Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Oddeutu'r Ddinasm
Oddeutu'r Ddinasm "Sul Heddwch" oedd y Sul diweddaf yn Llundain, ond ni welwyd erioed y fath ym- rafael am lecedd cyfleus i weled y Brenin, 11a'r fath wacddi hwre o fewn y ddinas. m m Mae'r ystrydoedd dinesig bellach yn dech- reu gwisgo gwedd y coroniad. Bydd yr addurniadau yn gostfawr iawn, a'r daith hir- faith yn llawn o seddau o bob math. < Gwelwn fod yr heddgeidwaid yn bwriadu cau yr boll ystrydoedd ydynt gerllaw yr heol- ydd He y teithia'r Brenin, am oddeutu pedwar o'r gloch yn y boreu ar ddiwrrod y gorym- deithio. Y canlyniad o hyn fydd gorfodi personau i brynu seddau am brisiau uchel fel ag i gael caniatad i fyned i fewn i gylch y daith. Y nos Sul o'r blaen, pan gyhoeddwyd heddwch, yr oedd un o flaenoriaid Capel y Tabernacl yn tynu tuag adref yn hamddenol o'r oedfa hwyrol,ond pan yn agos i'r Mansion House, wele haid o ladron gwladgarol o'i gylch gan ei ysbeilio o'i oriawr a'i aur yn y man. Yr oedd yr heddgeidwaid yn hollol analluog i rwystro y blagerdiatth teyrngarol hyn. m m Y Saboth diweddaf, pregethwyd yn y Tabernacl, King's Cross, gan y Parch. D. Oliver, D.D., Treffyncn, y gwr sydd newydd gael ei benodi yn gadeirydd Undeb yr Ani- bynwyr am y flwyddyn ddyfodol. Nid oes neb yng Nghymru yn fwy ei barch gan ddeiliaid yr Ysgol Sul heddyw na'r doethawr o Dre- ffynon. GweIwn enw y Parch D C Jones y Borough ymysg enwogion y pwlpud fuont yn cynhal cymarfa yra Merthyr dydd Sul cyn y di- weddaf. Caed oedfeuon hwyliog yn y gwa- hanol gapelau a phregethau grymus, a da oedd gan lawer o hen braidd Mr. Jones gael y e) fie ychwanegol hwn eto i'w glywed. » < Parctoi ar gyfer y ciniawau brenhinol rcze pob ardal yn ac o gylch Llundain y dyddiau hyn. Deallwn fod y trefniadau yn ardal Ful- bam-Ile y mae'r Cymro adnabyddus, Mr. Timothy Davies, yn Faer-yn cael eu gwneyd ar raddfa eang iawn, a sicr yw y bydd Uu mawr o urddasolion yno i wylio y gwledda a'r trefniadau. Diwrnod mawr i fobl Fulham, fydd dydd coroni'r Brenin. • mm Nos Sul nesaf, yfory, bydd Arglwydd Esgob Bangor yn talu ymweliad ag Eglwys Gym- raeg St. Benet, Queen Victoria Street. Yn yr hwyr, bydd yn gweinyddu yr ordinhad o Gonffirmasiwn. 0 Dydd Iau nesaf, bydd ysgclion Mile End a Morley Ball yn myned em wibdaith i Epping Forest, mewn cerbydau, Hyderwn y ceir tywydd ffafriol, ac yna fe ddaw pob peth yn dda. < < Yn yr hwyr, yr un dydd, bydd cyngherdd blynyddol organydd Capel Cymreig Holloway yn cymeryd lie yn yr addoldy yn Sussex Road. Disgwylir yno dalentau pcblogaidd i adloni'r gynulleidfa. At w < Rhoddir cyngherdd arbenig ynglyn a Chymdeithas y Diwydianau Cymreig yn nhy Arglwydd Llangattock a'i briod, South Lodge, Rutland Gate, ar y 7fed o Orphenaf nesaf. Mae amryw o urddasolion ein cenedl i gym- eryd rhan yn y cyngherdd. Gellir cael tocynau am gini a haner gini oddiwrth ysgrifenyddes y Gymdeithas, Mrs. Francis Brer,ton, 5, Lower Grosvenor Place, S.W. m m m Y mae ein cydwladwr ieuainc addawoI- Mr. D. Delta Evans-yn ol yn y Brifddinas. Fel y cofir, ymadawodd a Llundain yr haf di- weddaf, i fyned i Lerpwl i weithio yn y maes cenhadol Undodaidd. Profodd gwaith y slums yn ormcd i iechyd Mr. Evans, a bu raid iddo ei roddi i fyny. Bydd yn ymgymeryd a golygu (pro tem) un o brif newyddiaduron yr Undodiaid ar fyrder. Dymunwn iddo adferiad buan i'w iechyd arferol. Bydd ei bresenoldeb yn ein mysg yn enill i'r Undodiaid Cymreig.
CLADDEDIGAETH MR. WILLIAM…
CLADDEDIGAETH MR. WILLIAM JONES, BOW. Prydnawn dydd Iau, Mehefin 5ed, ymgyn- ullodd tyrfa luosog o edmygwyr a chydnabod y gwr da y mae ei enw uchod, i dalu y gym- wynas olaf i'w weddillion marwol. Hawdd oedd deall oddiwrth ymddangosiad p-tidd y dyrfa mai nid dyn cyffredin roddid i orwedd yn y ddaearen oer y prydnawn hwnw, end un o Gymry goreu Llundain- un a garai ei wlad a'i genedl, ac un o veterans Sion Duw yng ngwersyll Cyfundeb y Methodistiaid Calfin- aidd. Yn y ty yn Wanstead (lie y mae'r teulu yn preswylio yn bresenol), cyn cychwyn yr ang- ladd, darllenwyd rhanau o'r Gair a gweddi- wyd gan y Parch. J. Wilson Roberts. Ar Ian y bedd darllenwyd rhanau detholedig o'r Ysgrythyr gan y Parch. J. Tudno Williams, M.A. Yna anerchwyd y dorf mewn cynifer o eiriau pwrpasol a chysurlawn gan Mr. W. Prytherch Williams—un arall o hen filwyr Iesu Grist ) n y Brifddinas, ac un o gyfeillicn penaf Mr. Jones. Wedi hyny, gweddiwyd yn deimladwy iawn gan y Parch. F. Knoyle, B.A. Erfyniai am nodded yr Arglwydd drcs y teulu yn eu trallod, am Ei amddiffyniad drcs )r tglwys ym Mile End yng rgwyneb ei cholied fawr, a thrcs yr aches drwy yr boll gylch pan y mae angeu yn symud i ffwrdd gynifer o'n dyrion goreu a mwyef ffyddlawn. Darllenwyd eto ran o'r gwasanaeth claddu gan y Parch. D. Oliver, Mile End, bugail yr eglwys, ym mha un yr oedd Mr. Jones yn swyddcg. Yna canwyd, meVi n dagrau, "Bydd myrdd o tyfeddodau" &c., ac yn swn odlau gobeithiol yr hen emyn melus am ddyfodiad gwell i blar.t y tonnau" aeth pawb i'w fan gan adael y gweithiwr difefl" William Jones i orphwys yn ei wely pridd hyd foreu'r codi. Nos Saboth diweddaf, cynhaliwyd gwasan- aeth coffadwriaethol i'r diweddar frawd yng Nghapel Mile End pryd y pregethwyd gan y Pai ch. D. Ol ver, y gweinidcg, cddiar Heb. iii. 5 "A Moes a fu ffyddlawn yn ei holl dy megis gwas." Ar ol y bregeth, gyda phawb yn sefyll ar eu traed, chwareuwyd y "Dead March in Saul ar yr crgan gan Miss Jamts, Commercial Road. Wedi hyny siarsdwyd ychydig eiriau yn ddwys ac effeithiol iawn gan Mr. Williams, Stratford, un o gydswyddogion Mr Jones yn yr eglwys am yn agos i ugain mlynedd, a'r hwn fel yntau sydd wedi bed a'i ysgwyddeu yn dyn o dan 4 arch Duw trwy gydol y blyn- yddau. Ar ei ol ef anerchwyd gan Mri Hugh Evars a John Rees, Stepney Green. Amddiffyn "Barnwr y gweddwon fyddo dros ei weddw oedranus, a gofal tyner Tad yr amddifaid fyddo dros ei dri mab a'i unig ferch yn eu galar a'u hiraeth.
Advertising
PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd. CYFEIRIAD- "PENDENNIS," LOUGHTON, ESSEX. I Great Western & Metropolitan Dairies. LIMITED, With which are amalgamated the Great Western Farm Dairies Company, Ltd- And the Metropolitan and Suburban Milk Supply Association, Limited. J. P. HODDINOTT") WILLIAM PRICE > Managing Directors, J. HOPKINS ) Head j Office— 9, Harrow Road, Paddington Branch Office- 169, WALMER rROAD, NOTTING HILL, and atP G.W.R., PADDINGTON, L. & N.W.R., KILBURN- and EUSTON; G.C.R., MARYLEBONE Analyst: Professor A. W. STOKES, F.I.C., F.C. This Company is in a position to supply Dairymen irs> any part of London with first-class Dairies well- cooled Milk in large or small quantities at reasonable prices. Wholesale Vans to all Parts of London and Suburbs twice daily. For a SUPPLY of GUARANTEED PURE MILK apply as above. Telephone- No. 229 Paddington and No. 199 Paddington. Telegraphio Address-" Farmership, London." T. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). Telegraphio Address-" CYMREIG, LONDON." BRIXTON.—18 to 20 barns daily at 4d., good trade- in Butter, Eggs, Bread, Minerals, &c., splendid shop and house, rent JE60,16 years' lease, genuine. Price £700. FULHAM.—18 barns daily 4d, Butter, Eggs, Bread, &c., two compact pram rounds, nice shop and house, rent £ 45. £ 450. W.—37 barns daily 4d., counter trade £ 56- weekly, compact pram rounds, handsomely fitted shop and fine house, 16 years' lease, recom- mended price, £1,800. S.W.—25 barns daily all at 4d. per quart, one cart round, taking £ 205 weekly in cream, butter, Pggs, &c., pretty shop,- marble, tiles, mirrors, &c., large house, fine dairy, yard stabling, &c. Open to offer. SEA SIDE RESORT.—19 barns daily, double in summer, nice trade in Dairy Produce, nice shop' and house, rent jE48, three years' agreement Price JB300. W.-Indoor trade. Taking £14 weekly. Price £130. KENNINGTON. 15 £ barns daily at 4d., less few quarts daily, 3d. nice trade in butter, eggs, bread, minerals, &c., good inventory. Price j6350. BROMPTON.— 111 barns daily 4d., indoor trade £ 9 weekly, rer-t JE44, three years' agreement. Price £ 250. CITY.—21 barns daily at 4d. per quart, takings dE18 weekly over the counter, niccly fitted double- fronted shop, large commodious premises, price £ 650. BRIGHTON.—15 barns daily 4d., and four barns under price, one perambulator round, nice shop and house, rent £32. Price £ 400.- HARROW.—18 barns daily 4d., taking £ lT weekly in the shop, two compact rounds, cart and pram, 2 good cows, rent £40, price £380. BLACKFRIARS.—Old-established concern, 14.- barns daily 4d., less few quarts 3d., counter trade from £10 to R12 weekly, nice shop and house, every convenience, rent £37. i-rico £320.- E,—9 barns daily 4d., counter trade tl3 weekly, rent 15s. weekly. Price £160. S.W.—Indoor trade, takings from £18 to f,20 weekly, nicely fitted, shop, good house with yard stabling, &o^ Price J6110.