Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
MYNED I GAETHIWED.
MYNED I GAETHIWED. O'r diwedd y mae Senedd Prydain wedi dangos ei hunan yn ei gwir oleuni. Yr ydym wedi dangos o dro i dro beth yw tueddfryd naturiol y bobl sydd yn ein llywyddu yn ystod y blynyddoedd diweddaf yma, ac er eu bod mewn amryw fan achosion wedi dadlenu eu cymeriad o bryd i bryd, eto, ni chaed y fath esiamplau eglur o'u hysbryd gormesol ag a roddvvyd yr wythnos hon yn Nhy'r Cyffredin. w Fel y gwyddis, yr ydym wedi myned i ddyled drom ynglyn a helynt gwaradwyddus Affrica, ac y mae'n gofynion arianol yn fwy nag y gellir eu talu ar hyn o bryd, ac er fod railiynau lawer eto wedi eu benthyca, yr oedd yn rhaid talu rhan o'r gofynion; ac i'r perwyl hyny, gosodwyd rhai trethi o'r newydd. Ond er mai gwyr mawr, ac arianog y genedl, a floeddient uchaf am fyned i'r rhyfel, y maent wedi gosod y dasg o dalu am y cyfryw i'r gweithwyr tylawd: a hyny trwy osod toll ar fara beunyddiol y teulu < Un o egwyddorion sylfaenol Rhyddfrydiaeth oedd sicrhau bara rhad i'r werin, a dyna oedd ymgyrch fawr Cobden a Bright tua chanol y ganrif o'r blaen. Gwyddai y genedl y pryd hyny, trwy brofiad chwerw, beth a olygid wrth osod treth ar yd, a chodasant fel un gwr o blaid diddymiad y tollau anghyfiawn hyn; ond, erbyn heddyw, wele y cyfan yn cael ei anghofio, a'r Toriaid unwaith eto yn arwain y bobl yn ol i gaethiwed gwladol nad yw'r wlad wedi sylweddoli eto ei berygl a'i orthrwm. Yr un ysbryd gorthrymus a ddangosir ynglyn a Mesur Addysg presenol y Llyw- odraeth. Y mae'n wir fod angen am gyf- newidiad llwyr yn ein cyfundrefn addysg, ond yn lie gwneyd hyny ar gynllun eangfrydig a theg, y mae'r llywiawdwyr presenol yn aw- yddus am ganiatau i drethi lleol i fyned i gynorthwyo yr ysgolion eglwysig sydd mewn bod ar hyn o bryd, a hyny heb ganiatau rheolaeth gyhoeddus ynglyn a'r addysg a gyfrenir yn yr ysgolion hyny. Gosod, mewn gair, math 9 dreth yr Eglwys ar y werin, a hyny mewn dull nas gellir yn hawdd osgoi ei thalu. Cydnebydd pawb, hyd yn oed yr Eglwyswyr eu hunain, nad yw'r Mesur yn un ymarferol iawn, ac os caniateir iddo fyned drwy y Senedd, ni fydd cyfundrefn addysg yn llawer iawn ar ei henill. Ond beth y mae'r wlad yn myned i'w ddyweyd ar yr esiamplau hyn o ormes a chaethiwed cymdeithasol ? A ydyw yn myned i aros yn dawel a dwyn y beichiau heb duchan dim? Beth a wna'r Ymneillduwyr yn y cyfnod tywyll yma ? Arnynt hwy y gorwedd y baich drymaf, ac arnynt hwy y mae galwadau daeraf am ymladd dros eu hegwyddorion a'u rhyddid. Brwydrodd ein tadau am yr iawn- derau a ddygir yn awr oddiarnom; ac, a ydym ninau wedi dirywio i'r fath raddau fel ag i adael i'r ysbeilwyr presenol ddod i fewn i gysegrleoedd ein daliadau a'n hegwyddorion ? Dylai y frwydr fod yn eithafol, ac os na enillir y gamp, ac yr amddiffynir ein daliadau yn ddigon diogel, wel ffarwel am ddylanwad Ym- neillduwyr byth ond hyny yn Mhrydain. Cymerodd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Geidwadol Gymreig Llundain le yn West- minster ddydd Gwener cyn y diweddaf, Syr John Puleston yn y gadair. Ail-etholwyd Arglwydd Denbigh fel lIywydd. Dywedai Dr. Rutherfoord Harris ei fod yn hyderus, ond i'r Gymdeithas wneyd ei gwaith y gellid enill dwy sedd Gymreig i'r Llywodraethyn yr etholiad nesaf.
YMREOLAETH I GYMRU.
YMREOLAETH I GYMRU. Cwyna'r Senedd byth a hefyd nad oes ganddi ddigon o amser i ymdrin a materion lleol y wlad, ac fod gormod o fan fesurau yn cael eu gwthio ger bron o hyd ar draul rhwystro materion o fudd ymherodrol i'n pobl. Dygir yr hen gwyn yn mlaen ar ddiwedd pob tymbor fel math o esgusawd paham na fuasid wedi cyflawni mwy o waith, a chredwn fod llawer o wirionedd yn y dy- wediad hefyd. Ond y syndod yw na wna'r Ty ddim dros symud ymaith y gwyn. Rhoddwyd cyfleustra arbenig iddo wneyd hyny yr wyth- nos hon pan ddygwyd ger bron fesur arbenig ynglyn ag uniad y Cynghorau Sirol Cymreig, fel ag i roddi mwy o awdurdod yn eu dwylaw ynglyn a materion Ileol, ac o ddyddordeb Ileol yn unig. Gosodwyd cais Cymru yn glir ac an-wrthwynebiadol gan Mr Ffrank Edwards ac ereill, ond nis caniatawyd y cais. Nis gall- asai y Llywodraeth weled dim yn afresymol yn y cais, er hyny i gyd, nid oeddent yn fodd- lawn i'w ganiatau; am, mae'n debyg, mai'r Cymry oedd yn ei ddwyn ger bron. Y mae'n eglur oddiwrth hyn nas ceir yr un mesur rhyddfrydol oddiar fwrdd y blaid ryfelgar I bresenol; a thra y pery y blaid Gymreig mor dawel, diau na cheir yr un cyfnewidiad yn ein deddfau gorthrymus chwaith. I
Advertising
ST. BENET'S WELSH CHURCH, QUEEN VICTORIA STREET, E.C. ANNIVERSARY SERVICES SUNDAY, APRIL 27th, 1902, 11 a.m. and 6.30 p.m.: PREACHER- REV. J. D. LEWIS (Vicar of Pencarreg). 3.30 p.m. (English): REV. HERBERT EVANS, B,A. (St. Phillip's, Stepney). MONDAY, APRIL 28th, at 8 p.m. PREACHER- REV. J. D. LEWIS. THE NATIONAL WELSH FESTIVAL. A D I Is NEE WILL BE GIVEN TO THE' WELSH CHURCH UNITED CHOIR (THE FESTIVAL CHOIR) ON MONDAY, APRIL 21, 190.2, AT ANDERTON'S HOTEL, FLEET STREET, E.C. President of the Evening- Sir JOHN H. PULESTON, D.L. Vice-Presidents— JOHN FRANCIS, Esq., D.L., and J. MASON WILLIAMS, Esq. ABEL SIMNER, Esq., Hon. Treasurer. There are a few Tickets for disposal at 4/- each (exclusive of wine) and may be had from Mr. R. A. LLOYD, Hon. Secretary, 110, St. Martin's Lane, Charing Cross, W.C
Y Dyfodoi.
Y Dyfodoi. [&!ir' Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ——— Ebrill „ 21. Anderton's Hotel, Welsh Dinner. „ 23, 24. Bazaar yn y Tabernacl, King's Cross „ 24. Cyfarfod Cystadleuol Eglwys St. Padarn yn Myddleton Hall. „ 27, 28. Eglwys St. Benet, Cyfarfodydd Blynyddol. Mai „ 1. Capel Stratford, Eisteddfod Gerddorol. 3. Cyfarfod Terfynol Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol. „ 3, 4, a'r 5. Cyfarfodydd Pregethu Blynyddol Eldon Street, Moorfields. „ 5. London Welsh F.C. Smoking Concert, Freemason's Tavern, Little Queen St. „ 8. Eisteddfod Flynyddol Capel Hammer- smith. „ 8. Cymdeithas y Brythonwyr. „ 15. Cyngherdd Mawreddog yn Dewi Sant, Paddington „ 15. (Nos Tau). City Road, Swper Goffi am 6 „ 22. Budd-Gyngherdd Mawreddog Mr. R. A. Davies (yr adroddwr), yn Holborn Town Hall. „ 22. Cymdeithas y Brythonwyr. Cyfarfod Terfynol. Tachwedd. „ 19. Swper Goffi Agoriadol Clapham Junction Rhagfyr. „ 17. Swper Goffi Clapham Junction
Advertising
I HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE NO MORE Difficulty of Breathing. NO MORB Sleepless Nights. NO MORE Distressing Coughs. DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA DAVIES'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS DAVIES'S COUGH MIXTURE for HOARSENESS DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT DAVIES'S COUGH MIXTURE—Most Soothing DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest DAVIES'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm DAVIES'S COUGH MIXTURE—for SINGERS DAVIES'S COUGH MIXTURE-for PUBLIC DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS THE GREAT WELSH REMEDY. 13!d. and 2i9 Bottles. Sold Everywhere. B Sweeter than Honey. Children like it. 9 B HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. m London Agents— Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MORGAN, „ 34, Tavistook Place Mr. EDW. JONES „ 232, Kilburn Lane.W MR. PHILIP LEWIS (WELSH VIOLINIST) FOUNDATION Scholar Royal College of Musia (1896-1901), Solo Violin at Queen's Hall, Sfc James's Hall, and Albert Hall Concerts.-81, St Augustine's Road, N.W. GRELLIER & SON Welsh Printers, 211, GRAY'S INN ROAD, W-C A. Large Staff always ready for all Classes of Work. •