Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y SABOTH YNG NGHYMRU.!

Y "LLYFRBRYF" YN LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y "LLYFRBRYF" YN LLUNDAIN. Dyddorol bob amser yw cael barn y Ilenor- doniol hwn am danom ni yn Llundain. Dyma- ddywed yn ei bapyr-Y Cymro—am yr wyth- nos ddiweddaf I- Mi biciais i Lundain am ddeuddydd rhyw bythefnos yn ol. Beth ond picio ydyw'r daith o bum' awr oddiyma i'r Pentre ar Km y Taf- wys ? Y mae nhw'n brysur arwinol yn Llun- dain yrwan, yn enwedig yn gwneyd heolydd newyddion ac yn Hedu'r hen. Yn y Strands, yr oedd ugeiniau o navvies wrthi hi a'u holl egni yn tynu i lawr hen dai hanesyddol i wneyd heol newydd oddiyno i Oxford Street-, a Hawn ddeg am bob navvy yn segur edrych arno yn gweithio. Pe tynasasai'r llabystiaid hyn eu cotiau duon, a chymeryd caib a rhaw i helpio'r navvy, mi fuasai'r heol newydd ar ben mewn byr amser. Dyna'r heol, wyddocby na fedran nhw yn eu byw wybod beth i'w galw ar ol ei gwneyd. Myn lluaws ei henwi yn Gladstone Avenue.' Campus. Er mai Hewl y Wigsen ddimeu fuasai fwyaf cysom ag ysbryd diffaeth yr oes. Fe syna rhai mae'n dra thebyg pan glyw- ant fod llawn cymaint o hynodion lleol ym perthyn i'r Cockneys ag sydd, dyweder, yrc, perthyn i drigolion sir Lancaster. Gwradewchs ar eu ton lusgol wrth siarad, a'u camleoliad o'r llythyren h.. Wrth y miloedd colomenod a fwydant oddeutu St. Paul, Tai y Seneddr &c., gellid meddwl mai'r golomen ydyw eis totem; ac y maent yn meddwl cymaint o ambell bren fel hwnw yn Wood Street, a phe bai yn deml. "A dyna Jingoes ydynt! Os oes yno y fath fod a Pro-Boer, ni ddigwyddais dare arno. Mae'n rhyfedd na fuasai raid wrth ritsment o sowldiwrs i warchod seneddwyr a., ddaliadau Mri. Bryn Roberts a D. Lloyd, George yn eu mynediad i a'u dyfodiad o Dy'r Cyffredin. "Pobl braf ydyw Cymry y Brifddinas, Credaf eu bod ar y cyfan yn fwy eangfrydig a goleuedig hefyd hyd yn oed na Chymry Lerpwl er y dywedai Mr. Marchant Williams. yn ei bapyr godidog ar Ramant Addysgr mai hwy yn Llundain sydd wedi gwneyd melin ac Eglwys. Aethum i Gapel Harecourt y Sul i wrando Elfed. Yr oedd yno gynulleidfa ragorol, ac ni raid dyweyd dim am y bregeth wrth y rhai a glywsant y prif-fardd yn pregethu. Cymre- ydyw Elfed ar ol y cwbl, a buasai'n well genyf ei glywed yn yr hen iaith. Chwedl byrdwn y gan hono, 'O! tyred yn ol, 0 t tyred yn ol.' Bron iawn na cheisiwn ganu oan I'th gael di'n ol, fy Elfed lan. I Gymru eto lie mae'r tan Cymreig yn para i loagi. Byr, byr, gobeithio fu'r ffarwel 0 tyr'd yn ol, awenydd del, Mae eisieu dy bregethau ffel Gofyna'th wlad, 4 Bryd deui ?'

"CYDYMDEIMLAD"