Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y MESUR ADDYSG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MESUR ADDYSG. Y LLUNDEINWYR YN EI GONDEMNIO. AREITHIAU GAN LLOYD GEORGE A ROSEBERY. O'r diwedd y mae anhegwch y Mesur Addysg yn dod yn ddigon eglur i'w ganfod gan werin-bobl Lloegr. Wedi cael gwared o'r rhyfel, y mae'r wlad yn dechreu cael ham- dden i edrych i fewn i bynciau cartrefol, ac un o'r pethau cyntaf y mae yn ganfod yw gwaith y llywodraeth yn ceisio gwthio eglwys- yddiaeth ar y wlad, a gwaddoli y cyfundrefn- au sydd erioed wedi bod ar eu heitbaf yn g-wrthwynebu bob cynydd a llwyddiant yn ein tir. Er mai fel Saboth heddwch y gelwid y Saboth diweddaf drwy'r holl wlad, eto gfaelwn ddarfod i nifer luosocaf o eglwysi Ymneillduol Mon ac Arfon ddefnyddio ydycld i basio pleidleisiau condemniadol ar y Mesur hwn. Yn lie llawenhau am waredigaeth o'r rhyfel, yr oeddent fel pe yn teimlo fel yr Israeliaid gynt mai gosodiad pla gwaeth oedd y diwrnod iddynt hwy, ac fod yr anghyfiawn- der hwn yn llawer gwaeth ac anhawddach ei ymladd na'r un anghyfiawnder a deimlwyd genym yn Affrica erioed. Y mae gobaith felly fod yna adfywiad yn y tir, ac ond gweithredu yn ddoeth hwyrach y daw yr ysbryd rhyfelgar a fu y wlad yn ceisio ei feithrin mor selog yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yma o ryw fudd i'r Rhyddfrydwyr yn y pen draw, ac y ceir unwaith yn ychwaneg aralleiriad o'r hanesyn am y gwr hwnw a bwrcasodd grogbren i arall ond a ddaliwyd ei hun yn y diwedd. I h) ny, gallem feddwl, mae ysbryd cy- hoeddus y wlad yn dechreu cyfeirio, ac yn gynar yn yr wythnos hon, dadganodd Rhydd- frydwyr Llundain, eu llais yn groyw, yn erbyn y Mesur. Nid yn unig Llundain, eithr yr holl wlad hefyd, gan mai cynrychiolwyr cenedl- aethol oedd yn siarad yn y cwrdd. Yn Neuadd y Frenhines y cynhaliwyd y cyfarfod nos Fawrth, a Ilywydd y cynulliad oedd Arglwydd Rosebery, y gwr sydd wedi creu y fath gyffro yn ystod y misoedd diweddaf yma fel y teimlid beth amser yn ol ychydig betrusder pa beth fuasai ei farn ef ar y cwestiwn hwn, ond bellach y mae lie i galonogi, oherwydd y mae wedi dadgan yn groyw yn erbyn anhegwch y Bil hwn, ac y mae hynyna yn arwydd er daioni o blaid cael undeb trwyadl yn y rhengoedd Rhyddfrydig ar ol gorphen helynt Deheudir Affrica. Cyfarfod i'w hir gofio oedd hwn, oherwydd nid peth hawdd ar un adegywllanw y Queen's Hall hyd yr ymyl, ond ar yr amgylchiad hwn bu raid cynal cwrdd arall mewn neuadd cyfagos, tra y trowyd amryw ganoedd ereill ymaith o'r ddau gwrdd am nad oedd le iddynt. Yn ychwanegol at hynodrwydd y cyfarfod, fel dadganiad ar Fesur Addysg y Llywod- raeth, yr oedd yna un elfen arall a'i gwnai yn lied ddyddorol, sef y cyfarfyddiad hapus o wahanol arweinwyr gwleidyddol oedd i siarad yn y lie. Fel y sylwyd eisoes, Arglwydd Rosebery ei hun oedd i fod yn y gadair, ac yn ei gefnogi oedd ei wrthwynebydd-ar bwnc y rhyfel- Mr. D. Lloyd George. Ar un ochr i'r bwrdd yr oedd Dr. Clifford, tra ar yr ochr arall gwelid Canon Barker. Yno hefyd yr oedd Asquith, y dadleuydd cywrain, ynghyd a Dr. Guiness Rogers, yr hen gadfridog gloyw. Mewn gair 'roedd y lie yn fath o gyrchfan cyffredinol i bleidiau rhyddid, a chaed dad- ganiadau mor groyw fel y gwnelai les calon i'r Llywodraeth fod yno i wrando beth yw barn y wlad am danynt. ARAETH ROSEBERY. Rhoddwyd derbyniad croesawgar i'r gwr hwn pan y cododd, a chaed ganddo araeth ragorol yn condemnio yn llym y Mesur am ei anhegwch tuagat yr Ymneillduwyr. Con- demniai ef, hefyd, am yr egwyddor newydd a ddygid i fewn drwyddo, sef trethiant lleol heb gynrychiolaeth lleol; a chredai mai ei brif waith fydd taflu addysg Lloegr yn ol amryw flynyddau, yn lie ei hyrwyddo yn y blaen. Gofynai am i'r cyfarfod ddatgan ei gondem- niad unfrydol o'r Bil oherwydd ei anbegwch arianol a'i aneffeithiolrwydd addysgol. Yna cynygiwyd penderfyniad gan Mr. Lyulph Stanley, ac eiliwyd mewn araeth dan- 11yd gan y gwron Dr. Guinness Rogers. Dywedai yr olaf ein bod yn dechreu rhyfel arall, ac yr oedd y Llywodraeth wedi dechreu hwn eto, fel y gwnaeth yn yr un diweddaf, heb gyfrif y gwrthwynebwyr oedd o'u blaenau. Os gwnaethant gamsynied am nerth g wrthwynebus Boers, sicr yw, eu bod wedi cam-gasglu nerth Ymneillduwyr Prydain y tro hwn. Amcan mawr y Bil oedd dysgu plant i barchu yr offeiriadaeth, ond ein cri ni yw am eu dysgu i ofni a pharchu Duw. Gofynai am iddynt oil fod yn ffyddlon i egwyddorion goreu Ymneill- duaeth, a gwrthwynebu y Mesur hwn a'u holl nerth a dylanwad. Mr. Asquith oedd y siaradwr nesaf, a chaed ganddo araeth faith ac addysgiadol ar wa- hanol adranau o'r Mesur a dywedai eu bod ar cu heithaf yn Nhy'r Cyffredin yn ei wrthwynebu. Pan alwodd Arglwydd Rosebery ar gyn- rychiolydd Cymru yn mherson MR. LLOYD-GEORGE, yr oedd y derbyniad a gafodd yn fyddarol. Bu raid i'r aelod tros Arfon aros ar ei sefyll am hir amser cyn cael cyfle i ddyweyd gair gan faint y curo dwylaw a'r gwaeddi hwre ond wedi cael gosteg, wele ef ar unwaith yn taro ar gywreinrwydd y dyrfa. "Edliwir i ni meddai, "ein bod yn unol yn ein gwrth- wynebiad i'r Mesur hwn, a dywedir ei fod yn gymaint pechod, yn awr, i fod yn unol ag yd- oedd i ni fod fel arall o'r blaen. Ond, ai nid oes rhyddid i ni fod yn unol wrth amddiffyn egwyddorion pan fod hawl gan y Llywodraeth i fod yn unol i fyn'd i drybini ? Y mae y Mesur sydd genym i'w gondemnio yn Fesur gwael. Y mae'n wael o ran egwyddor, yn wael o ran ei gyfansoddiad, ac yn wael yn ei gynlluniau a chredwch fi, fe ddaw diwedd gwael i'w ran hefyd. Pwy ai cynlluniodd? Tarddodd ar y cyntaf o ymenydd Cardinal Vaughan, a chynlluniwyd ef wedi hyny gan y Ceciliaid a'r Devonshires. Wedi hanu o gyff Cardinalaidd, fe'i gwthir arnom gan glerigwyr Anglicanaidd ydyot mor lladronaidd a derbyn tal gwladol am ledaenu egwyddorion Eglwys Rufain yn ein mysg. Gallem feddwl fod genym wleidyddwyr digon craff i weled y cysylltiad anheilwng hwn, ond fel arall y mae, a danfonwyd y Bil i gael ei gaboli gan ddau neu dri o cynics, yn cael eu harolygu gan ddyddgysgadwr ducaidd. Amddiffyniad y Mesur hwn yw brad diweddaraf rhai pobl sydd wedi bradychu y werin ar amryw droion yn y blynyddau diweddaf hyn. u Cynllun gwael ar y goreu yw'r cynllun i drosglwyddo i'r offeiriad-Eglwysig neu Ym- neilIduol-reolaeth ein haddysg. Ni feddyl- iodd neb erioed am roddi iddynt reolaeth ein carchardai,a phaham nas gwneir ? (chwerthin). A beth pe ceid yr un egwyddor o draddodi pob dysgeidiaeth i gynrychiolwyr y sectau- beth a ddeuai o honom ? Pe's gwneid hyn a'r Llynges, buasem yn disgwyl cael 1 Anglican three-decker' a I Catholic battleship hefyd, deuai i'n golwg Methodist torpedo destroyer,' Congregational cruiser neu Baptist sub- marine boat' (chwerthin mawr) a byddai yr I oil i ymosod ar y gelyn drwy danio, bob un o fagnel ei gatechism ei hun. Buasai y peth yn chwerthinUyd, a gallwn fentro hefyd y bydd canlyniadau y Mesur hwn yn Hawn mor an- effeithiol o ran dim gwir gynydd a wneir mewn Addysg. Drwy y Mesur hwn yr ydym j yn crebachu meddwl y plentyn yn lie ei eangu -yn ei osod o dan ddylanwad yr eglwys yn hytrach nac o dan addysg effeithiol, gan ystyried dylanwad a hunan-ies yr offeiriad yn hytrach na lies mwyafrif y trigolion a llwydd- iant addysgol y plant." Ar ol Mr. George, caed areithiau tanllyd gan Mr Sydney Buxton, A.S., Lady O'Hagan, Dr. Clifford, a W. H. Dickinson, L.C.C., a phasiwyd y penderfyniad yn hollol unfrydol. Ar gynygiad Arglwydd Tweedmouth ac eiliad larll Beauchamp, a chefnogiad Mr. Richard Bell (y ilafurwr), rhoddwyd diolch- garwch cynhes i Rosebery am lywyddu ac am ei araeth amserol ar y Mesur. Yr oedd nifer fawr o Gymry yn y cyfarfod, a gwelsom yn eu plith Mr. Timothy Davies, Maer Fulham Mr. Howell J. Williams, L.C.C.; Mr. J. Hugh Edwards, golygydd Young Wales; Mr. W. Llewelyn Williams, Mr. J. H. Davies, ac ereill.

Advertising