Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
"Bamboozlo'r Shoni-hois."
"Bamboozlo'r Shoni-hois." ANWYL MR. GOLYGYDD,- Carwn draethu ychydig eiriau mewn perthynas i gynygiad haerllug diweddaf fy hen gyfaill Mr. Patrick O'Milligan. Y mae y rhan. luosocaf o ddar- llenwyr y GWLADGAKWR yn gwybod y gorfu iddo dalu oddeutu 200p. i'r cyfreithwyr am amddiffyn erthygl a gyhoeddodd efe yn y Stondin Golchion, a pha erthygl oedd yn athrodi cymeriad masnachwr parchus yn Nghwm Rhondda. Nid oes a fynom a rights and wrongs yr achos hwnw, ond cafwyd ef yn euog o athrod gan y rheithwyr, a sylwodd y barnwr dysgedig na welodd y fath ysbwr- iel" yn cael ei gyhoeddi erioed o'r blaen. Yr wythnos ar ol hyny, cyhoeddodd Patrick ei fod bron wedi ei foddi gan nifer y llyth- yrau o gydymdeimlad a ddaethant i mewn gyda phob post, a phob un yn awgrymu y priodoldeb o ffurfio rhyw fath o relief fund i'w helpu allan o'r ffos. Wrth gwrs, yr oedd teimladau boneddigaidd ac anrhydeddus Mr. Pecksniff O'Milligan yn hollol groes i'r fath beth ond ar ol wythnos arall o ddwfn fyfyriad ar y mater, penderfynodd gymeryd yr hatling leiaf, yn ddiwahaniaeth," rhag sathru a briwio teimladau ei ewyllyswyr da nifeiriog Yn awr, gan fy mod yn ystyried fy hun yn gyfaill anwyl a mynwesol i Mr. O'Milligan, yr wyf yn dymuno cyflwyno iddo ychydig resymau paham nad wyf yn bwriadu tanys- grifio fy "hatling leiaf" at y drysorfa gy- nygiedig hon. Yn gyntaf, dymunwyf ei hysbysu na welais ac na chlywais erioed am gyboeddwr newydd- iadur, ac aelod firm o argraffwyr enwog, yn dyfod o flaen y cyhoedd i geisio tanysgrifiadau tuag at dalu treuliau achos o libel, oddieithr fod rhyu wasanaeth cenedlaethol wedi ei gyf- lawni trwy y cyfryw. Yn awr, pa wasanaeth cenedlaethol a wnawd drwy athrodi cymeriad masnachwr cyfrifol a diwyd o Gwm Rhondda 1 Byddai tanysgrifio at y drysorfa gynorthwyol hon yn gyfartal i gyffesu fod trigolion Cymru grefyddol ac heddychlon yn gefnogol ac yn bleidiol i ymosodiadau ffiaidd ar gymeriadau dynion dan gochl ffugenw Yn wir, byddai i'r scheme hon, pe cerid hi i weithrediad llwyddianus, ein gosod, fel cenedl, yn waeth na'r cudd-lofruddion Gwyddelig, ac felly yr wyf yn hyderu y gwrthoda pob Cymro yr awgrymiad gyda'r dirmyg dyladwy. Trwy holl ysgrifau y creadur a achosodd y libel, gellid canfod teimlad eiddigeddus a phersonol yn rhedeg, ac felly y mae yn amlwg mai nid gwasanaeth genedlaethol oedd amcan y cyfryw Pe byddai y libel dan sylw wedi llithro i mewn i golofnau y Stondin yn ddamweiniol, a Mr. O'Milligan wedi cynyg gwneyd ymddi- heurad cyhoeddus a phobpeth yn ei allu i atal cylchrediad a lledaeniad y cyfryw athrod, ond y masnachwr, yn wargaled ac ystyfnig, yn gwrthod rhoddi ffordd i reswm a synwyr cyffredin, buasai rhyw rith o esgus o hawl gan Mr. O'Milligan i apelio at y cyhoedd ond yn hollol y ffordd arall y mae pethau wedi bod. Tra y mae y masnachwr wedi ymddwyn fel boneddwr trwy yr holl helynt-yn barod i ddyfod i delerau hyd yn nod ar yr unfed awr ar ddeg, y mae Mr. O'Milligan wedi actio mewn modd gwargaled ac ystyfnig i'r pen. Gwawdiodd a dirmygodd bob cynygiad am ddyfod i gytundeb heddychol. Heriodd y masnachwr parchus i'r frwydr, a chollodd y dydd. Yn awr, y mae efe am gilio allan o'r canlyniadau, ac yn ceisio ysbwngio ar y cyhoedd i wneyd i fyny beth sydd wedi ei achosi gan ffolineb neb arall ond ei eiddo ef ei hun—peth plentynaidd ac annynol, yn deilwng o neb ond Patrick O'Milligan Hefyd, nid yw hanes blaenorol fy nghyfaill yn adlewyrchu fawr clod arno ef na'i drysorfa gynorthwyol. Mae yn anmhosibl cyfrif i ba sawl bwcedaid o ddwfr poeth y mae efe wedi syrthio o'r blaen mewn cysylltiad a libels! Efe a'r firm sydd wedi pocedi yr elw sydd yn deilliaw o werthiad ychwanegol y papyr a achoswyd drwy hyny; ond pan y gelwir arnynt i dalu rhyw 200p. at gynal y prif elfen yn eu stock-in-trade (sef athrod), y maent yn troi o'u hamgylch at y cyhoedd i'w helpu Paham nas gallant hwy dalu y 200p. hyn allan o'u profits enfawr 1 -V.«;iY mae cwestiwn arall hefyd i'w ystyried, pa beth a wneir a'r arian 1 1' Talu y ^yfreithiwr, meddech, Mr. Gol. Ie, wrth gwrs, ond i ba beth yr arweinia hyn ? Wei, yr wyf fi yn ofni, os llwyddant i gael cefnog- agth y cyhoedd i'r mesur lleiaf, yr ail- ddecnreua Mr. O'Milligan ar ei hen gwrs enllibgar eto, gyda'i ddiofalwch arferol am y canlyniadau ac os gellir cymeryd yr hyn sydd wedi dygwydd yn y gorphenol fel arwydd am beth a ddygwydda yn y dyfodol, y mae yn eithaf tebygol mai y person cyntaf a osodo ei enw i lawr ar restr y tanysgrifwyr a dder- bynia y bombshell gyntaf a dania Mr. O'Milli- gan Nid yw Patrick erioed wedi parchu ei gyfeillion pan y mae yn rhaid datguddio y gwirionedd (?) ar ryw bwnc neu gilydd. Wel, Mr. Gol., nid wyf yn cofio am ddim yn ychwaneg i'w ddweyd ar hyn o bryd, ond yr wyf yn deiV f arnoch i ganiatau i fy esbum al i Mr. O'Milligan ymddangos mewn print rhag iddo gael ei siomi wrth weled uad yw fy five-pound note i yn dyfod i law.—Yr eiddoch, JUNIUS (Junior).
[No title]
Y MAE y mudiad a adnabyddid wrth yr enw Ladies Land League wedi dirwyn ei einioes i ben. Bychander y derbyniadau a brysurodd ei ymddatodiad. YMDDENGYS nad ydyw Tywysog Cymru yn nywynhau ei gynefin ieohyd. Yn unol a. chy. nghor ei feddygon, bwriada fyned i Germani, gan y credir y gwna y baddonau sydd yno fawr les iddo. CYBOEDDIR fod y nodedig Ddoctor W. B. Carpeiit;r, y meddyg mwyaf poblogaidd yn Lloegr, yn bwriadu talu ymweliad a'r Talaethau Unedig yr haf hwn, i draddodi cyfres o ddarlith. .ja.u ar lechyd a Hirhoedledd."
Briwsion o Bell ac Agos.
Briwsion o Bell ac Agos. TEITHIO cyflym sydd yn nodwedd tra chyffredin yn ein dyddiau m ond fe ddywedir fod brawd o fardd, a gwr lied boblogaidd, wedi cael allan yn ddiweddar fod pellder aruthrol rhwng hen dref y Fenni a'r lie poblog hwnw uwch y Rhondda a elwir Tonypandy. Gresyn nad allem berswadio y brawd i ysgrifenu hanes y daith fythgofiadwy, er budd y cyhoedd. Os nad oes digon o ddefnyddiau ynddi i wneyd llyfryn tair ceiniog, gellid yn hawdd gosod marwnad yr hen geffyl gwyn fel atodiad i'r llyfr, er mwyn ei wneyd yn werth yr arian. S6n am fyned o amgylch y byd Fe fuasai y teithiwr enwog, W. O. Thomas, Ysw., wedi teithio o Lanbadarn-fawr i Singapore mewn llai o amser ond eto, nid llai dyddorol y daith o'r Fenni i ddyffryn y Rhondda gyfoethog. 0 FYN neb ddysgu y gelfyddyd o gardota, rhaid iddo wrth athraw a chan fod gwr pwysig wedi agor coleg i berffeithio dysgyblion yn y gelfyddyd, nis gall yr awyddus wneyd yn well na myned trwy gwrs o addysg o dan nodded yr athraw hwn. Ni bydd y gwersi yn ddrud iawn, am fod yr athraw wedi dysgu cynildeb drwy dalu arian mawr am wersi ei hun. Tipyn o bwnc ydyw cael athraw profiadol, a sicr ydyw y cyduna Meurig Dafod Aur a mi yn y golyg- iadau hyn a phwy fedr amheu cymhwysder y gwr cyhyrog hwnw i draethu barn gorsedd ar bynciau cyhoeddus ? Na fynegwch hyn yn y Rhondda na Glynnedd, ond gall bydd y brodyr tua Brynaman yn hoffi clywed y newydd; ond dyna, fe ddaw yr Esgob heibio un o'r dyddiau nesaf. CYFAILL yn ddiweddar yn rhoddi eglurhad ar "Ryddid yn ei wahanol gysylltiadau,an- rheg werthfawr i ddyn fyddo yn gallu gwerth- fawrogi rhyddid yn y cyfeiriad iawn. Nid oes neb erioed wedi dyoddef dim trwy ymarfer rhyddid, ond mae camarfer y cyfryw wedi maglu llawer un cyn yma, a hyny yn benaf trwy gamarwain y bobl i gamarfer rhyddid yn ei gysylltiad a'r byd. Bydd i'r neb a doro ddeddf ohono ei hun orfod dyoddef y canlyn- iadau, os na fydd yn alluog i hudo ereill i gyd- ddyoddef, gyda'i dafod melfedaidd a'i wenau ffug-sancteiddiol, gan liwio ei hun gyda'r teitlau cymydog, cyfaill, ac amddiffynydd y gorth- rymedig. Mae y fantell neu yr hugan grefyddol yn hwylus iawn mewn ymddangosiad allanol, a thebyg fod cydwybod y sawl a'i gwisga wedi ei serio seithwaith cyn y gall ymddangos o flaen y byd fel colofn o rinwedd. Purion ydyw dynoethi drygau a datguddio anwireddau ond, aros, ddarllenydd, beth am y celwrn mawr o dan nawdd ac amddiffyniad yr athraw mawr- eddog hwn ? Mae yn amheus fod ganddynt lawer o barch i burdeb a gwirionedd, os na ddygwydd ateb yn well na llysnafedd ac athrod. Amser yn unig all ddwyn y cyfryw i'w safle a'i lie priodol, fel na rhaid i neb wrth wydrau i ddarllen y cymeriadau. MAE llawer tro difyr yn dygwydd, a llawer amgylchiad ysmala yn cymeryd lie yn y byd yn gysylltiedig ag amryfal bleidiau. Plant enwog o ryfedd ydyw canlynwyr Booth, y rhai a alwant eu hunain yn Fyddin yr lachawdwr. iaeth." Heb esgyn i sedd barn, rhaid cydna- bod, os crefydd a duwioldeb ydyw peth fel hyn, rhaid i bawb dewi, tra bydd y Beibl yn dweyd mai "gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Os cywir y frawddeg, mae y gwirionedd yn condemnio yr hyn a ddelir i fyny gan Booth. Mae yn bosibl i'r cyfundeb wneuthur ychydig o ddaioni, ond pwnc arall ydyw achub byd o bechaduriaid. Nid arddangosiadau allanol ydyw yr amlygiadau cywiraf o dduwioldeb, a sicr nad yw cynhyrfiadau ynfyd yn amlygiad o raslonrwydd a phurdeb. CEIR ami i hanesyn o wahanol gyfeiriadau yn amlygu dichellion a thwyll y benthycwyr arian (money-lenders); ond, weithian, mae y gyfraith yn cymeryd mwy o sylw o hyn, ac yn mynych atal rhuthriadau y teulu hwn pan fyddont yn ymddwyn yn annghyfiawn. Yr Iuddewon, medd y bobl, sydd yn cadw y swyddftydd hyn, a dichon fod hyny yn gywir i raddau mwy neu lai; ond os bydd neb yn dewis manylu, bydd yn debyg o daro ar ambell Gymro yma a thraw yn gymaint o Judas a neb o blant Abraham. Cymer y Cymro fantais ar ei haniad cenedlaethol, ac nid yn unig hyny, eithr bydd yn alluog i ffugio tynerwch crefyddol, tra, ar yr un pryd, ni bydd yn amgen na blaidd mewn croen dafad. Huw LLWYD.
[No title]
YN foreu, dydd Mercher, wythnos i'r di- weddaf, torodd tftn allan yn ager-felinau llifo Mr. John Nicholas, ger Gorsaf Port Talbot, Aberafon. Llosgwyd gwerth tua 500p. Nid oedd y lie wedi ei yswirio. Bu Thomas Davies, 25 mlwydd oed, Yew- street, Troedyrhiw, farw ddydd Mawrth, wyth- nos i'r diweddaf, oddiwrth niweidiau a dderbyn- iasai y dydd blaenorol trwy syrthio i chwarel yn Nghilfach Wrinkle. YR oedd bachgenyn o'r enw Edmunds, mam yr hwn sydd yn byw yn Tunnel-road, yn ym- olch gyda rhai o'i gyd-chwareuwyr, ger goleudy yr harbwr, Llanelly, prydnawn dydd Mawrth, Awst 15fed, pan aeth allan i'r dyfnder, ac y boddodd. Cafwyd ei gorff brydnawn dydd Mercher.
Cyfarfod Misol Bedyddwyr Aberdar.
Cyfarfod Misol Bedyddwyr Aberdar. Cynaliwyd y cyfarfod hwn yn Nghapel Bethel, Abernant, dydd LInn diweddaf. Oedfa am dri yn y prydnawn-dechreuwyd hono gan y Parch. B. Evans, Gadlys, a chafwyd pregeth ragorol gan y Parch. E. Colwyn Evans, Hirwain. Yr oedd pawb yn teimlo yn llawen wrth weled Mr. Evans yn edrych mor iach ac ysbrydol wedi ei daith i America. Profodd y daith yn angeu idd ei ddolur. Diolch i Dduw am hyny. Am haner awr wedi chwech yn echwyl y dydd, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. R. E. Williams, Ynyslwyd, a phregethwyd yn afaelgar iawn gan y Parchn. T. Humphreys, Cwmaman, a J. Evans, Pontbrenllwyd. Rhoddodd gweinidog ac egl wys Bethel dder- byniad calonog iawn i'r cwrdd misol. Taled Tad pob daioni iddynt am eu caredigrwydd. TWRFAB.
Llofruddiaeth arall yn yr…
Llofruddiaeth arall yn yr Iwerddon. Cynaliwyd trengholiad arall dydd Llun yn Killarney, ar gorff Daniel Leahy, ffermwr, yr hwn a gafwyd wedi ei lofruddio foreu dydd Llun. Johanna Leahy, ei wraig, oedd y tyst cyntaf a holwyd, ac ymddangosai mewn cyflwr terfysglyd iawn. Dywedai iddi gael ei deffroi tuag un o'r gloch gan lais yn y gegin yn gwaeddi Get up amryw weithiau. Ni wnaeth ei gwr un ymdrech i godi, ond llusg- wyd ef o'r gwely, a gwna wd ef i benlinio yn y gegin. Gofynwyd iddo os oedd wedi talu ei rent. Gofynodd un dyn os oedd whiskey yn y ty. Dywedodd hi wrthynt y caent unrhyw beth, ond erfyniai arnynt beidio saethu ei gwr. Yna, saethwyd ef yn ei freichiau. Nid oedd yno oleuni, ac ym- ddangosai y lleisiau yn ddyeithr. Taflodd un o'r dynion hi i lawr. Yr oedd pedwar o lafurwyr yn y ty. Holwyd merch y tranc- edig ac un o'r gweithwyr, ond nis gallent roddi un math o dystiolaeth. Dr. Hickson, yr hwn a wnaeth yr archwiliad post mortem, a ddywedai iddo gyrhaedd y ty am ddeng mynyd i bedwar. Yr oedd Leahy wedi marw pan ddaeth. Ni fu byw ond tuag ugain mynyd. Yna, desgrifiodd natur y niweidiau ofnadwy a dderbyniodd. Dychwelodd y rheithwyr ddedfryd agored o "Lofruddiaeth" yn erbyn personau anhysbys.
Trengholiadau yn y Rhondda.
Trengholiadau yn y Rhondda. Cynaliodd Mr. Thomas Williams dri trengholiad arall yn y Rhondda, dydd Sadwrn. Y cyntaf oedd ar Lemuel Day, 36 mlwydd oed, corff yr hwn a gafwyd yn nant Cwmsaer- bren, Treherbert. Yr oedd y trancedig yn frodor o'r ardal, ac yn byw gyda'i lysdad. Dangosai y dystiolaeth ei fod yn dra thueddol i yfed, ac wedi bod am dro yn yfed, yn ddarostyngedig i delirium. Aeth allan o'r tý ar yr 21ain. Yr oedd wedi bod yn yfod yn drwm am amser cyn hyny. Y lie olaf y gwelwyd ef ynddo oedd y Railway Bar, ond nid ymddangosai y pryd hwnw ei fod wedi ei orchfygu gan wirod, er yn ddiau ei fod yn dyoddef oddiwrth ei effeithiau. Crwydrodd oddiyno tuag 8 o'r gloch yn y prydnawn ac ar y 25ain, cafwyd ei gorff yn y nant. Y dybiaeth ydyw iddo, wrth geisio myned i gysgu, syrthio i'r dwfr a boddi. Dychwelwyd y ddedfryd o Cafwyd wedi boddi." Yr ail drengholiad ydoedd ar John Wales, neu y Cornish Phenomenon," fel yr adnabyddir ef yn mhell ac agos. Ar yr 16eg, darfu i'r hen wr, yr hwn oedd yn byw gyda'i wraig a'i fab-yn-nghyfraith yn Nhre- herbert, godi o'i wely i adael yr olaf i fewn, yr hwn oedd yn gweithio'r nos. Collodd ei droed, a chlywodd Mrs. Wales ef yn syrthio dros amryw o'r grisiau. Aeth hi ato, a chafodd ei fod wedi cael cryn niwed. Anfonwyd am feddyg, ond nis gallai hwnw gael allan fod un nodau o niwed ar y trancedig, ond cafodd y mab ar ddeall ei fod yn dyoddef oddiwrth ysgytiad y cefn. Dihoenodd y trancedig hyd ddydd Gwener, pan fu farw, a dychwelwyd y ddedfryd o "Farwolaeth ddamweiniol." Y mae yn debyg ei fod yn ddyn o alluoedd rhifyddol annghyffredin. Y trydydd trengholiad oedd ar Morgan Morgan, 16 mlwydd oed, glowr, mab landlord y Railway Bar, Treherbert, yr hwn a weithiai yn Mhwll Bute. Aeth i'r lofa fel arfer foreu Sadwrn, ond teimlai boen rhyfedd yn ei ben, ac aeth o'r neilldu i orphwys a thra yno, cafodd fit. Cariwyd ef adref, a gyrwyd am feddyg, ond y cyfan yn ofer, canys bu farw yn mhen haner awr. Epilepsy oedd achos marwolaeth, a dychwel- wyd dedfryd yn unol a hyny. Dyma'r chweched trengholiad i Mr. Williams gynal yn y cyfnod byr o ddau ddiwrnod.
Yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yr Eisteddfod Genedlaethol. CYFARFOD CYMDEITHAS Y CYMRO- DORION. ISTos Lun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod ov.ic.f Cymrodorion Dosran Dinbych yn y Neuadd Drefo], Jle yr oedd cynuiliad Iluosog. Cymerwyd y gadair gan Syr Robert Cunliffe, A.S. dros fwrdeisdrefi Diubych, yr hwn a gefnogid gan Arglwyddes Cunliffe, Dr. W. B. Richardson, a Mr. T. Marchant Williams, B.A., ysgrifenydd anrhydeddus y ddosran. Traddododd Dr. Richardson araeth ddydd- orol ar "Race and life on English soil." Hefyd, traddododd y cadeirydd anerchiad buddiol ar yr Iaith Gymreig." Dywedai fod Cymdeithas y Cymrodorion wedi cymeryd dyddordeb mawr mewn cysylltiad ag addys^ yn Nghymru, ac yr oedd lie ganddynt, medd° yliai ef, i longyfarch eu gilydd ar y gwelliant a wnawd y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd yn dda ganddo, pan ofynodd gwestiwn yn Nh^ y Cyffredin noson yn ol, gael atebiad oddiwrth Mr. Mundella fod y Llywodraeth yn barod i j roddi 4,000p. y flwyddyn at Goleg Aberys- (twyth hyd fis Mawrth, 1884. Yr oedd yn gorphwys arnynt hwy yn awr i weithio er cael colegau yn Neheudir Cymru, fel y gallo Cymry, a merched Cymreig hefyd, gael y cyfleusderau na chawsant erioed o'r blaen, ond yr hyn a gyflawn haedd- ent. Hyderai yr ai y gymdeithas yn mlaen gan lwyddo. Ymddangosai, oddiwrth yr hyn a ddarllenasai efe mewn traethawd o eiddo ysgolor Celtaidd diweddar, fod gan hen chwedlau Cymreig lawer o ddylanwad ar len- yddiaeth ddiweddar (modern). Yr oedd Chaucer a Spencer wedi derbyn daioni mawr oddiwrthynt. Yr oedd Shakespeare wedi gwneyd defnydd ohonynt yn ei "King Lear" a Midsummer Night's Dream," tra yr oedd chwedl y Brenin Arthur wedi ei ysgrifenu mewn barddoniaeth dlos gan y Bardd Bren- inol (Tennyson), Y mae rhagolygon da y try yr Eisteddfod allan yn llwyddianus. Yr oedd canoedd o ymwelwyr wedi dyluo i'r lie ddydd Llun o wahanol ranau o'r wlad. -=-
[No title]
DYWEDIR ddarfod i Due Hamilton bender- fynu gwerthu rhyfeddbethau y teulu, oherwydd ei fod ef a'i unig frawd yn aamhlantadwy. Unig fab ei rieni oedd eu tad, ac y mae yr holl eiddo ar ol y rhai hyn yn dyfod yn etifeddiaeth i fachgen sydd yn 12 mlwydd oed eleni.
Advertising
Oes y byd i'r iaith Gymreig." Eisteddfod y Cwpan Arian. BYDDED hysbys y cynelir wythfed Eisteddfod flynyddol JERUSALEM, LLWYNPIA, dydd Nadolig, Rhagfyr 25ain, 1882. PRIF DDARNAU CORAWL. 1. I'r côr, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu "All we like sheep" (Messiah). Gwobr, 12p., a chwpan arian i'r arweinydd. 2. I'r cor, heb fod dan 40 o rif, ac na enillodd lOp. o'r blaen, a gano yn oreu 0, Gymru an- wylaf (J. Thomas, Llanwrtyd). Gwobr, 5p., a baton hardd i'r arweinydd. Bydd i enwau y beirniaid, &c., ymddangos yn fuan. THOMAS JONES, Bryn Alaw, Trealaw, J. WILLIAMS, Primrose Hill, Tonypandy, 2697 Ysgrifenyddion. Art Union Prize Drawing y Cardiff Castle Coffee Hotel, Aberdar, ER budd i weddw ac amddifaid y diweddar Mr. John James, manager, Fforchneol, gynt o Bwll Als. Cymer y DravAng le Hydref 16eg, 1882, dan nawdd prif foneddigion yr ardal (gwel y toc- ynau). A ganlyn yw rhestr y gwobrwyon 1.—WYTH GINI (i;8 8s. Oc.). 2. Patent Lever Watch 8. A good Shawl 3. Chest-of-Drawers 9. Tea Service 4. 4 vols. Encyclopcedia i10. Alarum Clock 5. 20 parts Oredoau'r Bydll. Silk Umbrella 6. 10 yds. Welsh Flannel 12. Meerschaum Pipe 7. 1 doz. Knives & Forks: A 30 o bethau ereill. Tocynau,—OHWE' GHEINIOG yr un. Dychweler llyfrau, yn nghyd a'r arian, i'r Ys- grifenydd cyn, neu ar ddydd Llun, Hydref 2il, 1882. Cyhoeddir y ffigyrau llwyddianus yn y South Wales Daily News, Western Mail, GWLAD- GARWR, a Tharian y Gweithiwr. Cadeirydd-Mr. THOMAS WALTERS. Trysorydd —Mr. WILLIAM THOMAS, 8, Wayne-street, Aber- dare (a hyny yn lie Mr. John Lake, fel y gwelir ar y tocynau. Ysgrifenydd, Mr. GEORGE WIL- LIAMS, 12, Meirion-street, Trecynon, Aberdare. Anfonioch am lyfrau, 2680 NEW MUSIC COMPOSED BY DR. JOSEPH PARRY (Principal of the MUSICAL COLLEGE OF WALES, Swansea), and published and sold by J. Parry & Son, Castle St., Swansea, Mr. B. Parry's Agency having now ceased. To be ready in four months' time the OLD NOTA- TION of the most popular Cantata, "JOSEPH." Price:—Old Notation, 2s.; Sol-ffa, 8d. Also to be ready by the same time, Part III. (Sol-fa) of Dr. Parry's most popular Sunday School book, "TELYN YR YSGOL SUL." Price 4d. Parts I. and II. (Sol-fa) now ready, Price 4d. each. AND DR. PARRY'S NEW BOOK OF SONGS, In five parts. Price :-O.N., 2s.; Sol ffa, Is., each part. NEW BOOK OF DUETS, In two parts. O.N., Is. 6d. each; Sol-fa, 9d. each. For separate numbers of both see Catalogues. The Oratorio, EMMANUEL," The Author's principal work. O.N., 6s. 8s. 10s. 6d. Sol-fa, 3s., 4s. 6d., 6s. Choruses suitable for Concerts and Competition. 5.—Grand Royal March, "Hail! Prince of Wales." O.N., 4d.; Sol-fa, 3d. Arranged for bras-: band. Price per set of copies, 2s. 1.—Choral March. Both notations, 4d. 2.—" With loyal hearts." Both notations, 3d. 7.—"Be merciful." O.N., 3d. 3.—Nosgan (Serenade for male voices). Both notations, 4d. 4.—Ode to the Sun (new glee). Both nota tions, 4d. 6.—"Shout for joy" ("Emmanuel"), ON 4d. Sol-fa, 2d. For remaining 25 choruses see Catalogue. CONGREGATIONAL ANTHEMS. Both notations. Price Is. BLODWEN. O.N., 5s., 7s., 10s. 6d. Sol-fa, B 2s., 3s. 6d., 5s. The usual discount to Booksellers and Choirs. Cash must accompany all orders. Notice new address :—J. PARRY & SON, 9 I Castle-street, Swansea. L219 Llyfrau Diweddaraf CYHOEDDEDIG ttAtf HUGHES & SON WREXHAM. Oysondeb y Pedair Efengyl' iq-un y Parch. E. ROBINSON, D.D.LL.D., yn ngiyda THRAETHAWD ARWEINIOL ar tvrthddrych, hanes, a haneswyr y Pedair Efengyl,, gan DR. EDWARDS, Bala; gyda Nodiadau Eglur- haol, a Mapiau o Palestina, Jerusalem, a'r Demi. Llian, 3s. 6c.; gyda'r post, 3s. lOe. (328 tudalen.) leuan Gwynedd: Bi GOFIANT a'i WEITHIAU BARDDON- OL a RHYDDIAETHOL; gydag Adolygiad ar ei Gymeriad a'i Lafur. Llirm, 3s. 6c.,• gyda'r post, 4s.; (pris cyntefig 6s.) 634 tudalen. Drych mewn Dameg: ,q Sylwadau detholedig ar amryw wirioneddau, wedi eu hegluro trwy gyffelybiaetliau, ac wedi eu casglu o dros Dri-ugain o wahanol awdwyr; ac ynghylch Deg-ar-hugain o'r cyfryw yn dadau a brodyr parch- edig o Gymru. Gan D. HUGHES, Sir Gaerfyrddin. (A.'il Argrojfiad, gyda dros haner cant o sylwadau ychwanegol o'r un natur.) Llian, Is.; gyda,'r post, Is. 2g. (128 tudalen). Llyfr Palub ar Bobpeth: .lEGRAFFIA DNE TV J"D D HELAETHEDIG, gydag ATTODIAD o S3 o dudalennu. Ll'uin hardd, 3s. 6c.; gyda r post, 3s. 10c. Mary Jones: f Gymracs fccliall heb yr un Beibl. Sel hanes ei thaith byth-gofiadwy i'r Bala i brynn Beibl,—am- gylchiad a arweiniodd at sefvdli.al v Fcibl- Gymdeithas. Argmffiad Nexvydd — Ltian, 6c.; gyda' r post, 7c. Traethodau Duwinyddol Gan DR. EDWAEDS, Bala. Ltian, ').?./ JLwer rhwym, 10s. 6c.; gyda'r post, 10c. extra (708 tua, Traethodau Llenyddol: Gan Drt. EDWARDS, Bula. Llirm, 8s. 6c.; Bauer- rhwym, 10s.; gyda'r post, 10c. extra fO72 tudalen.) Gumru Fu u Yn cynwys Hanesbn, Traddodiadau, Chwedlau, a Damegion Cymreig-, &c., &c.; wedi eu bvs-crniV.nu. gan Givilt/m hiraethoq, GUtsynys, Kienwhr, Ui/n* ddelw, Ceirioy, &c., &c. Zlimj'prix o*. i>c.: n'n'r post, 3s. lOc. rpi-es cyntcjig, 5s.) (191 • Canwyll y Cymry Sef gwaith pvydyddol y Farch. RHYS PKICHA KD, gynt Ficer Llanymddyfri; gyda Nodiadau E»iur- haol a hanesyddol helaeth. Cynwysa hefyd ILuvs Bywyd yr Awdwr, gan y diweddar Batch. RICE EEES, o Goleg Dewi Sant. Llian, pris 5s. oC.- gyda'r post, 6s. ('328 tudalen). V Esbomad Henry a Scott: 0 Geiiesis hyd Esther. Bu y Cymro byd-enwog MATHEW RENUY dros 10 mlynedd yn eyfansoddi y gwaith hwn, a bu farw cyn ei orphen. Mae •ylwadau SCOTT, y duwinydd enwog, yn ychwanegu yn fawr at ei werth. Haner-rhwynt, 68.; gyda'" post, 6s. 9c. fpris cyntefig, 18s.) 930 tudalen. Y Deonglydd Bemadol: Gan y Parch. J. JONES (Idrisyn). Y nine yn cynwys eglurhad manwl ar bob adnod yn vr IIMN DESTAMENT, er gwasanaeth Ysgolion liol ae addysg deuluaidd. 4 Cyfrol, croen llo, ;■/ 1.1.30 y gyfrol; neu drwy'r post, 14s. 9c. y gyfrol. Y Deonglydd Berniadol: Ar y TESTAMENT NEWYDD, gan yr un Aw- dwr. Croen llo, pris 17s,; neu gyda'r pout, 188- (836 tudalen). Llaw-lyfr y Beibl: Neu Arweiniad i Fyfyrdod o'r Ysgrythyrau S!Uict- aidd: gan Dr. ANGUS; wcdieigyHeithuir Gym- raeg gan J. RHYS MORGAN; gyda lluaws a Ychwanegiadsiu g'an y Parch. J. HUGHES, Liver- pool. Llian, pris 10s. 6 haner-rhwym, 12s.; gyda' post, 12s. 9c. (574 tudalen.) Christmas Euans: Sef Hanes ei Fywyd, a chasgliad o 80 o'i Bregeth- au mwyaf poblogaidd tie amryw Ddamegion ac Areithiau, ynghy.i.i darlun cywir. JJwy Gyfrol- Llian, 3s. 6c. y yy/rol; gyda'r post, 4s. y gyfrol. Cyfrol Newydd o Bregethau: Gan y Parch. D. ROBERTS, Wrexham (Caernarfon gynt). Llian, pris 3s. 6c.; gyda'r post, 3s. lie. HEFYD, AiI-Argraffiad y Gyfrol Gyntaf: Gan yr un Awdwr; yn yr un plyg a rhwymiad &'r Gyfrol Newydd. Llian, 3s. 6c.; gyda'r post, 3s. lie. .Y Gramadeg Cymraeg; Gan y Parch. D. ROWLANDS, B.A. (Dewi Mon). Lliait,pris 2s.; gyda'r post, 2s. 2g. (128 todalenj. Grwstraff arian yw talu am argraffwaith brwnt. Wel, yn mha le y ceir argraff- waith glan ? Yn Swyddfa'r GWLAD'WR.