Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

MEDI'R CYNHAUAF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MEDI'R CYNHAUAF. Galwodd pobl Prydain yn daer am y rhyfel yn Affrica, ac yn awr y maent yn dechreu medi o ffrwyth eu pybyrwch Jingoaidd. Tra y gallodd y Weinyddiaeth, bu yn benthyca arian at yr holl gost, gan gynyddu y ddyled wladol mor eithafol nes yr oedd gwledydd ereill yn dechreu ymholi a all Lloegr ddal y fath bwn am hir amser--yn enwedig os ceir adeg wan ar fasnach ? Yr oedd Canghellydd y Trysorlys-ceidwad y goi wladol-yn go- hirio o hyd rhoddi tollau newyddion ar y bobl rhag ofn i ysbryd rhyfelgar y wlad gael atalfa, ond y mae'r ymgyrch wedi parhau mor hir, a'r g6st yn myned i fyny mor gyflym, fel y bu raid iddo y waith hon edrych am faes arall o gynyrch er sicrhau rhan o'r arian angenrheidiol i gario ei waith yn mlaen. Ac erbyn hyn, y mae'r wlad yn gwybod pwy sydd yn gorfod dioddef. Ni freuddwydiodd y gweithiwr tylawd druan mai efe gawsai y dasg o dalu am y rhyfel pan y gwaeddai mor groch o du ei arweinwyr Ceidwadol dros ddwy flynedd yu ol. Gosodid o'i flaen ddarlun deniadol y pryd hwnw o lwyddiant dyfodol ein meibion llafur, gan y rhai y dylasai wybod oddiar brofiad mai hud- olwyr oeddynt, a gwrandawodd arnynt. Nid ymddiriedodd yn y rhai oeddynt ar hyd y blynyddau wedi bod yn selog dros iawnderau a rhyddid, a galwai hwynt yn "hen wrag- eddos llwfr." Ond, bellach, y mae'r baich wedi dod yn union fel y prophwydai pleidwyr heddwch ac y mae y rhai a addawsant mor rhigil wedi osgoi y cyfrifoldeb arianol, eithr gosodasant y rhan drymaf o hwnw ar ys- gwyddau y rhai mwyaf amharod i'w ddal. Treth ar Fara y gweithiwr, dyna ris gyntaf y gorthrwm, a chan fod y Senedd eisoes wedi mabwysiadu yr egwyddor nis gall y ffordd fod yn mhell cyn cyrhaedd y nod a ddygodd y fath drueni ar ein gwlad ddechreu y ganrif ddiweddaf. Y mae pris pob math 6 fwydydd wedi codi yn ddiweddar-y trethi lleol wedi myned yn uwch, a hyny pan y mae cyflogau yn gyffredinol a'u tuedd tuag i lawr. A dyna'r fath ffrwythau a gaiff pobl Prydain y mwyn- had o'u casglu ar ol yr holl siarad a'r gwaeddi am y tair blynedd a aeth heibio! Y canlyniadau cyntaf i osodiad y dreth newydd yw codiad yn mhris pob math o yd a. blawd. Credid ar y cyntaf mai'r gwenith yn unig a dollid, ond bellach y mae'n eglur fod pob math o yd yn dod o dan ddosbarth y dolt. Mae'r bara eisoes wedi cael ychwaneg- iad o ddimeu yn mhris y dorth, a gwyddis y bydd hyny yn ergyd trwm i'r gweithwyr cyffredin—sydd, fynychaf, yn derbyn cyftog fechan, tra ar yr un pryd yn berchen tyaid o blant. Yn ei araeth o flaen y Senedd, ddydd Mawrth, honai y Canghellydd nad oedd angen am godi pris y bara. Ond os oedd y gwr yn meddwl y cawsai yn agos i dair miliwn o bunau i'w ddwylaw heb i rywrai deimlo eu colled, y mae ganddo syniad lied ryfedd am fasnach a chyfrifon arianol t Ond, pa le yr ydym ni Gymry yn sefyll ? Yr ydym wedi gadael i'r dreth bresenol gael ei gosod arnom heb yr un ymdrech i'w gwrth- wynebu. Yr ydym, fel gwlad, wedi myned i hepian a chredu na ddaw daioni byth o wrth- wynebu gorthrwm. Beth? ai trwy waseidd- dra a thawelwch y cafodd ein tadau ryddhad o'r llyffetheiriau roddid arnynt gan orthrym- wyr yn yr oesau gynt ? Ac, a ydym ni yn llai dewr nag oeddynt hwy ? Os ydym, yna nid oes ond gorthrwm yn ein haros; ac ar yr un wedd, os na allwn fwynhau rhyddid ac amddiffyn rhyddid, nid ydym yn deilwng o ddim ond caethiwed a phoenedigaeth. I hyn y mae polisi presenol y wlad wedi ein har- wain.

Y PREGETHWR NEWYDD.