Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MYNED I GAETHIWED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MYNED I GAETHIWED. O'r diwedd y mae Senedd Prydain wedi dangos ei hunan yn ei gwir oleuni. Yr ydym wedi dangos o dro i dro beth yw tueddfryd naturiol y bobl sydd yn ein llywyddu yn ystod y blynyddoedd diweddaf yma, ac er eu bod mewn amryw fan achosion wedi dadlenu eu cymeriad o bryd i bryd, eto, ni chaed y fath esiamplau eglur o'u hysbryd gormesol ag a roddvvyd yr wythnos hon yn Nhy'r Cyffredin. w Fel y gwyddis, yr ydym wedi myned i ddyled drom ynglyn a helynt gwaradwyddus Affrica, ac y mae'n gofynion arianol yn fwy nag y gellir eu talu ar hyn o bryd, ac er fod railiynau lawer eto wedi eu benthyca, yr oedd yn rhaid talu rhan o'r gofynion; ac i'r perwyl hyny, gosodwyd rhai trethi o'r newydd. Ond er mai gwyr mawr, ac arianog y genedl, a floeddient uchaf am fyned i'r rhyfel, y maent wedi gosod y dasg o dalu am y cyfryw i'r gweithwyr tylawd: a hyny trwy osod toll ar fara beunyddiol y teulu < Un o egwyddorion sylfaenol Rhyddfrydiaeth oedd sicrhau bara rhad i'r werin, a dyna oedd ymgyrch fawr Cobden a Bright tua chanol y ganrif o'r blaen. Gwyddai y genedl y pryd hyny, trwy brofiad chwerw, beth a olygid wrth osod treth ar yd, a chodasant fel un gwr o blaid diddymiad y tollau anghyfiawn hyn; ond, erbyn heddyw, wele y cyfan yn cael ei anghofio, a'r Toriaid unwaith eto yn arwain y bobl yn ol i gaethiwed gwladol nad yw'r wlad wedi sylweddoli eto ei berygl a'i orthrwm. Yr un ysbryd gorthrymus a ddangosir ynglyn a Mesur Addysg presenol y Llyw- odraeth. Y mae'n wir fod angen am gyf- newidiad llwyr yn ein cyfundrefn addysg, ond yn lie gwneyd hyny ar gynllun eangfrydig a theg, y mae'r llywiawdwyr presenol yn aw- yddus am ganiatau i drethi lleol i fyned i gynorthwyo yr ysgolion eglwysig sydd mewn bod ar hyn o bryd, a hyny heb ganiatau rheolaeth gyhoeddus ynglyn a'r addysg a gyfrenir yn yr ysgolion hyny. Gosod, mewn gair, math 9 dreth yr Eglwys ar y werin, a hyny mewn dull nas gellir yn hawdd osgoi ei thalu. Cydnebydd pawb, hyd yn oed yr Eglwyswyr eu hunain, nad yw'r Mesur yn un ymarferol iawn, ac os caniateir iddo fyned drwy y Senedd, ni fydd cyfundrefn addysg yn llawer iawn ar ei henill. Ond beth y mae'r wlad yn myned i'w ddyweyd ar yr esiamplau hyn o ormes a chaethiwed cymdeithasol ? A ydyw yn myned i aros yn dawel a dwyn y beichiau heb duchan dim? Beth a wna'r Ymneillduwyr yn y cyfnod tywyll yma ? Arnynt hwy y gorwedd y baich drymaf, ac arnynt hwy y mae galwadau daeraf am ymladd dros eu hegwyddorion a'u rhyddid. Brwydrodd ein tadau am yr iawn- derau a ddygir yn awr oddiarnom; ac, a ydym ninau wedi dirywio i'r fath raddau fel ag i adael i'r ysbeilwyr presenol ddod i fewn i gysegrleoedd ein daliadau a'n hegwyddorion ? Dylai y frwydr fod yn eithafol, ac os na enillir y gamp, ac yr amddiffynir ein daliadau yn ddigon diogel, wel ffarwel am ddylanwad Ym- neillduwyr byth ond hyny yn Mhrydain. Cymerodd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Geidwadol Gymreig Llundain le yn West- minster ddydd Gwener cyn y diweddaf, Syr John Puleston yn y gadair. Ail-etholwyd Arglwydd Denbigh fel lIywydd. Dywedai Dr. Rutherfoord Harris ei fod yn hyderus, ond i'r Gymdeithas wneyd ei gwaith y gellid enill dwy sedd Gymreig i'r Llywodraethyn yr etholiad nesaf.

YMREOLAETH I GYMRU.

Advertising

Y Dyfodoi.

Advertising