Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ABERYSTWYTH A'R BRIFYSGOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERYSTWYTH A'R BRIFYSGOL. Blin ydyw gan lawer o gefnogwyr Coleg Cenedlaethol y Cymry ganfod fod ysbryd tra Anghymreig wedi meddianu ei Gynghoryn ddiweddar, fel y maent bron am ymwrthcd a phrifysgol Cymru ac am roddi y flaenoriaeth i gwrs addysg Llundain. Wecfi ei sefydlu drwy aberth y werin, ac ar seiliau hollol Gymreig, i gyfarfod anghenion plant Cymru yn eu hargyfwng addysgol, mae'n resynus meddwl yn awr mai hi ydyw y fwyaf ystyfnig i ymuno a'r adran Gymreig, ac yn glynu hyd yr eithaf wrth Brifysgol Llundain, am yr unig reswm nas bydd mor ddeniadol i efrydwyr Seisnig pe cyfnewidir ei chwrs presenol. Pan wnaed appel am gymhorth arianol gwerin Cymru, dywedid mai i addysgu plant Cymru oedd ei phrif hamcan, ond yn awr, wele plant y Saeson yn cael y flaenoriaeth ar draul diraddio cyfrwng addysg ein cenedl. Hyderwn na fydd i'w llywiawdwyr, yn awr ein gobeithion, anghofio cysylltiad gwerin Cymru a Choleg Aberystwyth, ac y dangosant yr un ysbryd o haelioni tuag at ofynion y genedl acy gwnaeth y genedl tuag atynt hwy yn eu hargyfwng ychydig flynyddau yn ol.

GWNEYD CREFYDDAU.

Y PLA AIPHTAIDD.

Y DUC 0 YORK A'R CYMMRODORION.

PA LE MAE Y SABBOTH ?