Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y tant prudd a darewir gan Gymru'r Plant am y mis hwn, oherwydd ceir ynddo nifer anarferol o hanesion am blant wedi marw. Y mae blodau yn syrthio yn mhob gardd, ac er mor chwith yw eu gweled ar lawr, ni ddylai hyny ain gwneyd i anghofio y prydferthion sydd yn aros. Mae bywyd yn hardd, a dylid dysgu ein plant i edrych mwy ar yr hardd a'r prydferth a'r lion; ac os rhodder ambell i esiampl o'u blaenau, wel, gosoder y siriol a'r tlws, ac nid y prudd-der a'r cystuddiol. Gwna rhifyn fel hwn ein plant yn hen ddynion. Gesyd y bardd, Watcyn Wyn, ei gan new- ydd i Dywysog Cymru yn y rhifyn presenol o'r Diwygiwr; ond nid ydym wedi clywed eto ei ,od wedi cael y teitl o Syr. Beth bynag, mae'r cylchgrawn hwn a olygir ganddo yn parhau yn ddarllenadwy, ac mae'r nofel new- ydd o'i eiddo ef ac Elwyn yn addaw yn dda iawn. Beth mae Cymry Llundain yn fwriadu wneyd ar ddyddiau y coroni ? Hyd yn hyn, nid oes dim wedi ei dref iu, a diau y bydd pawb yn rhedeg ar ol oferedd Sion Bull y ddeuddydd y ceuir pob masnachdy. Ai nid oes modd cael Eisteddfod Gymreig ar y 27ain -beth ddywed Undeb y Cymdeithasau Diw- ylliadol? Os na chymerant hwy at y gwaith rhaid i wyr y CELT ofalu am ddathliad Cym- reig priodol.
CHWAREUON CWSG.
CHWAREUON CWSG. Hndolus freuddwydiais, a gwelais fy mun, Mewn gwisg 0 liw gole'r ffurfafen Ynghanol yr eira chwareuai ei hun, Mor dirion a disglaer golomen. Symudai fel augel yn gref ar ei throed, A'i gwyneb fel haul yn tywynu: A'i chan mor naturiol a charol y coed, Pa ryfedd fod bardd yn ei charu ? Diflanodd yr eira o'r golwg i gyd, Aeth hithau f'anwylyd i rywle, j A bellach mae nghalon yn diolch 0 hyd Am freuddwyd mor lan ac mor ole. Llansannan. TREBOR ALED.
Advertising
The Welsh Presbyterian Chnrch, Romford Road, Stratford. A GRAND MUSICAL EISTEDDFOD Will be held at the above Chapel, On Thursday Evening, May 1, 1902 COMMENCING AT 7.30 P.M. Iggr A MOST ATTRACTIVE PROGRAMME UNUSUALLY LIBERAL MONEY PRIZES WILL BE GIVEN. CONDITIONS AGREEABLE FOR ALL. All particulars from the Chapel Keepers at the various Welsh Chapels, or direct by enclosing stamped envelope from the General Secretary- D. RICHA.RDS, 31a, Maryland Park, Stratford, If.
!SALMYDDIAETH YR ALMAEN.
roddaf ychydig o eglurhad ar gynwys y llyfr- -yn o emynau a barotoais er eich cynyrthwyo i ddilyn a deall ein gweithrediadau yn well, os nad hefyd i'w mwynhau a'u gwerthfawrogi. 'Yn niffyg cyfieithiadau Cymreig o'r emynau Ellmynig hyn, fe orfu imi fabwysiadu rhai Seisnig, gan mwyaf o waith awdures enwog y < £ Lyra Germanica a llyfrau eraill, sef Miss 'Catherine Winkworth. I dair o'r tonau a -ddewiswyd genyf i'w canu, pa fodd bynag, nid oedd na chyfierthiadau Seisnig na Chymreig" i'w cael nes y darfu i'm hen gyfaill, y diwedd- ,ar Barch. Owen Jones, y pryd hwnw o Lerpwl, yn dra charedig, ar fy nghais, ymgymeryd a'r gfwaith o droi eu hemynau priod i'r Gym- raeg. Uwchben yr emynau yr ydys wedi gosod teitlau y tonau y bwriedir eu canu arnynt. Adwaenir ton yn yr Almaen wrth linell flaenaf yr emyn a pha un y'i cysylltwyd hi ar y cyn- taf ac er i fri llawer ton beri i feirdd ysgrif- .enu emynau newydd ar ei chyfer, fe barheid i'w hadnabod wrth ei theitl cyntefig. Mi a iynais wrth yr arferiad hon ymron yn ddieithr- aad er dewis o honof ddau o emynau a ys- grifenwyd i'r tonau wedi iddynt fyned yn bob- logaidd. Teimlais gryn anhawsder i ddewis 'tonau i fod yn engreifftiau o Salmyddiaeth Ellmynig gan faint y doraeth o ddefnyddiau oedd wrth fy ngalwad. Bu raid imi, yn an- ewyllysgar iawn, wrthod lie i lawer ton gym- eradwy; ond hyderaf fod y detholiad yn cyn- rychioli yn lied deg y dosbarth o donau y ceisir ei ddarlunio. Yr hyn yr ymgyrhaeddwn ato ydoedd amrywiaeth yn nodwedd ac ar- ,ddull y gerddoriaeth yn y mydrau ac yn arbenig yn y cynghaneddiadau- Gwnaethum <ddefnydd o rai o drefniadau meistrolgar Bach a Mendelssohn, at y rhai y cyfeirir eto yn eu iro. I gyfranu yr amrywiaeth a nodwyd i'n gweithrediadau ar yr achlysur hwn, yn hytrach \nag i'w cymhell i sylw cynulleidfaoedd y mab- wysiedais y rhai hyn. Yn wir, nid amcanwyd hwynt ar y dechreu i'w harfer yn gynulleid- faol, ond gan gorau dysgybledig a galluog. Y mae yr un tonau i'w cael mewn diwyg mwy syml a chyfaddas ar gyfer yr addoliad cy- tioeddus. Pwysig ydyw ini ddeall fod yr Ellmyn yn bur wahanol i ni yn eu dull o ganu mawl. Yn mlaenaf, y maent hwy yn canu yn llawer arafach na ni; yn ail, hwy a orphwysant ar y siodyn olaf yn mhob llinell; a rhwng y gor- phwysiad hwn a'r nodyn blaenaf yn y Ilinell ddiiynol fe chwery'r organydd ychydig 0 g"ordiau a elwir yn interlude, yn drydydd, cenir yr alaw yn unsain gan yr holl gynulleidfa, tra y cyflenwir y gynghanedd gan yr organ, yn .cael ei chynorthwyo weithiau gan gor. Fe welir mai un o gyfieithiadau y Parch Owen -Jones, y cyfeiriwyd atynt eisoes, ydyw yr eil- fed-emyn-ar-bymtheg. Pan ddarllenais bapyr ar y testyn hwn 16 mlynedd yn ol yn Sea- combe, swydd Gaerlleon, un o'r rhai cyntaf a welwn o'm blaen oedd y gwr da ac anwyl Siwnw, a weinidogaethai ar y pryd yn Chatham Street, Lerpwl, ac a ddaethai gryn bellder o -fiordd i'r cyfarfod a phrudd-dyner bellach yw yr adgof am yr amgylchiad hwnw, pan ieddyhwyf am fy nghyfaill a'm cydweithiwr ymadawedig. Yr oedd Mr. Jones yn gerddor ,ac yn fardd, ac efe a ganodd yn dda ac yn felus i'w Arglwydd tra yma ar y ddaear ond erbyn heddyw llawer perffeithiach yw ei gan, oherwydd y mae efe bellach, a defnyddio ei >elnau ef ei hun, wrth ddesgrifio'r Cristion, yn yr emyn yr ydym ar fedr ei ganu, yn Cael gweled Iesu fel y mae Yr etifeddiaeth wedi dod i'w feddiant ,Cartrefu gyda'r Arglwydd uwch pcb gwae, A chael i'w ran dragwyddol bwys gogoniant; Yntau yn sanctaidd, dysglaer, hardd ei lun Fel Duw Ei Hun. Mi a gymeraf fantais oddiwrth gymwynas Jones yn cyfieithu emynau o'r Ellmynaeg I*11' i gyff wrdd a mater tra theilwng o ystyr- aaeth, sef tylodi emynol Cymru yn yr oes hon. j Pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am brinder presenol emynwyr ac emynau ? Cam â'n beirdd a fyddai awgrymu fod ysgrifenu hym- nau yn orchwyl rhy ddistadl yn eu golwg; neu, ynte, eu bod yn ystyried nad oes eisieu chwan- egu at yr hyn sydd genym. Ond pa beth bynag a all fod y rheswm, da fyddai gallu eu cyffroi i weithgarwch adnewyddol yn y cyfeir- iad yma. Efallai mai llwybr effeithiol a fyddai i'n cerddorion eu cymell i ysgrifenu mewn mesurau sydd hyd yn hyn yn ddieithr i ni yn Nghymru. Yn yr Almaen, ac yn wir yn Lloegr hefyd, y mae llawer mwy o amryw- iaeth mesurau nag yn Nghymru; ac am hyny y mae Salmyddiaeth y ddwy wlad hono yn llai undonog. Nis gallai ein beirdd duwiol- frydig wasanaethu eu crefydd a'u gwlad yn well ar hyn o bryd na thrwy gyfieithu, neu, o'r hyn lleiaf, efelychu, emynau ardderchog yr Almaenwyr. 0 ddiffyg hymnau ar lawer o fesurau neillduol iddynt hwy, y mae tonau goreu Siermani yn eu dull cynhenid allan o'n cyrhaedd ni. Nid digonol fu yr ystyriaeth hon, fodd bynag, i atal rhai o'n cerddorion rhag ymyryd a hafen y coralau, fel y dengys eu ton-lyfrau. Bu y difrodwyr hyn wrthi yn ddyfal yn eu "cyfaddasu" i'n mesurau tra gwahanol ni; ac y mae y tocio, y darnio, yr anrheithio a'r dieneidio yn ngolwg cerddorion llednais yn fath o greulonderau Bwlgaraidd' cerddorol, neu angherddorol yn hytrach, ag a barant anfri i'w henwau tra y byddo coffa am danynt. Yr hyn a chwanega at faint eu hysgelerder ydyw y broffes uchel a wneir ganddynt o barch a hoffder tuagat wrthrychau eu hanfadwaith tra yr ysgydwant eu twcaon uwch eu penau. Ac ychwaneg na hyny, dyma rai o'r gwyr na fynent er dim i neb newid sill o'r emynau Cymreig, hyd yn nod pan y g-or- fyddid iddynt fod ynddynt feiau amlwg a gwrthun. Yr hyn a'n tery ar unwaith yn ein hesiamplau nesaf ydyw eu hynodrwydd mesurol. Mor ddieithr ydynt yn yr ystyr hon i lygaid Cymro, fel, ar yr olwg gyntaf, y parant i rai o honoch, fe ddichon, gymysgedd o syndod a difyrwch. Ond credu yr wyf fi ein bod ni fel y Saeson yn rhy dueddol i ddiystyru yr hyn na byddom wedi hir gynefino ag ef. Ein dyledswydd ydyw ymgydnabyddu a gwahanol ffurfiau o fyneg- iad mewn barddoniaeth a cherddoriaeth ym- gymodi yn rhwyddach a hwynt; ac ymrydd- hau oddiwrth syniadau cyfyng o'r natur yma. Ar yr un pryd ymogelwn, wrth geisio osgoi y culni a'r yspryd ceidwadol hwn, rhag rhuthro yn fyrbwyll i'r eithaf arall trwy dderbyn a chofleidio pob newydd-deb a ddygir i'n sylw yn unig am ei fod yn newydd. » Alaw o waith un Andreas Hammerschmidt ydyw yr unfed-coral-ar-ddeg, wedi ei chyng- haneddu gyda medr dihafal gan Bach. Gwnaeth y cerddor mawr rai newidiadau yn yr alaw hon yn gystal ag ereill yn ein dethol- iad. Ond dynered a chywreinied y cyffyrdd- iadau hyn! Nid ydyw Bach byth yn newid cyn gymaint a nodyn na bydd o trwy hyny yn enill naill er mwyn ystwythder alawol neu mewn effeithiolrwydd cynghaneddol, neu ynte yn y ddau ynghyd. Yr ydys eisoes wedi cy- feirio at ei amcan wrth gynghaneddu y Cor- alau. Fel hyn yr ysgrifena golygydd argraffiad cyflawn o'i drefniadau:—"Nid ysgrifenodd Bach mo'r gorchest-weithiau bychain hyn i gael eu harfer yn gynulleidfaol. Ni ddarfu iddo erioed ddymuno iddynt gael eu hargraffu o gwbl. Efe a'u hysgrifenodd o dro i dro, mewn rhan i'r rhai a addysgid ganddo mewn cyfansoddi, fel esiamplau a chynlluniau iddynt; mewn rhan i gor Eglwys St. Thomas, yn Leipzig, i'w canu ar achlysuron anghyhoedd mewn rhan fel cerddoriaeth gyfyngol (inter- val music) yn ei gantawdau. Ymhell ar ol ei farwolaeth y cyhoeddwyd hwynt gan ei fab- Emanuel Bach." Wrth ystyried hyn 011, y rhyfeddod ydyw ddarfod iddo lynu mor fanwl wrth yr alawon fel y'u cenid yn nghynulleidfaoedd yr Almaen. Os ydyw meistrolaeth y dyn mawr hwn ar adnoddau diderfyn cynghanedd yn dyfod i'r amlwg yng ngodidogrwydd ei waith yn trefnu i wahanol leisiau, yn ddilys y mae ei dduwiol- frydedd yn cael ei ddatguddio yr un mor eglur yn y modd tyner a pharchus yn yr hwn y mae efe yn trin alawon y cysegr.