Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD Y KELTIAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD Y KELTIAID. Nid cynt aeth y gair allan ein bod yn bwr- iadu helaethu y KELT nag y daeth y llu o ewyllysiwyr da yma i'n llongyfarch, yn cael eu canlyn gan y beirdd a'u canigan o glod, a'r llenorion a'u cynyrchion, yr oil am roddi pob calondid i'r papyr i gadw yn y blaen yn ei yrfa bwysig o gyduno gwasgaredigion y Cymry Llundeinig, ac i fod yn genad dyddor- ol o wythnos i wythnos i breswylwyr yr hen wlad ac i Gymry yn mha le bynag y bo'nt. Gorfu i ni i dalfyru amryw o'r cynyrchion, a gadael allan adranau dyddorol a fwriadem eu gosod ynddo; er hyny, caffed ein lluosog ohebwyr a darllenwyr amynedd a gwnawn ein goreu i ddwyn pob peth i'w drefn Parch. Elwyn Thomas. Bydd yn llawenydd i'n darllenwyr ddeall fod Mr. Thomas yn cono yn gynes am ei hen ffrindiau yn y brif ddinas, ac yn dangos ei ddyddordeb ynddynt drwy anfon ei gynyrchion i'r KELT. Philistine yn dioddef oddiwrth indigestion ar ol bod yn y ddau giniaw yn yr Holborn noswyl Dewi Sant, ac yn curo yn arw ar y rhai oeddent yno. Bydd rhaid i chwi anfon seithwyr cryfion i warchae y drws os cyhoeddwn hi. Llanbedr a'r cylchoedd. Ein gohebydd fEyddlon o wlad y Cardis wedi methu cael congl. 0 hyn allan ymdrechwn wneyd lie i'ch cynyrchion derbyniol. Llundain y gweithiwr. Yr ydym yn bwriadu cym- eryd i fynu gwestiynau o ddyddordeb i'n llafurwyr o bryd i bryd a cha eich ysgrif le yn y man. Beth yw mawredd ? Oherwydd nad ydym yn feirdd ein hateb ni yw-gwel y KELT! Ni ddaeth papyr mor fawr ag ef allan yn Llundain o'r blaen at wasan- aeth y Cymry. Deio Wyn. Fe fydd y KELT ar werth yn mhrif orsafoedd Cymru mor fuan ac y cwWheir y trefniadau, ac ymdrechwn i gael ddsbarthwyr yn mhob ardal drwy'r wlad. Po fwyaf y derbynwyr mwyaf dyddorol o lawer yr a y KELT. Bemfro, sydd braidd yn anghredu i'r Ffrancod dirio yn Abergwaun. Gofyna a oes hanes ar gael o'r am- gylchiad, ac os oes, ymha le ei ceir. Pa le mae Preselly yn awr ? Mae holl hanes Penfro ar flaenau ei fysedd ef. J. 0. S. Eich ysgrif yn disgwyl ei thro. D. L. E., Tom Jones, Homo, ac eraill. Wedi gorfod talfyru eich adroddiadau dyddorol. Dewch eto, yr ym am roddi rhan i chwi i gyd. Diolch. J. J. Davies. Gwnawn ddefnydd o'ch dernyn yn fuan. TV. Amcanwn i'r KELT fod yn ddwyieithiog, haner yn Saesoneg ac haner yn Gymraeg. Er hyny fe ddigwydd weithiau i'r cynyrchion fod yn unieithiog fel y darfu yn y rhifyn diweddaf. io

Barddoniaeth.

London Welsh Church Announcements.

I Forthcoming Events.

Advertising