Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinasm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinasm "Sul Heddwch" oedd y Sul diweddaf yn Llundain, ond ni welwyd erioed y fath ym- rafael am lecedd cyfleus i weled y Brenin, 11a'r fath wacddi hwre o fewn y ddinas. m m Mae'r ystrydoedd dinesig bellach yn dech- reu gwisgo gwedd y coroniad. Bydd yr addurniadau yn gostfawr iawn, a'r daith hir- faith yn llawn o seddau o bob math. < Gwelwn fod yr heddgeidwaid yn bwriadu cau yr boll ystrydoedd ydynt gerllaw yr heol- ydd He y teithia'r Brenin, am oddeutu pedwar o'r gloch yn y boreu ar ddiwrrod y gorym- deithio. Y canlyniad o hyn fydd gorfodi personau i brynu seddau am brisiau uchel fel ag i gael caniatad i fyned i fewn i gylch y daith. Y nos Sul o'r blaen, pan gyhoeddwyd heddwch, yr oedd un o flaenoriaid Capel y Tabernacl yn tynu tuag adref yn hamddenol o'r oedfa hwyrol,ond pan yn agos i'r Mansion House, wele haid o ladron gwladgarol o'i gylch gan ei ysbeilio o'i oriawr a'i aur yn y man. Yr oedd yr heddgeidwaid yn hollol analluog i rwystro y blagerdiatth teyrngarol hyn. m m Y Saboth diweddaf, pregethwyd yn y Tabernacl, King's Cross, gan y Parch. D. Oliver, D.D., Treffyncn, y gwr sydd newydd gael ei benodi yn gadeirydd Undeb yr Ani- bynwyr am y flwyddyn ddyfodol. Nid oes neb yng Nghymru yn fwy ei barch gan ddeiliaid yr Ysgol Sul heddyw na'r doethawr o Dre- ffynon. GweIwn enw y Parch D C Jones y Borough ymysg enwogion y pwlpud fuont yn cynhal cymarfa yra Merthyr dydd Sul cyn y di- weddaf. Caed oedfeuon hwyliog yn y gwa- hanol gapelau a phregethau grymus, a da oedd gan lawer o hen braidd Mr. Jones gael y e) fie ychwanegol hwn eto i'w glywed. » < Parctoi ar gyfer y ciniawau brenhinol rcze pob ardal yn ac o gylch Llundain y dyddiau hyn. Deallwn fod y trefniadau yn ardal Ful- bam-Ile y mae'r Cymro adnabyddus, Mr. Timothy Davies, yn Faer-yn cael eu gwneyd ar raddfa eang iawn, a sicr yw y bydd Uu mawr o urddasolion yno i wylio y gwledda a'r trefniadau. Diwrnod mawr i fobl Fulham, fydd dydd coroni'r Brenin. • mm Nos Sul nesaf, yfory, bydd Arglwydd Esgob Bangor yn talu ymweliad ag Eglwys Gym- raeg St. Benet, Queen Victoria Street. Yn yr hwyr, bydd yn gweinyddu yr ordinhad o Gonffirmasiwn. 0 Dydd Iau nesaf, bydd ysgclion Mile End a Morley Ball yn myned em wibdaith i Epping Forest, mewn cerbydau, Hyderwn y ceir tywydd ffafriol, ac yna fe ddaw pob peth yn dda. < < Yn yr hwyr, yr un dydd, bydd cyngherdd blynyddol organydd Capel Cymreig Holloway yn cymeryd lie yn yr addoldy yn Sussex Road. Disgwylir yno dalentau pcblogaidd i adloni'r gynulleidfa. At w < Rhoddir cyngherdd arbenig ynglyn a Chymdeithas y Diwydianau Cymreig yn nhy Arglwydd Llangattock a'i briod, South Lodge, Rutland Gate, ar y 7fed o Orphenaf nesaf. Mae amryw o urddasolion ein cenedl i gym- eryd rhan yn y cyngherdd. Gellir cael tocynau am gini a haner gini oddiwrth ysgrifenyddes y Gymdeithas, Mrs. Francis Brer,ton, 5, Lower Grosvenor Place, S.W. m m m Y mae ein cydwladwr ieuainc addawoI- Mr. D. Delta Evans-yn ol yn y Brifddinas. Fel y cofir, ymadawodd a Llundain yr haf di- weddaf, i fyned i Lerpwl i weithio yn y maes cenhadol Undodaidd. Profodd gwaith y slums yn ormcd i iechyd Mr. Evans, a bu raid iddo ei roddi i fyny. Bydd yn ymgymeryd a golygu (pro tem) un o brif newyddiaduron yr Undodiaid ar fyrder. Dymunwn iddo adferiad buan i'w iechyd arferol. Bydd ei bresenoldeb yn ein mysg yn enill i'r Undodiaid Cymreig.

CLADDEDIGAETH MR. WILLIAM…

Advertising