Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

nmpf)^^£1,Jh Bgd g % < j ^…

EGLWYS SANT PADARN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYS SANT PADARN (Flomsey Boad, Holloway) EI CHYFARFOD CYSTADLEUOL. Nid yw Eglwys Sant Padarn ond ieuanc iawn eto-megis yn ei babandod-a sicr yw fod pawb yn dymuno iddi ddyddiau cysurus a llwyddiant yn goron ar yr holl lafur. Y mae yma gynulleidfa o bobl gartrefol a di- rodres ac yn ymddangos mewn undeb hapus a'u gilydd. Gwir mai adeilad haiarn sydd ganddynt hyd yn hyn, ond mae'r addoliad oddifewn yn wresog a phur iawn ac y mae'r offeiriad sydd yn bugeilio yma, sef y Parch. W. Davies, yn wr tawel a di-rodres-yn hoffus gan ei braidd; ac nid yw yn segur yn ei faes dymunol. Yn arwain y ganiadaeth yn y lie ac yn llywyddu wrth yr organ, y mae gwr ieuanc o Fachynlleth, Mr. Jones, ac ymddengys ei fod yn bur lwyddianus gyda'i gor cerddgar. Y mae llawer o bethau ereill y gallesid eu nhodi am Sant Padarn a'i swyddogion, ond prinder gofod a luddia i ni wneyd hyny yn y fan yma. Y CYFARFOD CYST ADLEUOL. Cynhaliwyd y cyfarfod cystadleuol hwn nos Iau cyn y diweddaf, yn Neuadd Myddelton, Islington, pan y daeth cynulleidfa go gryno ynghyd i fwynhau y cystadleuaethau dydd- orol a geir fel rheol mewn cyfarfodydd o'r nodwedd yma. Nis gellir dyweyd pethau gwych iawn am y cwrdd hwn, a thipyn yn anhylaw ydoedd y trefniadau, a'r arweinydd feallai, yn edrych mwy ar ei "wits" ei hun nag ar waith y llwyfan. Ymddengys mai rhaglen ysgrifen- edig oedd wedi ei pharotoi gan yr ysgrifen- ydd, a hono, gallem feddwl, yn aneglur dros ben, oblegid bu raid i'r arweinydd amryw weithiau gael help i'w deall. Pan yn galw ar yr ymgeiswyr yng nghystadleuaeth y pedwar- awd, gwaeddai yr arweinydd am i'r Deu- ddeg o'r South ddod ymlaen. Ond gofynai rhywun o'r gynulleidfa, Deuddeg i ganu pedwarawd?" Fodd bynag, er dechreu y cwrdd cyn haner awr wedi saith-yr hwn a ddylasai fod wedi terfynu cyn haner awr wedi deg pe bai'r arweinydd a'r dorf hwyliog mewn undeb a'u gilydd-yr oedd oriau man y boreu yn dynesu pan ein gollyngwyd ni ymaith. Fel hyn y dywedai un hen wag wrth fyned allan, Cafwyd peth wmbreth o siarad, ond ychydig iawn a ddywedwyd," Yr oedd y gwahanol gystadleuaethau yn deilwng iawn o Eglwys fechan fel St. Padarn, ac y mae y cyfeillion i'w llongyfarch ar eu detholiad o destynau. Dylasai'r gynulleidfa wneyd ei rhan mewn cwrdd fel hwn, drwy fod yn dawel er mwyn i'r ymgeiswyr glywed eu henwau pan y gelwir arnynt, ac nid gwneyd eu goreu i ddyrysu'r gweithrediadau drwy ateb, un ar ol y 11all, i bob enw a ddaw o'r llwyfan yn wir, sylwasom at un hen Eistedd- fodwr, a ddylasai wybod yn well, a'i het dros ei wyneb yn ateb i enw rhywun arall. Yr ymgeiswyr hefyd, yr oeddynt hwythau yn hwyrfrydig iawn i ateb i'w henwau. Ar ol bod yn gwaeddai am beth amser ar rhyw John neu Jane," gwelid y cystadleuydd neu'r gystadleuyddes yn codi'n araf fel pe newydd ddeffroi o drwm-gwsg. Ysgrifenydd a y cwrdd ydoedd Mr. W. Evans, 31, Ashbrook Road, Holloway, N. Yn beirniadu yr oedd y rhai canlynol:— Cerddoriaeth, Mr. Madoc Davies, R.C.M.; barddoniaeth, Parch. D. Lewis (Ap Ceredig- ion) llenyddiaeth, Parch. Benjamin Thomas, B.A.; amrywiaeth, Parchn. Evan Davies a Lewis Roderick. Arweiniwyd gan y Parcbn. B. Thomas a Morris Roberts. Wele restr o'r buddLgwyr Traethawd Gideon," Mr. Moses Roberts, Gothic Hall. Cywydd Gardd Gethsemane,' Mr Richard Wood, Boro. Araeth fyfyriol, Mr. Moses Roberts, Gothic Hall. Dernyn o farddoniaeth, "Iesu yn golchi traed Ei ddisgyblion." Mr. Richard Jones (Cwcwll) a Moses Roberts, Gothic Hall, yn gyfartal. l'r cor am ganu'n oreu Comrades in Arms," South London Minstrels, o dan ar- weiniad Mr. Dan Jones, Clapham Junction, yn oreu. Parti deuddeg, 11 Tarry with me, 0 my Saviour." Un parti ddaeth ymlaen, sef Parti Morley Hall,. a cha'dd y wobr. Pedwarawd, Beth sy'n hardd ?" Un eto ddaeth ymlaen, sef Pedwarawd Morley Hall, a chawsant y wobr. Deuawd contralto a soprano, Misses Sarah James a Maggie Davies (Shirland Road) a Misses Thomas (Morley Hall) yn gyfartal. Deuawd tenor a bass, Mri. Edwin Thomas a Thomas Jones, Jewin. Unawd soprano, Miss Annie Thomas, Morley Hall. Unawd contralto, Miss Jones, Dalston. Unawd tenor, Mr. Hugh Williams, gynt o Gcthic Hall. Unawd baritone, Mr. John Hughes, City Road. Unawd perdoneg i blant dan 15 oed. i, Miss Annie Pierce, Dewi Sant; 2, Miss Hilda Davies, Holloway. Unawd i blant dan 16 oed. i, Miss J. L. Jones, Jewin 2, Miss Annie Parry, Dewi Sant; 3, Miss Elizabeth Jenkins, Falmouth Road. Cystadleuaeth i rai heb fod dan 50 mlwydd oed, sef canu Crugybar "ay geiriau 0 fryniau Caersalem ceir gweled." Un ddaeth ymlaen, sef Mr. Hugh Jenkins, Holloway, ac yr oedd yn deilwng iawn o'r wobr. Adroddiad Arwerthiant y Caethwas," i, Miss Jennie Thomas, West Ham; 2, Mr. D. George, Jewin. Adroddiad y plant. I, Miss J. L. Jones, Jewin 2, Miss Lizzie Davies, Holloway. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. Richard Jones (Cwcwll). Cyfeiliwyd i'r cantorion yn ddeheuig iawn gan Mr. Gwilym Rowland, organydd Capei Holloway, a Mr. Jones, organydd Sant Padarn.

Advertising