Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRAU NEWYDDION. TREM AR Y GANRIF [dan olygiad y Parch. J. "M. Jones, Caerdydd. Pris 3s. 6c.] Dyma ^yfrol sydd yn ymgeisio at roddi adolygiad cyffredinol ar y ganrif sydd newydd ein gad- get. Nid gwaith hawdd yw hyny. Y mae -,cyfrolau ac erthyglau lawer wedi eu hysgrif- "enu yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ar faterion o ddyddordeb i'r Saeson ac i efryd- .wyr o hanes Prydain am y cyfnod, ond dyma'r jgyntaf i ni weled sydd yn ymdrin a materion Oymreig, ac am hyny yn adolygiad arbenig i'r Cymro ac i'r hanesydd Cymreig ar waith a bywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond cyfrol anfoddhaus yw hon. Y mae'n ddarllenadwy ddigon, a rhydd lawer o bleser ar y darlleniad cyntaf; ond y mae mor -anghyflawn ac mor wasgarog fel nad yw'r efrydydd ar y diwedd ond yn cael cipdrem lied fratiog ar ein gwlad a'n cenedl am y cyf- siod dan sylw. Y mae hyn yn drueni mawr, oherwydd nid gwlad yw Cymru sydd yn cania- tau i nifer o lyfrau gael eu cyhoeddi ar yr un pwnc, a phan yn ceisio gosod llyfr fel hwn ar restr ein llenyddiaeth dylid ar bob cyfrif ym- geisio at iddo fod yn llyfr da ac yn safonol o hanesiol. Y rheswm ei fod mor anghyflawn, feallai, yw, am mai nifer o ysgrifenwyr gwahanol sydd wedi bod yn ei gynyrchu. Trem ar y ganrif yw, mae'n wir, ond trem trwy wahanol wydrau, ac mewn canlyniad gwel pob ysgrif- enydd ei Gymru oddiar ei fryncyn ei hun gan anwybyddu y bryniau ereill sydd ganfyddad- wy i'r hanesydd yn mhob cyfnod. Dechreuir gyda threm ar wleidyddiaeth y ganrif," a phenod anfoddhaus iawn yw hon. -Ni roddir trem ar wleidyddiaeth Cymru o gwbl, eithr yn unig amlinelliad o wleidydd- iaeth Lloegr am yr amser. I Gymro, y peth spwysicaf yw, i ba raddau y dylanwadodd y ,ganrif ar Gymru, ac y mae awdwr yr ysgrif ibon wedi hollol anwybyddu yr arbenigrwydd iiwnw. Dyfed sydd yn ymdrin a barddoniaeth y ganrif, a cheir ysgrif darawiadol ganddo, er mai prin y credwn ei fod wedi gwneyd cyf- iawnder a'r testyn. Nid yw wedi dangos yn mha gyfeiriad yr oedd barddoniaeth y Igeg ^ganrif yn rhagori ar y canrifoedd o'r blaen, aia chwaith beth sydd yn nghynyrchion yr awen am y ganrif yn hawlio ein hedmygedd ,a'n hefrydiaeth. Daw hanes crefydd Cymru mewn pum' ys- grif enwadol. Un gan Eglwyswr selog, arall -gan Fethodist, arall gan Anibynwr, arall gan Wesleyad a'r olaf gan Fedyddiwr. Ag eithrio yn y Bedyddiwr nid oes un o'r rhai'n yn deil- wng o le mewn llyfr fel hwn. Cwyno mae'r Eglwyswr mai nid y mwyaf duwiol a thal- entog a gaiff y lie goreu'' yn yr Eglwys Sef- ydledig, a thuedda i feio y powers that be 0 fewn i'r Hen Fam. Parchusrwydd a gwerth -arianol y Cyfundeb sydd gan y Methodist; ac y mae dwy linell yn ddigon gan yr Anibynwr 1 son am ddadl y Ddau Gyfansoddiad-y Thwyg mwyaf yn yr en wad yn ystod y ganrif. Boddlona y Wesleyad ar roddi cic i'r Ym- neillduwyr am eu herlid ar ddechreu eu gyrfa yn Nghymru, ond y mae'r Bedyddiwr yn han- esyddol, yn glir, ac yn bortread rhagorol o waith yr enwad yn ystod y ganrif. Traetha'r Parch. Griffith Ellis yn wir ddydd- orol ar Addysg Cymru yn ystod yr amser, a hanes rhyfedd yw o ymdrech a chynydd. Bydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dar- ken fel penod o ramant addysgol i'r oesau a "ddel, ac y mae Mr. Ellis wedi gwneyd cyf- ia-wnder a'i bwnc. Penod arall a draetha ar ganu cynulleidfaol y ganrif, a daw y golygydd ar y diwedd gydag amlinelliad digon cyffredin ar lenyddiaeth y ganrif. Mae'n amlwg fod yr awdwr heb anghofio y ddadl fu rhyngddo yn ddiweddar ag Anibynwr enwog ynglyn a Dr. Rees, Abertawe, oherwydd dyma ddywed ..eto ar y gwr hwnw, It mae rhagfarnau cryfion yr awdwr yn ei arwain weithiau ar gyfeil- aorn." Er yn Ilyfr digon darllenadwy, nis ymfodd- lonwn arno fel portread o'r ganrif ddiweddaf. Rhaid wrth gyfrol a mwy o'r ysbryd cenedl- aethol a gwelediad cliriach o Gymru Gyfan ynddi cyn byth y gellir dyweyd fod genym lawlyfr teilwng o waith a hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ngwlad y Diwygiadau!

Advertising