Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD GERDDOROL STRATFORD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD GERDDOROL STRATFORD. Yn Stratford yr oedd maes y gystadleuaeth yr wythnos ddiweddaf, fel y gwelwch. Nid <!es dim sydd yn fwy wrth fodd ieuenctyd yr Hen Wlad, na Chyfarfod Llenyddol, Eistedd- fod neu Gymanfa Ganu. Mewn gwirionedd, dyma rai o nodweddion penaf y bywyd Cym- reig. Yn y pentref mewn mangre anghysbell, yn ogystal a'r dref ddiwylliedig, yn Ngwalia, y mae yn rhaid wrth gyfarfod llenyddol a chystadleuol. Ac onid yw pob Cymro cywir yn edrych yn ol gyda'r parch mwyaf ar Gyf- arfod Llenyddol y Pentref-lle y gwreiddiodd yr hadau yng nghewri ein cenedl, lie y treul- Iwyd oriau melus boreu oes genym, a lie yr oedd pob peth mor naturiol a'r grug ar y mynyddau a chaneuon Ceiriog; ac er yr holl style a fashion sydd genym ni, Gymry Llun- dain, ynglyn a'n cyrddau llwyddianus, y cwrdd bach syml a di-rodres yn y wlad ydyw y iffynon o ba un y tarddodd ein Cymdeithasau Diwylliadol a'u holl ddaioni. Ac os am olrhain tianes ardderchog Cwrdd Llenyddol y Cymry -yr hwn a ddengys fod mwy o ddaioni wedi deilliaw o hono nag o un sefydliad arall ac eithrio yr Ysgol Sul—rhaid myned i fanau tawel a hyfryd gwlad ein genedigaeth. Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod nos Iau cyn y diweddaf yng NghapeJ y Methodistiaid yn Romford Road, Stratford, pan y daeth cynulliad da ynghyd. Prin y buasai dyn yn -credu y byddai'n bosibl denu bechgyn y gin mor bell a'r ardal hon o'r ddinas ac y buasai neb ond Cymry y gymydogaeth yn bresenol yn y cyfarfod ond nid felly y trodd pethau allan, eithr gwelsom ymysg y dyrfa rai o Chelsea, Hammersmith a Falmouth Road, ac yr oedd rhai o'r cystadleuwyr hefyd wedi dod o gryn bellder ffordd. Dengys y ffaith yma fod dylanwad y cyfarfodydd hyn yn fawr ar Oymry ieuainc y Brifddinas. Y mae'r wedd yma ar bethau yn sicr yn achos o lawenydd 1 lawer o'n cydwladwyr, a dylid gwneyd y goreu o honi tra mae'n ddydd. Yr oedd rhai o'r cystadleuwyr yn cael eu gwneyd i fyny o ferched gweini a llaeth- weision a phan ystyrir fod darnau fel Pluen wen o eira glân" (D. Jenkins), God is a Spirit" (Bennett), ac unawdau ereill o chwaeth ^chel, yn destynau ar ba rai y cystadleuasai y ssnorwynion a'r gweision hyn mor dda, onid yw yn achos i ni lawenhau ? Nid oedd ond y nesaf peth i ddim o Gym- raeg yn y cyfarfod-caneuon Seisnig oeddynt bron i gyd. Mr. Maengwyn Davies oedd yn beirniadu'r gan, a'r Parch. J. Garnon Jones yr adroddiadau a Madame Marion Williams yn gwasanaethu wrth y berdoneg gydag ar- ddull rhagorol. Doniol iawn oedd beirniad yr adroddiadau ITyda'i sylwadau. Gorfu iddo roddi ei feirn- iadaeth ar y gystadleuaeth gyntaf yn Saes- neg", ond pan ddaeth yr ail gystadleuaeth, sef y Gymraeg, tynodd ei anadl ato gydag ochen- aid, fel pe newydd ei ryddhau o gadwynau. w Yn awr," meddai, "yr wyf yn meddwl fod .genyf berffaith hawl i siarad iaith fy mam, gan mai cystadleuaeth Gymraeg ydyw hon. Wyddoch chi be, bob!, y mie yn iechyd i <ldyn gael agor ei geg fel y myn ef ei hun ac nid fel y gorchymynir iddo wneyd gan ereill." ydym yn credu ei bod yn iechyd i'r gwr parchus hwn gael siarad ei iaith ei hun, oblegid, yn sicr, yr oedd yn iechyd i galon dyn wrando arno. Yn y gadair yr oedd Maer West Ham, ac yr oedd ei briod y Faeres gydag ef. Ar ol i'r Maer ddarllen llythyr o ymddiheurad oddiwrth aelod Seneddol y rhanbarth yn gofidio oherwydd ei analluogrwydd i fod yn bresenol oblegid galwadau arbenig yn Nhy'r Cyffredin, aethpwyd ymlaen a'r rhaglen ac fel hyn yr oedd y buddugwyr:— Unawd contralto. Miss Winifred Jones, Dalston, yn oreu. Unawd perdoneg y plant. Miss Mildred Rudling, Stratford, yn oreu. Unawd tenor. Mri. Edwin Thomas, Jewin, ac Edward Thomas, Morley Hall, yn gyd- radd. Adroddiad y plant. Miss M. Jenkins, City Road, a Miss Lilian Jones, Manor Park, yn gyfartal. Pedwarawd. Misses a Mr. Edward Thomas, Morley Hall a Mr. Morgan Jones, Jewin Newydd. Unawd soprano. Miss Rees, Plaistow, yn oreu. Deuawd soprano a baritone. Miss Annie Thomas, Morley Hall a Mr. Richard Hughes, City Road. Adroddiad. Mr. W. D. George, Jewin Newydd, yn oreu. Unawd baritone. Mr. David Jones (Llew Caron), Jewin, yn oreu. Cystadleuaeth y ganig Pluen wen o eira glan." Paiti Morley Hall, o dan arweiniad Mr. David Thomas, yn oreu. Llongyfarchwn yr ysgrifenydd-Mr. D. Richards-ar daclusrwydd trefniadol y cyf- arfod. Ar ol talu y diolchiadau arferol, terfynwyd yr wyl gyda Hen, Wlad fy Nhadau."

Advertising

UNDEB CYMDEITHASAU