Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Difater iawn yw Cymru ynghylch y dreth newydd ar fara. A ydyw ein harweinwyr wedi myned i hepian ? Yn ol pob argoelion, fe geir math o hedd- wch, bellach, yn Affrica. Y mae'r pleidiau wedi cytuno, meddir, a 'does dim byd i'w wneyd bellach ond cael cadarnhad oddiwrth yr arweinyddion ar y mae?. Daw adroddiadau o Ddeheudir Affrica fod talaeth y Penrhyn yn parhau yn bur derfysg- lyd o hyd, a bu peth brwydro ar gyffiniau yr Orange Free State ddechreu yr wythnos hon. Y mae'r teimlad yn parhau o hyd yn wrth- wynebol i'r Prydeinwyr, a diau y byddis yn hir iawn cyn cael perffaith undeb a heddwch yn y lie. Ychydig flynyddau yn ol yr oedd Mr. Chamberlain yn siarad yn groyw yn erbyn y Torif id yn bygwth gosod toll ar fara, a chondemniai y blaid yn llym yn ei areithiau pan yn mhlaid Mr. Gladstone. Erbyn heddyw, wele y gwr wedi ei lyncu- gan Doriaeth, ac ni waeth ganddo pa orthrwm a rydd ar y werin bobl. Disgwylia rhai pobl weled Ilawer o rialtwch yn Lloegr ar ddydd cyhoeddi heddwch, ond credwn na fydd y wlad mor barod i lawenhau pan ddel y telerau yn hysbys. Beth amser yn ol bloeddid am ddifetha yr holl haid, ond yn ol y cytundeb sydd wedi ei wneyd, yn rhanol, rhoddir mesur helaeth o jawnderau a thegwch i'r Bauwyr. Beth am y deugain mil carcharorion sydd genym ar law ? Ai tybed y bydd y rhai hyn yn barod i aros yn foddlawn a heddychol yn eu hardaloedd cynefin pan gludir hwy. yn ol i'w gwlad. Y mae pob llanerch wedi eu difrodi bellach, a'r tai a'r gerddi wedi eu difetha; a beth fydd ganddynt i wne> d ar ol myned yn ol ond codi mewn gwrthryfel a pheri poen i'r Prydeinwyr am flwyddi lawer eto. Gan ein bod ar orphen &'r rhyfel yn Affrica y mae ein cadfridogion yn dechreu cynhena a'u gilydd. Wrth gyhoeddi llythyrau ac ad- roddiadau Buller, y mae'r Llywodraeth wedi caniatau i gondemniad y gwr hwnw o ym- ddygiad Charles Warren gael ei wneyd yn gyhoeddus. Y drwg yw, na chaniateir i Warren amddiffyn ei hun. Rhaid i bob swyddog milwrol gadw rhag cyhoeddi yr un eglurhad, ond trwy Swyddfa y Rhyfel yn unig. Gan fod LIoegr yn colli ei dylanwad arianol, a threthiant uchel y wlad yn rhwystro antur- iaethau masnachol, y mae'r Americaniaid yn dod drosodd ac yn cipio ein holl allweddau masnachol. Y maent wedi sicrhau haner y fasnach fyglys eisoes, ac hefyd rhai o longau mawr y Werydd; ac yn olaf, y maent ar fedr cipio Llundain yn hollol, er rhoddi iddi gyf- undrefn berffaith o relwes tanddaearol a trams arwynebol. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cyffredinol Eis- teddfod Genedlaethol Llanelli, 1903, a gyn- haliwyd yr wythnos ddiweddaf, penderfynwyd y cynhelir yr Eisteddfod ddydd Mawrth, Awst 6ed, a'r tri dydd canlynol. Bydd rhestr y testynau allan Gorphenaf y sed-y dydd pen- odedig i gynhal Gwyl y Cyhoeddiad.