Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

METHODISTIAID CALFINAiOD LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

METHODISTIAID CALFINAiOD LLUNDAIN. CYMANFA Y PASG. Yn nyddiau'r Pasg y cynhelir uchelwyl yr enwad hwn yn Llundain. Dyma'r adeg y cymerir cipdren ar yr hyn a fu, ac y sugnir ysbrydiaeth o'r newydd i gyfarfod gwaith y dyfodol. Y mae Seiat flynyddol Gwener y Groglith yn hen sefydliad, ac er yn hen y mae yn parhau mor ieuanc a hoyw ag erioed. Yn ol yr adroddiad manwl a gyflwynwyd i'r cyhoedd ar ddechreu y gymanfa eleni, gwelir yn eglur fod cylch Cwrdd Misol Llundain yn g-ylch pwysig ac yn cynwys maes gweithgar —eglwysi bywiog, a sel canmoladwy yn mhob adran tuagat hyrwyddo cenhadaeth y Cyfun- undeb ymysg Cymry gwasgarog y ddinas a'r cylchoedd. Dyma rai o'r ffigyrau i ddangos sefyllfa y Cyfundeb ar derfyn y flwyddyn 1901 Capelau a lleoedd pregethu. 16 Canghenau Ysgolion 14 Gweinidogion 10 Pregethwyr 8 Blaenoriaid 95 Aelodau cyflawn 4005 Ar brawf 30 Plant 931 Gwrandawyr 5551 Y mae gwerth yr eiddo sydd o dan y Cyf- undeb yn Llundain yn E97,450, ac nid oes ond prin haner y swm hyny o ddyled ar yr eglwysi, a phrawf hyny fod yma weithgarwch diflino wedi bod yn ddiweddar, oherwydd y mae nifer luosog o eglwysi wedi eu hadnew- yddu a'u hadeiladu o fewn yr ugain mlynedd a aeth heibio. Nid yw'r cynydd y flwyddyn ddiweddaf wedi bod i fyny a'r blynyddoedd cynt, ond y mae hyny i'w briodoli i nifer o achosion. Yn y lie cyntaf, nid blwyddyn lewyrchus ydyw hi wedi bod i newydd-ddyfodiaid, tra, ar yr ochr arall, fe ymadawodd nifer luosog o weithwyr i'r wlad ac i drefi mwy prysur yn Nghymru. Y Mae nifer o'r eglwysi hefyd heb fugeiliaid, a chyfrifa hyny am lawer o'r diffyg, oherwydd nid eglwysi i fod heb fugeiliaid arnynt yn hir yw eglwysi Cymreig Llundain, ac ofnwn mai un o'n gwendidau fel cenedl yw y diffyg yma o lanw bylchau yn rhengoedd ein harweinwyr yn brydlon ac yn ddi-gweryl. Ar hyn o bryd y Mae tair o'r eglwysi mwyaf canol a bywiog heb fugeiliaid arnynt, a hyderwn eu gwelir oil yn llawn cyn adeg Cymanfa y Pasg nesaf. Y mae Cwrdd Misol Llundain wedi syl- weddoli un o anhawsterau penaf y Cymro dinesig, sef yr anhawsterau i fyned i bellter ffordd i addoli mewn capel Cymraeg. Ac er iddynt foddloni yn y blynyddoedd gynt ar nifer fechan o addoldai canolog, y mae yn eglur erbyn heddyw fod yn rhaid myned a'r manau addoli yn nes at breswylfeydd yr ael- odau. Y canlyniad yw fod Ysgolion Sabothol ac addoldai newyddion yn cael eu sefydlu a'u hagor o hyd, er mantais i grefyddwyr Cym- reig ac er lledaeniad a lies i'r Cyfundeb ei hun. Bellach, y mae ganddynt gapelau hardd yn mhob cyfeiriad o'r ddinas-nifer o honynt yn addoldai costus, a dengys y cyfan fod gan- ddynt ffydd gref yn eu cenhadaeth ac ym- ddiriedaeth mawr yn nheyrngarwch yr aelodau sydd yn glynu mor rhagorol wrth y capel Cymreig." Yr oedd y cyfraniadau yn ystod y flwyddyn yn £8456 o bunau, sef cyfartaledd o 30S 5c ar gyfer pob gwrandawr, ac os parheir yn yr un ysbryd haelfrydig ni fydd lie gan yr ar- weinwyr i gwyno fod yr enwad yn colli tir. Ar yr un pryd y mae yma fwy o ysbryd haelioni wedi ei brofi yn ein mysg, ond diau fod gof- ynion y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn eithriadol a phob achos dyngarol o'r herwydd yn gorfod dioddef fel ag y gwelir bob amser. Wrth wneyd sylwadau ar ystadegau y Cwrdd Misol ar ddechreu y gymanfa foreu Gwener y Groglith yn Jewin, sylwai y Parch. Ellis James Jones ar y cynydd dirfawr oedd wedi cymeryd lie oddiar ddechreu 1^84, pryd yr oedd efe yn weinidog yn y cylch. Y pryd hyny nid oedd yma ond dau weinidog, tri o bregethwyr, a dim ond 33 o naenoriaid a rhifai y Cwrdd Misol rhyw 38 o aelodau. Ond erbyn heddyw gwelir fod y nifer wedi lluosogi i no, sef mwy na thair gwaith y rhif. O'r nifer oeddent aelodau yn 1883-4 nid oes heddyw yn aros ond naw, yr hyn a ddangosai yn eglur y fath gyfnewidiadau sydd yn cym- eryd lie yn barhaus yn y Brifddinas. Yr adeg hono yr oedd saith o eglwysi yma, sef Jewin, Nassau, Wilton Square, Crosby Row, Shirland Road, Sussex Road, a Poplar; ond y mae'r saith hyny bellach wedi cynyddu i 16, tra y mae'r aelodau wedi cynyddu o 1846 i 4005. Mae'r swm a gasglwyd hefyd yn ardderchog, sef dros wyth mil o bunau gan Gymry ieuainc y ddinas, a beth pe'r ychwanegid at hyn y symiau y mae'n gostio i bob addolwr i deithio i gapel Cymraeg, yn sicr buasai y swm yn anrhydeddus I Er hyny y mae genym ein peryglon neill- duol-peryglon gwahanol i eglwysi cyffredin yn Nghymru; a chan fod yma beryglon neillduol y mae cyfleusterau neillduol hefyd. Un o beryglon Cymry Llundain yw myned i ymfoddloni ar oedfeuon nos Sul yn unig. Fe wn i am yr anhawsderau, ond un o'r cyfleus- derau penaf yw dal i fyny y safon Gymreig o foesoldeb-ymarfer a chrefydd yn y ffurfiau a'r dulliau oeddent wedi ymarfer a hwy yn yr hen wlad. Os oes yma newydd-ddyfodiaid, cofiwch mai fel Cymry y medr Cymro gref- ydda-fel y mae wedi arfer crefydda yn Nghymru y medr eto grefydda yn Llundain, ac nid ceisio efelychu pobl ereill. Cyfleustra arall sydd yma-a chyfleustra yw hwnw i gyflawni un o'r damhegion prydferthaf yn hanes y Gwaredwr, sef Dameg y Samaritan trugarog. Benau teuluoedd sydd a thai a chartrefi clyd a chynes genych, cofiwch am ddynion ieuainc dibrofiad y lie, ac "wrth gadw eich drysau yn agored a dangos iddynt gar- edigrwydd, fe fydd yn help anrhaethol iddynt ar daith drwy y byd.. LLE YR ATHRAWIAETHOL MEWN CREFYDD." Dyna oedd mater yr ymdrafodaeth a gaed yn y Seiat Gyffredinol eleni. Llywyddwyd gan y Parch. J. Wilson Roberts, a bu nifer o wyr blaenaf y Corff yn traethu eu barn ar y pwnc. Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, a ddy- wedai ei bod yn ffasiwn gan lawer o amheu- wyr a haner amheuwyr i ganmol y moesol mewn crefydd yn y dyddiau hyn. Canmol moesoldeb yr Efengyl er mwyn ymosod ar yr athrawiaethol. Pe cai'r bobl hyn eu ffordd fe gai'r Ymgnawdoliad fyn'd o'r neilldu a'r lawn ar ei ol, fe gollid aberth Crist, ac ni fyddai dim ar ol ond ychydig o reolau sychion. Y mae moesoldeb yr Efengyl ac athrawiaethau yr Efengyl mor gysylltiol a'u gilydd fel nas gellir eu gwahanu; ac nis gellir ymosod ar y naill heb niweidio y llall. Dywed un dosbarth wrthym am daflu Paul dros y bwrdd a dod yn ol at Grist; ond y mae hyn i'w ddyweyd, vr oedd Crist ei hunan yn hen athrawiaethwr. Efe oedd yr athrawiaethwr mwyaf a welodd y byd erioed, ac y mae pob athrawiaeth i'w chael yn nysgeidiaeth Crist ei hun. Yr oedd Efe yn athrawiaethu; yr oedd ein Tadau yn athrawiaethu hefyd, a nodweddid pregethau Howell Harris, Daniel Rowlands, ac ereill, ag athrawiaethau. A thrwy eu hathraw- iaethau hwynt y trawsnewidiwyd Cymru. Rhaid cael y cymhelliadau i fyw ein dyled- swyddau o'r gwirionedd ei hun. Y pwnc yw byw bywyd glan a phur, ac o ba le y ceir lever i godi dyn i fyw y bywyd nerthol yma ond o wirioneddau mawr Iesu Grist. Mynwry grefyd a'i llond hi o wirionedd, oherwydd y mae ein gwyneb ni ar fyd lie nas ceir ynddo- ond y gwirionedd a'r pur. Parch. T. Gwynedd Roberts, Conwy. a, gredai fod perthynas agos rhwng yr athraw- iaethol a chryfder mewn bywyd-" y nerth yn yr enaid a sonia y Psalmydd am dano. Sa& a hanfod y bywyd cryf yw'r athrawiaethau. Dyna hanfodion y bywyd llawn. Ac os dy- munem fod yn gryf, rhaid ymwneyd yn fawr o'r athrawiaethol mewn crefydd. Parch. J. Cynddylan Jones, Caerdydd, a deimlai bleser yn y testyn. Fel rheol, meddaiy pynciau ymarferol a geid yn y Seiadau yma,- Rhoddent destynau ymarferol i'r gweinidog- ion dierth yma i siarad arnynt-pethau y gwyddont lawer llai am danynt na chwi. Y mae'r Athrawiaethol wedi diflanu i raddau o'r pwlpud Seisnig. Angeu y gwr mawr hwn a marwolaeth y gwr da arall a bregethir arnynt yn ami, tra'r anghofir am Farw Crist. Nid ywV Athrawiaethol mewn crefydd, meddai'r bobl, ddim yn boblogaidd. Sut y mae hyny yn bod ? Cofiai ef am hen 'ffeirad gynt a gwynai wrth ei glochydd nad oedd ei wrandawyr yn lluosogi. Yr wyf," meddai, yn pregethu; cystal athrawiaethau yn awrag ugain mlynedd5 yn ol, ac y mae genyf fwy o brofiad hefyd it ddyweyd wrthynt; eto, ni chynydda'r gwran- dawyr." "Wei," ebe'r hen glochydd. u Chwi wyddoch mai teiliwr wyf fi; mae cystal brethyn genyf yn awr ag oedd ddeugain< mlynedd yn ol, ac fe allaf wnio cystal ag er- ioed, ond eto y mae'r cwsmeriaid yn myned" yn llai, a'r rheswm yw am nad oes genyf y cut iawn i ateb yr oes." Cofiwch gyfeillion-- nid yr un style sydd yn cyfateb i bob oes. Na wnae'r tro i bregethu yr un peth heddyw ag a wnaed 40 mlynedd yn ol—rhaid newid y cut f Rhaid edrych ar yr Athrawiaethol drwy lygaid yr oes, a'u dwyn i douch a'u gilydd. Ac ond i bregethwr fod yn feddyliwr craff, yn ddarllenydd cyson, ac yn efrydydd o lenydd- iaeth ei oes, y mae yn sicr o newid ei style a'i gut gan eu dwyn i gyfateb a'i oes, a chadw'r Athrawiaethau a'r genhedlaeth mewn vital touch a'u gilydd. 'Doedd dim Schools of Agriculture gan yr hen bobl wyddoch, ond yr oeddent yn cael cropiau da, eto gwyddis- fod yr ysgolion hyn heddyw yn help i gael rhagor o gnydau. Felly gyda'r hen Apostol- ion. Nid oedd yr hen Dadau Cristionogol yn enwog am eu hathrawiaethau, eto yr oeddent yn grefyddwyr da. Nis gallent ddeall a. deffinio Cyfiawnhad neu Sane teiddhad, ond fe wyddis heddyw fod yr holl Athrawiaethau hyn yn help i roddi nerth yn ein crefydd. Y mae nerth yr Athrawiaethol o'r tu faes yn nerth i'r galon o'r tu fewn ac y mae angen am ein-, dysgu ni yn yr oes hon, eherwydd y dynion; sydd gryfion yn yr Athrawiaethol sydd gryfion- hefydd yn yr ymarferol ac a weithiant oreu yn y diwedd dros Grist. Gadewch i ni hyfforddi'r" bobl yn yr Athrawiaethau Mawr, ac ond i ni, wneyd hyny fe ofala'r pynciau bach am dan- ynt eu hunain. Yna caed sylwadau pellach gan y Parchn. R. Parry, Llanrug, a T. Levi, Aberystwyth.

[No title]