Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
1 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
1 erthygl ar y dudalen hon
Correspondence.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Correspondence. BARN Y BOBL AM Y LONDON KELT." (At Olygydd y LONDON KELT). SYR,-Mae cynwysiad Rhif I o'r KELT yn rhagorol, er ei fod yn fychan. Os cedwir y moral tone mor iach gellir disgwyl oes hir iddo. Gall ambell bregeth fel yr eiddo Dr. Evans wneyd lies dirfawr; gall gyrhaedd llygad a chalon llawer Cymro a Chymraes sydd wedi myned ar ddisperod yn anialwch gwyllt y dref fawr. Boed llwyddiant yn dilyn y KELT bach Llundeinig I danio, a chadw y teimlad brwdfrydig Dros grefydd, dros Gymru, dyrchafu pur foes, Dymunwn o'm calon-Boed iddo hir oes. Cofion caredig, Earls Court. T. JONES. SYR,-Maddeuwch i mi am eich llongyfarch ar eich anturiaeth. Yr ydych wedi ymgymeryd a gwaith pwysig wrth geisio llenwi bwlch mor nodedig yn rhengau ein cydgenedl yn y brif-ddinas a'r cyffin- iau. Da genyf, a gwn mai da gan filoedd o'm cyd- ieuenctyd, eich gweled wedi cychwyn o dan am- gylchiadau mor ffafriol. Y mae yr amrywiaeth sydd yn nodweddu eich rhifyn cyntaf, yn argoel dda eich bod yn deall chwaeth eich cydgenedl, ac y mae y ffaith fod pob ysgrif a hanes yn grynhodeb, yn hytrach nac yn fanylion cyflawn, yn arddangos eich doethineb mewn detholiad. Mae llwyddiant pob Ilyfr a newyddiadur yn ymddibynu ar y detholwyr, a'r golygydd, yn ogystal ag ar yr awduron, ac ar y cy- hoedd. Mae ychydig ddoethineb yn werth llawer o ras, ac y mae ychydig o synwyr cyffredin yn fwy ei werth na llawer o aur ac arian. Y mae y liythyr hwn yn cynwys syniadau, nid ryw un person, ond syniadau nifer o honom a fu yn eis- tedd mewn barn ddifrifol ar y KELT ieuanc ar ei ymddangosiad cyntaf yn ein mysg. EFRYDYDD. To the Editor of the LONDON KELT. T SIR,-I welcome the advent of the LONDON KELT into our midst and hope that, as you have tersely Put it in your first number, you have come to stay, and that the paper will be felt to be a power for good among Welshmen in London. Being the only paper that professes to circulate specifically among the Welsh in London, would it not be possible to use it as a medium wherein those interested in Welsh public meetings might find a kind of register of forthcoming meetings. Anyone acquainted with the present phase of Welsh life in London, must have observed the late increase in the number of concerts, &c., held 10 connection with the various Welsh churches, and very often, we find two or more announced for the same evening, and the result is not always the sur- vival of the fittest. Wishing you every success, I remain for the present. « HOMO." [We have arranged to publish a list of forthcoming events, and trust that our readers will aid us by sending particulars of any proposed meeting not chronicled.-ED. L. K.] ANWL MISTAR GLYGUDD,—'Chai ddim llonudd gin Meri'r wraig 'ma, heb imi sgwenu pwt o lythur i chi, i ddiolch yn fawr ofnatsan am y papur bach twt a doniol 'rydach chi wedi ei droi allan, ac os ydach wedi priodi, mae ginochi ryw syniad am daurni a phenderfyniad-(bu raid imi edrach yn Geiriadur Richards er mwyn spelio hwn yn iawn)-merch pan fudd wedi rhoi i mheddwl ar rwbath. Byth er pan y bum yn y cwarfod hwnw yn Shorditsh Town Hoi, mae pawb yma wedi bod yn disgwl am y LONDON KELT, a chawson ni mo'n shomi ynddo fo chwaith. Cawsom rhyw fath o famili cownsul yma nos Lun i'w feirniadu. Tydw i ddim mo'r gul a disgwl i chi roddi papur wedi ei sgwenu yn hollol yn Gymrag, ond mi 'rydw yn gobeithio y rhowch chi ddigon o'r hen iaith, tasa ddim ond er mwyn Meri a fina. Peid- iwch a meddwl chwaith nad ydan ni yn dallt Seisnag, ond y mae yn cymyd amsar garw i ni ei ddarllan, a ma'r hogia a'r merched yma yn barod iawn i droi pob gair anodd i'r Gymrag pan fyddwn ni yn methu, ma' nhw yn fwy o scolars na ni ac wedi cael addysg dda, tra yr oeddwn i yn gorfod helpu nhad yn yr efal cyn mod i yn ddeuddag oed. Tydi pawb ddim o'r un farn yma-ddim mwy nag y ma' nhw mewn unryw gomiti. Mae Meri a fi yn licio pregeth yr hen ddoctor o Cings Cros yn well na dim. Mae Jane y ferch hyna 'ma yn licio y man- gofnodion blasus sy ginoch chi. Am Wil, mae o wyddoch chi, mae o yn bolitisian mawr, a mae o wrth 'i fodd yn darllan am y Paris Cownsul ac am y Cymru Fudd. Dyna Elin wed'yn, ma hi yn dechreu caru gyda rhyw ddyn ifanc sydd yn y busnas llefrith tua'r Byro, ac o ganlyniad y stori sydd yn myn'd a'i bryd hi. Mae Dafydd yma yn rhyw feddwl 'i hun yn fardd ('rydw i yn meddwl i fod o yn treio yn y gysdadluath sginoch chi), a'r farddoniaeth oudd o yn ddarllan o hyd. Ond ma pawb yn meddwl y byd o'r papur, ac yn gobeichio eich bod yn deyd y gwir pan yn deyd eich bod-ac imi i'w roi yn eich geiria eich hun-wedi cym tw ste." Braint hen wr ydi cael rhoi cyngor a dyma fo- Claddwch y syniad am North a Sowth. Ddaru chi ddim son dim am y peth yn eich cynta, a da chi pediwch etto. Ma Meri a fi yn beffath gytun, er i bod hi yn dod o lana'r Rheidiol yn shir Abarteufi, a fina yn dod o lana'r Glaslyn yn shir Gynarfon. Ein moto ni yw peidio rhanu yr hen wlad, ond cadw Cymru 'n un yn mhob ystur. Cofion caredig atoch chi a'r wraig a'r plant (os ydach chi yn wr priod). Cewch air etto yr wsnos nesa. J JONES. Rhosllanerchrugog Hows, Llundan, S.E. [Gall ein gohebydd doniol John Jones, fod yn dawel ei feddwl, ein harwyddair yw Cymru Gyfan, ac ni fydd a wnelom a'r hen arferiad o'i rhanu i North a South.—GOL.]