Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CRYNODEB SENEDDOL.

GAIR AT DANWYR QWM REONDDA.

"LLETHRAU PARNASSUS."

AT LO.WYR PWLL CASTELL WIWER,…

OYMRO GWYLLT A CETEWAYO.

Marwolaethau Cymry America.

[No title]

Aelod Seneddol wedi ei ddanfon…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Aelod Seneddol wedi ei ddanfon i Garchar. Dydd Mercher, Awst 16eg, dedfrydwyd Mr. Gray, A.S., uchel-sirydd Dinas Dublin, i dri mis garchariaeth, a gorchymynwyd ef i dalu dirwy o 500p. am ddiystyru y Ilys, am gyhoeddi llythyr ac erthygl yn y Freeman's. Journal o barthed i'r rheithwyr yn y prawf diweddar am lofruddiaeth, yn mha un y cafwyd Ilynes yn euog o fod wedi brad- lofruddio Doloughty. Cymerwyd Mr. Gray i garchar Richmond. Y mae yr A.S., ar ddiwedd ei garchariaeth, i ffeindio dau o feichiau-efe ei hun mewn 5,000p., a dau arall mewn 2,000p. yr un. Creodd hyn gryn gyffro yn y ddinas. Yr oedd nawdd-osgordd o 100 mewn nifer yn ei arwain i'r carchar, heblaw tuag ugain o heddgeidwaid ar geffylau.

Triciau Hynod Cawrfil.

[No title]