Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANIBYNWYR CYMREIG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB YR ANIBYNWYR CYMREIG YNG NGHAERNARFON. Yr wythnos hon cynhaliodd enwad yr Ani- bynwyr eu gwyl fawr flynyddol. Caernarfon oedd y man i ymgynull eleni ac erbyn nos Lun diweddaf yr oedd o 400 i 500 o gyn- rychiolwyr o bob rhanbarth o'r Dywysogaeth, yn gystal ag o drefi yn Lloegr, wedi dod ynghyd. Bu y cyfarfyddiad cyntaf yn y Drill Hall, mewn ymgomwest rydd, dan nawdd Cymdeithasau Ymdrechol Pendref a Salem, y ddwy eglwys a ymgymerodd a gwahodd a lletya'r Undeb. Yn yr hwyr, traddodwyd pregethau arbenig yr Uundeb gan y Parchn. D. Adams, Lerpwl, a H. M. Hughes, Caerdydd. Bwriedid ar y cyntaf gynhal y cyfarfod hwn yn Salem, ond gan mor luosog y gynulleidfa penderfynwyd ar y mynud olaf fyned i gapel mawr Moriah (M.C.). DYDD MAWRTH. Dechreuodd gweithrediau y dydd gyda chynadledd ym mha un y bu ymdrafodaeth ar Fesur Addysg y Llywodraeth. Wedi cynadledd addysg, cynhaliwyd cyfar- fod cenhadol yng Nghapel Pendref. Llyw- yddai Mr. Scourfield, ac areithiwyd gan y Parchn. Henry Jones, Trefriw, a D M Rees, Madagasgar. Cynadledd Busnes. Llywyddid gan Mr. Josiah Thomas, LerpwI. Darllenodd y Parch H Eynon Lewis, yr ys- grifenydd ystadegol, yr adroddiad ystadegol am y flwyddyn. Nifer eglwysi, 1068; ys- tefyll cenhadol, 197; aelodau cyflawn 148,818; diaconiaid, 6102 aelodau o'r Ysgolion Sul, 153,511, athrawon Ysgolion Sul, 15,197; gweinidogion mewn gofal eglwysig, 651 gweinidogion heb ofal eglwysig, 17 gweinid- ogion a ordeiniwyd yn ystod y flwyddyn, 22; efrydwyr ar gyfer y weinidogaeth, 222 pre- gethwyr cynorthwyol, 274; capeli newydd yn ystod y flwyddyn, 50; ysgoldai newyddion, 12; adeiladau newydd ereill, 14. Yn ystod y flwyddyn cliriwyd y swm o 56,575P o ddyledion y capeli presenol, gan adael dyledion hyd y swm o 239,058p, o ba rai y mae 47,735p ar adeiladau newyddion. Cyfraniadau gwirfoddol yn ystod y flwyddyn, 204,853p-cynydd o 40.755P yn ystod y flwyddyn. Yr oedd y cynydd yn gyffredinol, ac ychwanegwyd 2500 at rif yr aelodau eglwysig, a 5000 at aelodau yr Ysgol Sul. Y Llyfr Emynau a Thonau. Adroddodd pwyllgor y llyfr emynau a thonau i 11,780 o gopiau o'r llyfr gael eu gwerthu, yn dwyn y cyfanrif i fyny i 140,500. Yn ychwanegol at hyn gwerthwyd 17,000 o lyfr emynau y plant. Bwriedir dwyn allan argraffiad unedig o'r ddau lyfr. Wedi rhanu goop o'r elw rhwng y gwahanol gyfundebau, yr oedd gweddill mewn llaw o 463?. Etholiadau. Etholwyd y personau canlynol yn swyddog- ion am y flwyddyn nesaf :—Cadeirydd, Parch D Oliver, D.D., Trenynon trysorydd, Mr E H Davies, Y.H., Pentre; ysgrifenydd arianol, Parch D A Griffith, Troedrhiwdalar; ysgrif- enydd ystadegol, Parch H Eynon Lewis ys- grifenydd cyffredinol am dair blynedd, Parch D Williams, Maenclochog. Cyhoeddiadau yr Enwad. Cyflwynwyd adroddiad blynyddol Pwyllgor Cyhoeddiadau yr Enwad. Yr oedd 10,000 o gopiau o'r llyfr aelodaeth eglwysig newydd wedi ei werthu, ac yr oedd y pwyllgor wedi sicrhau hawlysgrif y tri dyddiadur enwadol a gyhoeddid yn awr, a bwriedid eu huno yn y ffurf o Flwyddiadur Anibynol Cymreig dan gyd-olyglaeth y Parchn Dr Pan Jones, Mos- tyn; W Parri Huws, B.D., Dolgellau; a'r Parch D A Griffith, Troedrhiwdalar. DYDD MERCHER. Traddododd y Prifathraw David Rowlands (Dewi Mon) anerchiad ragorol o Gadair yr Undeb, yn y boreu, ar Deyrnas Dduw," i gynulleidfa fawr. Darllenwyd papyr gan y Proff Thomas Rh) s, M.A., ar Y Pulpud ac agweddau presenol esboniadaeth Feiblaidd." Siaradwyd gan y Parchn P Moses, Llanelli, a D J Griffiths, Treforris. Y Gronfa. Dyma un o gyfarfodydd mwyaf brwdfrydig yr Undeb eleni. Fel y gwyddis, ceisiai yr enwad gasglu cronfa o ugain mil o bunau tuagat gynorthwyo achosion gweiniaid. Ar y cyntaf, araf iawn yr oedd yr addewidion a'r arian yn dod i fewn, ond ar ol Undeb Maesteg caed gan eglwysi Cwmaman a Lerpwl i rydd- hau y ddau ysgrifenydd, Parchn Towyn Jones a 0 L Roberts, a bu y rhain ynghyd a'r Parch Elfet Lewis ar ymweliad a nifer fawr o eg- lwysi, a'r canlyniad oedd i gasgliad rhagorol gael ei wneyd. Pan hysbysodd y trysorydd fod y Gronfa wedi cyrhaedd £ 22,443 7s ice, ac fod arian eto ar y ffordd i'r Undeb, yr oedd llawenydd y cyfarfod y tu hwnt i ddesgrifiad. Diolchwyd yn gynes i'r ddau ysgrifenydd ac i'r trysorydd-Mr Josiah Thomas-am eu Uafur gyda'r gwaith da hwn.

[No title]

Advertising