, a pherchenogid hi yn L'erpwl.
[No title]
ER fod Maer Llundain yn Geidwadwr, dywed- odd y dydd o'r blaen am Mr. Gladstone ei fod yn ddyn hynod, uwchlaw pawb arall, fel rheol- wr gwlad. Y MAE Mr. Mundella wedi anfon cylchlythyr at y gwahanol fyrddau ysgolion yn Nghymru, yn yr hwn y cymhellir hwynt i sefydlu ysgolion -elfenol advanced, tebyg i'r rhai sydd eisoes mewn bod yn Bradford. SYRTHIODD careg fawr, gan gau i fyny enau Tynel St. Gothard. Yr oedd yno weithiwr dewr gerllaw yn gwybod fod yno dren yn dy- nesu, a gwyddai y byddai yn sier o gael ei ddinystrio. Llwyddodd, trwy ymdrech mawr, i symud yr atalfa, ond nid heb aberthu ei fywyd ei han, oblegyd daeth y tren i fyny yr un mynyd, ac a dorodd y dyn gwrolfrydig yn ddarnau. MAE yr enwau Brother Jonathan ac Uncle ;Sam i'w clywed yn ami mewn cysylltiad a Llywodraeth y Talaethau Unedig, eithr yehydig sydd yn deall dechreuad yr arferiad. Dyma yr ,eglurhad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pan ,oedd y Cadfridog George Washington mewu trallod yn ystod y rhyfel yn erbyn Lloegr am ymborth, arfau, a dillad i'w fyddin, dywedodd ■wrth ei gydswyddogion, "Rhaid i ni ymgy- ughori a Brother Jonathan," gan feddwl Jona- than Trumbull, Llywodraethwr Connecticut, yr hwn oedd yn gyfaill mawr iddo. Yn ystod Thyfel 1812, yr oedd dyn o'r enw Samuel Wilson yn arolygydd vmborth y milwyr, y rhai a arfer- ent ei alw Uncle Sam," o ddigrifwch. Un diwrnod, gofynodd milwr beth oedd arwyddoc&d y llythyrenau U.S." (United States) ar ochr banlaid o gwrw, ac atebodd un arall, Uncle Sam." Daeth yr enw ar dafod pawb yn y fyddin, ac y mae yn arwyddair cenedlaethol o'r amser hwnw hyd y dydd heddyw
MASNACH YE HAIASN A'R GLO.
MASNACH YE HAIASN A'R GLO. YR arddrych fwyaf nodedig yn hanes bresenol y fasnach lo Ewropeaidd sydd yn gynwysedig, fel yr ymddengys i ni, yn y cynydd amlwg sydd yn y tyniad allan o'r mwnau hylosgol o'r meusydd German- aidd. Mae cynyrchiad glo yn Ffrainc a Belgium, yn ddios, i raddau tra sylwedd- ol, wedi ymeangu yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf; ond, wedi y cwbl, Germani sydd wedi cynyddu fwyaf yn hyn, fel gwlad glo-gynyrchiol. Fel prawf o hyn, gallwn nodi,-haner cant o flyn- yddoedd yn ol, yr oedd Germani a Ffrainc yn 391 y cant, tra yn y flwyddyn 1880, yr oedd y cyfartaledd cyfatebol wedi syrthio yn ol yn agos i ugain yn y cant. Ni ddylem farnu oddiwrth hyn fod codi glo wedi sefyll mewn un modd yn Bel- gium a Ffrainc, ond yn hollol wahanol. Mae codi glo yn Ffrainc wedi gwneyd cynydd mawr yn y deng mlynedd ar ugain diweddaf, ac y mae Belgium hefyd wedi cynyddu ei chynyrch i gryn fesur ond yn Germani, mae cynydd y cynyrch wedi bod yn fwy chwyrn. Mae deposits Germani lawer yn fwy helaeth na'r eiddo Belgium, a gellir yn rhwydd gael mwy o weithwyr i'w dori. Nid yw, gan hyny, yn un syndod fod codiad glo yn Germani yn gallu taflu y deyrnas fechan gymyd- ogaethol i'r cysgod yn ystod y deg neu y deuddeg mlynedd diweddaf. Yn y flwyddyn 1845, nid oedd rhan Germani yn y combined coal production o eiddo Ffrainc, Germani, a Belgium yn gwbl ddeg-ar-ugain y cant; ond yn y flwyddyn 1880, yr oedd y corresponding share wedi cynyddu i ddeunaw a deugain a haner y cant. Mae taflu golwg ar y cynydd sydd yn cymeryd lie mewn gwledydd ereill yn nghynyrchiad glo, yn nghyd a'r dargan- fyddiadau newyddion a wneir o lo, yn wers bwysig i ni fel rhai sydd yn ymdra- fod a thori, a masnachu mewn glo yn y wlad hon, am yr hyn y siaredir am roddi atalfa a lleihad ar doriad glo. Dichon na thelir y sylw priodol i hyn yn y Miners' National Conference sydd ar gael ei gynal yn Manceinion. Os na wnawn ni yn y wlad hon ei godi, drwy roddi y gag arno, fel y myn rhai, rhaid i'r rhai a ymofynant am dano ei gael o leoedd na roddir yr un rhwystr ar ei godiad. Mae sefyllfa masnach y glo, yr haiarn, a'r dur, yn mhrif weithfaoedd ein gwlad, yr wyth- nos ddiweddaf, fel y canlyn :— MIDDLESBRO'. Yr oedd y cynulliad ar y Gyfnewidfa yma ddydd Mawrth yn un rhyfeddol o fychan, fel yr oedd yn anhawdd credu mai dydd marchnad ydoedd, ac ni wnaethpwyd nemawr o fasnach. Yr oedd y fasnach mewn haiarn bwrw hytrach yn farwaidd a llesg, y cais yn lied slac, a'r fasnach mewn sefyllfa lied lipa. Mae di^on o fywiogrwydd yn nhrosglwyddiad hen archebion. Mae y farchnad, er yn lied ddifywyd, yn dal yn y prisoedd. Nis gall y merchants gael rhyw lawer yn ychwaneg na 2p. 4s. y dunell am Rif 3 o haiarn bwrw. Prisoedd y makers yw 2p. 4s. 6c. y dunell. Lied dawel oedd masnach yr haiarn gorphen-weithiol ddiwedd yr wythnos, cyn belled ag y perthyn i'r cais, ond mae y prisoedd yn ymgryfhau yn raddol, yn gymaint a bod y llofwneuthur- wyr â'u dwylaw yn llawn am fisoedd i ddyfod o haiarn adeiladu llongau, ac am hyny yn gofyn mwy o bris. Nis gellir cael y platiau llongau hyn am lai na 7p. y dunell. Haiarn onglau, o 6p. 5s. i 6p. 7s. 6c. y dunell; barau haiarn, 6p. 5s. y dunell; a puddled bars, 4p. nett. Mae yr amgylchiadau masnachol yn SIR FYNWY A" yn dra chyffelyb IT hyn oeddynt yr wyth- nos ddiweddaf. Mae gweithio bywiog ar haiarn a dur drwy holl weithfeydd y sir. Prisoedd rheiliau yn parhau yn sefydlog. Tueddrwydd at godi yn mhris y glo tai, sef y goreuon. Mae yr olygfa ar fasnach y glo yn mhob lie yn nghylchoedd JJhymni yn hynod o galonogus Mae yr holl sir yn lied fywiog yn ei rhanau gweithfaol. Dengys Rheilffordd Rhymni foddhad anarferol o'i llwyddiant yn ei balance sheet am y chwe' mis diweddaf, lie y mae dogndal ar ordinary shares wedi ei gyhoeddi yn ol y rate o 12 per cent., gan adael y gweddill o 2,000p. i gael ei gario yn mlaen i'r current year. Yn adran MERTHYR TYDFIL, prif destyn y siarad oadd y cynyg i werthu gweithfa Plymouth, a'r glofeydd perth- ynol i'r cyfryw, ond ni chafwyd yr un prynwr. Mae glofeydd yr adran yn gweithio yn gyson, ac amser bywiog yn cael ei dreulio tua Dowlais. Gweithwyr fel haid o wenyn yn gweithio yn y Gyf- arthfa er cyfnewid y gweithfeydd helaeth hyn i weithio dur. Yn adran ABERTAWE, yn ystod yr wythnos ddiweddaf, mae y shipping trade yn ei holl iranau wedi bod yn hynod o fywiog, a mwy na chyffredin o waith wedi ei ddwyn yn mlaen. Allan- foriwyd 18,964 o dunelli o lo, 4,460 o dunelli o latent fuel, a 57 o dunelli o haiarn a dur. Gyda ni yma, yn XGHAERDYDD, er y strike a gymerodd le dechreu yr wythnos, allforiasom 110,595 o dunelli o lo, 2,795 o dunelli o batent fltel, 2,112 o dunelli o haiarn a dur, a 900 o dnnelli o olosglo. Prif berchenogion glofeydd yn dda allan am archebion, a'r prisoedd yn dal eu tir yn rhagorol. Am colliery screened J y pris presenol yw o 10s. i lis. y dunell f.o.b. Ni bu arddrych y glo ager, neu fel y dywedir yn gyffredin, y "glo mor," mor dda er's misoedd. Gwahanol weith- feydd yr adran yn gweithio yn dra rheol- aidd a chyson. GOHEBYDD MASN ACIIOL. Caerdydd, Awst 21, 1882.
Cusanu Cefnder.
Cusanu Cefnder. Yn heddlys Highgate, Awst 14eg, cyhuddid George Mills o fod yn feddw pan mewn gofal am geffyl a chert yn Regent's Park-road, Finchley, ac o ymosod ar ei wraig ar yr un amser a lie dan yr amgylchiadau hynod a ganlyn :—Harriet Mills, yr erlynes, a ddy- wedai ei bod yn wraig i'r carcharor. Tua haner awr wedi pump, prydnawn y dyddiad crybwylledig, sef y bank holiday, yr oedd hi yn Finchley gyda'i gwr mewn cerbyd a dynid gan ferlyn. Yr oedd yn euro y merlyn yn drwm a thra yn gwneyd hyny, tarawodd hi yn ei gwyneb a'r chwip. Tarawodd hi hefyd ar ei gwyneb a'i law agored. Ewyllysiai hi gael ysgariad. Wrth gael ei chroesholi, dy- wedodd yr erlynes iddi gyfarfod a'i chefnder, yr hwn yr oedd ei gwr yn ei adwaen yn eithaf da. Pan welodd hi ei chefnder, hi a safodd gan ei guaanu ef. Ni ymaflodd hi yn yr awenau gan agos dynu y merlyn dros y palmant. Ceryddai ei gwr hi pan gusanodd ei chefnder, a rhoddodd ergyd iddi. Ni thorodd hi y chwip draws ei gwr. Ni ddaeth a'i chefnder i roddi tystiolaeth. Nid dyna yr achlysur cyntaf ar ba un y darfu ei gwr ymcsod arni. Ni ddywedasai hi y byddai iddi gusanu cynifer o gefnderwyr ag y dewisai. Cawsai weithred o ysgariad unwaith o'r blaen mewn canlyniad i gamdriniaeth ei gwr ond ar ol hyny, buont byw gyda'u gilydd. Yr oedd yn adwaen dyn o'r enw Tom Jentry. Efe oedd ei chariad cyn iddi briodi a'i gwr. Pan ddywedodd hi y gwnai gusanu ei holl gefnderwyr, ni ddywedodd y gwnai gusanu Tom Jentry hefyd, ac na fyddai byth yn ddedwydd nes y priodai ag ef.-Dirwyodd y Fainc y carcharor i 10s. a'r costau ar bob eyhuddiad, yr oil yn lp. lis. 6c., neu saith diwrnod o garchar am bob un.
Llofruddiaethau Erchyll yn…
Llofruddiaethau Erchyll yn Galway, 3 Iwerddon. J Yr oeddym wedi lied obeithio fod y < Gwyddelod wedi sobri ac ymheddychu i i fesur yn awr ond dyma'r newydd wedi ein cyrhaedd am gyflafan uffernol arall wedi ei chyflawni yn ystod nos Iau, wythnos i neith- < iwr. Torodd parti o ddynion i mewn i dy < ffermwr o'r enw John Joyce, a saethasant < chwech o bersonau, pedwar o ba rai fuont feirw, sef Joyce, ei wraig, ei fam, a'i ferch. Y mae dau ereill, meibon Joyce, wedi eu clwyfo mor beryglus fel na fynwesir ond gobaith gwan am eu hadferiad. Yr oedd y ) I trueiniaid anffodus yn byw dan yr un to yn Maantrasua Finney, ar dueddau Galway a May, ac yn agos i enau Lough Mask, dan ddyfroedd pa un, fisoedd yn ol, y cafwyd cyrff bailiffs Arglwydd Ardilaun, Huddy a'i i fab. Priodolir y weithred ysgeler i ryw gyffroadau tirol, ond adroddir gan rai fod Joyce yn cael ei ddrwgdybio o fod wedi rhoddi hysbysiaeth i'r police am lofruddiaeth y ddau bailiff. Ychydig amser yn ol, darfu i'r Llywodraeth adeiladu caban i'r cwnstebli yn Griggins, yn yr ardal, er diogelwch i ffermwr o'r enw Joyce, ond nid ydys wedi cael allan pa un ai y Joyce hwnw yw yr un sydd yn awr wedi ei lofruddio. Gelwir y rhanbarth hwnw o'r wlad yn wlad Joyce, ac y mae llawer o bersonau o'r enw hwn yn byw yno. Y mae y cwnstebli o ddosbeirth cylchynol Cong Clonbur a Ballinrobe wedi ymweled &'r lie, ac yn chwilio'r wlad am y dyhirod, ond nid oes neb mewn dalfa hyd yn hyn. Dysgwylir Mr. Clifford Lloyd i fod yn bresenol i gyfarwyddo yr ymchwiliad o flaen crwner Galway. Newyddion diweddarach a ddywedant fod y teulu llofruddiedig yn gynwysedig o'r pen- teulu, John Joyce, 45 mlwydd oed Bridget Joyce, ei wraig, 40 mlwydd oed; Peggy Joyce, ei fam, 85 oed Peggy, ei ferch, 19 mlwydd Michael, ei fab, 17 mlwydd; a Patrick, mab arall, 12 mlwydd. Yr oedd tri neu bedwar a Haw yn y weithred ysgeler, a'u gwynebau wedi eu lliwio. Yr oedd yr anafau ar y cyrff yn gyfryw fel y bernir mai yr arfau a ddefnyddiwyd oeddynt goed trymion neu fariau trymion, heblaw olion saethu. Y mae amryw bersonau mewn dalfa ar ddrwgdyb- iaeth. Dywedir mai yr achos o'r lofruddiaeth oedd fod Joyce wedi talu ei rent, neu am iddo roddi hysbysiaeth i'r awdurdodau am lofruddiaeth yr Huddys fisoedd yn ol.
[No title]
MAS Llywodraeth Groeg wedi penderfynu gwario y swm o 40,000,000 o drachms, mewn trefn i ychwanegu at eu nerth llyngesol. Yn Lloegr y bwriadant bwrcasu y llongau hyny, canys pasiwyd yn Athen, y dydd o'r blaen, i anfon rhai o'r prif swyddogion i Loegr i fargeinio am danynt. YCHYDIG amser yn ol, ger De Sotto, Missis- sippi, cafwyd cyrff chwech o ddynion duon ar reilffordd Mobile ac Ohio, y tren wedi rhedeg drostynt. Meddylir mai ea hysbeilio a'll llof- ruddio gawsant, ac y mae un dyn gwyn wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar dybiaeth, tra y chwilir am un arall
Gair o America.
Gair o America. Ysgrifena T. Williams, arolygwr Glofa Soddy, Tennessee, i ddweyd nad yw adrodd- iadau Gomer Hopkins, diweddar o'r Coed- duon, Mynwy, yn gywir am y lie. Cafodd gynorthwy i ymadael a'r hen wlad, a'i orchwyl yn awr ydyw poeri ar ei gymwynas- wr. Mae yno waith cyson a rheolaidd, a chyflog am dori glo fel mewn lleoedd ereill yn y Talaethau. Lie i ddeugain neu haner cant o lowyr diwyd a sobr i gael gwaith, a lie da a dymunol i fyw, er ei fod dipyn yn mhell yn y wlad. SYLWEDYDD.
Joke Greulawn.
Joke Greulawn. Adroddir am joke greulawn mewn papyr o Sheffield. Yr oedd trefnwyr bazaar Wesley- aidd wedi derbyn cynyg o Manchester am horse and trap. Derbyniwyd y cynyg yn llawen, a dysgwylid swm go dda i fewn er cynyg am dano, fel pethau ereill. Dydd Llun, aeth un o aelodau y pwyllgor, yr hwn yn fiaenorol a hysbysasid trwy y pellebryn i orsaf y rheilffordd, er cymeryd gofal o'r anrheg, yr hon oedd mewn gwirionedd yr hyn y proffesid ei bod, ond fod yr horse" yn horse dillad, a'r "tmp" yn drap llygod bach. Yr oedd eisieu chwip ar grwperau y gweilch fuont wrth wraidd y fusnes hon.
Gwrthryfel yn Corea.
Gwrthryfel yn Corea. Corea sydd orynys yn nwyreinbarth Asm, yn wahanedig oddiwrth China gan y Mor Melyn, ac oddiwrth Ynysoedd Japan gan Gulfor Corea a Mor Japan. Maint Corea yw 87,760 milltir ysgwar, a'r boblogaeth yn 9,000,000. Y mae y Coreaid am gau eu hunain allan oddiwrth genedloedd ereill, a meddant lenyddiaeth o'r eiddynt eu hunain. Cariant yn mlaen fasnach a China. Y mddengys fod y Brenin yn ffafriol i agor y wlad i fasnachu a'r byd yn gyffredinol. Torodd gwrthryfel cyffredinol allan yn ddi- weddar, ac y mae pellebryn wedi cyrhaedd Llundain fod y Brenin a'r Frenines wedi eu bradlofruddio, yn nghyd a chynrychiolaeth Japan. Y mae Japan wedi gyru llongau rhyfel i'r afon Scout.
Cwsg Hirfaith.
Cwsg Hirfaith. Y mae lodes yn nghlafdy Beajon (ebe'r Globe) newydd ddeffro o gwsg y bu ynddo am yn agos i ddau fis a haner. Bu ei hachos yn destyn llawer dadl frwd ond y mae'r mater wedi pagio yn awr o golofnau y newyddiadur- on i ddwylaw y meddygon. Ymddengys mai yn lied arafaidd y darfu iddi ddeffro o'i chwsg hirfaith, ac yn raddol hefyd yr adfeddianodd y defnyddiad o'i synwyrau a'i haelodau. Gan mai y gallu i lefaru ydoedd yr olaf i ddychwelyd, yr oedd yn angenrheidiol ym- ddyddan a'r lodes trwy gyfrwng arwyddion a bu y meddygon am amser maith cyn cael allan a oedd y dyoddefydd yn clywed yr hyn a ddywedasid wrthi. Barna y meddygon y daw ati ei hun yn hollol yn mhen ychydig ddyddiau. Am yr achos neu'r achosion o'r clefyd hwn — oblejyd clefyd yn ddiddadl ydyw —bernir mae llewygol ydyw yn ei natur, a'i fod yn un lied gyffredin yn nghlaf- dai Ffrainc, lie y mae'n ymddangos fod y bobl yn fwy tueddol i gael ymosodiadau llewygol nag ydynt yn Mhrydain. Un o'r pethau rhyfeddaf yn nglyn ag achosion fel hyn ydyw y ffaith eu bod yn amddifadu y cysgydd o bob chwant at fwyd, ac nid yw yn ymddangos fod un niwaid yn cael ei wneyd i'r cyfansoddiad oherwydd absenoldeb meddwl. _—.—
CJyfarfod Blynyddol y Coedwigwyr…
CJyfarfod Blynyddol y Coedwigwyr yn Aberdar. Dydd Llun, Awst 14eg, trodd pump o gyfrin- oedd yr urdd uchod allan yn orymdaith drwy y dref i Barc Gwynne Jones, ac i Ysguborwen, ic oddiyno bob cyfrinfa i'w lie ei hun, er cyfran- ogi o'r ymborth oedd wedi ei barotoi ar eu cyfer. Dygwyddodd fy ffawd inau ddisgyn i gael cyfran o'r danteithion rhagorol oedd wedi eu parotoi gan Mr. a Mrs. Jones, Golden Lion, Trecynon. Y mae y gyfrinfa a ymgyfarfydda yn y gwestdy hwn yn un o'r rhai cryfaf yn Aberdar, ac felly, nid heb ddysgwyl y daeth llu mawr, tua 200, i gymeryd rhan o'r wledd ag oedd wedi ei pharo- toi mor ganmoladwy. Yn yr hwyr, carwyd cyf- arfod o ganu, adrodd, ac areithio. Cymerwyd y gadair am saith o'r gloch gan Mr. D. Griffiths, Highland-place, a llanwodd hi hyd yr ymylon. Yr is-gadeirydd oedd Mr. James Taylor, Oxford- street, a gwnaeth yntau ei ran yn ganmoladwy. Y telynwr oedd Mr. Thomas Lewis, Trecynon, yr hwn nid oes eisieu ei ganmol, gan fod ei fedr- usrwydd yn fyd-adnabyddus. I ddechreu, caf- wyd can gan George Davies gyda'r delyn. Wedi hyny, can gan E. Prosser. Yna, araeth gan y llywydd, Mr. Griffiths. Yn nesaf, can gan J. Richards. Ar ol hyny, cynygiwyd diolchgarwch y cyfarfod i Mr. a Mrs. Jones am eu darpariadau ar gyfer yr achlysur. Eiliwyd gan Mr. Mor- gans, Clive-place, a phasiwyd yn unfrydol. Adroddodd rhai beirdd ffrwyth eu hawen, sef George Davies a J. Williams. Yna, cafwyd can, Dros y gareg," gan George Davies, araeth gan yr is-lywydd, a chan i ddiweddu gan D. Gibbon- Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno yn ddestlus. Cafwyd cyfarfod gwir ddymunol. Diolch yn fawr i'r Coedwigwyr.—Gyfaill.
[No title]
Y MAE henadur Mormonaidd yn Salt Lake wedi mynu darluniau o'i wragedd—tair-ar-ddag mewn nifer—a'u gosoi mewn llyfr hardd, yn nghyd a llinellau barddonol dan bob un ohooynt yn dynodi prif rinweddau pob un. Y MAE y Parchedig Ddeon Bangor yn orweidd- iog er's rhai dyddiau dan y dwymyn-y typhoid -sydd wedi tori allan yn y ddinas hono. Yn ol yr adroddiadau diweddaf, y mae'n dda geny-n ddeall fod y Deon yn dyfod rhagddo gystal ag y gellid dysgwyl dan yr amgylchiadau. Eiddun- wn iddo adferiad buau.
Byr Ebion o L'erpwl.
Byr Ebion o L'erpwl. YN un o gyfarfodydd y Cynghrair Tirol Gwyddelig, gwnaeth Dr. Commins, A.S., sylwadau lied anmrwd ar amrywiol bethau cysylltiedig a'r mudiad tirol, gan awgryma fod gelynion yr Iwerddon yn llawenhau yn anffodion y genedl. Er cymaint dysgeidiaeth y Dr., y mae yn methu gweled fod y Gwydd- elod eu hunain yn gwneyd mwy o niwed i'w sefydliadau cenedlaethol na neb ag sydd y tuallan i gylch y genedl. Dynion fel Dr. Commins sydd yn dailu y werin anwybodus, a pha beth bynag a ddywedant neu a ysgrif- enant, bydd yn sicr o gael derbyniad a, chroesaw gan gyfangorff y blaid sydd yn credu y dylent gael eu hannibyniaeth. Mae anwybodaeth y Gwyddelod fel pobl yn rhoddi mantais i'w blaenoriaid i ddweyd a gwneyd fel y mynont, a phobpeth a ddywedant, nem bob cynllun a gynlluniant, yn cael ei gario allan i'r llythyren. Mae yr anfadwaith a'r llofruddiaethau a gyflawnir y naill ddydd ar ol y Hall yn amlygiad o gydweithgarwch dir- gelaidd. Cydnebydd y dynion m wyaf craffus a phwyllog fod y Liywodraeth wedi dangos gormod o dynerwch tuag atynt, n'r Prif wein- idog wedi gwneyd gormod erddynt. Mae y penryddid a ddangosir gan y Gwyddelod yn dangos eu hanfoddogrwydd, ac nad oes gan- ddynt y mymryn Ileiaf o barch i'r gyfraith na, dim arall, os byddant hwy yn allaog i gyr- haedd eu hamcanion. Dynes o'r enw Mra. Moore, yr hon a garcharwyd fel person amheus, yn barnu na ddaw daioni byth o'r Ynys Werdd hyd nes y bydd i bawb a phob- peth a berthyu i Loegr gael ysgubo oddiyno ond digon tebyg y byddai Mrs. Moore, fel lluaws ereill, yn foddlon i Loegr i adael y cyfalaf a berthyn iddi ar ol. Dim ond dilyn symudiadau y Gwyddel, mae yn ddigon hawdd darllen ei amcanion a deall ei fwriadau. G-raddeb pobpeth Gwyddelig gartref ac oddi- cartrer ydyw annibyniaeth yr Iwerddon, a phrawf y dygasedd a goleddant tuag at ein Llywodraeth yn amiwg ddigon na raid diolch iddynt am fod yn dawel, oblegyd pe gwelent y ffordd yn glir i gyrhaedd uwchafiaeth, ni byddai ein sefyllfa ond canolig iawn. Aelod- au o'r Cynghor Dinasol yn L'erpwl yn meiddio sarhau y Llywodraeth, a phoeri llysnafedd ar y teulu breninol, a'r cwbl i gyd yn cael ei adael yn ddisylw. Os ydyw melldithion a rhegfeydd i gael eu goddef, mae hyny yn lied awgrymu y sicrhant oruwchafiaeth er pob gwrthwynebiad. Nid yw y rhagorfreintiau a gawsant yn y blynyddoedd a aethant heibio wedi gwella dim arnynt, ac ni waeth beth a dderbyniont, anfoddog a fyddant, a cheir dadblygiad o hyny yn mhob gwlad lie y pre- swyliant. Gweinidogaeth y cadw i lawrsydd yn cadw trefn arnynt yn America er hyny, byddant yn mynych ddangos eu danedd, pe byddai rhywun yn cymeryd sylw ohonynt. Mae y brysgenadau pellebrol o'r America, yn datgan teimladau y Gwyddelod tuag at Arabi, y cynhyrf wr, yn ddigon o brawf o'u dygasedd tuag at y wlad hon a'i Llywodraeth. Mae degau o filoedd ohonynt yn cael lie da o dan nawdd ac amddiffyniad y Goron Brydeinig ond ni waeth am hyny, rhaid i Pat gael grwg- nach. Mae y llofruddiaethau a gyfiawnwyd yr wythnos ddiweddaf yn ddigon i godi ar- swyd ar bob dyn ystyriol ond uwchben pethau fel hyn, y mae y Gwyddel yn ym- lawenhau fel pe buasai y weithred yn un o'r rhai mwyaf gwladgarol yn y byd. Pe dilynid helyntion yr Ynys Werdd, byddai yn ddigon o waith am oes gyfao, pe byddai yr oes hono cyhyd ag oes barcutan. JNID oblegyd prmder gwaith y gohiriwyd y Senedd hyd Hydref 24ain, ond yn unol a. rheolau a threfniant y Ty, er mwyn i'r aelod- au lluddedig gael tipyn o orphwys. Y mae cyflwr y wlad yn galw am i'r gwylwyr fod ar y tyrau yn barhaus. Gall nad oes achos ofni llawer o gyfeiriad maes y rhyfel, am fod y darpariadau yn gyflawn a phrydlon. Dynion wedi eu profi yn arwain y byddinoedd ar for a thir, ein milwyr a'n morwyr mewn cyflwr campus, ac yn awyddus i waith. Bydd Arabi a'i fyddinoedd, ond odid, wedi gwybod yn amgen, nad llwfrgwn ydyw y Prydeinwyr, ond fod ynddynt ysbryd a dewrder milwrol, a phenderfyniad i orchfygu. Beth bynag am gyfrwysder a chynllwyn y gwrthryfelwr, mae pethau wedi dyfod i bwynt yn bresenol, fel y bydd yn rhaid iddo ymladd nen ffoi am ei einioes ac os yr olaf a gymer yn ei ben, gwae i'w gorpws pan ddeuir o hyd iddo. Nid da genyf ryfel, ond wedi dechreu, rhaid cadw i fyny anrhydedd y wlad ac urddas y Llyw- odraeth. Rhaid diogelu y dramwyfa drwy Gamlas y Suez, a pheidio colli buddianan sydd wedi eu pwrcasu i'r wlad gan y diweddar Disraeli. Os ydyw damcaniaeth ein prif gad- fridogion yn gywir, nid yw yn debyg y pery 11 y rhyfel yn hir, am fod y cynlluniau a'r dar- pariadau ymosodol mor berffaith. Ein mil- wyr yn gryf a gwrol, a digon o adnoddau wrth law. Brysied awr y. terfyn, er mwyn cael pethau yn wastad unwaith yn ychwaneg. Mae Arabi, meddir, wedi cyhoeddi y rhyfel yn un sanctaidd, gan erfyn ar Dduw y Ma- homet i'w cynorthwyo ond tebyg mai gwan fydd pethau, ac ychydig o sancteiddrwydd a ddadblygir yno. CHILI a Peru mewn ymrafael a'u gilydd. Ychydig o'r Chiliaid wedi eu hamgylchyua gan ddwy fil o'r Peruiaid; ac am nad ym- ostyngai y blaenaf, lladdwyd hwynt bob copa walltog. Peth cyffredin ydyw rhyfeloedd rhwng y man lywodraethau hyn, fel nad yw bywyd a meddianau yn ddiogel iawn yn y man wledydd. Nid oes un math o sadrwydd parhaol yn dynodi y galluoedd hyn, am fod y naill fel y Hall am fod yn ben. Gellid rhoddi rhestr o'r man wledydd nad ydynt yn werth pibellaid o fyglys i neb feddwl ymsefydla ynddynt; ond gadawaf hyny ya awr, rhag i mi gynhyrfu cacwn. CYMRO GWYLLT.
[No title]
JUMB) ydyw y teithydd Saisnig cyntaf » enwogrwydd a laniodd yn America gydag on& un II trwnc," ac heb yr un wlawlen.