Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

HEDDWCH!

SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU.

MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES, BOW. —— Cymerodd yr amgylchiad galarus uchod le boreu dydd Gwener, Mai 30ain, yn ei bres- wylfod, yn 51, Gordon Road, Wanstead, i'r hwn le y symudasai y teulu ddiwedd Medi diweddaf. Bu Mr. Jones yn gwaelu yn hir, ond ni thybiai ef na'i gyfeillion fod y diwedd mor agos hyd o fewn ychydig wythnosau yn ol. Bydd ei ymadawiad yn golled fawr iawn i'r achos Methodistaidd yn Mile End Road, Yr oedd Ilwyddiant yr eglwys hon yn agos iawn at ei galon, ac aberthodd lawer er ei mwyn. Y mae y wedd lewyrchus sydd arni yn awr i'w phriodoli, i raddau helaeth, i'w ymdrechion a'i ffyddlondeb ef. Ymdrechodd ymdrech deg," gorffenodd ei yrfa," cad- wodd y ffydd," ac yn ddios y mae erbyn hyn yn gwisgo'r (l goron"—ucoron y bywyd -aniflanedig goron y gogoniant." Ganwyd Mr. Jones mewn tyddyn bychan yn ymyl Blaenpennal, sir Aberteifi, yn agos i 60 mlynedd yn ol. Daeth i Lundain pan yn 19 oed, ac am gyfnod bu yn gwasanaethu fel un o genhadon Cymreig y Genhadaeth Ddinesig. Wedi priodi, gadawodd y genhad- aeth, ac ymroddodd i fasnach. Gellir dyweyd am dano ei fod mewn modd nodedig wedi llwyddo i wneyd y goreu o'r ddiu fyd." Ni fu ei lwyddiant bydol yn rhwystr ond yn help iddo gyda chrefydd. Gwasanaethodd yr Achos Mawr fel blaenor doeth a medrus am 30 mlynedd-yn Poplar yn gyntaf, Stepney ar ol hyny, ac yn ddiweddaf oil yn Mile End Road. Duw pob diddanwch fyddo yn gysur ac yn nerth i'w briod oedranus a'i blant anwyl yn eu galar a'u tristwch. Cymerodd y gladd- eddedigaeth le prydnawn dydd Iau yn Abney Park Cemetery.

[No title]