Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EMYN Y GLOWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EMYN Y GLOWR. [Dedicated to the Welsh miners by the Rev. John Adams (C.M.), Ystradgynlais.] Trof at ymyl Dy orseddfa, Plygaf iti, Geidwad dyn Dan dy aden Di mae noddfa Bywyd brau y glowr blin. Dyro, Arglwydd, Dy amddiffyn Drosof yn y dyfnder du Pan yn disgyn, pan yn esgyn, Gwylia, dilyn, cadw fi. Pan fo'r drymaidd nen yn cwympo, Rho 'mi lechu yn Dy law Pan fo'r enbyd nwy yn fflimio 0 fy Nuw, bydd Di gerllaw. Bydd yn gymhorth, Arglwydd tirion, Bydd fy nharian, bydd fy nhwr; Dwg fi allan o beryglon Awyr, daear, tan, a dwr. Yn Dy law i ben Calfaria Dwg fi, Arglwydd, gyda hyn Rho i'm henaid y ddiangfa Brynodd Iesu ar y bryn Yma mawl a leinw'r nefoedd- Dy glodfori fydd fy ngwaith, Am fy nghodi o'r dyfnderoedd Oil yn iach i ben fy nhaith. JOHN ADAMS. Ystradgynlais.

THE ROYAL MALE VOICE TREORKYI…

A CRITICISM OF CYMRU FYDD