Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CRYNODEB SENEDDOL.

GAIR AT DANWYR QWM REONDDA.

"LLETHRAU PARNASSUS."

AT LO.WYR PWLL CASTELL WIWER,…

OYMRO GWYLLT A CETEWAYO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OYMRO GWYLLT A CETEWAYO. MR. GOL.Nid yn ami y bydd fy hen gyfaill Cymro Gwyllt a minau yn annghyd weled ar rai o brif bynciau y dydd ond yn bendifaddeu, y mae yn rhaid i mi wrthdystio, a hyny yn y modd mwy af pendant, yn erbyn yr hyn a ysgrifenodd yn eich rhifyn diweddaf ar y brawd a'r brenin gwladgar a chenedlgarol Cetewayo. Gwyr- o'r hyn lleiaf, dylai y Cymro wybod-i ni fyned i ryfel a brenin gwlad y Zuluiaid heb un rheswm ac achos digonol, ac yn wir, yr oedd Arglwydd Beaconsfield a'i blaid yn groes i'r rhyfel hwnw, ond fel y llusgwyd hwy iddo megys o'i hanfodd gan y bodyn ymyrgar hwnw, Syr Bartle Frere. Yn nglyn a glaniad Cetewayo, dywed y Cymro fel hyn :—" Y mae yr olaf (Cetewayo) yn fwy haeddianol o gael ei wddf ar blocyn, o dan fwyell y dienyddwr, na chael sylw Prydeinwyr, a byw ar gefn gwlad mewn moethau a brasder. Ma3 talu gwarogaeth a pharch, a chroesawi dynion teilwng yn wladgar a Christionogol; ond y mae talu cymaint o sylw a pharch i hen waedgi gwastrafflyd fel Cetewayo yn waeth na difudd." Synais, yn wir, pan welais yr uchod wedi d'od oddiwrth ysgrifell Cymro Gwyllt. Yn enw dyn, ac yn enw rheswm a thegwch rhwng dyn a dyn, pa bechod a gyflawnodd Cetewayo, fel ag i haeddu cael ei wddf ar blocyn," fel y dywed y Cymro ? Beth am Llewelyn ap Gruffydd, Owain Glyndwr, William Tell yn Switzerland, Robert Bruce a Wallace yn Ysgotland, a llu o wlad a chenedlgarwyr ereill allem nodi ? A ddylent hwy gael eu gyddfau ar blocyn oherwydd amddiffyn eu gwlad ? Nid oedd Cetewayo yn ymofyn byw ar frasder a moethau ein gwlad ni, pe cawsai lon- ydd yn ei anwyl wlad frodorol ei hun. A oes un dyn ar wyneb daear Duw, heblaw Cymro Gwyllt, a all gondemnio Cetewayo am darianu ei wlad a'i genedl ? Pe buasai y Cymro yn frenin ar Tim- buctoo, a allasai efe oddef i'w diriogaethau gael eu goresgyn heb wneyd un ymdrech i hyrddio yr ym- yrwyr allan o'i wlad ? Ni wnaeth Cetewayo ond yr hyn a wnai pob dyn sydd yn werth galw dyn arno, sef amddiffyn ei wlad oreu y gallai rhag rhaib oresgynol y tramorwyr. Wel, yr oedd ymddygiad y brenin Cetewayo mor hunan-eglur o gyfiawn, fel nad yw yn werth ysgrifenu dim rhagor i'w am- ddiffyn, ac os oes rhywun na wel hyn, rhaid ei fod mor adall a'r post.—Yr eiddoch, BRYTHONFRYN. O.Y.-Wedi ysgrifenu yr uchod, gwelais y geir- iau canlynol o eiddo Iarll Kimberly, y rhai a draddododd yn Nhy yr Arglwyddi, nos Fawrth wythnos i'r diweddaf Credai ef fod yr holl bolicy a ddygodd yn mlaen ryfel diweddar Zulu- land yn xorong o'r dechreu i'r diwedd, a chadarti- heid ef yn yr opiniwn hwn gan y ffaith fod pob un oedd yn adnabyddus a. Deheubarth Affrica yn awr o'r farn y dylid mabwysiadu policy newydd. Yna, yr oedd yr ardalydd anrhydeddus wedi dweyd na ddylai Cetewayo gael ei adferu, am ei fod yn orthrymydd gwaed-sychedig ond gwadai ef fod hyn yn ffaith. Cylchdaenid cyhuddiadau yn erbyn Cetewayo gan y rhai oeddynt a budd yn ei gwymp, ac os oedd efe y fath lywodraethwr rhydd- greulawn ag y desgrifiasid ef, yr oedd yn hynod fod y bobl yn glynu mor ffyddlon gydag ef, ac yn awr, ei orchfygiad, nas gellid llwgrwobrwyo neb i'w fradychu." Now, Mr. CymTo, what do you say to thatt Ryfeddwn i fawr na ddaw Cetewayo ag action am libel yn erbyn y Cymro.—B.

Marwolaethau Cymry America.

[No title]

Aelod Seneddol wedi ei ddanfon…

Triciau Hynod Cawrfil.

[No title]