Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Helynt fawr y dyddiau hyn yw, pa beth a dollir? Mae'n debyg mai'r gweithiwr cyffredin gaiff y rhan fwyaf o'r baich. Er fod rhai pobl yn son am heddwch, nid yw'r adroddiadau o Ddeheudir Affrica yn ffafriol iawn. Hyderwn y daw mwy o oleuni ar y pleidiau yn fuan. Chwe' miliwn o bunau oedd rhoddion cy- hoeddus Mr. Rhodes yn ei ewyllys. O'i anturiaethau yn Affrica yr enillodd y swm anferth hon. Cred rhai pobl fod gwell mantais i sicrhau heddwch a'r Bauwyr, bellach, oherwydd mar- wolaeth Mr. Rhodes. Yr oedd yr Ellmyn er's cryn amser wedi colli pob ymddiriedaeth ynddo. Cyflafan ofnadwy a gaed yn Glasgow dydd Sadwrn diweddaf. Yn gwylio ymdrechfa peldroed yr oe !d tua chan' mil o wyr, a thra yn nghanol yr ornest wele un adran o'r liwyfan yn tori i lawr o dan draed yr edrychwyr, a syrthiodd canoedd o bobl yn bentwr ar benau eu gilydd. Lladdwyd 23 o honynt ac anafwyd dros ddau cant yn dost iawn, a chant arall yn bur arw hefyd. Mae'r Llywodraeth ar ei heithaf yn ceisio dinystrio cymeriad milwrol Buller. Addawa, bellach, gyhoeddi yr holl fanylion yn nglyn a brwydr Spion Kop, ond ni chaniateir i Buller ei hun gyhoeddi p'un ai cywir ai anghywir fydd yr hyn a roddir i'r cyhoedd gan y Llyw- odraeth. Rhaid i'r wlad gael y ddwy ochr cyn bydd yr helynt yn derfynol. Parhau i gynyddu y mae'r gwrthwynebiad i Fesur Addysg y Llywodraeth, ac y mae yn eglur y ceir dadleu brwd arno cyn yr aiff drwy Dy'r Cyffredin. Yn un peth, y mae'r blaid Ryddfrydol yn unol iawn ar wrthwynebu rhai adrönau o hono, a disgwylir rhai diwrn- odau Ued fywiog yn y Ty. Mae'r Brenin Iorwerth wedi bod yn mwyn- hau ychydig ddyddiau o seibiant ar fwrdd y llong frenhinol. Nid aiff yn mhell o olwg yr ynys, eithr boddlona ar daith yn ol a blaen drwy y Sianel. Ddechreu yr wythnos hon bu ar ymweliad ag Ynysoedd Sicilly yn mhellaf- oedd Cornwall, a glaniodd yno am rai oriau. Mae'n debyg na fu penadur Prydain ar yr ynysoedd er's canrifoedd o'r blaen. Paham y gelwir y don yn Don y Botel' Vr ymholai Cymro ieuanc i hen gerddor y dydd o'r blaen. 0, machgen i," ebe hwnw, am mai'r bobl sydd yn lied hoff o'r botel sydd yn ei chanu fynychaf." Mae eglwys Dr. Guiness Rogers wedi rho'i galwad i'r Parch E. W. Lewis, M.A., i ddod i'w bugeilio, ac y mae yntau wedi ateb yn gadarnhaol. Bwriedir cyneu coelcerthi ar benau y myn- yddoedd drwy'r holl wlad y noson cyn coron- iad y Brenin. Codwyd coelcerth ar ben y Wyddfa ar gyfer noson rhyddhad Mafeking, ond oherwydd i'r parti a nodwyd i'w gyneu y noson hono fethu dod o hyd iddo am fod cwmwl sydyn wedi gordoi y mynydd, y mae y coelcerth hwnw eto heb ei gyneu. Bwriedir ei osod ar dan noson cyn y coroniad. Cynaliwyd cyfarfod haner-blynyddol Cwmni Rheilffordd Canolbarth Cymru, yn Llundain, dydd Gwener yr wythnos ddiweddaf. Dywed- odd Mr. T. G. Sheppard, y cadeirydd, fod yn dda ganddo ddeall fod y derbyniadau yn fwy o 2000p na'r un adeg y llynedd. Mabwysiad- wyd yr adroddiad, ac ail-etholwyd y cyfar- wyddwyr a'r cyfrifwyr.

Advertising