Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

BwrsSsS y g Ge§t»p

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BwrsSsS y g Ge§t»p Os bu cyfarfodydd pwysig yn Pretoria a Westmins- ter yn ystod yr wythnos a aeth heibio, nid oedd y naill na'r llall agos mor bwysig i wyr y CELT a'r cyn- ulliad wythnosol a gaed o gylch y Bwrdd crwn yn ystafell gyfrin y Gol. Yno yr oedd gwyr blaenaf y genedl wedi ymgynull a'u bryd i gyd ar wneyd bywyd yn well ac yn fwy hapus yn y dyddiau blin hyn. Yr oedd y beirdd yno yn llu, a bu raid iddynt gael eu lie y tro hwn, oherwydd yr oedd y Gol. wedi bod yn lied lawdrwm arnynt yn ddiweddar. Rhoddwyd y flaenoriaeth i fardd ieuanc o'r Gog- ledd, oherwydd yr oedd gwen mor hapus arno a pherliai ei lygaid mor swynol wrth edrych ar ei fun hoffus yn y pellder, fel y bu raid i'r owmni roddi gwrandawiad. DACW HI 1 Rhwng y coed a'r afon, Rhwng y llwyn a'r lli, Ar y doldir tirion Dacw 'nghariad i. Dacw'r hoffus feinwen Gyda'i hysgafn bryd Mae ei gwyneo llawen Imi'n haul Q hyd. Dacw Hi'n cyfeirio Ataf, lodes chwim Calon pwy sy'n curo- Gofynaf ? wn i ddim Llansannan." TREBOR ALED. Yr oedd y desgrifiad mor fyw nes y teimlai rhai o'r hen feirdd chwant i fyned yn mlaen ati, a siglo llaw A'r eneth dlos, ond cafodd Trebor lonydd i suo ei gyfrinach wrthi. Yr oedd haul cyntaf y gwanwyn yn pelydru trwy y ffenestri erbyn hyn, ac wrth ei weled torodd yr hen frawd Gwynfryn allan yn ei ddull doniol a barddonol arferol "0, HAUL, AROS." I ddiogelu huddugoliaeth-ffydd, 11 Nid ffawd yw trefn arfaeth, I ddyn sy' a'i weddi'n saeth, Dyna'r Haul reolaeth. Llyw y bydoedd yn llaw abwydyn—'rodd Yr Haul uwch teg ddyffryn, Pan erchai safai yn syn Ei nodwedd mewn munydyn. Llaw lor ein llyw agora—i'w weision Mewn eisieu ddihangfa Try ddyfnder mor yn ddor iawn dda A'r Haul erfawr o'i loew yrfa. GWYNFRYN. Go dda, wir," ebe Llinos Wyre, a thrueni nas gallasem ninau gael ganddo aros dipyn yn rbagor ar dywyllwch Llundain yma; fe ddeuai gwedd fwy prydferth ar bawb o honom a chawsid rhai blodau tlysion wedyn i addurno ein gerddi. Ac os ceid blodau fe fyddai awen y bardd yn sicr o ddihuno ar unwaith i ganu mawl. 'Rwy'n cofio yr Hydref diweddaf i fi fYD'd i'r wlad, ac wrth weled y dahlias' prydferth, bu raid i mi dori allan i ganu." A dyma'r bardd a Willesden yn tynu cyfrol allan o'i logell, ond ataliwyd ef gan y Gol. oheiwydd y ttteifchder. We], myn gafr i" meddai Gwynfryn wrth weled y gyfrol, a oes raid i ti gael esponiad Peter Williams ar un blodyn ? Pam na ddeui ato fel hyn— Y RHOSYN. Blodyn na wyneblwyda—a'i geinfri Fron Gwynfryn addurna, 0 dyma lwys werdd deml ha' Awelon fel 0 Walia. GWYNFRYN. Dyna i ti fel y mae canu can ddel, felly gad dy fes £ hir a dere i'r englyn twt a chynwysfawr." Paid a bod yn galed arno torai Llaethwr i fewn, waeth, mae'n dda gen i weled yr hen Linos yn rhoddi atnbell i gan weithiau, a phleser calon fuasai i mi ei glywed yn canu i'r blodau. Yn y cwrdd pwy ddiwrnod, fel y cofir, yr oodd yn canu i'r Rhew, ond lied oer oedd e' y pryd hyny, a pha ryfedd? 'Dyw e' ddim wedi bod yn ffryns a'r rhew wyddost oddiar pan yn grotyn bach 'slawer dydd, a dyma'r secret i ti:— Y LLINOS AR Y RHEW. Mae'n ofid i'm calon wrth wrando gwaith Llinos Fod dyddiau ei faboed yn tynu tua'r cyfnos. 'Rwy'n cofio, yn Lledrod, i'm wel'd y bardd diddan Ar lyn yr hen felin un dydd tua'r calan, Mewn hwyl a 'gogoniant' yn dedwydd edmygu Lithredd y ltyn y llithrai ar hyd-ddi; Ond wfft y fath anffawd-fe ddaliwyd y prydydd, Yr ia clir o dano a dorodd heb rybudd Ac yntau a drochwyd-O anlwc, fab Awen- Yn llaid oer y llyn och ddamwain aniben Pryd hwnw fe dystiodd, nad a'i byth ond hyny Ar lyn yr hen felin i wahodd trybini. Ond haf a aeth heibio, a'r gauaf ddaeth wedyn A rhewi drachefn wnaeth llyn yr hen felin Ond na, nid ai'r Llinos i'r felin i sleido' Ond i gae tan y Oapel-y tro hwn i ysglerio. Stol drithroed ei fam a drodd at ei bwrpas, Ar hono marchogai fel person o urddas Yn ffrochwyllt a thrachwyllt ymruthrai i'r gwaelod Ymchwyddai ei fynwes gan bleser diddarfod, Ond ow! sut mae adrodd ?-Nemesis a ddaeth Ar waethaf y prydydd, a dial a wnaeth Trwy ddamwain nas gwn pa fodd y digwyddodd Yr ysgler anbywaith y gam-ffordd gymerodd; I lawr y carlamodd dros allt ddofn a serth Gan hyrddio y prydydd i ddyrysni y berth, Fan hono fe'i cafwyd, fel yr hwrdd 'slawer dydd Yn rhwym mewn mieri, ac egwan ei ffydd Ei gorph oil yn glwyfus, a'i ben, ie, ei draed O'ent oil archolledig, a rhuddgoch gan waed Ei ffydd mwy ni roddodd ar ddwfr nac ar dir Mae'r rhew iddo'n elyn—'does ryfedd yn wir ) LLAETHWR. Dyna dynged plantos drwg bob amser," ebe gwr dieithr o'r gornel, ac y mae yn amser i mi roddi cyngor i chwi oil feirdd ieuainc y lie, a'r cyngor yw:— COFIA FOD YN FACHGEN DA. Ar fy nghlust yn fyw mae'r cynghor A roed gynt i'm gan fy nhad Pan yn gadael y waith gyntaf Ei hawddgarol aelwyd fad. Trwm fy machgen yw ffarwelio Anhawdd genyf ddyweyd Ta ta, Ond erfyniaf wrth dy ollwng I ti fod yn fachgen da.' Mi ddychmygaf wel'd ei ddagrau Yn ymdreiglo lawr ei rudd Pan yn ceisio siglo dwylaw Gyda mi ar war y ffridd, Ac mi glywa'i lais yn hylaw Yn d'weyd I Dyma a'm boddha, Pan y'mhell 0 glyw'm cynghorion Cofia fod fod fachgen da.' Llawer llythyr a dderbyniais Er pan gefnais fwth fy nhad, Pa rai roddent i'm yn gryno Hynt fy hen gyfeillion mad Ac yn niwedd y llythyrau Ail roi i'm y cynghor wna- Er ymhell 0 glyw'm cynghorion Cofia fod yn fachgen da.' Llawer blwyddyn ymaith lithrodd Er pan roed y cynghor gwiw, Ond fe erys ei ddylanwad Ar fy nghlust tra byddaf byw; A thrwy gymorth Duw mi geisiaf Wneyd yr hyn a'i llawenha, Er yn nghanol temtasiynau Ceisiaf fod yn fachgen da. Orrell, Bootle." GLAN-DWYFFRWD. 'Roedd Bonner ar ei draed yn awyddus i anerch ar hyn, ond wele'r Gol. yn codi ei lais awdurdodol ac yn dyweyd: Dyna, cymerwch bob un y cynghor yna adref, a myfyriwch arno am wythnos. Gwnaiff ies calon i chwi i gyd." Ac felly y dygwyd y cwrdd i ben.

Advertising

Byd y$=3=*=^ San. u