Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

BARN Y BOBL AM Y " LONDON…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BARN Y BOBL AM Y LONDON KELT." {At O!ygydd y LONDON KELT). YR IAITH GYMRAEG YN EIN CYM- DEITHASAU LLENYDDOL. MR. GOL.- Yr oedd yn dda genyf weled y pwnc uchod yn cael sylw yn y rhifyn diweddaf o GELT LLUNDAIN," yn sicr nid ydyw wedi cael sylw yn rhy fuan, yr oedd gwir angen symud yn y peth hwn, er galw sylw ein cenedl yn y brif-ddinas at y culni ar dirmyg sy'n cael ei ddangos at hen iaith ein tadau yn ein cymdeithasau llenyddol. Yn y dyddiau hyn, swn codi yr hen iaith sy'n mhob man ag y mae Cymry cenedlgarol yn byw, ac y mae rhagolygon yr hen iaith yn fwy disglaer nag y bu erioed. Ond dyma Gymry Llundain, yn nghanol eu holl swn am Gymru Fydd yn sarhau yr hen iaith, fel y dywed Ogwenydd megis ar ei haelwyd ei hun. Cymhellir ni gan swyddogion y gwahanol gym- deithasau llenyddol i'w cefnogi drwy fod yn ffyddlon i'w cyfarfodydd, &c., ond sut y maent yn disgwyl i Gymry iaithgarol gefnogi Sais-addoliaeth ? Fel aelod o gymdeithas lenyddol King's Cross, yr ydwyf wedi b jd yn absenol o lawer o'r cyfarfodydd, o her- wyd 1 mae yn yr iaith Saesneg y dygir bron yr oil o'r gweithrediadau yn mlaen, a llawer o'r Saesneg hwnw mor anmherffaith nes bod yn destyn chwerthin. Os am gyfarfodydd llenyddol Saesneg awn at y Saeson lie y cawn rywbeth gwerth ei wrandaw. Methaf weled pa gysgod o reswm sydd ciros ddwyn y cyfarfodydd hyn yn mlaen yn yr iaith Saesnig. Onid ydym yn cael digon o Saesneg gyda'm gwa- hanol oruchwylion ar hyd y dydd ? Ac oni fyddai yn amheuthyn ac yn iechyd i ni fel Cymry ar ol ym- gynull at ein gilydd i gyfarfodydd fel hyn, siarad yr iaith Gymraeg, a'r Gymraeg yn unig. Os ydym am symud yn mlaen gyda'n cenedl yn y dyddiau hyn, er dyrchafu ein gwlad, ein hiaith, a'n cenedl, oni ddy- lem siarad ein hiaith bob cyfleusdra a gawn. Gadawn ar hyn y tro hwn, gyda dweyd nad ydyw cymdeithasau llenyddol Llundain yn teilyngu cefnog- aeth Cymry sy'n caru eu gwlad, eu hiaith, a'u cenedl, hyd nes y rhoddant ei lie priodol i'r Iaith Gymraeg. Ydwyf &c., 19, Berwick St., W. G. HOWARD PEATE.

[No title]

[No title]

THE WELSHMAN'S VISIT TO LONDON.