Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

FALMOUTH ROAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FALMOUTH ROAD. Nos Sadwrn diweddaf, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y lie uchod, cynnaliwyd cyfarfod dan nawdd y gymdeithas lenyddol, cadeiriwyd gan Mr. R. V. Thomas. Mater y cyfarfod ydoedd, darlleniad papyr o eiddo Mr. William Hughes, King Edward Street, ar yr I Apostol Paul,' ei ieuenctyd a'i addysg foreuol. Yr oedd yn bapyr dyddorol, ac yn arddangos ol llafur, ac ymchwiliad manwl, i faes hanesiaeth boreuol yr Apostol, a'r genedl o ba un y tarddau. Yr oedd hefyd yn rhoddi hanes manwl o sefyllfa y genedl,trwy y gwahanol gyfnodau a fu arni, hyd ei chaethgludiad i Babylon, a'i dychweliad oddi yno. Cafwyd gwrandawiad astud am yn agos i awr o amser, heb un arwydd fod neb wedi blino. Caf- wyd sylwadau pellach gan amryw gyfeillion ar y papyr, a thystiolaeth pawb ydoedd eu bod wedi derbyn gwledd sydd yn adlewyrchu clod ar y gym- deithas yn y lie.—IORWERTH LLWYD.

Syfarfod QghOgsig Undeool.

HAF-DDYDD CYMRU.