Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y SABOTH YNG NGHYMRU.!

Y "LLYFRBRYF" YN LLUNDAIN.

"CYDYMDEIMLAD"

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"CYDYMDEIMLAD" (Pryeldest Arian-dlysog). Draw, draw yn y gorphenol pell, dibryder, Y torodd gwawr hoff Uydymdeimlad t-yner Yn Eden ardd. Fe'i planwyd gan law Ddwyfoli Yng nghalon byd drwy Adda'n tad daearol. Tra'n byw heb wraig, Ha eto cydymdeimlai Yn ei unigedd rhwng y dail a'r blodau. Trugaredd Duw ro'es iddo brydferth Efa, A dyna'r cydymdeimlad dynol cynta' Rhwng dyn a dyn. 0 adeg bur a hyfryd, Pan oedd y byd yn Ddwyfol berffaith Wynfyd," Heb-lwydrew oer pechodau y ddynoliaeth Yn treiddio drwy awelon creadigaeth, Gan wywo gwreiddiau tyner cydymdeimlad Ar ddaear Duw. Gwir hanfod oywir gariad, A'i wen yn dal fel huan drwy yr oesau Yn oleu fflam na ddiffydd ond yn angau 0 fynwes dyn. Gwych senedd gweithrediadau- A sylfaen wir y dynol had elfenau; Eu cartref ydyw'r enaid, Dwyfol bryniad, Lie tardd ffynonell loew cydymdeimlad Yn afon bur i deulu dyffryn trallod, Pan ar ei daith yn ceisio rhodio'i waelod, Mae swn ei dine fel myrdd o glychau arian 0 fewn palasdy gwiw yr enaid egwan;