Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Y TABERNACLE, KING'S CROSS, N, CYNHELIR A BAZAAR YN Y LLE UCHOD, AR Y DYDDIAU MERCHER A IAU, BRILL 23 AYR 24, 1902 I DDECHREU AM 3 O'R GLOCH Y DDAU DDIWRNOD. fr elw i fyned at Genhadaeth Gym- reig East Ham ac Woolwich. BYDD Canu Uwchraddol Difyrwch Adloniadol A Xjluniaeth Boddhaol YNO BOB HWYR. GWAHODDIR PAWB YN GALONOG. A iN I BYDD TAL AM FYNED I FEWN. NWYDDAU DEFNYDDIOL NWYDDAU DA NWYDDAU NEWYDDION AR WERTH AC AM BRISIAU RHESYMOL IAWN. ——— ¡ S3- COFIER Y DYDDIAD I EBRILL 23 a 24. |
---CYMREIGAETH MEWN MASNACH.
CYMREIGAETH MEWN MASNACH. GAN J. WINTON EVANS. [Papyr d ddarllenwyd o fiaen Cymdeithas y Brythonwyr, Llundain, Ebrill 10, 1902.J O'r braidd y ceir cyfnod yn ein hanes pryd y bu atdyniad cenedl fawr yr Eingl-chwedl Goronwy Owain-mor nerthol ar genedl fach y Cymry, a'r demtasiwn i ymwadu a'n har- benigion cenedlaethol ac ymollwng i ddull- weddau bywyd o drefniad Seisnig, cyn gryfed ag yn yr oes hon. Pan esgynodd y Bardd Cwsg i ben y mynydd i gael trem ar gwrs y byd gant a haner o flynyddau yn ol, yr hyn ddenodd ei fryd ef gyntaf ydoedd deced ac hawddgared, wrth ei wlad ei hun, y gwledydd cyfagos a gafodd gip arnynt. Heddyw, pan y mae dydd newydd yn gwawrio ar hanes ein gwlad, pryd y gwelir y masnachdai bychain ymguddient yn swil mewn ystrydoedd dinod ac a nodweddent y Cymry genhedlaeth yn ol yn gwisgo am danynt ogoniant Siopau Sieb, ac y gwelir Cymry pen y mynydd yn dadblygu yn fasnachwyr cefnog prif ffyrdd ein dinasoedd, y mae yr atdyniad wedi cynyddu gyda'r blynyddoedd, a'r dem- tasiwn wedi cryfhau gyda threigliad amser, fel mai nid gormodiaeth ydyw dyweyd fod cael rhyw syniad clir a chymharol gywir o'r hyn olygir wrth Gymreigaeth mewn Masnach, a'r agwedd genedlaethol gymerwn o'r gyfun- drefn fasnachol yn fater llawn mor bwysig i fodolaeth ein harbenigrwydd cenedlaethol a chadwraeth yr iaith Gymraeg. Er hyny, tebyg y cred llawer, os nad y mwyafrif o'n cydgenedl fod y syniad sydd wrth wraidd y testyn yn syniad cyfeiliornus a chamarweiniol, nad oes le i'l fath beth a Chymreigaeth mewn Masnach rhagor nag mewn Moeseg, ac fod ymdrafod a'r fath destyn yn brawf adnewyddol o'r provincialism" parhaus nodwedda ein cenedlaetholdeb-yn brawf o gulni cenedlaethol, mi gredaf, ydyw y frawddeg gywir ;-ac mai ein prif ddyledswydd fel cenedl ydyw ymbarotoi yn y modd per- ffeithiaf o fewn ein cyrhaedd, a thaflu ein hunain yn egniol, i'r ymgyrch fasnachol, a chrabinio am olud hyd eithaf ein gallu, a thrwy hyny dderbyn ambell i friwsionyn o gysur am fod ein cenedl, rywfodd, yn cael ei chydnabod a'i dyrchafu drwy i ambell i ben- bwl llwyddianus ddyfod i ffafr a nod, fel ei gelwir, yn mywyd cymdeithasol y Sais. Y mae hyna, mi gredaf, yn ddesgrifiad cywir-os anghydnaws—o'r syniad penagored a goledda rhan helaeth o'n cydwladwyr am ddyfodol ein cenedl heddyw. Os felly, y mae yn syniad sydd yn myned o dan wreiddiau y bywyd Cymreig, ac yn syn- iad y gellir olrhain ei darddiad yn union- gyrchol i'r golygiad Seisnig, gwrthnysig, fod gwerth dyn i'w fesur wrth ei huyddiant; yr hyn beth, nid oes eifieu eich adgoffa, sydd yn hollol groes i erthyglau y ffydd Frythonol. Ond yr hyn sydd yn anrhaethol fwy pwysig ydyw, y mae poblogrwydd y syniad yn per- yglu ein harbenigion cenedlaethol. Yr ydym mor hoff o siarad yn eu cylch, ac mor aw- yddus i gael gwared o honynt, drwy gydnabod mai cydffurfiaeth &'r bywyd Seisnig a chym- mhlethiad a'r gyfundrefn Saisnig yw y ffordd oreu a'r ffordd gywir i godi'r hen wlad yn ei hbl." Er hyny, pur ychydig o sylw roddir i'r cwestiwn. • Tra y mae ein hefrydwyr ieuainc brwd- frydig, a'n llenorion cened)garol yn defnyddio eu galluoedd a'u cyfleusderau i argraffu ar feddwl y werin y pwysigrwydd o gadw'r iaith Gymraeg yn fyw fel rhagfur amddiffynol rhag y diluw Seisnigaidd, anwybyddir bron yn hollol y dylanwad cryf y mae masnach yn gael ar ein cymeriad cenedlaethol, nes yr anghofir y ffaith awgrymiadol nad oes yr unrhyw arbenigrwydd Cymreig yn nodweddu bywyd ein tywysogion masnachol y mae ein cenedl mor hoff o waradwyddo ei hun drwy eu mawrygu. Hyderaf y bydd hyn yn rhyw esgusawd dros i wr dinod heb ond ffon dafl a chareg, i ddyfod sllan i wynebu y fath gawr o gwestiwn. Ond y ffaith ydyw, y mae dylanwadau distaw a dyddiol masnach yn fwy sicr yn y pen draw i ddifodi pobpeth ag yr ydym heddyw, fel Cymry, yn ymfalchio ynddynt, nag unrhyw ddylanwadau y mae y genedl wyneb yn wyneb a hwy. Y mae eu holl duedd i'n gwneyd yn un mewn buchedd a golygiad â. chenedl fawr gyfoethog y Sais. A hyn am y rheswm syml fod a wnelont yn uniongyrchol a bywyd y werin Gymreig yn eu hieuenctyd yn ein trefi mawrion a thrwyddynt ar y cyffredin bobl yn y wlad. Mewn gwirionedd, dyma y dylanwad cryf sydd yn diwreiddio a pheryglu bywyd yr iaith Gymraeg; ond gan mai efryd- wyr a llenorion ydyw ein harweinwyr, sydd a'u dyddordeb a'u cenedlgarwch wedi eu di- huno gan lenyddiaeth a hanesiaeth ein gwlad, rhoddir y pwyslais beunydd ar fywyd yr iaith Gymraeg; ond anwybyddir bron yn hollol y ffaith bwysig-y ffaith sylfaenol-fod bywycl a golygiadau y genedl greodd yr iaith yn cyfnewid dan ein dwylaw. O'm rhan fy hun, bron na charwn weled yr hen iaith farw yn bytrach na'i gweled yn byw i'w threisio i roddi llafar a llun i syniadau Seisnigaidd ac estronol yn mhlith y werin Gymreig. Yn ngwyneb hyn oil, nid oes gwr o nod yn Nghymru heddyw yn ddigon clir ei olygon i weled y perygl ac yn ddigon o wladgarwr i ddyweyd fel y dywedodd Thomas Davies dros yr Iwerddon. Rhoddwch ini y bwthyn tylotaf yn y wlad a thaten sych, ond peidiwch a'n Seisnig- eiddio." Na, rywfodd, nid ydym wedi cael yr argy- hoeddiad dwfn, y weledigaeth eglur mai ein perygl fel cenedl ydyw goresgyniad ein rhandir ysbrydol gan syniadaeth faterol y Sais; derbyn yn ddifeddwl olygiad Seisnig ar fywyd ac ymwadu a'r syniad Cymreig fel rhywbeth llai gwareiddiedig a rhy hen ffasiwn. Ond os ydym i gadw ein cenedlaetholdeb yn rhywbeth byw a sylweddol, ac nid ond teimlad gwagsaw, rhaid i ni gael yr un ar- gyhoeddiad dwfn yn ngwirionedd ein ffydd genedlaethol ag a wastraffodd ein teidiau mor hael ar bynciau duwinyddol; yr un atgas- rwydd at y bywyd Seisnig ag a deimlent hwy at yr hyn dybient yn bechod. Yn lie hyn, y mae arnom un ac oil ryw ysfa wyllt i dra rhagori yn yr hyn y mae y Sais yn rhagori ynddo rhyw awydd direswm i enill cydnab- yddiaeth, anrhydedd a chlod i'n hunain a'n cenedl, ar linellau hollol anghydnaws a'r an- ianawd Gymreig, am fod y rhai hyn dros ychydig yn cael eu gorbrisio gan un neu ddwy o genhedloedd y byd. Os gwelwn, yn awr ac yn y man, Gymro wedi ei ddigenedlaetholi gymaint, nes y mae wedi curo y Sais ar ei dir ei hun, bloeddiwn Cymru am byth," hyd yn oed mewn cot a thy-defion a golygiad a buchedd o wneuthuriad Seisnig--ac mor an- hebyg i Gymro ag yw mummies yr Amgueddfa Brydeinig. Yn hyn, er ein holl faldordd am ysbrydoliaeth ein pob!, yr ydym y genedl fwyaf faterol yn y byd. Anwybyddwn yn hollol y ffaith bwysig mai ar y cenedloedd bychain sydd yn tyfu yn ddistaw allan o ddwn- dwrdd masnach yn rhydd oddiwrth ofalon ac uchelgais ymherodrol, ac hamdden i ddat- blygu cymeriadau personol eu deiliaid, y syrth y dasg anrhydeddus o fabwysiadu syniadau uwch a gwell am fywyd sydd i deyrnasu eto ar ol i'r yrfa ffyrnig, fasnachol, bresenol redeg hyd ei therfyn. Drwy ymollwng a chydffurfio yn y syniadau Seisnig, yr ydym yn gwerthu yr enedigaethfraint yma am ffiolaid o gawl coch llwyddiant bydol. Ond tebyg y clywaf rywun yn dyweyd: Nid ydyw hyn ond perygl tybiedig, ond dyn gwellt i'w ddymchwelyd mewn dadl. Gall y Cymro fyned yn ei flaen yn yr yrfa fasnachol heb ofni dim. Y mae'r anianawd Gymreig yn ddigon cryf i amddiffyn ei genedlaetholdeb, ei arbenigion, a'i rin-