Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

"Bamboozlo'r Shoni-hois."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Bamboozlo'r Shoni-hois." ANWYL MR. GOLYGYDD,- Carwn draethu ychydig eiriau mewn perthynas i gynygiad haerllug diweddaf fy hen gyfaill Mr. Patrick O'Milligan. Y mae y rhan. luosocaf o ddar- llenwyr y GWLADGAKWR yn gwybod y gorfu iddo dalu oddeutu 200p. i'r cyfreithwyr am amddiffyn erthygl a gyhoeddodd efe yn y Stondin Golchion, a pha erthygl oedd yn athrodi cymeriad masnachwr parchus yn Nghwm Rhondda. Nid oes a fynom a rights and wrongs yr achos hwnw, ond cafwyd ef yn euog o athrod gan y rheithwyr, a sylwodd y barnwr dysgedig na welodd y fath ysbwr- iel" yn cael ei gyhoeddi erioed o'r blaen. Yr wythnos ar ol hyny, cyhoeddodd Patrick ei fod bron wedi ei foddi gan nifer y llyth- yrau o gydymdeimlad a ddaethant i mewn gyda phob post, a phob un yn awgrymu y priodoldeb o ffurfio rhyw fath o relief fund i'w helpu allan o'r ffos. Wrth gwrs, yr oedd teimladau boneddigaidd ac anrhydeddus Mr. Pecksniff O'Milligan yn hollol groes i'r fath beth ond ar ol wythnos arall o ddwfn fyfyriad ar y mater, penderfynodd gymeryd yr hatling leiaf, yn ddiwahaniaeth," rhag sathru a briwio teimladau ei ewyllyswyr da nifeiriog Yn awr, gan fy mod yn ystyried fy hun yn gyfaill anwyl a mynwesol i Mr. O'Milligan, yr wyf yn dymuno cyflwyno iddo ychydig resymau paham nad wyf yn bwriadu tanys- grifio fy "hatling leiaf" at y drysorfa gy- nygiedig hon. Yn gyntaf, dymunwyf ei hysbysu na welais ac na chlywais erioed am gyboeddwr newydd- iadur, ac aelod firm o argraffwyr enwog, yn dyfod o flaen y cyhoedd i geisio tanysgrifiadau tuag at dalu treuliau achos o libel, oddieithr fod rhyu wasanaeth cenedlaethol wedi ei gyf- lawni trwy y cyfryw. Yn awr, pa wasanaeth cenedlaethol a wnawd drwy athrodi cymeriad masnachwr cyfrifol a diwyd o Gwm Rhondda 1 Byddai tanysgrifio at y drysorfa gynorthwyol hon yn gyfartal i gyffesu fod trigolion Cymru grefyddol ac heddychlon yn gefnogol ac yn bleidiol i ymosodiadau ffiaidd ar gymeriadau dynion dan gochl ffugenw Yn wir, byddai i'r scheme hon, pe cerid hi i weithrediad llwyddianus, ein gosod, fel cenedl, yn waeth na'r cudd-lofruddion Gwyddelig, ac felly yr wyf yn hyderu y gwrthoda pob Cymro yr awgrymiad gyda'r dirmyg dyladwy. Trwy holl ysgrifau y creadur a achosodd y libel, gellid canfod teimlad eiddigeddus a phersonol yn rhedeg, ac felly y mae yn amlwg mai nid gwasanaeth genedlaethol oedd amcan y cyfryw Pe byddai y libel dan sylw wedi llithro i mewn i golofnau y Stondin yn ddamweiniol, a Mr. O'Milligan wedi cynyg gwneyd ymddi- heurad cyhoeddus a phobpeth yn ei allu i atal cylchrediad a lledaeniad y cyfryw athrod, ond y masnachwr, yn wargaled ac ystyfnig, yn gwrthod rhoddi ffordd i reswm a synwyr cyffredin, buasai rhyw rith o esgus o hawl gan Mr. O'Milligan i apelio at y cyhoedd ond yn hollol y ffordd arall y mae pethau wedi bod. Tra y mae y masnachwr wedi ymddwyn fel boneddwr trwy yr holl helynt-yn barod i ddyfod i delerau hyd yn nod ar yr unfed awr ar ddeg, y mae Mr. O'Milligan wedi actio mewn modd gwargaled ac ystyfnig i'r pen. Gwawdiodd a dirmygodd bob cynygiad am ddyfod i gytundeb heddychol. Heriodd y masnachwr parchus i'r frwydr, a chollodd y dydd. Yn awr, y mae efe am gilio allan o'r canlyniadau, ac yn ceisio ysbwngio ar y cyhoedd i wneyd i fyny beth sydd wedi ei achosi gan ffolineb neb arall ond ei eiddo ef ei hun—peth plentynaidd ac annynol, yn deilwng o neb ond Patrick O'Milligan Hefyd, nid yw hanes blaenorol fy nghyfaill yn adlewyrchu fawr clod arno ef na'i drysorfa gynorthwyol. Mae yn anmhosibl cyfrif i ba sawl bwcedaid o ddwfr poeth y mae efe wedi syrthio o'r blaen mewn cysylltiad a libels! Efe a'r firm sydd wedi pocedi yr elw sydd yn deilliaw o werthiad ychwanegol y papyr a achoswyd drwy hyny; ond pan y gelwir arnynt i dalu rhyw 200p. at gynal y prif elfen yn eu stock-in-trade (sef athrod), y maent yn troi o'u hamgylch at y cyhoedd i'w helpu Paham nas gallant hwy dalu y 200p. hyn allan o'u profits enfawr 1 -V.«;iY mae cwestiwn arall hefyd i'w ystyried, pa beth a wneir a'r arian 1 1' Talu y ^yfreithiwr, meddech, Mr. Gol. Ie, wrth gwrs, ond i ba beth yr arweinia hyn ? Wei, yr wyf fi yn ofni, os llwyddant i gael cefnog- agth y cyhoedd i'r mesur lleiaf, yr ail- ddecnreua Mr. O'Milligan ar ei hen gwrs enllibgar eto, gyda'i ddiofalwch arferol am y canlyniadau ac os gellir cymeryd yr hyn sydd wedi dygwydd yn y gorphenol fel arwydd am beth a ddygwydda yn y dyfodol, y mae yn eithaf tebygol mai y person cyntaf a osodo ei enw i lawr ar restr y tanysgrifwyr a dder- bynia y bombshell gyntaf a dania Mr. O'Milli- gan Nid yw Patrick erioed wedi parchu ei gyfeillion pan y mae yn rhaid datguddio y gwirionedd (?) ar ryw bwnc neu gilydd. Wel, Mr. Gol., nid wyf yn cofio am ddim yn ychwaneg i'w ddweyd ar hyn o bryd, ond yr wyf yn deiV f arnoch i ganiatau i fy esbum al i Mr. O'Milligan ymddangos mewn print rhag iddo gael ei siomi wrth weled uad yw fy five-pound note i yn dyfod i law.—Yr eiddoch, JUNIUS (Junior).

[No title]

Briwsion o Bell ac Agos.

[No title]

Cyfarfod Misol Bedyddwyr Aberdar.

Llofruddiaeth arall yn yr…

Trengholiadau yn y Rhondda.

Yr Eisteddfod Genedlaethol.

[No title]

Advertising