Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODDI TYSTION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODDI TYSTION CYMREIG. Anhawdd dweyd beth fyddont effeithiau yr ymholiadau a wnaed gan y Ddirprwyaeth Dir Gymreig ar ffermwyr Cymru yn y blynydd- oedd nesaf yma, ond nis gellir, yn bresenol, lai na theimlo yn flin yn herwydd sefyllfa an- nymunol llawer o'r rhai a fuont mor onest a rhoddi eu tystiolaethau yn ddigel ger bron y Dirprwywyr pan ar eu hymweliadau a gwa- hanol drefi Cymreig. Gwnaed i fwyafrif y tystion i gredu fod y gyfraith yn ddigon eglur a chadarn i'w hamddiffyn rhag ymosodiadau y rhai a gondemnid gan eu tystiolaethau, ac y byddai y gwas yn ddiogel rhag digllonedd ei feistr, ac na fuasai un tirfeddianwr feiddio rhoddi rhybudd i unrhyw denant am siarad ei farn ger bron y bobl ddewisiedig hyn. Erbyn heddyw, beth bynag, y mae profiad llawer tyst yn hollol wahanol i'r hyn a feddyl- iodd y buasai; ac erlidiau a rhybuddion i ym- adael wedi dilyn ol y Ddirpwyaeth drwy holl Gymru, a'r addewidion o nodded wedi profi yn hollol ddifudd, os nad yn ddisail. Ymddengys fod y weinyddiaeth hon, fel yr un flaenorol, wedi penderfynu peidio gwneyd dim i amddiffyn y bobl hyn ydynt wedi dioddef mor annheg am wneuthur eu dyledswyddau fel deiliaid y Goron ac y gadewir hwynt i drugaredd eu huwchafiaid heb obaith am ym- wared o'r gorthrwm a'r erlidiau presenol. Yn sicr fe ddylasai ein Dirpwywyr fod yn fwy hyddysg yn y gyfraith, ac yn y nodded a allent i ymestyn i'r rhai a alwent ger bron a chredwn eu bod yn gyfrifol, drwy yr addewid- ion cyhoeddus a wnaethant, am edrych i fewn i'r cwynion presenol cyn rhoddi eu hadroddiad ger bron y cyhoedd.

DR. KUNO MEYER ON WELSH.

PA LE MAE Y SABBOTH ?

A CRITICISM OF CYMRU FYDD