Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinaa.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinaa. Heno, nos Sadwrn, y cynhelir cwrdd mawr olaf Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol, a chan fod y rhagolygon mor addawol boed i bob aelod wneyd ymdrech i fyned i'r He mor gynar ag y bo modd. < Y mae'r Barnwr Vaughan Williams yn un o'r Cymry mwyaf twymgalon sydd ymysg uchelwyr Llundain heddyw. Ni fyn mo rodres a moethusrwydd y Sais, eithr gwell ganddo fywyd syml a dirodres y Cymro, Y mae ganddo syniad uchel am bosibilrwydd ei gyd- genedl, a diau y ceir araeth ganddo fydd yn werth ei gwrando. » Cynhelir cyfarfodydd pregethu blynyddol y cyfeillion yn Radnor Street, Chelsea, yn ystod y Sul (yfory), pryd y pregethir gan y Parch. Elfet Lewis yn y prydnawn, a'r Parch. J. J. Jones, Llanelly (gynt Pwllheli) yn yr hwyr, ac hefyd nos Lun. w o. Ar yr un Saboth, cynhalia y cafeillion yn Eldon Street, Moorfields, eu cyfarfodydd blyn- yddol hwythau. Gwelir mewn colofn arall restr o'r pregethwyr sydd i wasanaethu yno, ac hyderir y gwneir ymdrech arbenig gan gyfeillion yr hen achos i fyned yno i roddi cefnogaeth barod iddynt ar yr achlysur. Nos Iau nesaf, cynhalia y Methodistiaid eu cyfarfod cystadleuol blynyddol ynglyn a Chapel Hammersmith. Bydd croesaw calonog i bawb a elo yno ar y noson hon. < w Nid yw pawb, feallai, yn credu rhyw lawer yn yn y bel-droed, ond y mae'n ddyddorol nodi fod y clwb Cymreig yn dal ei dir yn rhagorol, a hyny heb golli dim ar barch urligol yr aelodau. Gallwn ddywed fod y clwb presenol yn gynulliad baneddigaidd— teilwng o unrhyw gylch, a dylent gael cefn- ogaeth barod yn y cyngherdd a roddir gan- ddynt nos Lun nesaf fel y gwelir mewn colofn arall. Os yw Rhyddfrydwyr Cymreig Llundain yn ddifywyd a difater, y mae'n eglur nad yw'r Ceidwadwyr a'r Undebwyr wedi myned i drwmgwsg hunanfoddhaus, eithr dangosasant yr wythnos ddiweddaf fod ynddynt gryn lawer o fywiogrwydd os nad bywyd hefyd, oherwydd nos Iau, Ebrill 24ain, cynhaliasant gyfarfod cyhoeddus o Undebwyr Cymreig Llundain yn yr Holborn Restaurant, a. chaed cwrdd hwyl- iog a brwdfrydig iawn. Yr oedd urddasolion y blaid yno, a gwedd amlwg arnynt eu bod yn gefnogwyr pybyr i'r Weinyddiaeth bresenol. Cadeiriwyd y cynulliad gan Arglwydd Denbigh-gwr tawel, deallus, a boneddwr teilwng o'r enw a ddygir ganddo; ac yn ei gefnogi yr oedd Arglwydd Windsor, Cyrnol E. Pryse Jones, A.S., Syr David Evans, P P Pennant, Ysw., Dr Ruther- foord Harris, a'r Anrhydeddus G. Ormsby- Gore, A.S. Yn ychwanegol at y rhai hyn yr oedd nifer o Geidwadwyr selog wedi dod ynghyd i ddangos eu cefnogaeth o'r hyn a ddygid ymlaen. < Prif siaradwr y cwrdd, yn ddiau, ydoedd Arglwydd Londonderry, yr hwn, trwy rhyw anffawd neu gilydd, sydd wedi cael ei benodi yn Bost-feistr Cyffredinol. Daeth yno fel cynrychiolydd o'r Weinyddiaeth, ac i'w ran ef y syrthiodd y pleser o ateb y bleidlais o ym- ddiriedaeth ynddi a basiwyd yn unfrydol gan y cwrdd, a gwnaeth hyny i berffaith foddlon- rwydd y dorf. Yn ystod ei sylwadau, dywedai mai hwynthwy oeddynt cynrychiolwyr teil- wng o Gymry, ac nad oedd Mr. Lloyd George < a'i ychydig gynffonwyr yn ddim gwerth sylw. Hawliai fod y Llywodraeth bresenol wedi gwneyd mwy dros y wlad na'r un Llywodraeth Ryddfrydol a welwyd erioed, a chredai fod y rhyfel presenol-yr hwn oedd ar ddarfod-i ddechreu cyfnod pwysig yn ein hanes. Wrth gwrs, cynulliad hollol Seisnig ydoedd -ond yn hyn nid oedd yn wahanol i gynull- iadau y Cymry Fyddion a'r Cymmrodorion o ran hyny--ac oni bae iddynt ei alw yn gynull- iad o Undebwyr Cymreig, nis gallasai yr anghyfarwydd ei wahaniaethu oddiwrth un- rhyw gynulliad Ceidwadol Seisnig arall. Yr unig arbenigrwydd Cymreig roed arno oedd yr adran gerddorol, yr hon a lanwyd gan Gor Merch y Kymric, o dan arweiniad de- heuig Miss Frances Rees. Canasant hwy yn hynod o swynol amryw o alawon Cymreig, a chawsant dderbyniad cynes iawn gan y gwrandawyr. Wel, rhaid diolch am ganu Cymreig mewn cyfarfod gwleidyddol Cymreig y dyddiau hyn Dylid cydnabod fod y cynulliad wedi ei drefnu yn rhagorol, a pharotoadau deniadol wedi eu gwneyd mewn amrywiaeth o ddan- teithion fel ag i wneyd y noson yn l: noson lawen." Yr unig gwyn oedd fod y cyfarfod wedi ei gyfyngu i nifer rhy fechan gan es- geuluso amryw o Undebwyr blaenllaw ar draul gwahodd ambell i Ryddfrydwr claiar. Hefyd, cwyna Gwr y CELT nad oedd agoriad iddo ef tra yr oedd amryw o bapyrau di-nod Llundain fel y Times ac ereill wedi cael gwahoddiad cynes; ond yn ol ei arfer, rhydd y CELT fwy o sylw i'r cwrdd nag a roddwyd hyd yn oed gan eu gwasg eu hunain. # Dymunwn gywiro un gwall ynglyn a hanes y cyngherdd cystadleuol yn Mile End. Enill- ydd y cwpan arian am yr adroddiad Seisnig goreu oedd Miss Jennie Davies (" Miriam "), Lordship Lane, Dulwich. Rhoddwyd canmol- iaeth uchel i'r foneddiges ieuanc hon gan y beirniad, ac y mae pob argoelion y daw yn enwog ar ein llwyfanau cyhoeddus. Ar hyn o bryd, y mae yn efrydu o dan y Proffeswr Chapuy yn Ysgol Gerddorol y Guildhall. < Mae Ted Jenkins y basswr ieuanc-mab Mr. a Mrs. Jenkins, Kingsland Road-wedi dechreu ar ggti newydd yn ei hanes, oherwydd ar y iofed o Ebrill, cymerodd y ferch ieuanc hygar, Miss Maggie Jones o Treorcy, i fod yn wraig iddo er gwell ac er gwaeth," &c., ac y mae ei gyfeillion lluosog yn y ddinas yn dymuno iddo ef a'i gar hapus bob dedwyddyd a chysur. Fel ei phriod, un o blant y g&n yw Mrs. Jenkins, a diau y bydd eu haelwyd yn ddeuawd o gynghanedd bur. Dyma fel y canodd un o'i gymdeithion hen-lancyddol wrth orfod rhoddi ffarwel i Ted :— Wel done, Ted-rwyt ti wedi,-mynu gwraig Mewn grym i'th sirioli; Cest rodd-wrth dy fodd ti fyddi, 'N wych mewn hedd yn ei ohwmni hi. Eiddunaf i chwi ddau anwyl,—oes hir Lawn o seroh bob egwyl; Duw a'i hedd iechyd a hwyl, Uoha'u pris yn eich preswyl. Da genym weled fod cefnogaeth barod yn cael ei roddi i gyngherdd Mr. R. A. Davies yn yr Holborn Town Hall. Mae nifer o gantorion gwych wedi addaw eu presenoldeb ac y mae cyfeillion Mr. Davies yn ei fasnach yn dangos ffyddloddeb canmoladwy tuag ato. Rhodder iddo help y waith hon. Fel hyn yr ysgrifena gohebydd cerddorol atom i son am Mr. Madoc Davies yn beirniadu y noson o'r blaen Yr oeddwn ar amryw achlysuron wedi cael y pleser o wrando ar Mr. Davies yn canu, ond hwn oedd y tro cyntaf i mi ei glywed yr beirniadu, ac, yn wir, nid oes genyf ond y goreu i'w diyweyd am dano. Yr oeddwn yn hoffi ui peth yn neill- duol ynddo, sef ei ddull tyner o ddangos i'r cystadleuwyr eu manau gwan; yr oedd yn Hawn cydymdeimlad a hwy. Nid yw hyn yn rhyfedd yn y byd, oblegid onid yw Mr Davies yn hen gystadleuydd ei hun ? Y mae ya graff a manwl fel beirniad." tt < Cynhelir cyfarfodydd blynyddol Eglwys Dewi- Sant yfory (Saboth), pryd y gwasan- aethir gan y bardd-bregethwr, y Parch. J. Myfenydd Morgan, flcer Llandudoch, yr hwn hefyd fydd yn pregethu nos Lun am 7.30. Bydd Dr. Pritchard, St. Luke, Deptford, yn pregethu yno nos Iau Mai yr 8fed, sef Dydd Iau y Dyrchafael, am 7.30. < 0 Gwelir fod y cyfeillion yn amcanu cynhal cyngherdd mawreddog yno ar nos Iau y iSfed o Fai, yn St. David's Hall, sef y neuadd dan yr Eglwys. Gwelwn eu bod wedi sicrhau nifer o gantorion poblogaidd i wasanaethu ar yr achlysur; ac hefyd, deallwn eu bod wedi llwyddo i gael gan yr aelod Seneddol, Mr. A. Osmond Williams, i gymeryd y gadair.

Advertising