Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DAVIES, 20, MEADOW ROW, S.E. MILK—S.W. Business doing 54 gallons daily, nearly all 4d.; expenses low. £ 800. INDOOR-Grand neighbourhood, S.W.; takings £ 18 weekly; trial allowed. £110. S.E., main road, nice shop, low rent, takings 923 weekly. £110.. S.E., busy part, rent only 7s. weekly; takings 918 weekly. £90. D. J. TRUSCOTT & Co. DAIRY AGENTS. &c. 11, BOND COURT, WALBROOK, EC. CLOSE TO MANSION HOUSE. Great Western & Metropolitan Dairies. LIMITED, With which are amalgamated the Great Western Farm Dairies Company, Ltd- And the Metropolitan and Suburban Milk Supply Association, Limited. 3. P. HODDINOTT") WILLIAM PRICE > Managing Directors. J. HOPKINS ) HeadlOffice- 9, Harrow Road, Paddington Branch Offioe- 169, WALMERjROAD, NOTTING HILL, and at G.W.R., PADDINGTON, L. & N.W.R., KILBURN and EUSTON; G.C.R., MARYLEBONE Analyst; Professor A. W. STOKES, F.I.C., P.O. This Company is in a position to supply Dairymenin any part of London with first-class Dairies well- cooled Milk in large or small quantities at reasonable prices. Wholesale Vans to all Parts of London and Suburbs twice daily. For a SUPPLY of GUARANTEED PURE MILK apply as above. Telephone- No. 229 Paddington and No. 199 Paddington. Telegraphio Address-" Farmership, London." T. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). Telegraphic Address—" CYMREIG, LONDON." BRIXTON.—18 to 20 barns daily at 4d., good trade in Butter, Eggs, Bread, Minerals, &c., splendid shop and house, rent £60,16 years' lease, genuine. Price £700. FULHAM.—18 barns daily 4d, Butter, Eggs, Bread, &c., two compact pram rounds, nice shop and house, rent £45. £450.. W.—37 barns daily 4d., counter trade £56 weekly, compact pram rounds, handsomely fitted shop and fine house, 16 years' lease, recom- mended price, £1,800. S.W.—25 barns daily all at 4d. per quart, one cart round, taking £2() weekly in cream, butter, eggs, &c., pretty shop, marble, tiles, mirrors, &c., large house, fine dairy, yard stabling, &c. Open to offer. SEA. SIDE RESORT. -19 barns daily, double in summer, nice trade in Dairy Produce, nice shop and house, rent £ 48, three years' agreement Price £300. W.-Indoor trade. Taking Cll weekly. Price tl30. KENNINGTON.—15J barns daily at 4d., less few quarts daily, 3d., nice trade in butter, eggs, braad, minerals, &c., good inventory. Price £350. BROMPTON.— Ilk barns daily 4d., indoor trade £ 9 weekly, rent £44, three years' agreement. Price j6250. CITY.—21 barns daily at 4d. per quart, taking 218 weekly over the counter, niccly fitted double fronted shop, large commodious premises, price £ 650. BRIGHTON.—15 barns daily 4d., and four barns under price, one perambulator round, nice shop and house, rent £32. Price .6400. HARROW.—18 barns daily 4d., taking JB17 weekly in the shop, two compact rounds, cart and pram, 2 good cows, rent d640, price £380. BLACKFRIARS.—Old-established concern, li barns daily 4d., less few quarts 3d., counter trade from £10 to C12 weekly, nice shop and house, every convenience, rent £37. Price £320- !E,—3 barns daily 4d., counter trade £13 weekly, rent 15s. weekly. Price £ 160. S. W.-Indool: trade, takings from JE18 to £20 weekly, nicely fitted, shop, good house with yard stabling, &c- Price JE110.
Oddeutu'r Ddinas.
Oddeutu'r Ddinas. Cyngherdd Pencerdd Gwalia oedd yr at- dyniad mawr dydd Sadwrn diweddaf, a chyng- herdd teilwng o'n Pencerdd ydoedd hefyd. m • Da genym ddeall i'r arddangosfa a gyn- haliwyd y dydd o'r blaen, o dan nawdd Cvm- deithas y Diwydianau Cymreig yn nhy Due Westminster, droi allan yn berffaith lwydd- ianus, a chaed amryw o fobl urddasol i'r lie i brynu y man nwyddau Cymreig. Mae y Gymdeithas eisoes wedi llwyddo i gael nawddogaeth y teulu brenhinol, ynghyd a gwyr arianog y ddinas, a dichon y gall hyny sicrhau llwyddiant iddi yn y dyfodol, ond credem pe y deuai yn fwy gwerinaidd, y buasai mwy o gefnogaeth iddi gan Gymry Llundain. Nid fel man greiriau y dylid edrych ar gynyrchion Cymru, eithr fel pethau anghenrheidiol bywyd, ac ond talu y sylw priodol i hyny, deuai y Gymdeithas yn llwydd- iant ar sylfaen fasnachol. Disgwylir cynulliadau lliosog i Shirland Road i'r cyfarfodydd blynyddol a ddechreuir yno heno, oherwydd y mae dau o wyr enwog y Cyfundeb i draethu y genadwri yno, neb llai na'r hyglod John Williams, Brynsiencyn, a William Jones, Treforris. # » • Bu Mr. W. Llewelyn Williams yn traethu ar hanes Pabyddion Cymreig ar y Cyfandir o flaen Cymdeithas y Cymmrodorion nos Fercher cyn y diweddaf, a chafodd gynulliad urddasol i wrando arno yn rhoddi'r manylion am ei ddarganfyddiadau ynglyn a hwy. Y mae'r papyr i'w gyhoeddi yng nghynyrchion y Gym- deithas hono, ac yn sicr bydd yn un o'r pen- odau mwyaf dyddorol a gaed yn ddiweddar ynglyn a hanes rhai hen Gymry ar gyfandir Europ yn yr oesau o'r blaen. Nid gorchwyl bach yw beirniadu beirdd, ond er mor anhawdd a dyrys y gwaith, bu'r meddyg a'r Cymro pybyr, Dr. Morgan Davies, mor feiddgar a'u dadansoddi yng nghyfarfod olaf y Brythonwyr yn Chancery Lane, nos Iau cyn y diweddaf. Pwynt ac amcan Dr. Davies oedd profi nad oedd y do bresenol o feirdd Cymreig yn cynrychioli dyheadau goreu y genedl, ac nad oedd y nod Cymreig yn weladwy yn eu cynyrchion. Credai fod yr hen gewri gynt yn canu yn well ac yn iachach fel Cymry, a hyderai y gwelai y beirdd presenol eu camsynied yn fuan, ac y deuent o'u harucheledd anealladwy i lawr at gyffredinolrwydd bywyd y genedl fel y gwnaeth Ceiriog ac ereill o feirdd gwir Gym- reig. Llywyddwyd y cyfarfod gan y bonedd- wr caredig Mr. Evan Griffiths, King's Road. Gwelwn fod Mr. D. Eiddig Jones, myfyriwr o goleg Bala-Bangor wedi derbyn galwad unfrydol i fod yn weinidog ar eglwysi Ani- bynol Chwilog ac Abererch, Eifionydd. UNai i Mr. Watkin Jones, y dadleuydd hyawdl o Kensington, yw Eiddig, a dymunwn iddo bob llwydd yn ei gylch newydd. Cydymdeirnlwn yn fawr a Mrs. Morgan, 65, Chatsworth Road, Clapton Park, a'r teulu yn eu galar ar ol eu hunig ac anwyl fab Thomas H. Morgan, yr hwn a fu farw boreu Llun, Mai 192g, ar ol hir gystudd, yn 32ain mlwydd oed. Hoff iawn oedd Thomas Henry gan bawb a'i hadnabu. Yr oedd yn ffrynd car- edig, ac yn gyfaill didwyll. I dalu y gym- wynas olaf iddo, daeth llawer ynghyd yng nghladdfa Finchley dydd Llun, Mai 26ain, pan y gweinyddwyd gan y Parch. David Oliver, Mile End. Cysured Duw y teulu yn eu hiraeth mawr. Dydd Iau wythnos i'r diweddaf, yng Nghapel y Borough, rhoddodd y Parch. D. C. Jones gwlwm priodasol am Mr. D. Rees, Barnsbury, a Miss M. E. Parry (trydedd merch Mr. Parry, Nantymawr, Llangranog, sir Aberteifi). Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, Mr. J. Parry. Eiddunir i'r par ieuanc bob cysur a llwyddiant mewn oes faith rinweddol. Nos Sul diweddaf, yn Eglwys Sant Benet, gwnaeth y Parch. J. C. Ellis (ficer) gyfeiriad at y newydd oedd, ychydig fynudau cyn hyny, wedi ei gyhoeddi gan yr Arglwydd Faer, sef fod heddwch wedi ei arwyddo rhwng y Pry- deiniaid a'r Boeriaid. Ar ol y bregeth, can- wyd yr Anthem Genedlaethol gan y gynull- eidfa. Hefyd, yn yr un gwasanaeth, canwyd yr unawd "0, sanctaidd wr ofidus (D Emlyn Evans) gan Mr. W. Emlyn Edwards, Rother- ithe (un o aelodau y cor) Y mae i'r cerddor yma" medd ein gohebydd, "fel lluaws o'n cerddorion ieuainc, ddyfodol dis- glaer yn y byd cerddorol. Y mae yn meddu ar lais treiddgar a mwyn iawn. Heblaw ei fod yn meddu chwaeth at ganu y mae yn nofiwr campus, oblegid anrhegwyd ef y dydd o'r blaen a chwpan arian drudfawr, gan ei fod wedi enill yr Annual Swimming Cham- pionship" am y 5 mlynedd diweddaf."
Y MESUR ADDYSG A'R TRETHI.
Y MESUR ADDYSG A'R TRETHI. Yn ol y Local Government Chronicle, ac y mae efe yn awdurdod go uchel ar y mater, os cerir Mesur Addysg y Llywodraeth, ac os dygir ef i weithrediad llawn, bydd codiad yn y trethi yn siroedd Cymru fel y canlyn :— Aj Mon 1,474 Brycheiniog 1,145 Aberteifi ••• 541 Caerfyrddin 4,250 Caernarfon 5,007 Dinbych 3,693 Fflint 7,904 Morganwg 19,035 Meirionydd 1,157 Trefaldwyn 768 Penfro 2,081 Maesyfed 2,701 u Mynwy 5,445 Yn gwneui y cyfan i Gymru a sir tfynwy yn 48,871 p. Peth rhyfedd os na. wna ffaith fel hon ddeffro y trethdalwyr, y rhai sydd yn cwyno fod y trethi yn ddigon uchel eisoes.