Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

eitlj cftoa9.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

eitlj cftoa9. CYNULLIAD ARDDERCHOG YN YR HOLBORN TOWN HALL. Mae tymhor yr Eisteddfodau Cymreig ar derfynu, ac fel y dynesa at y diwedd felly hefyd y cynydda y dyddordeb ynddynt. A barnu oddi wrth y cynulliad yn Eisteddfod y Wesleyaid Cymreig nos Iau cyn y diweddaf, a gweled y fath nifer o gystadleuwyr ar bob testyn, gallesid meddwl nad yw Cymry Llundain wedi cael haner digon o Eisteddfodau yn ystod y tymhor presenol. Eto, fe allai, y dylid priodoli nifer yr ymgeiswyr i'r ffaith fod pwyllgor y cyfarfod hwn wedi gweled yn mhellach na'r rhai cyffredin, drwy roddi gwobrau yn deilwng o'r ymdrech, fel math o anogaeth i'r ieuenctyd llafurus sydd yn ein plith. Cynhaliwyd cyfarfod i chwynu yr ymgeiswyr ar lawer o'r testynau y noson flaenorol, a chafodd y beirniaid lawer o drafferth i fyned trwy y gwahanol ddarnau oherwydd ymgeisiai niferoedd megis 17, 14, 17, 12 ac yn y blaen, yn mhob cystadleuaeth bron, fel yr oedd yn anhawdd pigo y ddau neu dri goreu i ymddangos ar y llwyfan yn y cyfarfod cyhoeddus. Er fod y gwaith hyn wedi ei wneyd eto profwyd fod yn ol ddigon o gystadleuwyr mewn partion a chorau i gadw y gweithrediadau yn hynod o fywiog hyd dros haner nos. Achosid hyn, beth bynag, yn fwyaf oherwydd yr amser a wastraffwyd gan y partion i dddod ynghyd, a dylasai ein pwyllgorau yn y dyfodol i dynu yn ol nifer o farciau o bob parti neu gor, a a dros amser penodedig i barotoi eu hunain ar y llwyfan, oherwydd nid oes dim sydd yn tueddu i flino gwyr y seddau 61 yn waeth na gweled rhyw chwarter awr o seibiant ar y platform, a hyny drwy annrhefnusrwydd y cys- tadleuwyr eu hunain. Arweinid y gweithrediadau gan y bardd-bregeth- wr enwog Cadfan, a llywyddid gan aelod newydd Ceredigion, Vaughan Davies, Ysw., A.S. Y beirn- iad cerddorol oedd Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., Aberystwyth, darlun o'r hwn a ymddangosodd ych- ydig amser yn ol yn nhudalenau ein newyddiadur. Dechreuwyd yn brydlon am saith o'r gloch, pryd y rhoddodd Mr. David Jones, R.A.M., "Cymru Fydd fel can yr Eisteddfod. Wedi hyny galwyd ar y beirdd i anerch y cyfarfod ond ni atebodd neb ond Gwilym Pennant yr hwn wedi anerch i'r Eis- teddfod, a gyfeiriodd at y cadeirydd fel a ganlyn Gwron sydd yn rhagori—o'r gadair Ergydia i'n lloni Mae pawb am wel'd ein M.P. Tafod Sir Aberteifi. Pan gododd yr aelod anrhydeddus i anerch y cyfarfod cafodd dderbyniad croesawgar dros ben, ac amlwg oedd fod Ceredigion yn cael ei chynrych- ioli yn dra chadarn yn y cynulliad. Dywedodd mae dyma y tro cyntaf iddo gael yr anrhydedd o anerch y fath dyrfa o Gymry Llundain, a da oedd ganddo gael bod yn bresenol, yn enwedig pan gredai fod y mwyafrif o honynt yn dod o'i etholaeth ef. Byddai yn hyfrydwch ganddo ar bob adeg ddod i'w cyfarfodydd tra y gallai hebgor amser o'r Ty, ond gan nad oedd yn berchen ar ei amser yn awr-am mai ei ddyledswydd oedd bod yn bresenol ar bob adeg yn y senedd i wylio dros hawliau ei wlad — rhaid iddynt beidio disgwyl wrtho ar bob amgylchiad. 'Roedd hon yn adeg gyfyng yn hanes ein gwlad, a thra bo'r weinyddiaeth bresenol yn bwriadu gwaddoli ysgolion enwadol, 'roedd yn ddy- ledus arno fel Cymro ac fel Rhyddfrydwr i wneyd ei oreu i ymladd yn erbyn y fath anghyfiawnder. 'Roedd yn teimlo yn falch o'r anrhydedd o gynrych- ioli Ceredigion yn y senedd, a pha bryd bynag y byddai cwestiwn o flaen y Ty yn dal perthynas a'i wlad ceir na fydd ei ran ef yn ol o'i chyflawni. Rhoddwyd cymeradwyaeth gwresog i'w ddywed- iadau, a phan yn ymadael rhoddwyd diolch arbenig iddo ef a'i briod am ddyfod i'n plith. Fel y canlyn oedd y buddugwyr ar y gwahanol destynau:—Adrodd (i rai dan i6eg) Miss Getta Davies, City Rd. Atebion i'r cwestiynau ysgrythyrol i. D. Tysilian Jones, Boro' 2. E. L. Evans, Fal- mouth Rd. Cyfieithiadau, Cymraeg i'r Saesoneg, Mr. E. A. Mitchell, Gothic Hall; eto, Saesoneg i'r Gymraeg, Mr. John Jones. Penillion Y Lleidr edifeiriol ar y Groes," Mr. E. Jones, Kensington. Adroddiad (i rai mewn oed) Mr. Jenkins, Charing Cross Rd. Traethawd Syr Hugh Myddelton," Mr. James Owen, Wilton Square. 'Roedd y brif gys- tadleuaeth Gorawl yn dra dyddorol a phedwar cor wedi cymeryd y maes am y dorch. Aeth yr anrhydedd y tro hwn i gór Jewin, tra yr oedd cor y Wig (Barrets Grove a Stepney) yn ail. Ar derfyn y gweithrediadau cyhoeddodd Cadfan y cynhelir Eisteddfod gyffelyb eto ymhen un dydd a blwyddyn, yr elw i fyned tuag at yr achos Wesleyaidd Cymreig yn City Road. Hyderwn y bydd i'r nesaf fod mor llwyddiannus ar un eleni, ac y sicrha y pwyllgor wasanaeth Mr. Maengwyn Davies yn ysgrifenydd eto, oherwydd i'w ymdrech- ion diflino ef y mae yn ddiau y canlyniadau llew- yrchus i'w priodoli. MUSICAL. Although the standard of excellence at this gathering was not what one would wish, yet, judging from the large number of competitors, it must have been a very popular one with our young would-be singers. Mr. Rees had an arduous task of it to weed out the best in the preliminary contest, and again to follow the large number of parties that put in, an appearance at the Eisteddfod platform. He, how- ever, performed his work well, and to the satisfaction of all concerned and his remarks were well received and appreciated by the audience. One thing, how.