Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Bgd y -- - - --- C, IBan.

CYMRU YN Y FFUGCHWEDL SEISNIG-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU YN Y FFUGCHWEDL SEISNIG- Er ys misoedd bellach y mae Cymru a bywyd Cymreig yn ymddangos, yn rheolaidd, yn ffugchwedlau'r Saeson. Yr hen ddefod oedd dwyn y Cymro i'r ffugchwedl i chwerthin am ei ben; ond y mae hyny wedi newid. Credwn fod lie i wella eto: yn enwedig gyda golwg ar yr ieithwedd Seisneg a roddir i'r cymeriadau. Y mae Allen Raine, yn fy marn onest i, yn ddwfn yn y camwedd hwn. Gwra i frodorion glanau m6r Ceredigion siarad Seisneg na chlywyd mo hono hyd yn oed yn eisteddfod Twr Babel. Y mae ganddi ddawn dymunol i adrodd stori, a gall fod ar adegau yn dra ffraethbert; ond wfft i'w hymgais at Seisnigo'r Gymraeg! Yr ydym newydd ddar- llen y « Welsh Witch," ac wedi mwynhau'r stori fel stori, yn well na dim o waith yr awdures ac nid oes yn hon gymaint 0 gam- wedd a chyflafan iaith ag a gaed yn rhai o'i llyfrau: ond y mae eto ormod. Yr ydym wedi hen flino ar frawddegau yn ol dull- There's raining it is Pwy byth fuasai yn llunio ymddiddanion mewn chwedl am fywyd gwerin Ffrainc ar y fath batrwn ? O'r rhai a ddarllenasom yn ddiweddar-ac y mae un neu ddwy o'r rhai diweddaraf i gyd heb eu darllen genym eto-barnwn mai yr oreu o lawer yw Lloyd of the Mill." Cyf- ieithiad, neu, yn hytrach, cyfaddasiad yw hwn o tl Arthur Llwyd y Felin" gan y diweddar Dr. John Thomas, Lerpwl. Nodweddir y stori gan Gymreigrwydd digamsynied ac y mae Mrs. Owen Thomas wedi bod yn nodedig o hapus wrth gyfaddasu'r stori at chwaeth dar- llenwyr Seisneg. Y mae ganddi lawer penod o'i gwaith ei hun mor fyw a dim yn y llyfr. Ni ddywedwn ei bod hithau yn ddi-fai 0 ran ieithwedd, yn enwedig pan wna i frodorion cwm yn sir Forganwg arfer ymadroddion na cheir mo bonynt ond yng Ngogledd Cymru ond y mae wedi llwyddo'n ardderchog ar y cyfan. Prin y mae eisieu ychwanegu—erbyn cofio pwy oedd yr awdwr gwreiddiol-fod i'r chwedl werth arall heblaw ei gwerth llen- yddol. Y mae hon wedi cael derbyniad croesawgar; a gall y rhai sy'n caru Cymru anturio ei gosod yn Haw Sais, heb golledu ei genedl na dwyn anfri ar ei famiaith. Tybed nas gallai Mrs. Thomas fyned gam ymhellach, ac ysgrifenu stori o'i gwaith ei hun, am y rhanbarth yng Nghymru y gwyr oreu am dano ? Y mae'r penodau o'i gwaith hi yn y gyfrol hon yn awgrymu y medrai. Yn y cyfamser, rhoddwn, fel Cymry, groesaw i hon, ac i gyfrolau ereill lie ceisir darlunio bywyd Cymru i'r byd mawr tuallan. Nid ydym ond ar y trothwy eto, yn hyn o beth. Bydd yn hawddach i ereill wneyd y gwaith, am fod y rhai hyn wedi dechreu ei wneyd. [* London: Elliot Stock. Pris, 6s.]

Advertising