Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TRUSGOTT & Go. I DAIRY AGENTS, &c. 11, BOND COURT, W ALBROOK, E.C. Essex, 74 Barns daily, 4d. £1,750 I Surrey, 23 Barns daily 4d. £ 600 Kent, 171 Barns daily 4d. aC300 2 N.E., 6 Barns daily 4d. JE160 W-, 71 Barns, 98 Shop £ 225 2 E., 7 Barns daily, P,26 Shop JE250 E., about JB35 Shop Trade X350 N.E., 38 Barns daily 4d £ 1>000 W., 45 Barns daily 4d. £ 3)000 E., 11 Barns daily 4d. JE220 S.E., £26 Shop Trade (inclusive) £100 PREPAID U/ANTS. 12 words; Once Sd. Three times 1 20 „ ,,9d. „ „ 1/3 28" „ 1/- „ „ 1/6 36 „ 1/3 „ „ 1/9 44" 1/6 j, j, 2/- Every additional 8 words 3d. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. DAIRy.-Situation wanted by a Young Lady in a D Dairy; with good references.-Apply, M., 4, Danbury Street, Islington. YOUNG Lady seeks situation in Dairy or Provision Y Shop; used to quick trade.-Apply L 24, Kelt. Office, 211, Gray's Inn Road; W.C. WANTED by a Parmer's Son (Welsh), a Situation to assist on a Milk Round.—J. T., Kelt Office* 211, Gray's Inn Road, W.C. MARRIED Couple or two City men offered very lU comfortable home, bath, every convenience. Moderate terms.-3, Rosslyn Crescent, Wealdstone* Harrow. DAIRY AND PROVISIONS.—Young lady re- quired to assist in shop, and do a little house- work.—Apply, 107, Vallance Road, Bathnal Green Road. YOUNG Lady wanted for Housework and assist ia Y the Shop.-A. Z. 18, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. SHOP.—Nice little Milk Shop for Sale, rent cheap- E. Davies, 45, High Street, Bromley, by Bow. GIRL Wanted for housework.—Edwards, 8, Linton Street, New North Road, N. A YOUNG LADY seeks situation in a Dairy; good reference.—Apply, J." 77, Barnsbury Street, Islington. BEDROOM, furnished, for single gentleman board B if required.—83, Panwith Road, Earlsfleld, S.W WANTED, immediately, two Young Ladies to serve in Shop (butter), and assist generally.— Apply, Morgan, 35, Ben Jonson Road, Stepney, E. WANTED, by Young Lady, situation in Dairy, a VV little housework not objected to.-L. J., 87, Maryland's Road, Paddington, W. WANTED.—A Young Man with good reference, ry 17 to 19, to assist on Pram Round; Welsh preferred.-Apply H. W., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRY.—Wanted a Young Lady as Manageress; experienced.—Apply to Williams & Co., 15, Park Road, Albert Road, Battersea. CARDIGAN COAST.—FOR SALE. BRYNMORWEL SHOP, excellent premises, good B locality for country business, or well adopted for: private residence. Situated on the main road from Aberystwith to Cardigan, about two miles distance from LLANGRANOG BEACH, 750 ft. above sea level. commanding fine views of the Cardigan Bay and North Wales mountains, unexpired lease 90 years.- Apply D. GLYN JONES, Brynmorwel, Maesllyn* Llandyssil, S.W.
---CYMREIGAETH MEWN MASNACH.
Ond i fanylu ychydig yn mhellach, credaf "y golyga y syniad yn ei agweddau ymarferol mai llawforwyn bywyd ydyw masnach ac nid ei gormesdeyrn. Mai arf-ac arf brwnt yn ddigon aml-i enill bywoliaeth ddylai fod, ac nid prif amcan ac uchelgais bywyd. Pechod, ie, a phechod anfaddeuol yn erbyn y rhan oreu o'r natur ddynol ydyw y gwas- traff ofnadwy ar yni ac ar einioes sydd yn yr ymroad hollol a chyfangwbl i fanylion a bychain-bethau masnach er ei heangu a'i lledaenu tuhwnt i ofynion cyfreithlon bywyd rhesymol. A'r canlyniad uniongyrchol ydyw creu anghydraddoldeb anaturiol ac afiach oiewn cymdeithas, pan y mae dyn yn cael ei anrhydeddu nid am werth ei gymeriad ond wrth faint ei olud. Ymddengys i mi fod y syniad yma-mai ail beth bywyd ydyw masnach-yn syniad hollol Gymreig, a phe ei argreffid yn ddwfn ar feddwl yr oes, gwnai leddfu y ffyrnigrwydd a'r angerddoldeb masnachol yn amgen na dim arall. Beth bynag, y mae yn syniad hollol anghymodlawn a'r syniad Seisnig o fasnach ac o fywyd. Concentration ydyw arwydd- air y Sais mewn gwersylloedd ac mewn gweithdai. Cyfyngu y person i un rhych ac i un cyfeiriad nid i ymberffeithio yn ei orchwyl, ond fel y ffordd rwyddaf i enill anrhydedd personol a'r ymddidoliad a ymgyrhaedda ato yn barhaus. Ceir engraifft o'r gwahaniaeth -cenedlaethol yma yn nysgeidiaeth dau ddyn adnabyddus—John Ruskin a William Morris. Cydnabyddir John Ruskin fel cynrychiolydd teilwng o'r Sais ar ei fan goreu, a chydnab- yddir yn bur gyffredin y natur Gymreig yn nghymeriad William Morris. Cyfyngiad y g-alluoedd i un cyfeiriad ydyw cyweirnod dysg John Ruskin, y dywedir am dano iddo gario ei egwyddorion mor bell ag i ddyweyd wrth feisiwn oedd wedi ei foddloni yn hynod a'i waith, pan gyfaddefodd yn swil nas gallai law-nodi y daleb. "Yn awr meddai Ruskin, se yr ydwyf yn deall eich bod yn weithiwr mor dda." Am iddo gyfyngu ei alluoedd i'w al- wedigaeth mor hollol fel nad allodd hebgor amser i ddysgu ysgrifenu. Dyna engraifft eithafol, efallai, o'r syniad Seisnig a'r syniad Seisnig ar ei fan goreu, cofier, o gyfyngu y galluoedd i un cyfeiriad, yr hyn beth mewn ymarferiad sydd yn gwneyd masnach mor ffyrnig ac atgas heddyw. Dim amser i ddim ond masnach, a chyn pen hir -dim awydd am ddim ond masnach. Ar y llaw arall, dywed William Morris nad oedd yr un dyn yn gymeriad cyflawn os na iedrai i berffeithrwydd, yn y man lleiaf, ddwy alwedigaeth. Dyna'r anianawd Gymreig sydd wedi gwneyd yr orsaf-feistr yn brif-fardd y genedl, y teiliwr ei phrif chwedlonydd, a'r meisiwn ei hynafiaethydd. Un awgrym arall. Y mae un ffaith sydd yn sefyll allan yn fwy eglur nag un arall yn masnach y Sais heddyw-ffaith y mae pob Cymro adwaenais eto yn ei chydnabod yn ddibetrus, y ffaith hono ydyw anwybyddiaeth hollol o iawnderau a gofynion yr unigolyn. Nid oes yr un yn anhebgorol. Y mae hyn wedi myned fel dur i galon y gweithiwr yn mhob dosbarth. Ac i'r Cymro anibynol a balch ei natur y mae yn beth anioddefol. Ac os oes un llinell arian yn rhedeg yn eglur drwy wrthban cymysglyd ein hanes, mi gredaf mai yr un hono ydyw ein hymgais di-ildio drwy yr oesau am anibyniaeth-Anibyniaeth wladol a chenedlaethol yn yr oesau a fu, ac anibyniaeth crefyddol yn ein dyddiau ni. A chwestiwn naturiol i ofyn ydyw, a ydym i aros ar ein gyrfa, neu a ydym i gario yr ymdrech yn y blaen i enill anibyniaeth gymdeithasol a phersonol yn yr oes sydd yn dyfod ? Teimlaf yn berffaith hyderus y gwnawn ond cael yr arweiniad a'r hunan-ymwybyddiaeth mai dyma genhadaeth ymarferol y Cymro i'r byd yn y dyfodol. Cymhwyso ei syniadau cenedl- aethol o anibyniaeth i ateb gofynion person- oliaeth yn y gyfundrefn fasnachol. Sicrhau iawnderau y dyn cyffredin a dwyn allan brydferthwch cymeriad y werin-bobl, a chyd- nabod mai hwy yn y pen draw sydd o unrhyw fcwys, ac i'w ymgolli beunydd mewn addohad o'r Gwr Mawr." I Oni fuasai yn olygfa brydferth i edrych ar fasnachdai llydain Cymry llwyddianus mewn perffaith sicrwydd fod gofynion pob unigolyn yn y lie wedi derbyn ei wobr nid yn ol safonau isel y farchnad ond yn ol gallu y fasnach i ateb angenrheidiau uchaf dynoliaeth; digon o ystwythder yn y gyfundrefn i bob person yn y lie i dyfu i'w gyflawn dwf, a pherffaith hyder yn mynwes pob un tra y gwnai ei ddyledswydd fod ei gyfran yn ddiogel, a'r penaeth gyda meddwl eang, gwr- teithiedig, yn byw bywyd anfoethus a'i fryd a'i fuddianau at wasanaeth ei wlad. Dywedaf eto fod y syniad o wneuthur gof- ynion ac iawnderau y dyn cyffredin, ac yn y pen draw ei hapusrwydd a'i ddatblygiad, yn faen prawf unrhyw gyfundrefn o fywyd yn syniad cydnaws a'r anianawd Gymreig, ac yn syniad pe ei datblygid a wnai y masnachdai anferth presenol yn amhosibl ac yn atgas. A chyda Haw, nid anghymwys fyddai crybwyll yr ymddengys i mi mai ei natur Gymreig wnaeth i George Elliot ysgrifenu:— The growing good of the world is partly de- pendent on unhistoric acts and that things are not so ill with you and me as they might have been is half owing to the number who lived faith- fully a hidden life and rest in unvisited tombs." Beth bynag am hynyna y mae y syniad cenedlig yma am iawnderau personoliaeth a gwerth y dyn cyffredin i'w weled yn amlwg yn mywyd y werin Gymreig. Gwelir ef yn eglur yn yr adfywiad crefyddol. Teimlai y werin ddyheadau eu natur yn y cyfeiriad yma, a cheisiasant eu sylweddoli yn y syniad fod pawb yn gydradd a chydwerth o flaen eu Duw. Tasg fawr yr oes hon, mi gredaf, ydyw dwyn y syniad yn ol dros y bryniau tywyll niwiog tuhwnt i ba rai y bu yn preswylio cy- hyd, a'i ddwyn i breswyiio ar y ddaear fel ffaith ymarferol o gydraddoldeb rhwng dyn a dyn. Dyma un o anhebgorion gwahaniaethol y bywyd Cymreig, ac yn hyn y mae y Brython- wyr yn adlewyrchiad cywir o'n nodweddion cenedlaethol. Pawb yn gydradd heb ry nac eisieu yn cynorthwyo eu gilydd i ddadrys helyntion eu gwlad, heb unrhyw wahan- fur cymdeithasol i'w gwahaniaethu, na rhag- farn dysg yn eu dieithrio. Dyma, yntau, yn frysiog ac yn fratiog, a dybiaf olygir wrth Gymreigaeth mewn Mas- nach. Hunan-ymwybyddiaeth eglur o'n teithi cenedlaethol, a hyder cyflawn eu bod yn cynwys syniadau uwch a gwell am fywyd na'r syniad cyffredin goleddir heddyw, ac mai ein cenhadaeth ydyw sylweddoli yn ymarferol yn mywyd y genedl y syniad o gydraddoldeb cymdeithasol, ac amddiffyn iawnderau person- oliaeth yn erbyn gofynion masnach, yn ngeir- iau Alun- H Nid am gyfoeth, clod a mawredd Gaiff ein dymuniadau fod, Dylai deiliaid tragwyddol fyd Gyrhaedd at amgenach nod." A dyna genhadaeth ardderchog cenedl fach y Cymry: dangos ffordd i'r byd i dynu y llyfetheiriau olaf oddiar draed a dwylaw dyn- oliaeth.