Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

HEDDWCH!

SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU.

MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES,…

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mae y Parch. W. Tudwal Williams, gwein- idog eglwys Anibynol nth Street New York, yn dod ar ymweliad a Chymru yn ystod y mis hwn, a Mrs. Williams gydag ef. Brodor a Abersoch yw Mr. Williams; cafodd ei ddysg yng ngholeg Anibynol y Bala, aeth i America tua ddeuddeng mlynedd yn ol, a bu yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddianus yno. Yn ddiweddar claddasant eu dau blentyn, ac afiach iawn yw y fam. Collod Cymry Lerpwl weinidog addawol arall yn ddiweddar ym mherson y Parch. S. Lloyd Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Edge Lane. Brodor o Caergybi oedd Mr. Jones, a gwr ieuanc 25ain mlwydd oed, hynod o addawol yn y weinidogaeth. Ymsefydlodd yn Lerpwl yn 1900, ac edrychid ym mlaen am dymor maith a llwyddianus o dan ei ofal, ond wele tra yr oedd yn ddydd fe fachludodd ei haul! Deallwn fod perthynasau y diweddar Barch Hugh Parry Thomas, Lerpwl, wedi pender- fynu cyflwyno ei lyfyrgell, yr hon sydd yn gasgliad gwerthfawr o weithiau duwinyddol ac eraill, i'w rhanu rhwng llyfrgelloedd Ysgol- ion Sul Eglwysi Park Road, Lerpwl, a Clifton Road, Birkenhead-y ddwy eglwys i ba rai y bu yn weinidog.