Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CRYNODEB SENEDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRYNODEB SENEDDOL. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Mawrth, dywedai larll Granville y gwnai, dydd Gwen- er, gynyg gohiriad y Tý hyd Hydref 24ain. Os cyfodai rhyw angen neillduol cyn hyny, danfonid rhybudd i'w harglwyddi i fod yn bresenol. Nid oedd yn mwriad y Llywodr- aeth i gefnogi deddfwriaeth yn ystod y Sesiwn Hydrefol. Awd yn mlaen ag ysgrifau trwy eu darllen yr ail a'r drydedd waith. larll Milltown a ofynai i Ysgrifenydd y Trefedig- aethau, pa un a oedd y Llywodraeth etc wedi dyfod i unrhyw benderfyniad gyda golwg ar pa un a wnaent ganiatal1 i üetewayoei ddych- welyd i Zululand ai peidio. Iarll Kimberley a ddywedai fod Llywodraeth ei Mawrhydi wedi penderfynu ystyried y poaiblrwydd o wneyd trefniadau er adferiad rhanol Cetewavo i Zaluland, gyda diogeliadau ac amodau pri- odol. Bydd rhyw ran o'r wlad, i gael ei deffinio yn olllaw, i gael ei chadw mewn trefn i gyfarfod a'r rhwymedigaetr.au tnag at y rhai hyny o'r penaethiaid apwvntiedig a'r bobl y rhai ddichon fod yn anfoddlon i ddychwelyd dan lywodraeth Cetewayo. Bydd preswylydd Prydeinig i gael ei gadw yn Zulaland, a bydd yn ofynol i Cetewayo wneyd ymrwymiadau cyffelyb i'r rhai hyny wrth ba rai y mae y tri phenaeth ar ddeg apwyntiedig yn awr yn rhwym, yr byn sydd yn cynwys gwaharddiad i adfywio mewn unrhyw ffurf y gyfundrefn filwrol a ffynai yn flaenorol Yr oedd efe wedi gwneyd mynegiad i'r effaith hwn wrth Cetewayo y dydd hwnw.. Ardalydd Salisbury a feddyliai fod y penderfyniad oedd y Llyw- odraeth wedi gymeryd wedi eu gosod mewn cyfrifoldeb pwysig, nid yn unig gyda golwg ar yr effaith a gai y mynegiad neiilduol, ond oherwydd ei fod yn gam arall yn y policy o wrthdroad. Fel y cyfryw, gwnai gadarnhau opiniynau y cyfryw y rhai a gredent nad oedd gan Loegr un wladlywiaeth dramor na thref- edigaethol, ond ei bod yn amrywio yn ol am- rywiad opiniwn politicaidd gartref. Yna ai yn ralaen i ddweyd fod Cetewayo yn un o'r gorthrymwyr mwyaf peryglus a gwaed-sych- edig, a hwuw oeddid yn myned i godi mewn awdurdod eto. Iarll Kimberley a amddiffynai policy y Llywodraeth, ac a amddiffynai gy- meriad Cetewayo, ac nad oedd efe yr angenfil y mynid i ni gredu ei fod, onide paham yr oedd pobl Zululand gymaint am iddo ddych- welyd i'w gwladl Yn NHY Y CYFFREDIN, dydd Mawrth, cy- merodd y Llefarydd y gadair am 3.15, pan fu Twnel y Sianel, Camlas Suez, a'r cyhuddiad yn erbyn rheithwyr Gwyddelig dan sylw, ac yna hysbyswyd Mr. Craig, gan Syr C. Dilke, ei bod yn fwriadedig i ail ddwyn yn mlaen Act Parhad y Tugely sesiwn nesaf. Bo achos Cetewayo gerbron yma eto, pan roddodd Mr. Ashley eglurhad yn gyffelyb yn ei ystyr i'r hwn a reddesid yn Nbý yr Arglwyddi. Wedi sylw ar amryw fan ysgrifau, ar y cynygiad o fyned i bwvllgor ar Ysgrif Priodoliad, cynyg- iodd Mr. Ashmead Bartlett :—" Fod y Ty hwn yn condemnio Llywodraeth ei Mawrhydi am eu hesgeulnsdod, a'r camgymeriadau a ddygasant oddiamgylch y rhyfel yn yr Aifft, ac yn enwedigol am danbeleniad Alexandria heb lanio byddin ddigonol i achub bywyd ac eiddo ac ystyriai fod gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth wedi estroneiddo cynghreir- iaid a gwanhau dylanwad ac awdurdod y wlad." Syr C. Dilke, mewn atebiad, a ddy- wedai gyda golwg ar fod y Llywodraeth wedi estroneiddio ei chynghreiriaid, yr oil a brisiai efe ddweyd oedd, yn achos Germani ac Aws- tria, na fu ein perthynasau erioed yn fwy cyfeillgar nag ydynt yn bresenol. Nid oedd un sylfaen o gwbl i fynegiad yr aelod anrhyd- eddus fod pedwar Gallu wedi cynghreirio yn ein herbyn o barthed i'n policy gyda golwg ar Gamlas Suez. Bu siarad rellach ar y mater. Darllenwyd amryw ysgrifau yr ail waith yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Mercher. Yn NHY Y CYFFREDIN, yr un dydd, rhodd- odd Mr. O'Donnell rybudd y byddai iddo, ar adgynulliad y Ty, alw sylw at ymddygiad Dr. Playfair. Ysgrif Priodoliad yn nglyn a, rhy fel yr Aifft ddaeth nesaf dan sylw, pan gynygiodd Syr W. Lawson fod y Ty, cyn cydsynio a. phriodoliad y cyflenwadau am y flwyddyn, yn gofyn am sicrhad oddiwrth Lywodraeth ei Mawrhydi y bydd iddynt gymeryd mesurau uniongyrchol i gael allan oddiwrth awdurdod- au milwrol yr Aifft pa un a roddent eu harfau i lawr ar ol gwarantu iddynt yr hawl o bleid- ebu eu cyllideb eu hunain, yr hyn a hawlient Ionawr diweddaf. Eiliwyd hyn gan Syr G. Campbell. Mr. Gladstone nis gallai ddweyd, yn ol ei farn ef, fod yr ymddyddanion hyn yn fanteisiol, a'i bod yn ddymunol, pan ymdrinir â. chwestiwn yr Aifft, i ymdrin ag ef yn gyf- lawn. Traethodd yn helaeth ar y mater, a dywedodd, er nad oedd Ffraine wedi dyfod allan i gydweithredu & ni, eto nad oedd un croes-olygiad yn bodoli rhyngom. Yr oedd gwawr dyddiau gwell wedi ymddangos yn yr Aifft, a byddai yn un o ddyledswyddau mwyaf cysegredig y Llywodraeth hon i ddefnyddio pa ddylanwad bynag a feddai i'r perwyl o hwylusu blaen-gynydd pobl yr Aifft. Mr. Villiers Stuart nis gallai gefnogi y penderfyn- iad. Yr oedd trethiad yr Aifft yn ddiau wedi cynyddu dan y gyfundrefn newydd, ond yr oedd gallu y bobl i ddwyn trethiad wedi cy- nyddu i fesur helaethach. Syr P. O'Brien a wrthwynebai y penderfyniad, am ei fod yn cynyg ymostyngiad i ddyn yr hwn yr oedd Llywodraethau yr AiSt a Lloegr wedi ymuno i'w alw yn rebel. Gwasgai ar y Llywodraeth am fyned yn mlaen a'u gweithrediadau mil- wrol yn y dwyrain i'r man eithaf. Yna, caf- wyd araeth faith a grymus gan Syr E. J. Reed, yn mha un y condemniai yr ymosod- iadau a wneid ar y Llywodraeth gan wahanol aelodau, yr hyn oedd a thuedd i ddwyn gwarth arnom yn ngolwg gwledydd ereill. Dywedai hefyd ei bod wedi myned yn rhy bell i ni yn awr fyned i ymoatvrng i rebel fel Arabi. Wedi gair neu ddau oddiwrth y Gwyddel O'Donnell, yn holi y Llywodraeth ar ba dir yr oeddynt yn tanio ar amddiffyn- feydd Gallu cyfeillgar, gwrthodwyd y pen- derfyniad heb ranu y Ty. Bu amryw fan ysgrifau ereill dan sylw, a chyfrifwyd y Ty allan am 4.25. Y peth cyntaf ÍLl dan sylw yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Ian, ydoedd Ysgrif Bwrdd Pysgota Ysgotland, yr hon a basiodd trwy y pwyllgor. Darllenwyd man-ysgrifau ereill yr ail a'r trydydd tro. Yn NHY Y CYFFREDIN, cymerodd y Llefar- ydd y gadair am 2.30 o'r gloch. Syr E. J. Reed a ddymunai ofyn i Lywydd Bwrdd Masnach pa mi a ydoedd gwahanol gwmniau y rheilffyrdd wedi ateb cylch-lythyr y Bwrdd Masnach am Chwefror, ar golled bywydau a'r niwed personol a gai gweision y rheilffyrdd wrth gyplu a dadgyplu cerbydau, a pha un a ydoedd rhai o'r cwmniau wedi hysbysu eu bwriad i fabwysiadu cyplau diwygiedig er lleihau peryglon i'r gweision, a pha un a wnai y bwrdd, ar ddyddiad cynar, gyhoeddi y cylch-lythyr a'r cyfryw atebion a ddanfonesid i mewn. Mr. Chamberlain a ddywedai iddo ef anfon aUan gylch-lythyr, ond nad oedd dim atebion eto wedi eu derbyn. Mr. Hopwood a gyflwynai ddeiseb oddiwrth weinidogion crefydd, a phreswylwyr ereill yn Nghaerdydd, yn erfyn am ddiddymiad act yr haint glefyd- au. Carchariad Mr. Gray, A.S., ddaeth yn nesaf dan sylw, pan hysbysodd y Llefarydd iddo dderbyn llythyr oddiwrth Mr. Justice Lawson, dyddiedig, Queen-street, Dublin, Awst 16eg, fel y canlyn Syr,—Meddaf, yn y cyflawniad o'm dyledswydd, yr anrhyd- edd o' ch hysbysu fod Mr. E. Dwyer Gray, aelod o Dy y Cyffredin, heddyw wedi ei dros- glwyddo i garchar am dri mis am ddiystyrwch ar y llys trwy gyhoeddi erthyglau penodol a'u tuedd i ragfarnu gweinyddiad cyfiawnder yn yr Iwerddon (clywch, clywch)." Cyfododd Mr. Gladstone ar unwaith, ac mewn cyd- ffurfiad a rhag-esiampl, cynygiodd, fel arwein- ydd y Ty, ei gynghor, dan amgylchiadau, ar un llaw, o bwysigrwydd mawr, ac ar y llaw arall, yr oedd yn beryglus a chynil. Ni wyddai efe am un engraifft wedi ei chofnodi o ddygwyddiad o'r fath nodwedd dan am- gylchiadau mor neillduol. Yr oedd y Ty, i fesur mawr, wedi ymwasgaru, er nad yn holl- 01 wedi rhoddi heibio ymdrin a busnes, ac yr oedd yr aelodau o brofiad a gwybodaeth wedi gadael eu lleoedd. Y cwrs arferol a gymerid pan atafaelid aelod am ddiystyrwch ar y llys oedd apwyntio pwyllgor ymchwiliadol yn gyffredinol, heb un honiad pendant ar ran y Ty, gyda golwg ar helaethrwydd ei allu ei hun i ymyraeth, ond gadael i'r pwyllgor chwilio a phenderfynu pa un,a ydoedd rheswm dros wneutliur cymeradwyad. Dim mewn un engraifft ag y gallai efe gofio yr oedd ar- gymeradwyad wedi ei wneyd. Yr oedd yn eglur, pe cydffarfiai y Ty yn awr a'r rhag- engraifft flaenorol, gan yn uniongyrchol apwyntio pwyllgor, ni fyddai y pwyllgor hwnw yn cynrychioli yn ddigonol y pwys, y profiad, a'r wybodaeth ofynol mewn mater a berthynai i un o freintiau difrifolaf y Ty. Gan fod hyn felly, gorfodid ef yn hwyrfrydig i ymwrthod a'r rhag-engreifftiau cymhwys- iadol i'r achos, sef apwyntiad uniongyrchol pwyllgor. Y dewisiad arall fyddai gadael i'r achos sefyll drosodd hyd Hydref, ac wrth ystyried y cwrs hwn, yr oedd yn rhwym o ystyried -tirddas ac annibyniaeth aelod o'r Ty. Gan roddi y sylw goreu hyna i'r mater, a chymeryd y cynghor goreu, ni chawsai efe fod gan y Ty allu i weithredu er rhyddhad Mr. Gray, hyd yn nod pe deuai'r pwyllgor i'r casgliad ei bod yn ddymunol iddo gael ei ryddhau. Ni ufuddheid gorchymyn y Ty i geidwad y carchar i ryddhau Mr. Gray. Un cwrs a sifai yn agored i'r Ty-anerèh y Goron er symud y barnwr dysgedig (bloeddiadau Gwyddelig, a Mr. Callan yn gwaeddi, Rho'wch i ni y cyfle "). Ond heb ragfarnu y cweatiwn, pwyntiai allan na wnai y fath gynyg, os cerid ef, effeithio ar y ddedfryd a basiwyd gan y fainc. Yr oedd efe yn fwriad- ol wedi osgoi pob cyfeiriad at ffeithiau yr achos, a hollol gytunai ei fod yn achos i ym- chwiliad Seneddol. Ond a phwyso pob ystyr- iaeth, ac oherwydd fod y Ty yn y sefyllfa haner-fywydol oedd ynddi, yr oedd yn an- mhosibl cael ymchwiliad boddhaus, a chyf- yngai ei hun i'r cynyg ffurfiol fod llythyr y barnwr dysgedig i orwedd ar y bwrdd. Mr. Sexton a ddywedai y byddai i araeth y Prif- weinidog ei argyhoeddi, pe b'ai mewn angen am unrhyw argyhoeddiad, nad oedd y Llyw- odraeth yn debygol o wneyd unrhyw beth, a'i bod yn foddlon i adael Mr. Gray yn y carchar. Nid oedd cwrs y Llywodraeth, felly, yn gadael iddo ua dewisiad ond apelio at lys mawr y farn gyhoedd. Gwrthdystiai yn gryf yn erbyn ymddygiad y barnwr yn gwrthod caniatau i Mr. Gray gael cyfleusdra i egluro neu gyfiawnhau ei ymddygiad. Gyrwyd ef i'r carchar ar unwaith am dri mis, a hyny yn ngwyneb apeliad ffurfiol am ohiriad yr achos, fel y gallai draethu ei resymau yn y llya, a myned i mewn i ffeithiau yr achos. Aeth Mr. Sexton yn mlaen mewn araeth o gryn feithder i amddiffyn Mr. Gray. Amddiffyn- wyd y barnwr a'r Llywodraeth gan Dwrne Cyffredinol yr Iwerddon, a Mr. Plunkett. Mr. Macfarlane a honai fod gweithred y Barnwr Lawson yn ffrwyth maleisusdigofaint personol. Y Llefarydd a alwai ar yr aelod anrhydeddus i drefn, gan fynegu ei fod yn rhwym o siarad am y barnwr mewn iaith gymedrol. Ar ol hyn, cododd amryw o'r aelodau Gwyddelig, pan sylwodd Mr. New- degate ar y meddiant hollol braidd oedd yr aelodau Gwyddelig wedi gael o'r Ty y Cyffred- in Seisnig. Wedi i ereill siarad, gohiriwyd yr ymddyddan. Cynygiodd Mr. Gladstone fod y Ty, pan yn eyfodi dranoeth, i ohirio hyd Hydref 24ain ond gwrthwynebai Mr. Biggar, ac ni wasgwyd y cynyg. Torwyd i fyny am 7 o'r gloch. Yn NHY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener, rhoddwyd y cydsyniad breninol wrth 88 o ysgrifau lleol a chyhoeddus, a gohiriwyd y Tý am 3 o'r gloch hyd Hydref 24ain. Gwysiwyd Ty Y CYFFREDIN i'r Tý Uchaf i gael clywed y cydsyniad breninol i'r ysgrifau a nodwyd yn cael ei roddi. Dychwelodd y Llefarydd am 3 o'r gloch, pan ddywedodd fod y cydsyniad breninol wedi ei roddi i Ysgrif Priodoliad ac ysgrifau ereill. Gohiriodd y Tý hwn yn uniongyrchol hyd Hydref 24ain.

GAIR AT DANWYR QWM REONDDA.

"LLETHRAU PARNASSUS."

AT LO.WYR PWLL CASTELL WIWER,…

OYMRO GWYLLT A CETEWAYO.

Marwolaethau Cymry America.

[No title]

Aelod Seneddol wedi ei ddanfon…

Triciau Hynod Cawrfil.

[No title]