Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CYMDEITHASAU

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CYMDEITHASAU DIWYLLIADOL LLUNDAIN. CYFARFOD PEN-TYMHOR. ARAETH GAN Y BARNWR VAUGHAN WILLIAMS. Daeth mis Mai eleni cyn y darfu i Undeb y Cymdeithasau ddirwyn ei thymhor i ben. Yr oedd lluosogrwydd y cyfarfodydd Cymreig ac amryw achosion ereill wedi gorfodi gohir- ied, fel nad oedd dim i'w wneyd ond cael y ewrdd ar y Sadwrn cyntaf o Fai. Ar waethaf yr oil hefyd, yr oedd y noson yn un hynod o anffafriol i gael cynulliad mawr gan fod tair gwyl bregethu wedi dechreu ar yr un noson, St f eiddo y brodyr yn Gothic Hall, Eldon Street a Chelsea. Nid rhyfedd, felly, oedd gweled y nifer yn llawer llai nag arfer, eto, daeth cynulliad cystal ag a allesid ddisgwyl o dan yr amgylchiadau a llenwid y neuadd yn -weddol gysurus, fel na chafodd yr areithwyr ond nifer fechan o seddau gweigion i syllu arnynt. Y mae 14 mlynedd, bellach, oddiar y sef- ydlwyd yr Undeb hon, ac y mae gwedd fwy llewyrchus arni yn awr nag yn un adeg o'i banes. Cynydda bob blwyddyn mewn nerth a dylanwad, a gellir ei rhestru bellach fel un o'r cymdeithasau goreu sydd gan Gymry'r ddinas. Y mae mor eang ei chyrhaeddiadau fel y gall pob plaid a chredo ddod o'r tu fewn i'w phebyll, ac edrychir arni fel math o gynullfan cenedlaethol i dalentau Cymreig Llundain. Y llywydd am y flwyddyn ddiweddaf oedd Mr. W. Llewelyn Williams, y bargyfreithiwr, ac y mae yntau wedi dilyn rhes benigamp o lywyddion, oherwydd ymysg ei flaenoriaid gwelir enwau y diweddar a'r anwyl T. E. Ellis, Syr John Puleston, D. Lloyd-George, Syr Lewis Morris ac ereill; a gweithredir fel ts-Iywyddion gan nifer luosocaf o weinidogion Cymreig y ddinas. Ffufir pwyllgor yr Un- deb" gan gynrychiolwyr dewisiedig o'r man gymdeithasau, fel y mae pob adran yn cael ei chynrychiolaeth yn y Gymdeithas ganolog hon. Swyddogion y flwyddyn a eeth heibio oeddynt:—Mri. Watkin Jones (cadeirydd), Eben Hughes (is-gadeirydd), R. Gomer Jones (ysgrifenydd arianol), W. Anwyl Wellington (ysgrifenydd cyffredinol) a D. R. Hughes (ys- grifenydd trefniadol), ynghyd a Miss Jennie Vaughan fel trysoryddes yr holl fudiad. Ar hyn o bryd perthyn dros ugain o fan gymdeithasau i'r Undeb Ganolog, ac y mae'r berthynas rhwng y naill a'r Hall wedi dod yn llawer agosach oddiar y dechreuodd yr Undeb ar ei chenhadaeth rai blynyddau yn ol. Trefna i gynhal nifer o gyfarfodydd rhyng- gymdeithasol ynghyd a chynulliadau undebol fel ag i godi safon llenyddol a chymdeithasol y cyfarfodydd lleol: ac os deil ymlaen mor Ilwyddianus yn y dyfodol, disglaer, yn wir, fydd bywyd ieuenctyd Cymreig y ddinas yn ystod y gweddill o'r ganrif hon. Prif atdyniad y cwrdd eleni oedd presenol- deb y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Farnwr Vaughan Williams, yr hwn, ynghyd a'i ferch, a ddaeth yno ar wahoddiad y llywydd. Gyda hwy ar y llwyfan, yr oedd y llywydd ynghyd a'i briod-Mrs. Williams; Parchn. Richard Roberts, Willesden; F. Knoyle, Hammer- smith a Mr. Watkin Jones. Rhoddodd yr ysgrifenydd trefniadol-Mr. D. B. Hughes-ei adroddiad o waith y tym- hor, ac er nas gallai ddyweyd eu bod wedi bod mor weithgar ag yr hoffent; eto, yr oedd- ent yn dal mor llewyrchus ag erioed, a hy- derai y byddai'r dyfodol eto yn fwy llwyddianus, os yn bosibl, nag oedd y gorphenol. Diolchai yn gynes ar ran yr Undeb am bresenoldeb y Barnwr Vaughan Williams, ac 'roedd cael cefnogaeth a nawddogaeth personau o'i safle ef yn symbyliad iddynt fobl ieuainc i fwy o weithgarwch nag erioed. Wrth gyflwyno y Barnwr i'r gynulleidfa dywedai y llywydd ein bod, fel cenedl, yn hoff o hono, pe ond er mwyn ei dad a'i daid, ond ar wahan i hyn yr oedd efe ei hun wedi dringo i safle yr oeddem fel cenedl yn falch i'w weled ynddi. Rhoddwyd derbyniad gwresog i'r barnwr pan gododd i siarad, ac ar ol cael tawelwch, traddododd anerchiad benigamp i'r aelodau. ARAETH Y BARNWR. Foneddigion nis gallai eich llywydd wneyd yr un sylw mwy boddhaus i mi na'r cyfeiriad at fy nghysylltiadau Cymreig, ac at goffadwr- iaeth fy nhad a'm taid. Teimlaf fy mod wedi cael anrhydedd drwy gael gwahoddiad i'ch plith heno, a gallaf hefyd ddyweyd ei bod yn anrhydedd imi gael gwahoddiad i fod yn bresenol yng ngwyl gorseddiad Tywysog Cymru fel Canghellydd y Brifysgol Gymreig ddydd Gwener nesaf. Nis gallaf anghofio mai o'r tuallan i Gymru y cefais i fy magu a'm dysgu, ac am hyny teimlaf yn fwy diolch- gar i chwi am eich hynawsedd yn caniatau i mi eich anerch fel hyn. Yr wyf yn myn'd i ddyweyd gair wrthych heno ar Gydymdeimlad a Hunanoldeb (sympathy and selfishness), gan y credaf y dylai cymdeithas fel hon hyrwyddo y naill a gwrthwynebu y Hall. Nid wyf wedi parotoi araeth i chwi, oherwydd pan ddel rhywun i anerch torf ieuanc fel hon gwell yw siarad yn groyw o'r galon ac nid cyfyngu i linellau pin ac inc. Feallai na synech pe dywedwn i mi borotoi araeth y prydnawn yma, ond wedi ei darllen drosodd i mi fy hun gwelais na wnai mo'r tro, felly cafodd ei gosod yn fy mhoced o'r golwg ac yno y caiff fod hefyd. Yr hyn a berodd i mi geisio parotoi oedd wrth weled rhaglen un o'ch cymdeithasau, ar yr hon yr oedd rheol yn dyweyd am amcanion y Cymdeithasau-sef i hyrwyddo diwylliant personol trwy bapyrau, darlithiau, anerchiadau, &c. Yr hyn a'm tarawodd oedd pa fath sylfaen a ddylid roddi i gynulliad o'r fath. Ni ddylai dyn fod byth a hefyd yn meddwl am dano ei hunan. Ni ddylai osod ei holl fryd ar wneyd eu hunan yn unig yn ddedwydd. Nis gall fod yn dda i'r un dyn nac i'r un ddynes fod bob amser ond yn meddwl am eu hapusrwydd eu hunain yn unig. Dylem chwilio am rywbeth fyddo o ddyddor- deb i ereill o'n cylch, ac wrth gael y peth a rydd foddhad i ereill yn ogystal ag i ni ein hunain dyna'r ffordd i gael yr hapusrwydd gwirioneddol a pharhaol. Gellir cael hyn drwy Gymdeithasau fel yr eiddoch chwi. Eu har- wyddair yw cael man cyfarfod cyffredinol ar bwnc a fydd o ddyddordeb i bawb o'r aelodau. Ar ol cael hynyna, y mae'n weddus, feallai, i ddyweyd beth i'w osoi eto. Peidiwch er dim a throi eich Cymdeithas yn ysgol. Mewn ysgol ni cheir ond y wedd bersonol i lywyddu bob amser, yrawyddyna am gael pob gwybod- aeth i ni ein hunain. Eithr ein nod ddylai fod cael o hyd i'r hyn a wna ddyddori yr oil, a chael pob aelod i gymeryd rhan yn y gweith- rediadau. Nis gall yr un dyn sydd yn byw bywyd meudwyaidd, i'm tyb i, fod yn hapus. Y mae arnom angen cydymdeimlad. Edrycher ar nerth cydymdeimlad mewn cymdeithasau fel hyn. Ar hyn o bryd y mae dyddordeb anghyffredin yn cael ei gymeryd mewn Addysg dros y byd gwareiddiedig. Cyferfydd cymdeithasau rhyng-wladwriaethol i ymdrin pynciau mawrion, a beth yw'r canlyniad? Dim, yn fynych, am nad oes y cydymdeimlad priodol cydrhwng yr aelodau. O'r tu arall, fe glywaf lawer o son am genedlaetholdeb Gymreig, ac er fod llawer o feirniadu av gwawdio arno, eto, nid oes neb wedi sylweddoli ei wir werth a'i ddylanwad. Dyma'r elfen a gynulla fobloedd ar yr un tir, lie y caiff cydymdeimlad berffaith ryddid, ac nid yw yn syndod felly i ni lwyddo i gael trwyddo ein prifysgol i Gymru (cym). Ond, meddech, ohi chyferfydd pobl gwledydd ereill ynghyd hefyd ? Gwnant, yn ddiau. Nid wyf yn honi i Gymru yr unig safle yn hyn. Ond yr hyn wyf am bwysleisio arno yw, fod y cyn- ulliadau lleol yma fel sydd genych chwi YIT" 11awn cydymdeimlad a'ch dyheadau yn bethaus prin iawn; a chredaf mai yng Nghymru yn unig y ceir yr esiampl fwyaf llwyddianus o hyn. Nid ydym yn cwyno am i ni gael prif- ysgol, cofier, nac yu eiddigeddu wrth Bir- mingham am geisio dilyn ein hesiampl; yn wir, yr ydym, os dim, yn teimlo ein hunain yn fwy balch o'r herwydd, ac fe ddylem fod. Eto, beth am y seiliau ar ba rai y dylech geisio cael y diwylliant a'r dyddordeb cyff- redinol yma yn eich cymdeithasau ? Gofelwch am beidio ymdrin a phynciau na fyddo yr holl aelodau yn ceisio cymeryd dyddordeb ynddynt. Boed i'ch pynciau llenyddol a'ch darnau cerddorol fod yn llawn cydymdeimlad' a'ch gwrandawyr; ac ond gwneyd hyn fe ddaw y diwylliant a geisir genych. Nis gwn am fanylion eich gweithrediadau ond casglaf fod genych nifer o ddadleuon ac os oes genych y rhai hyn, gwnewch eich goreu i ymgydnabyddu a'r pwnfc cyn siarad arno, a phan yn siarad boed i hwnw fod yn union ar y mater ac nid yn gwmpasog. Dar- llenwch bob peth a ellwch ar y mater a fyddo ger bron, ac wedi cael pob peth yn ei gylch, yna gallwch siarad, a bod yn sicr hefyd y siaredwch i bwrpas. Wrth wneyd hyn fe feithrinwch ddiwylliant, ac ar yr un pryd enili cydymdeimlad a'r pwnc a fyddo dan sylwr a thyna'r ffordd i wneyd eich cymdeithas yn werthfawr ar yr un pryd. Wrth derfynu nid oes genyf ond dymuno i chwi bob llwyddiant yn eich tymhorau dyfodol, a diolch yn gynhes i chwi am fy ngwahodd i dreulio noson hapus fel hyn yn eich mysg (cym. uchel)." Wedi cael can gan Mr. David Evans gal- wodd y llywydd ar y Parch. R. Roberts, Willesden Green, i gynyg pleidlais o ddiolchgarwch i'r Barnwr Vaughan Williams am ei eiriau caredig a'r gynghorion amserol, yr hyn a wnaeth mewn araeth hynod o wresog. Eiliwyd gan y llywydd, a chefnogwyd yn unol gan y cynulliad. Wedi diolch am y croesaw ymadawodd y Barnwr gan fod ganddo gyhoeddiad arall, a galwodd y llywydd ar Miss Gwladys Roberts k roddi can, ac ar ol hyny caed anerchiad y llywydd. AWGRYM MR. LLEWELYN WILLIAMS. "Y peth sydd eglur, yn ystod yr ugain < mlynedd diweddaf yma, yn mywyd Cymreig Llundain" meddai Mr. Williams, "yw yr egni gwladgarol yma, a'r ymdrechion dros gadwraeth yr iaith fel cyfrwng addoliad yn ein plith. Rhyw 20 mlynedd yn ol nid oedd\ ond rhyw ddeg o gnpelau yma tra heddyw ceir fod yma tua deg-ar-ugain, a phob enwad wedi bod ar ei heithaf i eangu eu cylchoedd, Beth y mae hyn yn brofi ond fod y bobl hyny oeddent yn dyweyd fod amcan a neges i'n hiaith, wedi dyweyd y gwir. Y mae'r iaith eto i fod ya offeryn diwylliant i ni yng Nghymru, a dengys ein hymdrechion yn Llundain nad yw oes yr hen iaith eto wedi dibenu. Gobaith goreu cenedl yw fod ei hiaith yn iaith fyw a Ilenyddol, ac os am- wneyd y goreu o'n hiaith dylem ddarllen gym- aint ag a allom o'i llenyddiaeth. Y mae mwy o ysgrifenu a mwy o gyhoeddi llyfrau Cym- reig yn awr nag erioed, ond a gaf fi ofyn i chwi faint o'r llyfrau hyn a ddarllenir genynr ni yn Llundain heddyw. Nid wyf yn eich,, beio, cofiwch, oherwydd nid yw'r cyfrolau a,, fewn ein cyrhaedd, ac amhosibl i ni fuasai, prynu yr oil a gyhoeddir. Ond y mae gan y Saeson ffyrdd gwell na ni i ddosbarthu llyfrau,. a'r hyn a awgrymaf yw, ai nid yw yn bosibl i ni yn Llundain, o dan nawdd yr Undeb hon-. i gychwyn math o circulating library a roddai yr holl lyfrau da Cymreig o fewn ein cyr- haedd, a hyny am ychydig o gost. Cymerer fel engraifft weithiau a gyhoeddir gan y Guild"- of Graduates. Cyhoeddant hwy nifer o gyf- rolau yn ystod y blynyddau hyn, a phe buasai genym gynllun priodol i ddosbarthu gallasem ymgydnabyddu a'r oil o honynt. Pe gallasem, gychwyn y fath fudiad ynglyn a'r cymdeith- asau Cymreig ar unwaith, credaf y buasai o fudd ac adeilaeth i ni, heblaw hefyd i fod,