Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMDEITHAS LENYDDOL CHARING…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITHAS LENYDDOL CHARING CROSS ROAD. Nos Wener cyn y diweddaf fe ddarllenwyd papur gan Dr. Tomos Phillips ar Emynyddiaeth Gymreig, y bummed a'r olaf o'r gyfres ar Lenydd- iaeth Gymreig y ganrif hon a'r un flaenorol. Er fod y testyn hwn yn agosach at deimladau a chwaeth ein pobl ieuainc, ac er fod yr awdwr y mwyaf barddonol yn y gymdeithas hon, eto yr oedd y cynulliad, fel arfer, yn deneu iawn Yr oedd Llyfr Emynau yn nwylaw pob un oedd yn bresenol, ac felly yr oedd yn hawdd ac yn ddyddorol i ddilyn y papur, gan fod rhif yr emynau dan sylw i brofi adranau y pwnc, yn cael ei roddi. Cyfeiriai Dr. Phillips yn benaf at nodweddion emynau Williams Pantycelyn, gan eu cloriannu ag emynau Ann Griffiths, ac, ar y cyfan, yr oedd y fantol yn troi at yr olaf-er fod athroniaeth duwinyddiaeth Williams yn fwy dwfn fe allai, eto yr oedd barddoniaeth teimlad yn fwy amlwg yn emynau Ann Griffiths. Cyfeiriai at fawr- edd drych-feddyliau Williams, yn neillduol y benill lie dywedir fod yr hoelion oedd yn dal yr Iesu ar y groes, yn dal y nef gwmpasog yn ei le Cafwyd sylwadau amrywiol gan amryw o'r aelod- au. Cyfeiriai un at waith felldigedig cyfnewidwyr emynau, a'u bod y tu allan i dir maddeuant! Un arall a ddadleuai yn erbyn rhai o ddaliadau Dr. Pnillips yn ei syniadau am ddyn, a gwrthddrych addoliad. Dyfynai sylwadau o Robert Elsmere i brofi ei bwnc Rhanai un brawd y pwnc i dri chyfnod, gan nodi y cyfnodau, a dyfynai Eben Fardd fel emynwr. Un arall a gwynai at duedd Babyddol blaenoriaid yr eglwys yn Charing Cross Road Paham ? am eu bod yn cadw y gwaith o roddi allan yr emynau iddynt eu hunainl Beth am gyfarfodydd gweddio y bobl ieuainc ? onid ellir gymhwyso y wireb "Y meddyg, iacha dy hun 1" Cafwyd gan amryw o'r chwiorydd ieuainc i hysbysu yr emynau hoffaf gan- ddynt, a darllenent rhan o'r emyn. Cwynid fod Salmau Edmunt Prys yn cael eu hesgeuluso. Ateb- wyd eu bod mor angherddol eu hacen. Onid gwell fyddai canu Salmau per ganiedydd Israel ? Dar- llenir hwynt mae'n wir, ond trwsgl yw y drefn-os fe ellir ei alw yn drefn. Cwynid am fychander y cynulliad, ond nid oedd hyn yn deg i'r ffyddloniaid oedd yn bresenol. A'i ryw fath o daro'r post i'r pared glywed oedd y syniad, tybed ? Pwy wyr ?—■ DEIO.

ST. DAVID'S PADDINGTON GREEN.

[No title]

YMFUDIAD.