Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinas. Dechreua y cyfeillion yn Barrett's Grove ar eu cyfarfodydd pregethu heno, a pharheir y gyfres trwy y dydd yfory a nos Lun. < Ceir dau gyngherdd dyddorol nos Iau nesaf. Bydd un yn City Road ynglyn 4 swper goffi olaf y tymhor, a'r Hall yn Neuadd Dewi Sant pryd y llywyddir gan Mr. Osmond Williams, A.S. Yn ystod y Saboth yfory, cynhelir cyfar- fodydd blynyddol Capel Harecourt, Canon- bury, i ddathlu sefydliad y Parch. H. Elfet Lewis yn y lie. Y mae Mr. Lewis ar y Saboth hwn yn dechreu ar ei burned flwyddyn o'i lafur yn y Brifddinas. » Y mae rhagolygon llwyddianus am ddigon o bleserdeithiau adeg y Sulgwyn. Bydd pob Ysgol Sul bron yn myned i'r wlad am y dydd, a'r oil a eilir ddymuno yn awr yw, y deil y tywydd yn sych. Os ceir hyn bydd pob peth yn dda. Cantores newydd yn ein plith ni, Lundein- wyr, yw Miss Gwladys Roberts, yr hon a ymddangosodd yng nghyfarfod yr Undeb nos Sadwrn diweddaf; ond, yn sicr, fe ddaw yn gantores botlogaidd. Medda lais swynol a chyflawnder o hono, ac mae ei harddull naturiol yn dangos ei bod wedi cael y cyfar- wyddyd priodol ar ddechreu ei gyrfa. Er ei bod o dan anwyd, canodd yn hynod o effeith- iol, a da y gwnaeth yr Undeb roddi lie iddi ar y rhaglen. Yn canu yn yr un cwrdd yr oedd Mr David Evans, Jewin, ac y mae yntau yn graddol ddringo yn ei yrfa lwyddianus ac wedi gwella llawer hyd yn oed oddiar pan yr enillodd yn yr Wyl Genedlaethol. Llwydd iddo eto. Miss Maggie Ellis, gyda'i medr arferol, a ofalai am y cyfeiliant. w w Y GOLEUNI TRYDANOL. Englynion buddugol ym Morley Hall, dro yn ol:— Holltwr nen—gwefr ysblenydd-reolir Ar alwad peirianydd, A'i oleu'n der-eilun dydd, A hulia ein heolydd. O'i wynias gell yn picellu-ei fflam Loyw fflwch i'n synu, A phob lamp a'i gamp gu I'w loches a, i lechu.—CWCWLL Cadwen-flodau am wddf y diweddar Mr. Llewelyn Jones, Walham Green. Pa le mae'r deg ddynoliaeth A welwyd ar ei hynt ? Pa le mae'r ddelw brydferth Edmygem gymaint gynt ? Pa le mae'r gwr rhadlonaidd A iechyd lond ei wedd ? Iaith calon gweddw ddywed— Llewelyn yn ei fedd I" Pa le mae'r Tad fu'n arwain Ei blant i'r ysgol draw Foreuau Sul yn gyson A'r Beibl yn eu llaw ?" Pa le mae'r Ilais fu'n canu- Caneuon marwol glwy ? Lief dagrau plant sy'n adsain Ein dada nid yw mwy Pa le mae'r cyfaill hoffus Fu'n morio gyda mi Hyd foroedd masnach bywyd A'r awel deg o'n tu ? I asked his child-so charming With beauty in his brow- Where is your father dear ? "I 'ave no fad'er Mow Pa le mae'r llaw afaelai Mor dyn, pan'sgydwai gynt Nes deffro serch dwy galon I lamu fel y gwynt ? Pa le mae'r eraff esboniwr I'w farn y rhoddid pwys ? Sedd wag ei ddosbarth ddywed Mae heddyw is y gwys." j r Pa le mae'r gwr bonheddig A berchid gan bob dyn ? Ei wen, oedd drydan megis I galon ami un Mae gobaith imi'n sibrwd, Uwch bedd ei'n cyfaill gwiw Ei lief i mi barabla- Llewelyn eto'n fyw"! Fel chwythiad un ar ganwyll Diflanodd felly'r gwr Yn anterth ei brydferthwch Dadfeilio wnaeth ei dwr. Dylanwad yr ymraniad"— 'Rwy'n teimlo hwn o hyd- Rhybuddia fy ngherddediad A'm bywyd yn y byd.—BODVAL. < Cafodd gwyr y bel-droed noson hwyliog nos Lun diweddaf pryd y cynhaliwyd ganddynt eu cyngherdd blynyddol o dan lywyddiaeth y boneddwr twym-galon Mr. D. H. Evans, Pangbourne. Fel y gwyddis, y mae clwb y bel-droed wedi cyfnewid er gwell yn y blyn- yddau diweddaf hyn, a saif heddyw mewn safle barchus ymysg clybiau o'r fath yn y ddinas; ac y mae ei dymhor diweddaf wedi bod yn hynod o Iwyddianus. » » Un noson yr wythnos ddiweddaf cynhaliodd ei gwrdd busnes blynyddol pryd y cafwyd adroddiad Hawn ar y gwaith am y tymhor. Ar derfyn y gweithrediadau etholwyd y meddyg-Dr. D. L. Thomas-yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol, fel olynydd i'r diweddar Mr. T. J. Harries. Gwnaed Mr. Llewelyn yn ben-ca iben y fyddin, a gofelir am y trefn- iadau gan yr ysgrifenydd cyffredinol Mr. Walter Davies. Gyda'r tath drioedd, dylasai y clwb fod yn llwyddianus eto yn y dyfodol. Yn y cyngherdd nos Lun yr oedd torf enfawr wedi dod ynghyd, a chaed caneuon gan nifer o wyr blaenaf y gelf gerddorol. Dechreuwyd yn brydlon am wyth o'r gloch a pharhaodd y rhaglen hyd haner nos; a theimlai pawb ar y diwedd eu bod wedi cael digon o gan a hwyl am unwaith beth bynag. Caed ychydig eiriau calonogol gan Mr. Evans o'r gadair yn ystod y cwrdd, a mawr oedd cymeradwyaeth y dorf iddo am ddod i lyw- yddu. Gofalwyd am drefniadau y cyngherdd gan Mr. J. D. Williams, a gwnaeth ei waith mewn dull rhagorol. Cynhelir arddangosfa arbenig o nwyddau Cymreig o dan nawdd Cymdeithas y Diwyd- ianau yn Grosvenor House-trwy ganiatad arbenig Due Westminster-ddydd Iau a dydd Gwener nesaf (Mai isfed a'r i6sg), am 2.30 o'r gloch. Disgwylir yno gynulliad urddasol, a bydd pob trefniadau yno ar gyfer gwneyd pawb yn gysurus. Rhoddir te am bris rhes- ymol, a cheir detholiad o ganeuon Cymreig yn ystod y prydnawn. Pris y tocynau fydd 5s., a gellir eu cael oddiwrth Mrs. Richard Helene, 22, Princes Gate, S.W., ysgrifenyddes mygedol y gymdeithas. # Mae Eisteddfod am dri diwrnod i'w chynal ynglyn ag eglwys Seisnig yn Shepherd's Bush yn mis Mehefin. Prif symudydd y mudiad yw Miss Alice Williams, chwaer yr aelod Seneddol tros Feirion, yr hon sydd yn cvm- eryd cryn ddyddordeb yn yr achos yno. Ceir yr holl fanylion ond gohebu a hi ar y mater. » Cynhaliwyd y gwasanaethau blynyddol yn Eglwys St. Benet ddydd Sul a nos Lun (Ebrill 27 a 28), pryd y pregethwyd yn rymus gan y Parch, J. D. Lewis, Pen Careg, a Herbert Evans, Stepney. Canodd y cor yr anthem, H 0, Arglwydd ein lor" yn dda, a chanodd Miss Mary Pierce, Paddington, Iesu, Cyfaill f'enaid cu." Da genyf medd ein goheb- ydd, gael llongyfarch y foneddiges hon ar ei dadganiad ardderchog o'r unawd, a dym- unwn iddi bob llwyddiant yn y dyfodol. Dy- laswn ddyweyd fod canu yn yr Eglwys hon yo yn parhau i fod o safon uchel, ac yn glod i'r cor a'r organydd, Mr. T. Vincent Davies. Yr oedd y cynulliadau yn yr holl wasanaethau yn foddhaol dros ben. < Cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol Merch- ed Beauchamp Road, Clapham Junction, eu cwrdd diweddaf am y tymhor, nos Fercher cyn y diweddaf. Croesawyd yr aelodau gan Mr. a Mrs. Herbert Lewis, A.S., i wledd o'r fath oreu; ac ar ol i bawb wneyd cyfiawnder a'r danteithion, caed cyfarfod rhagorol. Yn absenoldeb y llywyddes-Mrs. Lloyd George —cymerwyd y gadair gan Mrs. Herbert Lewis. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan Mrs. Roberts, Majorie Grove; yna caed anerchiadau campus gan Mr. a Mrs. Herbert Lewis a Miss Anna Jones. Caed alawon Cymreig ar y berdoneg gan Miss Blodwen Edwards, ac adroddodd Mr. Tom Jenkins Y Nos" (Islwyn) yn effeithiol iawn. Canodd Mrs. R. L. Davies The Promise of Life'" yn swynol iawn; a mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr. Un o weinidogion mwyaf poblogaidd yr America yw'r Parch. J. Rhoslyn Davies, Pits- burg, a bydd yn dda gan Gymry'r ddinas gael cyfleusdra i wrando arno yn ystod y Sulgwyn eleni. Bydd yn pregethu yn Eldon Street yn ystod y Saboth—i8fed. <t <t Yn ystod y gauaf diweddaf sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol ynglyn a chapel Cymraeg Woolwich, ac ar ol tymhor hynod o addawol dygwyd cyfres y cyfarfodydd i derfyn trwy gynhal cyngherdd mawr yn y capel nos Iau, Mai iaf, pryd y daeth torf luosog ynghyd o dan lywyddiaeth y Parch. J. Landel Jones, Blackheath. Datganai y llyw- ydd ei foddha,d wrth weled yr achos Cymraeg yn myned ar gynydd yn y lie a dymunai bob llwydd iddynt yn y dyfodol. Yr oedd rhaglen faith iawn wedi ei threfnti eto llwyddwyd i derfynu mewn awr briodol er i amryw o ail-alwadau gael eu rhoddi gan y dorf foddhaus. Yn cymeryd rhan yn y gweith- rediadau yr oedd y cantorion a'r offerynwyr a ganlyn:—Unawdwyr, Mrs. Hicks, Misses John (o gor y Kymric), Miss Hopkins, Misses Wiseman, Topping a Stiles, y Mri. Hicks Thomas, A. L. Griffiths, L. D. Lewis, W. Richards, A. Bowen. OtIerynwyr :-Misses Styles a Welden a Mri. Melborne a Smith, &c. Caed canu rhagorol o'r dechreu i'r di- wedd, a phrofodd y derbyniad a gafwyd fod y gynulleidfa wedi cael gwledd. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Bydd y Gymdeithas yn dechreu ar ei thym- hor nesaf yn gynar yn mis Hydref, a rhoddir croesawiad cynes i Gymry'r ardal i ymuno a'r cyfeillion yn y lie. Ceir pob manylion ond ymofyn a swyddogion y capel yn Parson's Hill, Woolwich. m Parheir y cyfarfodydd blynyddol yn Dewi Sant, Paddington yfory (Sul), pryd y pregethir gan y Parch Herbert Evans, un o bregeth- wyr mwyaf diwyd ac addawol yr Eglwys Gymreig. Gwelir yn ein hysbysiadau am y cyngherdd ardderchog a gynhelir yn St, David's Hall nos Iau nesaf.

Advertising