Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

RADNOR ST. CHELSEA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RADNOR ST. CHELSEA. Nos Sul diweddaf, darllenwyd cyfrifon yr Eglwys uchod am y flwyddyn ddiweddaf. A sylwi ar y report, gwelwn fod yr eglwys mewn sefyllfa pur lewyrchus, yn fwy felly nag ydyw wedi bod er's rhai blynydd- oedd. Y mae rhif yr aelodau a'u cymharu a'r flwy- ddyn flaenorol yn fwy o ryw 23ain, y mae hefyd yr holl gasgliadau wedi cynyddu, a derbyniadau yr eglwys yn fwy o dipyn nag oeddynt, a swm lied dda yn weddill ar ol talu yr oil o'r gofynion yr hyn sydd yn gysur a diddanwch i'r eglwys yn gyffredinol. Da genym ddweyd hefyd fod agwedd well ar yr oil o'r cyfarfodydd a chymeryd golwg gyffredinol, rhai o'r cymdeithasau wedi bod yn hynod o flodeuog yn enwedig Cymdeithas y Bobl Ieuainc. Peth arall sydd yn destyn diolch ydyw, na amddi- fadwyd yr eglwys o'r un o'i haelodau yn ystod y flwyddyn trwy farwolaeth, prawf amlwg o ofal Rhagluniaeth am dani. Nos Lun bu Mr. Lloyd George, A.S., yn anerch Cymdeithas y Bobl Ieuainc, ar y "Rhan a gwaith Cymru yn nigwyddiadau presenol yr oes." Cafwyd sylwadau rhagorol gan y boneddwr anrhydeddus mewn araeth o tua haner awr, oblegid yr oedd dan rwymau i fod yn Nhy y Cyffredin am naw o'r gloch i gynyg gwelliant oedd wedi rhoddi rhybudd o hono. Ar ol ei ymadawiad trwy fod amryw yn ddiweddar yn dod ac heb glywed Mr. George, trowyd yr ym- ddiddan at waith a lie Cymdeithas Cymru Fydd yn y cyfnod presenol. Agorwyd yn ffafr cymdeithas Cymru Fydd gan yr ysgrifenydd, a Mr. Humphreys cyfreithiwr, a'r Parch. Mr. Rees. Gwnaed sylwadau beirniadol a chondemniol hefyd mewn rhan gan Mr. P. W. Williams a Mr. W. Davies, J.P., ac eraill. Prydnawn Sabboth cafwyd rehearsal y gwahanol ysgolion er mwyn parotoi ar gyfer y Gymanfa Ganu Dydd Gwener y Groglith, daeth lliaws ynghyd ac arweiniwyd gan Mr. D. Jones, Commerical Road. Yn y gyfeillach pasiodd yr eglwys ar gynnygiad Mr. W. Davies, ac eiliad Mr. J. Williams, bender- fyniad o gydymdelmlad a Mrs. Morgan, gweddw Mr. O. V. Morgan, gynt A.S. dros Battersea, yr hwn a gladdwyd dydd Sadwrn diweddaf yn Kensal Green Cemetry, yr oedd Mr. Morgan yn frodor o Aberhonddu, ac yn Gymro gwladgarol, wedi codi ei hunan i safle uchel ac anrhydeddus, a phob amser yn hoffi gwneyd rhywbeth er dyrchafu ei wlad a'i genedl. Cafodd yr eglwys uchod lawer prawf o hyny oddiar ei law, rhoddodd anrheg o lyfrau tuag at sefydlu y Lyfrgell ynglyn a'r eglwys, dywedir am dano yn Battersea mewn cysylltiad a'i fasnach eang yno ei fod yn Model employer."—CADFANYDD.

SUSSEX ROAD, HOLLOWAY.

YMFUDIAD.