Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Precaid 'Wants-' 12 words; Once 6d. Three times 1/- 20 „ yi, Od. „ „ 1/3 28 „ „ t/- „ „ 1/6 Every additional 8 words 3d. WANTED a Lad, 14 to 16, in Provision Trade, to make himself generally useful. Welsh pre- ferred.-Appiy 87, Roman Road, Victoria Park, E. COMFORTABLE Bedro)ms, Furnished, Home \J from Home, board if required, (Welsh) near City, 84, Moreland Street, City Road. BED SITTING ROOM for one Gentleman or two Friends, home comfort (Welsh), 280, Bethnal Green Road. Ten minutes walk to the City. MILK. Man Wanted for Pram round, previous RJL experience preferred, live in. Apply 184, Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. pEDR EDWARDS, Mus. Bac. (Pedr Alaw), JL Beirniad Oerddorol ac Arweinydd Cymanfaol. ■'Pendennis,' Mansfield Road, Wanstead, Essex. PHILIP LEWIS, Solo Violinist, Foundation P Scholar Royal College of Music, London.- Address, 81, St. Augustine's Road, Camden Square, N.W. MR. T. VINCENT DA VIES, Professor of Music (Organist and Choir-master, St. Benet's), gives lessons at his or pupil's residence on the following ■subjects—Voice Production, Singing, Piano, Organ, Theory, Harmony and Composition. Pupils prepared for exam. Terms-Quarter of ten lessons, 30 minu- tes, jSl Is.; 45 minutes £1 11s. 6d.; 60 minutes, 22 2s.-Address, 5, Martineau Road, Highbury, N.
Family Notices
BU FARW. PHILLIPs-Yn 18, Broadway, London Fields, Tachwedd 27, William, anwyl faban Mr. a Mrs. Phillips, Provision Merchants. Claddwyd yn Llangwynyfon, ger Aberystwyth. BWYD THORLEY Cynydda a Chyfoethoga y Liaeth. Y mae bias hyfryd Bwyd Thorley yn achosi Buchod i fwynhau eu bwyd, yn fwy felly, nag mewn un modd arall, ac nid yw Buchod yn rhido eu llaeth yn rhwydd ond pan y maent yn esmwyth ac yn foddlon. Y mae llawer o'u perchenogion yn ymddwyn tuagatynt fel pe baent yn beirianau hunan-weithiol. Ond nis gellir gorfodi horganau tyner i weithio yn rheolaidd tra'n mynych wrthgilio yn erbyn lunrhywiaeth lluniaeth. Eto, y mae gan rai anifaeliaid lawer mwy o nerth treulio nag ereill, ac os gor-lwythir yr ystumog, ac y bydd yn llawn o nwy afiach, y mae yn .amharu yn ddifrifol a rhidiad y llaeth. Fe ellir rhwystro hyn trwy ddefnyddio Bwyd Thorley yr hyn lleiaf, fe ganfyddir mai hon yw y ffordd hawddaf i gadw Buchod llaeth bob amser mewn cyflwr perffaith o ran iechyd. Dylai y rhai sy'n cadw buchod roddi Packet neu Measure i bob Buwch ddwywaith y dydd. Ac fe synir hwynt gan y canlyniadau, yn y mesur, yn ogystal a chyfoeth y llaeth; ac yn iechyd perffaith y buchod. JOSEPH THORLEY, Ltd. KING'S CROSS, LONDON. 1. PRELIMINARY ANNOUNCEMENT. Mr. Bryceson Treharne's FIRST ANNUAL CONCERT AT NEW JEWIN CHAPEL, ON Thursday Evening, February 16, 1899 Further particulars shortly. CELT NADOLIG YR Wythnos Nesaf., Ysgrifau gan lu o wyr enwog COFIBR EI SICRHAU. PRIS CEfNIOG.
PWY A'N HARWAIN?
PWY A'N HARWAIN? Ddwy flynedd yn ol, pan ymddiswyddodd Rosebery, dywedasom ei fod wedi gwneyd yn iawn. Efe a bwyswyd yn y glorian ac a gaf- wyd yn brin. Heddyw, tro Syr William Harccurt yw hi, a dywedwn eto ei fod yntau wedi gwneyd yn iawn. Nid am ei fod wedi ei bwyso a'i gael yn brin, serch hyny, ond am mai dyna yr unig ffordd y gall gadw ei hunan- barch ac edmygedd ei lu canlynwyr a chared- igion. Gadewch i ni graffu yn fanwl ar ei lythyr, a gwneyd ein goreu i dynu'r casgliadau iawn, mewn tymher dda a chyda gweledigaeth glir, os yw hyny'n bosibl. o o o Beth, ynte, barodd i Syr William ymddi- swyddo ? Credwn y ceir yr ateb yn y geiriau "personal proscription." Dyma'r frawddeg ar ei hyd "If personal proscriptions have been insisted upon as a, ground for refusal of common action in the general cause, they have not proceeded from me. In my opinion such pretentions are intolerable." Yn awr, beth yw ystyr y geiriau uchod ? At beth y cyfeiria eu hawdwr? Amlwg mai cyfeirio a wnel at Arglwydd Rosebery, a phes ysgrifenasid y gwir noeth, dyma fel y rhedai y geiriau- Yr wyf fi yn foddlon gweithio gyda phob Rhyddfrydwr dros yr achos da. Ond gwrthoda Rosebery gyd-weithio A, fi. Mae ei gyfeillion- rhai yn eistedd wrth fy ochr yn Nhy'r Cyffredin-yn gweu dichellion i'm herbyn. Gofynir i mi arwain drwy'r anialwch, ond pan ddaw'r Iorddonen i'r golwg, cymer Rosebery fy lie, a dywed ef yn groyw na chaf fi brofi o ffrwyth fy llafur. O'r goreu, ynte os efe sydd i oresgyn Gwlad yr Addewid, dioddefed hefyd bwys a. gwres y dydd yn y dilfaethwch. 000 Tro cyfrwysgall o eiddo Harcourt, a hai Iwc iddo, meddwn ni! Nid oes gan y Rhyddfryd- wyr 'nawr, gan hyny, yr un fath o arweinydd. 'Does dim eisieu "arweinydd cyffredmol" ¡ arnom, ond nis gallwn fyw dros dymhor Sen- eddol heb arweinydd yn Nhy'r Cyffredin. Mae Harcourt wedi ymddiswyddo. Pwy a gymer ei le ? Asquith ?—Dyn cadarn, hir- ben, synwyrol ydyw efe,ond-mae yn enill £ 6ooo y flwyddyn wrth ei alwedigaeth, ac nid yw yn ddyn cyfoethog. Mae ganddo wraig ieuanc, brydferth, sy'n hoff o "gymdeithas" a gwisgoedd symudliw. Pa fodd y gall fforddio rhoddi i fyny ei enillion er mwyn bod yn ar- weinydd plaid heb dal na gwobr am flwyddyn? Ac os yw Asquith yn rhywbeth, mae yn wr pwyllog, heb fod yn or-hoff o anturiaethau peryglus. Heblaw hyny, nis gall neb fod yn arweinydd yn y Ty heb feddu ymddiriedaeth lwyraf y Parti. A oes neb sy'n gwybod ihyw- beth am y Ty yn credu fod Asquith yn fwy poblogaidd na Harcourt ? Nis gallwn goelio'r fath beth, er cymaint ein hedmygedd o allu- oedd Asquith. 000 Campbell Bannerman? Dyn tawel, diog, cysglyd, yn hoff o'i hamdden, yn gas ganddo frysio a therfysgu, yn oludog iawn ac heb uchelgais ysol. Dair blynedd yn ol enynai fod yn Llefarvddy Ty, a 'does ddadl yn y byd na fuasai wedi gwneyd Llefarydd ardderchog. Ond nid dyma'r stwff i wneyd arweinydd plaid o hono ? Pwy ynte ? Fowler ? Anghyd- ffurfiwr,-ond y mae yn rhy barod i enill gwenau a chanmoliaeth y Toriaid. Nid yw yn ymladdwr. Mae yn byw gerllaw Birming- ham, ond nid yw erioed wedi cynhal cyfarfod yno, ac mae wedi gofalu bob amser rhag digio Chamberlain. Ac nid yw'r Undebwyr wedi ei wrthwynebu yntau yn Wolverhampton. Dyn parchus ddigon,-ond nid dyma'r gwr chwaith, all arwain byddinoedd Rhyddfrydiaeth ym- sodol i'r rheng. 000 Grey ? Rhy ieuanc, rhy ddi-brofiad, rhy ddigyffro. Chwerthinllyd yw meddwl am Harcourt a Morley—heb siarad am y Heill -yn dilyn glas-grwt fel Grey. Morley ? Ond mae ef yn ddiwyd ysgrifenu cofiant Mr. Glad- stone, ac yn rhy ffyddlon i Harcourt i'w ddi- sodli. Beth ynte ? Os nad Morley, na Grey, na Bannerman, nac Asquith, pwy fydd ein harweinydd ? Nid oes neb ond Harcourt. Daw'r hen wron yn ol wedi cael adgyfnerth- iad mawr. Rhaid fydd i'r aelodau Rhydd- frydig ei ethol, ac ar ol iddynt wneyd hyny, nis gall Rosebery na neb arall wrthod cyd- weithio ag ef,-ond ar un telerau, sef, drwy ymwadu yn gyfangwbl a'r blaid Ryddfrydol. 000 Nis gwyddom beth yw syniadau Rcsebery yn hyn o beth. Ond hyn a wyddom Daeth allan ddwy flynedd yn ol i wrthwynebu'r Hen Wron o Benarlag, i amddiffyn y Twrc, ac i alw ar y wlad i aros yn llonydd gan weled gwaed gwirion yn cael ei dywallt yn Armenia a Creta. Gwyddom na ddywedodd air yn gyhoeddus, ond yn y Gimcrack Club-clwb rasys ceffylau-am ysbaid dwy flynedd, ac iddo dori ar y distawrwydd y dydd o'r blaen i helpu Arglwydd Salisbury. Gwyddom fod y Times a'r Daity Mail yn credu mwy ynddo nag a wnant yn Salisbury, eu bod yn ymhyfrydu yn ei ddychweliad i arweinyddiaeth y blaid. Gwyddom ei fod yn llawer mwy poblogaidd ym mysg y Toriaid nag a fu erioed ymhlith y Rhyddfrydwyr, a gwyddom i'w enw, y dydd o'r blaen, pan y crybwyllodd Balfour son am dano, enyn cymaint o frwdfrydedd yng Nghynghrair y Toriaid ym Mryste a phe bai yn Dori ei hun Pan welwn Harcourt yn cael ei enllibio a'i gernodio gan y Toriaid, tra y pesgir ac y canmolir Rosebery ar bob adeg ac achlysur, pan welwn Morley-cyfaill Glad- stone, a Mill a Chobden-yn sefyll yn ddiysgog wrth ochr Harcourt, pan y cofiwn am wasan- aeth godidog yr Hen Wron am chwarter canrif ac yn enwedig am ei Budget yn 1894, pan y meddyliwn am ysbryd boneddigaidd a hunan- ymwadol a ddangosodd pan wnawd Rosebery yn Brif Weinidog, balch yw genym feddwl fod Harcourt yn sefyll yn uwch yn meddwl a theimlad y Rhyddfrydwyr nag un o'i gyf- oedion.