Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

I)-gn a £ * )afad.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I)-gn a £ )afad. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. Pa faint gwell gan hyny ydyw dyn n& dafad ?" Math. xii. 12. FE ofynwyd y cwestiwn tarawiadol hwn gan ein Jf Harglwydd i'w elynion maleisus mewn hunan- amddiffyniad i'w waith yn iachau llaw wywedigd yn ar y Sabbath. Ystyriai y Phariseaid fod yn iawn codi dafad ddiniwed o'r ffos ar y Sabbath, er nas gellid gwneyd hyny heb egni a llafur; ond yr oedd efe yn gallu iachau dynion a gair ei enau yn unig, heb unrhyw lafur nac ymdrech; ac y mae iechyd dyn yn sicr yn fwy pwysig na bywyd anifail; canys "pa faint gwell yw dyn na dafad?" Rhagoriaeth dyn ar anifail sydd yma. Ond etto nid ydyw yn rhagori ar yr anifail yn mhob peth; eithr y mae yn is na'r anifail mewn rhai pethau- yn gydradd a'r anifail mewn pethau eraill-ac yn uwck na'r anifail drachefn mewn pethau eraill. Gadewch i ni daflu cipdrem frysiog ar y pethau yma:- I. DYN YN IS NA'R ANIFAIL. I Mae yn is na'r anifail mewn gallu corphorol.— Mae yn llawer mwy diymadferth na'r rhan fwyaf o'r creaduriaid direswm ar ei ddyfodiad i'r byd. Cym- harer y baban bach a'r oen bach. Mae y cawrfil yn gryfach, a'r march a'r ewig yn gyflymach, na dyn ac y mae yr aderyn yn gallu ehedeg yn gyf- lym trwy yr awyr, tra y mae dyn yn gorfod ym- lwybro yn flinderog ar hyd y ddaear. Mae y defaid yn gallu byw allan yn nghanol ystormydd a thym- hestloedd oerion a gerwin y gauaf; ond rhaid i ddyn gael rhyw fath o gysgod a diddosrwydd. Mae dyn yn fwy dibynol ar y creaduriaid direswn hefyd nag yw y rhai hyny arno ef. 2 Mae yn is na'r anifail yn aml yn y gofal a ddangosiram dano gan ei gyd-ddynion.-Ewch i ystablau y pendefig. Mor lan ydynt, ac mor dda y maent yn cael ei hawyru, &c. Ewch wed'yn i dai y tlodion ar ei etifeddiaeth. Oni ellid meddwl wrth edrych ar y gwahaniaeth, mai fel hyn y dylid gofyn y cwestiwn, Pa faint gwell yw ceffyl, neu gi, na dyn ? Mae yn ddyledswydd gofalu am yr anifeiliaid ond a ddylid gofalu mwy am danynt hwy nag am ddyn- ion ? Fe osodir canllawiau i ddiogelu yr anifeiliaid rhag syrthio i bydewau peryglus; ond fe gloddir pydewau, or tu arall, ac fe'u gwneir mor ddeniadol ag y medrir, i demtio dynion i syrthio ar eu penau iddynt, a myned i ddinystr. Beth yn amgen na hyny yw y tafarnau sydd yn brif felldith ein gwlad a'n teyrnas ? 3 Mae dyn wedi darostwng ei hunan yn llawer is na r anifail trwy bechod.-Mae pechod wedi gwneyd dyn yn ffolach na'r anifail, I canys yr ych a edwyn ei feddianydd, a'r asyn breseb ei berchenog; ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall, medd yr Arglwydd.' Mae yr adar yn cadw eu tymhorau, ac yn ffoi i hinsoddau tynerach cyn y gauaf ond ni fyn dynion ddefnyddio yr adeg i geisio iachawdwriaeth, a ffoi rhag y llid a fydd Y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau, y durtur hefyd, a'r aran, a'r wenol. a gadwant amser eu dyfodiad; ond fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd." Mae dyn wedi myned trwy bechod nid yn unig yn ffolach fel hyn, ond hefyd yn druenusach, na'r anifail. Nid yw yr anifail yn cael ei flino gan euogrwydd cydwybod, nac ofn marw. Ond y mae dyn yn cael ei boeni gan y pethau hyny. Fe ddywedai y pregethwr seraffaidd Robert Roberts, o Glynog, ei fed ef yn cofio adeg, pan yr ydoedd yn cenfigenu wrth y cigfrain yn y coedydd, a'r llyfaint yn y ffosydd o ddeutu ty ei dad, ac yn dymuno bod yn rhywbeth, yn hytrach na bod yn ddyn! II. DYN YN GYDRADD A'R ANIFAIL. 1 Mae ei gorph yn gydradd a'r anifail o ran ei ddechreuad a'i ddiweddiad.—Nid yw corph y ferch ieuanc landeg, sydd bron yn rhy falch i osod ei throed ar y ddaear, yn ddim gwell, o ran ei ddefnydd, na chorph y pryfyn distadl sydd yn ymlwybro yn y llaid. 4 Gelwais ar y pwll tydi yw fy nhad ac ar y pryf, fy mam am chwaer wyt.' Mor ynfyd gan hyny yw ymfalchio mewn prydferthwch corphorol, a gwneyd eilun o delpyn o glai! Ac feI y mae dyn ac anifail wedi tarddu or ddaear, felly hefyd y mae y naill a'r llall yn dychwelyd i'r ddaear. Dyna yw tynged y teyrn mwyaf galluog: Ei anadl a a allan efe a ddychwel i'w ddaear.' Ac y mae celain y pen coronog yn myned yn llawn mor ffiaidd a chelain y ceffyl a'r ci, yn ddioed wedi i'r bywyd drengu. 2 Maent yn gydradd mewn ymddibyniad ar ofal rhagluniaethol Duw.—' Dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.' Mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeil- iaid, a llysiau at wasanaeth dyn.' 3 Mae yn gydradd a'r anifttil yn arnl yn y modd yr ymddygir tuag ato gan ei gyd-ddynion.- Y caeth- was druan yn cael ei brynu a'i werthu yn hollol fel pe na byddai yn ddim ond anifail. Ceir llawer o feistriaid yn trin eu gweithwyr fel anifeiliaid, heb ofalu dim am ddiwylliant eu meddyliau, na iach- awdwriaeth eu heneidiau. Mae dynion yn cael eu galw yn y Beibl yn eneidiau, am mai yr enaid yw y rhan bwysicaf o'r dyn; ond dwylaw (hands) y gelwir y rhai sydd mewn gwasanaeth yn ein dyddiau ni, fel pe na byddai ganddynt na phenau na chalonau, ac fel pe na byddent yn ddim ond peirianau. 4 Mae llawer yn gwneyd eu hunain yn gydradd a'r anifail yn eu dull o fyw.-Meddylier am y mil- oedd sydd yn treulio eu hoes i gyd i fwyta ac yfed, a gweithio, a chysgu, a mwynhau pleserau anianol, heb na chasglu gwybodaeth fuddiol, na charu Duw,