Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Byd y fan, t)

TEYRNGED AWEN.

PWLPUD FY NGWLAD.

BYW FYTH A FO'R ANWYL GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYW FYTH A FO'R ANWYL GYMRAEG. Alaw: "Hen Wlad fy Nhadau" Er teithio dros foroedd i wledydd sydd bell Ni chlywir yn unlle iaith burach a gwell Na hen iaith y Cymry sef 'r hen Omeraeg, Am hyny byw fyddo'r Gymraeg. Aeg, aeg, Caraf yr hen aeg A thra bo'n llaith y moroedd maith Byw fyth a fo'r anwyl hen iaith. Ar lwyfan y'Steddfod yng Nghymru fach lan Arferir iaith Gomer mewn cywydd a chan, Am noddi yr awen nid oes yr un aeg Mor ufudd a'r anwyl Gymraeg. Iaith ydyw sy'n rhoddi heb unrhyw wahardd Oreuwisg ysblenydd i awen y bardd, Iaith lawn ei chynghanedd yw'r hen Omeraeg, Am hyny byw fyddo'r Gymraeg. Iaith ydyw esgorodd ar ieithoedd y byd, Iaith gafodd Twr Babel i'w merched yn gryd, Iaith Eden, iaith Gwynfa, nid oes yr un aeg Mor brydferth mor bur a'r Gymraeg. Ac os oes i'm eto flynyddau i fyw Mi hoflwn eu treulio mewn heddwch a Duw Ar fryniau gwyllt Gwalia er tyloted fy saig Er mwyn bod yn swn y Gymraeg. A phan ddaw yr adeg i'm adael y byd, 0 1 rhowch i'm orweddfan yng Nghymru fach gtyd A rho'wch ar fy medd-faen yng ngeiriau'r hen Un hoS ydoedd hwn o'r Gymraeg." [aeg Orrell, Bootle. GLAN-DWYFFBWD.