Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oddeuttiyr Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeuttiyr Ddinas. Nis gall y dinasyddion fyw heb gyng- herddau, ac er iddynt gynhal dau neu dri yn ystod yr wythnos a aeth heibio, gwelir fod ereill eto i ddod cyn yr ymwahenir am wyliau yr haf. # Nos Iau nesaf bydd cyfeillion yr eglwys Gymraeg yn Holloway yn cynhal eu cwrdd cystadleuol blynyddol, a deallwn oddiwrth yr ysgrifenydd fod argoelion am gynulliad bodd- haol. Da genym weled fod mudiad ar droed i wneyd cyngherdd ar ran Mr. Davies, yr ad- roddwr. Mae ef, er's ilawer o flynyddau bellach, wedi dyddori Ilawer cynulliad o Gymry. Felly, pan geir cyfleustra fel hwn, boed i ni gofio y gall ychydig wasanaeth fod o les. Mae argoelion am bazaar llwyddianus iawn yn King's Cross, dyddiau Mercher a lau nesaf, Ebrill 23am a'r 24ain. Gwelsom rai o'r pethau sydd i'w gwerthu, ac y maent yn rhagorol. Gwahoddir pawb i'r ffair hon yn galonog. Nid oes tal am fyned i mewn. Ceir yno gerddoriaeth gan gorau ac unawdwyr, a bydd y lie yn ddyddorol i b'awb. Dechreuir bob prydnawn am dri o'r gloch, ond bydd y dyddordeb yn parhau hyd yn mhell yn yr hwyr. Deallwn fod y meddyg ieuanc addawol, Dr. W. J. E. Davies-mab hynaf W. Davies, Ysw., Y.H,, Battersea-wedi cael ei benodi gan Mr. Chamberlain i fod yn feddyg swydd- ogol o dan y Llywodraeth yn Hong Kong. Mae hon yn swydd bwysig, a deallwn fod yn mwriad Dr. Davies i symud yno yn mis Gor- phenaf nesaf. Dymunwn iddo bob llwydd yn ei faes newydd. t [ Yr wythnos hon cawsom nodyn oddiwrth ein cydwlad wrieuanc D. Peregrine, o Calcutta, yn hysbysu ddarfod i Gymry'r He hwnw gael gwledd ardderchog yno ar ddydd Gwyl Dewi. Cymerai Mr. Peregrine ran flaenllaw yn y symudiad, a bydd ei hen gyfeillion yn y Tabernacl yn falch o glywed ei fod yn llwyddo yn dda yn ei wlad newydd. jj Traddododd Mr. Marchant Williams araeth ragorol o fiaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ar Ramant Addysg Cymru yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn grynhodeb campus o hanes y mudiadau Cymreig ar ran addysg y genedl, a cheir rhan o gynwys yr araeth yn ein rhifyn nesaf. # ft Yn y Drysorfa am y mis hwn rhoddir dar- lun campus a bywgraffiid byr o'r Parch. J. E. Davies, M.A., gweinidog parchus Jewin New- ydd. Mae Mr. Davies yn tin o wyr blaenaf y Cyfundeb Methodistaidd, yn ysgolor gwych ac yn bregethwr sylweddol. Efe yw Cymed- rolwr Cymanfa y Deheudir eleni, ac hefyd un j o ysgrifenyddion y Gymanfa Gyffredinol yn nglyn a'r enwad. • » Os am gael cyngherdd llwyddianus) wel, pobl Castle Street am dani. Mae eu hym- drechion ynglyn a'r cyngherdd brenhinol beth amser yn ol wedi troi allan yn llwyddiant arianol yn ogystal ag un cerddorol. Deallwn fod yr elw yn C212 3s 4c!! Rhagorol, yn wir. Os ceir dau neu dri chynulliad fel hwn bydd y capel yn ddiddyled yn y man. Mae'r aelodau Seneddol Cymreig yn selog iawn gyda'u gofynion gwladwriaethol y dydd- j iau hyn, a gwelir hwy yn Nhy'r Cyffredin bob | nos yn gwylio pob symudiad ar ran y Llyw- < odraeth. Y maent yn addaw gwrthwynebiad cryf i'r Mesur Addysg newydd sydd yn awr ger bron. Daeth Mr. William Jones yn ol o Ddeheu- dir-Ffrainc wedi cael gwyliau hapus iawn yn nghwmni Mr. Samuel Smith, A.S., a dywed fod yr aelod parchus dros Fflint yn gwella yn raddol ac ei gwelir yn ol cyn diwedd Mai. < Bu Eleanor Davies ag achos dyddorol o flaen yr Uchel Lys ddechreu yr wythnos hon. Merch ieuanc o ardal Aberaeron yw Miss Davies, ond ar hyn o bryd yn gogyddes yn Levesham. Trwy ddiofalwch pobl y relwe, cafodd ddamwain dro yn ol pan ar un o'i hymweliadau a Llundain, a dygodd gynghaws yn erbyn y cwmni. Gofalodd Mr J T Lewis, y cyfreithiwr, am ei hachos, a dadleuwyd drosti gan Arglwydd Coleridge, K.C., a Mr. Llew- elyn Williams, tra yr amddiffynid y relwe gan Mr. Kemp, K.C., a Mr. Lawless. Ar derfyn yr ornest bu raid i'r cwmni dalu iddi iawn o gop am y dolur. Yr ddechreu yr wythnos hon deuai son am heddwch o un ran o'r Transvaal, ond o ran arall deuai hanes am frwydr waedlyd rhwng y pleidiau.

Advertising

Byd y$=3=*=^ San. u