Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

GWAWR HEDDWCH.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynhelir gwasanaeth coffadwriaethol ar ol y diweddar Cecil Rhodes yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar y iofed o Ebrill. Dim ond dynion mawr, wrth gwrs, a goffheir, yn yr adeilad mawr hwn, a diau y ceisir dyweyd na chaed neb erioed fel y gwr hwn. Yr unig fawredd a gydnr: byddir yn yr oes hon ydyw mawredd arianol a gallu y boced. Yn nghanol bryniau caregog ardal Bulu- wayo, yn Affrica, y cleddir gweddillion Cecil Rhodes. Y mae wedi gorchymyn hyny yn ei ewyllys, meddir; a diau y codir beddfaen mawr i nodi y fan i'r oesau a ddel. Mae'n eglur fod yr aelodau Seneddol wedi hen flino ar siarad, oherwydd ni chaed ond nifer fechan iawn o areithiau gwleidyddol yn ystod gwyliau y Pasg. Hwyrach mai cadw yr ystor y maent hyd nes y cyferfydd y Ty eto, ac y ceir eu clywed yn dadleu yn groyw pan ddel Bil Addysg ger bron. Gyda llaw, mae cryn feirniadu ar y Mesur hwn drwy yr holl wlad. Parhau mae rhyfel y 'baco, ac y mae pobl yr America yn cynyg telerau rhagorol i'r man werthwyr yn y wlad hon. Os cedwir ymlaen fel hyn, fe aiff pob gwerthwr myglys mor gyfoethog a Carnegie yn y man. Gyda llaw, i ba gwmni y perthyn 'baco Amlwch ? Bu trychineb alaethus yn y Sianel foreu dydd Mawrth diweddaf. Fel yr oedd yr "express boat" yn croesi drosodd i Ffrainc gyda llwyth o deithwyr aeth y cwch ar draws Hong hwyliau o Lerpwl, Y Cambrian Princess," gan ei tharo yn ei hochr gyda'r fath nerth nes y suddodd yn mhen pedair mynud. Boddwyd unaradeg o'r dwylaw, ac achubwyd yr unarddeg ereill. Brodor o Bwll- heli yw y cadben, ac yr oedd nifer o Gymry ereill ar y bwrdd, a bu dau neu dri o bonynt foddi. Digwyddodd anffawd arall i'n milwyr yn y Transvaal yr wytanos ddiweddaf, y tro hwn y gerbydres a redodd ar wyllt ac aeth dros y rheiliau, gan beri galanas mawr. Yn y tren 'roedd ugeiniau o filwyr. Lladdwyd deugain o honynt ar amrantiad, ac anafwyd 45 ereill yn dost iawn. Mae'n debyg eu bad yn myned i lawr ar oriwaered ac i'r gyriedydd golli pob rheolaeth ar y peiriant.

!SALMYDDIAETH YR ALMAEN.